Prifysgol Radnor

0781 edited

Rhwng 12 Ionawr a 16 Chwefror aeth grŵp o 17 o blant o Ysgol Gynradd Radnor i Archifau Morgannwg fel rhan o’u Rhaglen ‘Prifysgol Radnor’ – rhaglen o ddigwyddiadau lle gall plant gymryd rhan mewn cyrsiau byrion o weithgareddau all-gwricwlaidd.  Roedd Archifau Morgannwg wrth eu boddau yn gallu cymryd rhan! Treuliodd y plant bum wythnos yn dysgu am yr archif, yr hyn a wnawn a pham. Roedden nhw’n canolbwyntