Tai yn Heol Casnewydd, Caerdydd (Woodfield Place)

Mae’r garreg dyddiad yn dangos y cafodd y teras hwn, a adnabuwyd fel Woodfield Place yn wreiddiol,  ei godi yn 1860 ar ben gorllewinol yr hyn oedd yn Roath Road ar y pryd. Ar ôl hyn, ymgorfforwyd yr eiddo fel rhifau 10 – 18 yn Heol Casnewydd wedi’i ailenwi.

Tan y 1920au, mae’n ymddangos mai cartrefi preifat yn bennaf oedd y pum eiddo.  Yn glir, byddai’r meddianwyr wedi bod yn gymharol gyfoethog.   Yn 1892, ceisiodd Dr Herbert Vachell ganiatâd adeiladu i ymestyn ei dŷ yn rhif 18, gan ychwanegu ystafell aros, ystafell ymgynghori a fferyllfa.   Mae’n debygol yr oedd nifer o’r preswylwyr eraill yn dilyn eu galwedigaethau neu’n rhedeg eu busnesau o’u cartrefi.

Erbyn 1926, roedd Ysgol Llaw-fer Caerdydd (Coleg Cleves mewn blynyddoedd hwyrach) yn meddiannu rhif 14 gan aros yno tan yn hwyr yn y 1960au pan symudodd i 96 Heol Casnewydd.    Mae Cyfeirlyfr Caerdydd 1937 yn rhestru’r pum tŷ fel busnesau neu safleoedd proffesiynol, er ei bod dal yn bosibl yr oedd y perchenogion yn byw uwchben y busnesau hyn.

d1093-2- 014 (Houses in Newport Road)_compressed

d1093-2- 016 (houses in Newport Road)_compressed

Dymchwelwyd rhifau 10 – 18 Heol Casnewydd yn oddeutu 1980, ynghyd â theras cyfagos. Ar ôl hyn, ailddatblygwyd y safle gyda ‘phentref’ o flociau swyddfa, y’i gelwir yn Fitzalan Court.   Yn fwy diweddar, mae’r adeiladau hyn wedi’u haddasu i gynnig llety i fyfyrwyr.

Mae preswylwyr blaenorol enwog yn cynnwys John Sloper (1823-1905) oedd yn byw yn rhif 10 o 1880 o leiaf tan gyfnod cynnar yn yr 20fed ganrif.    Cynghorydd ac ynad Caerdydd oedd a rhodd ei enw i Sloper Road, lle’r oedd yn gydberchennog o danerdy oedd cyferbyn â Pharc Sevenoaks.   Roedd Edwin Montgomery Bruce Vaughan (1856-1919) yn byw yn rhif 14 yn gynnar yn yr 20fed ganrif.   Roedd yn ddyn lleol, a anwyd yn Heol Frederic ac a gafodd ei hyffordd fel pensaer a dyluniodd 45 eglwys ym Morgannwg, Eglwys yr Holl Seintiau yn y Barri ac Eglwys flaenorol St James the Great yn Heol Casnewydd – sef pellter byr o’i gartref yw’r rhai mwyaf nodedig   Rhoddir clod i Bruce Vaughan hefyd am ddylunio nifer o adeiladau wedi’u portreadu yng Nghasgliad Mary Traynor.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

 

Tai ym Mhlas Dumfries, Caerdydd

Enwir Plas Dumfries ar ôl Iarll Dumfries – teitl cwrteisi a ddefnyddiwyd gan fab hynaf yr Ardalydd Bute.  Fodd bynnag, mae gwahaniaeth o ran ynganiad; mae Iarllaeth Dumfries yn odli gyda’r gair Saesneg ‘peace’ tra bod pobl Caerdydd yn odli enw’r stryd gyda’r gair Saesneg ‘peas’.

Cyfyngwyd datblygiadau preswyl i ochr ddwyreiniol y stryd, gyda’u cefnau tuag at Reilffordd Bro Taf.  Roedd yn cynnwys tua 24 o dai sylweddol, yn dyddio o’r 1870au.  Roedd y rhan fwyaf yn ffurfio teras sengl yn rhedeg o Heol y Frenhines, gyda phum pâr o dai filas ar y pen gogleddol.  Mae ceisiadau am gymeradwyaeth adeiladu yn awgrymu y cafodd yr eiddo eu hadeiladu ar sail hapfasnachol gan nifer o adeiladwyr lleol, gan gynnwys James Purnell a Samuel Shepton (a oedd mewn gwirionedd yn byw gyda’i deulu yn rhif 2 Plas Dumfries ym 1881).

Mae’n ymddangos na fu rhif 1 Plas Dumfries erioed yn dŷ preifat.  I ddechrau, roedd Clwb Morgannwg yno.  Roedd gan y Clwb, a ffurfiwyd ym 1874, tua 150 o aelodau, sef dynion proffesiynol y dref yn bennaf.  Fodd bynnag, parodd ond tan 1895, pan gymerwyd yr adeilad gan Gymdeithas Celf De Cymru a Chymdeithas Feddygol Caerdydd.  Yn ddiweddarach, roedd yn gartref i Gymdeithas Diwydiannau Cymru cyn mynd yn swyddfa cwmni yswiriant.  Mae’n ymddangos bod gweddill y tai yn dai teulu, fodd bynnag roedd nifer ohonynt ym meddiant meddygon neu ddeintyddion a allai fod wedi defnyddio rhannau o’r adeiladau o bosib ar gyfer ymgynghoriadau proffesiynol.

d1093-2- 012 (Houses in Dumfries Place)_compressed

D1093/2/8

d1093-2- 013 (Houses in Dumfries Place)_compressed

D1093/2/9

Mae Darluniad D1093/2/8 yn dangos rhif 3, 4, a 5 Plas Dumfries a’r eiddo sydd i’w gweld yn Narluniad D1093/2/9 yw rhifau 14, 15 a 16, ynghyd â rhan o fach o rif 13.  Mae cofnodion ar y pryd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o dai yn newid dwylo bob ychydig flynyddoedd, ond mae tystiolaeth o feddiannaeth tymor hirach gan rai teuluoedd.  Un enghraifft o’r fath yw George Prince Lipscombe – a ddisgrifir fel clerc masnachol, ariannwr neu gyfrifydd – a fu’n byw yn rhif 3 gyda’i wraig, Emily a’u plant.  Mae wedi’i restru yno mewn cyfeiriadur o 1875 ac roedd yn dal i fod yno pan wnaed y cyfrifiad ym 1901.  Mae cyfrifiad 1881 yn dangos mai cymydog Lipscombe, yn rhif 4, oedd Elizabeth Rundle, saith-deg pedair oed, oedd yn weddw i lyfrwerthwr a gwerthwr papurau.  Bu farw Elizabeth yn mis Ionawr 1889, ond roedd ei merch, Emma Rundle, yn parhau i fyw yn yr un cyfeiriad ym 1911.

Er ei fod ym Mhlas Dumfries am gyfnod cymharol fyr, mae preswylydd arall yn nodedig oherwydd ei fod yn rhan o un o’r digwyddiadau mwy rhyfedd yn hanes Caerdydd.  Mae rhif 16 yn ail ddarluniad Mary Traynor yn dangos blaen siop Saunders Lambert, Gwerthwyr Tai.  Yn 1881, dyma oedd cartref Samuel Chivers, bragwr finegr, a ehangodd yn ddiweddarach i weithgynhyrchu piclau a jam – parhaodd y cynhyrchu yn ei ffatri yn Nhrelái tan tua 1970.  Ym mis Ebrill 1883, torrwyd un o goesau Chivers ymaith yn dilyn damwain ar y ffordd.  Claddwyd y goes ganddo ym Mynwent Cathays, gan fwriadau, mae’n siŵr i ailymuno â hi maes o law – mae’r cofnod yn y gofrestr gladdedigaethau yn darllen ‘Coes Gwryw.’    Fodd bynnag, pan fu farw ym mis Ionawr 1917, claddwyd corff Samuel Chivers mewn bedd teuluol, rhywle arall yn yr un fynwent.

Pan gymerwyd cyfrifiadau 1901 a 1911, ni restrwyd unrhyw breswylwyr (na gofalwyr yn unig) yn rhai o’r tai ar Blas Dumfries, sy’n awgrymu bod ei drawsnewid yn adeiladau busnes eisoes wedi dechrau, ac mae’n ymddangos bod hyn wedi ei gwblhau i raddau helaeth erbyn 1920.  Cafodd y tai eu dymchwel er mwyn gwneud lle i ehangu Plas Dumfries ac adeiladu maes parcio aml-lawr, yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.

David Webb, Glamorgan Archives Volunteer

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor Collection [D1093/2/8-9]
  • Cofnodion Bwrdd Claddedigaethau Caerdydd, cofrestr claddedigaethau, 1859-1886 [BUBC/1/1/1, t.209]
  • Cofnodion Bwrdd Claddedigaethau Caerdydd, cofrestr claddedigaethau, 1875-1922 [BUBC/1/4/1 t.67]
  • The Weekly Mail, 21 April 1883
  • Cyfrifiad 1851 – 1911
  • Calendr Profiant Cenedlaethol Lloegr a Chymru, 1889
  • Webster & Co’s Postal and Commercial Directory of the City of Bristol and County of Glamorgan, 1865
  • Worrill’s Directory of South Wales and Newport Monmouthshire, 1875
  • Wright’s Cardiff Directory, 1893-94
  • Kelly’s Directory of Monmouthshire and South Wales, 1895
  • Western Mail Cardiff Directory, 1897
  • Amryw cyfeirlyfrau’r 20fed ganrif ar gyfer Caerdydd
  • Ffrindiau Mynwent Cathays, Cathays Cemetery Cardiff on its 150th Anniversary
  • Ffrindiau Mynwent Cathays, Cylchlythyr, Mehefin 2011

Y Neuadd Ymarfer, Plas Dumfries, Caerdydd

Cafodd y Neuadd Ymarfer ei hadeiladu â chyllid gan ymddiriedolwyr trydydd Ardalydd Bute (oedd yn blentyn dan oed ar y pryd) yn 1867 ar gyfer y gwirfoddol-lu yn bennaf (rhagflaenydd Byddin y Tiriogaethwyr).

d1093-2- 011 (TA Headquarters, Dumfries Place)_compressed

Cafodd ei dylunio gan bensaer o Lundain, Alexander Roos, a oedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Bute. Cafodd briciau lliwgar eu defnyddio i’w hadeiladu yn arddull Byzantine.  Roedd y neuadd ganolog yn 148 o droedfeddi (45 o fetrau) o hyd a 66 o droedfeddi (20 o fetrau) o daldra, ac ynddi roedd digon o le i fwy na 4,000 sefyll. Gan ddibynnu ar anghenion gweithredol gwirfoddolwyr, cafodd digwyddiadau fel cyngherddau a cyfarfodydd cyhoeddus groeso ynddi, a bu’n gartref i Sioe Flodau’r Dynion Gwaith am nifer o flynyddoedd.

Roedd yr adeilad cyfagos â Rheilffordd Bro Taf, yn ei flaen roedd tir parêd ac wynebai Plas Dumfries tua’r de.    Cafodd ei ddymchwel yn y 1970au er mwyn adeiladu ffyrdd deuol yn Stuttgarter Strasse a Phlas Dumfries, a tua’r man lle y bu, saif y blociau o swyddfeydd Tŷ Dumfries a Thŷ Marchmount.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

YMCA a Neuadd Cory, Rhodfa’r Orsaf, Caerdydd

Roedd yr YMCA a Neuadd Cory yn  gymdogion drws nesa i’w gilydd ar Rodfa’r Orsaf, gyferbyn â’r fynedfa i Orsaf Heol y Frenhines.  Mae’r ddau yn dyddio o tua 1900.

Mae’r YMCA yn olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1844, pan ffurfiodd criw o frethynwyr Llundain, dan arweiniad George Williams, Gymdeithas Efengylaidd y Brethynwyr.  Buan y newidiodd ei enw i’r Young Men’s Christian Association ac ehangu ei bwrpas i gyflwyno elfen addysgol.  Agorodd cymdeithasau eraill yn gyflym dros weddill Prydain ac o amgylch y byd.

Sefydlwyd YMCA Caerdydd yn 1852 yn Heol Eglwys Fair.  Lleolwyd y gymdeithas ar amrywiol safleoedd yn ystod ei hanner canrif cyntaf cyn adeiladu adeilad pwrpasol ar Rodfa’r Orsaf. Wedi ei gynllunio gan y penseiri lleol J.P. Jones, Richards & Budgen, roedd pum llawr i’r adeilad a seler.   Yn ogystal â llety dros dro a lle i fyw, roedd yn cynnig campfa, theatr ddarlithio, ystafelloedd dosbarth, llyfrgell ac ystafell ddarllen.  Roedd wyneb blaen llawr gwaelod yr adeilad yn cynnwys dwy siop – un wedi ei chynllunio’n wreiddiol fel tŷ bwyta.  Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1899 gan Syr George Williams ac agorodd y flwyddyn ganlynol.

Adeiladwyd Neuadd Ddirwest Goffa Cory ar gost o £5,000 a’i chyflwyno i gymdeithasau dirwest Caerdydd gan John Cory (1828 – 1910) fel coffâd i’w ddiweddar dad, Richard.  Richard Cory (1799 – 1882) a sefydlodd fusnesau masnach llongau a gwaith glo’r teulu.  Roedd yn arweinydd ar y mudiad Methodistaidd yng Nghaerdydd ac fe gefnogai amrywiol weithgareddau addysgol, moesol a Christnogol yn yr ardal.  Wrth i’r mudiad dirwest yng Nghaerdydd ddatblygu, yn ôl y sôn ef oedd y cyntaf i arwyddo’r ‘llw dirwest’.

d1093-2- 008_compressed

Erbyn y 1970au, roedd cynlluniau ar droed i ailddatblygu yr ardal yn ffinio â Heol-y-Frenhines, Ffordd Churchill, Rhodfa’r Orsaf a Stryd Ogleddol Edward – Canolfan Siopa’r Capitol bellach.  Gan ragweld hyn, roedd safleoedd eraill yn yr ardal wedi cau ac yn dechrau dadfeilio.  Roedd Neuadd Cory dan brydles o 99 mlynedd o 1896 a, gyda chostau sefydlog a chostau rhedeg y lle, penderfynodd yr ymddiriedolwyr werthu.  Buddsoddwyd yr arian a ddeilliodd o’r gwerthiant – £72,262.88 – gan Gronfa Goffa Ymddiriedolaeth Cory gan barhau i’w roi at achosion yn ardal Caerdydd oedd yn rhannu gweledigaeth wreiddiol y sefydlydd.  Dadgofrestrwyd yr elusen yn 2001.Symudodd yr YMCA o Rodfa’r Orsaf hefyd.  Ym 1974, fe brynon nhw hen ysgol gwfaint ar The Walk, i barhau â’u gwaith ieuenctid a chymunedol a, maes o law, i ddatblygu hostel i fyfyrwyr a gweithwyr ieuenctid.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Casgliad Mary Traynor [D1093/2/4]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, YMCA arfaethedig, Station Terrace, 1898 [BC/S/1/13196]

Papurau’r Teulu Porter o Gaerdydd a Gwlad yr Haf, adroddiad Cronfa Goffa Ymddiriedolaeth Cory, 1974-89 [DX416/2/1]

http://www.cardiffymcaha.co.uk

http://en.wikipedia.org/wiki/John_Cory

http://www.evangelical-times.org/archive/item/6165/Historical/The-grace-of-giving—John-Cory–1—-/

 

Stablau Guest, Merthyr Tudful

Gyda chyflenwad lleol digonol o fwyn haearn, calch, coed a glo, roedd Merthyr Tudful yn  ganolfan gynnar bwysig ar gyfer creu haearn a dur.   Gwaith Dowlais, a sefydlwyd ym 1759, oedd y cyntaf o bedwar prif waith haearn a fyddai’n blodeuo yn y dref, gan ei gwneud yn ganolfan bwysig yn y chwyldro diwydiannol.

Penodwyd John Guest yn rheolwr ar waith Dowlais yn 1767 ac yn ddiweddarach daeth yn gyfranddaliwr sylweddol.  Fodd bynnag, gwelodd y gwaith ei ddyddiau gorau dan ddwylo ŵyr Guest, sef Syr Josiah John Guest, rhwng 1807 a 1852. Daeth y gwaith yn ddiweddarach yn rhan o grŵp Guest Keen and Nettlefolds a symudodd ganolbwynt eu gweithredu i Gaerdydd, oedd yn cynnig gwell hygyrchedd at fwyn haearn wedi ei fewnforio.

d1093-2- 006_compressed

Adeiladwyd y stablau yn 1820 i roi cartref i’r ceffylau oedd yn gweithio yn y gwaith haearn. Mae’r rhes sydd wedi ei chadw yn ymddangos iddi fod yn brif ran blaen adeilad petryal.  Defnyddiwyd yr ystafelloedd mawr ar y llawr cyntaf fel ysgol i fechgyn tan i ysgolion Dowlais gael eu hadeiladu yn 1854-5, tra bu milwyr yn aros yn yr adeilad am rai blynyddoedd yn dilyn Terfysg Merthyr ym 1831. Peidiwyd â defnyddio’r stablau yn y 1930au gan orwedd yn segur am sawl degawd tan iddynt gael eu prynu ym 1981, gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merthyr Tudful, a gwblhaodd waith adfer.  Ym 1989, cafodd yr adeilad ei droi gan Gymdeithas Dai Merthyr Tudful yn fflatiau ar gyfer yr henoed..  Mae tai i’w cael hefyd yn hen iard y stablau.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

 

 

Pwmp Melingriffith

Pan adeiladwyd Camlas Morgannwg yn y 1790au, roedd yn tynnu dŵr o Afon Taf ger Cored Radur, trwy’r un ddyfrffos â Gwaith Tunplat Melingriffith oedd yno eisoes.  I osgoi lleihau cyflenwad Melingriffith, roedd y Ddeddf Seneddol a awdurdododd adeiladu’r gamlas yn mynnu bod y gweithredwyr yn echdynnu eu dŵr yn is i lawr yr afon na’r gwaith, wedi iddo gael ei ddefnyddio i yrru peiriannau yno.

Mae haneswyr yn anghytuno ar gynllunydd a dyddiad y pwmp, ond cafodd ei osod yn ei le rhwng 1795 a 1807. Fel ‘peiriant codi dŵr’ yn dechnegol, câi ei yrru gan olwyn ddŵr dan y rhod oedd wedi ei gysylltu â dau bwmp silindr oedd yn codi dŵr gwastraff Melingriffith i ddyfrffos y gamlas.  Ymddengys na lwyddodd hyn i oresgyn problemau cyflenwad dŵr Melingriffith yn llwyr oherwydd i anghydfod parhaus arwain at gytundeb pellach lle roedd disgwyl i gwmni’r gamlas gyfyngu ar echdynnu ar ddŵr o Afon Taf yn ystod adegau o brinder dŵr.

Gwyddys i’r pwmp fod yn weithredol tan 1927, ac efallai na fu’n gwbl segur tan 1942 pan ddaeth masnachu i ben ar y gamlas.

d1093-2- 005_compressed

Ers dyddiad dyluniad Mary Traynor, mae ymdrechion wedi eu gwneud i ailwampio’r pwmp.  Yn ystod y 1970au a’r 80au, cafodd gwaith adfer ei wneud gan wirfoddolwyr o Gymdeithas Hanes Diwydiannol Tŷ Rhydychen yn Rhisga, ond dadfeiliodd drachefn wedi hynny.  Cwblhawyd gwaith atgyweirio pellach, wedi ei ariannu gan gyngor Caerdydd a Cadw rhwng 2009 a 2011. Yn dilyn hyn, roedd hi unwaith eto yn bosib gweld y pwmp ar waith – er bod hynny gyda chymorth trydan.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Pan oedd tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ymestyn yn y 1840au, credid y byddai’n ddymunol adeiladu adeilad mawr newydd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a llysoedd, yn lle hen neuadd y dref, a oedd yn sefyll ar fwâu dros y farchnad.  Cafodd yr adeilad, a ddyluniwyd gan bensaer o Abertawe o’r enw Rayner, ei godi ar dir a roddwyd gan Iarll Dwnrhefn, a dywedir iddo gostio £1,450. Cyfrannodd Ynadon Heddwch Sir Morgannwg £300 fel y gellid troi’r llawr isaf yn Orsaf Heddlu, a chodwyd gweddill yr arian drwy roddion gwirfoddol.  Gosodwyd carreg sylfaen ar 13 Medi 1843 gan y Gwir Anrh. John Nicholl, AS dros Gaerdydd, a Barnwr Eiriolwr Cyffredinol EM, a throsglwyddwyd yr adeilad gorffenedig i’r tanysgrifwyr ar 1 Mai 1845. Roedd y brif ardal fewnol yn neuadd 65 x 38 troedfedd.

d1093-2- 001_compressed

d1093-2- 002_compressed

Defnyddiwyd yr adeilad at amryw ddibenion – gwrandawiadau llys, gwleddoedd, cyngherddau, perfformiadau dramatig, cyfarfodydd gwleidyddol a chyfarfodydd i bobl y dref.  Pan sefydlwyd Cyngor Sir Morgannwg yn 1889, lleoliad swyddfa Syrfëwr y Sir oedd yno i gychwyn.  O ganlyniad i newid mewn arferion cymdeithasol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd yr adeilad lawer o ddefnydd.  Arweiniodd hyn at adfeiliad yr adeilad.  Er gwaethaf ymgyrch ‘Achub Neuadd y Dref’, cafodd ei ddymchwel yn 1971.

d1093-2- 006_compressed

Mae ‘Cronfa Neuadd y Dref’ yn parhau i fod yn weithredol fel ymddiriedolaeth elusennol.  Mae’n gweinyddu incwm o enillion gwerthiant Neuadd y Dref, y gellid ei ddefnyddio at ddibenion elusennol er budd cyffredinol trigolion Pen-y-bont ar Ogwr.  Yn ystod y pum mlynedd rhwng 2009 – 2013, cynhyrchodd incwm blynyddol o tua £570 ar gyfartaledd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/1-2; D1093/2/6]
  • Pwyllgor Rheoli Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, llyfr cofnodion, 1845-1941 [DXS1]
  • Pwyllgor Rheoli Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, cytundeb i adeiladu Neuadd Tref gan gynnwys rhagfanylion a chynlluniau, 1843 [DXS4]
  • Old Bridgend in Photographs (Sylwadau gan D. Glyn Williams) Cyh. Stewart Williams, 1978
  • blogspot.co.uk/2013/02/how-are-mighty-fallen-bridgend-town-hall.html
  • bridgend-town-hall-trust.org.uk
  • bridgendtowncouncil.gov.uk/bridgend-origins/some-historical-facts.aspx

 

Tu mewn y Gyfnewidfa, Caerdydd

Ym 1882, ar alw nifer o foneddigion dylanwadol mewn swyddi’n gysylltiedig â Chaerdydd, bu i’r cyfreithiwr lleol, Frederick De Courcey Hamilton, bennu cynllun er mwyn sefydlu cyfnewidfa a fyddai’n cynnig swyddfeydd cyfleus a man cyfarfod ar gyfer masnachwyr, perchnogion llong, broceriaid a boneddigion eraill cysylltiedig â mentrau morol.

Cytunodd asiantau Ardalydd Bute rentu safle yn Sgwâr Mountstuart a sefydlwyd Cyfnewidfa Caerdydd ac Office Company Limited ar gyfer codi’r adeilad a ddyluniwyd gan y penseiri lleol, James, Seward & Thomas.   Rhoddwyd cytundeb y cam cyntaf i Mr C Burton tua diwedd 1883 a chodwyd gweddill yr adeilad yn ysbeidiol dros nifer o flynyddol.   Agorodd y Gyfnewidfa ar gyfer busnes yn fuan ym 1886.

Byddai perchnogion y pyllau glo, perchnogion llongau a’u hasiantau’n cyfarfod yn y neuadd fasnachu’n ddyddiol lle deuent i gytundebau ar lafar a thros y ffôn.  Yn ystod yr awr fasnachu brysuraf, rhwng hanner dydd ac un o’r gloch, byddai hyd at 200 o ddynion yn yr ystafell yn gwneud ystumiau ac yn bloeddio.  Honnir mai yma y tarwyd cytundeb busnes cyntaf y byd a oedd werth miliwn o bunnau ym 1901. Ac yma y pennid pris glo yn rhyngwladol, yn adlewyrchu arwyddocâd byd-eang meysydd glo de Cymru.

Ym 1911, adnewyddwyd tu mewn y neuadd fasnachu yn grandiach fyth gyda balconi derw a phaneli pren da, fel y gwelwch yn llun Mary Traynor.

d1093-2- 023_compressed

Gyda thranc masnach glo Caerdydd, daeth gweithrediadau’r Gyfnewidfa Lo i ben yn y 1950au, ond parhaodd yr adeilad fel swyddfeydd.  Cynigiwyd yr adeilad yn gartref i Gynulliad Cenedlaethol newydd i Gymru dan lywodraeth Harold Wilson, ond bu farw’r freuddwyd honno pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli ym 1979.

Yn y blynyddoedd canlynol, defnyddiwyd yr adeilad fel safle cyngerdd a ffilmiau o bryd i’w gilydd ac yn raddol, gadawodd y tenantiaid y swyddfeydd.  Yn 2013, caewyd yr adeilad am resymau diogelwch ac roedd pryderon mawr ynghylch ei dynged.  Fodd bynnag, nawr mae gwaith i’w adnewyddu’n westy moethus.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Casgliad Mary Traynor o Gaerdydd

Pan gaiff ardal ei hailddatblygu gall fod yn anodd cofio’r adeiladau a oedd yn sefyll yno ar un adeg.  Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd ein blog yn tynnu sylw at gasgliad sy’n helpu i gofnodi Caerdydd a de Cymru sy’n newid yn gyflym.

Ym mis Mehefin 2014, derbyniodd Archifau Morgannwg adnau hynod ddiddorol ac unigryw gan Mary Traynor, artist o Gaerdydd, sydd wrthi ers diwedd y 1960au yn ceisio tynnu lluniau o adeiladau Caerdydd a’r ardal gyfagos sydd dan fygythiad o gael eu dymchwel.  Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn amgueddfeydd amrywiol dros y blynyddoedd ac mae’n tynnu sylw at lawer o adeiladau sydd wedi diflannu ers hynny.  Mae’r casgliad yn cynnwys ei llyfrau braslunio a’i gwaith rhydd, yr oedd rhai ohonynt wedi’u fframio ac yn cael eu harddangos cyn hynny.

AP 001

AP 002

AP 005

Mae’r brasluniau a’r paentiadau hyn yn ategu sawl cyfres arall o gofnodion a gedwir yn yr archifau, gan ddarparu ffynhonnell werthfawr i’r rhai hynny sy’n ymchwilio i hanes adeiladau yn yr ardal.

David-Webb

Mae David Webb, sy’n wirfoddolwr yn Archifau Morgannwg, wedi bod yn defnyddio’r cofnodion hyn i ymgymryd â gwaith ymchwil i hanes rai o’r adeiladau a gaiff eu cynnwys yn rhan o waith celf Mary Traynor.  Caiff y rhain eu cyhoeddi ar y blog yn ystod yr wythnosau nesaf.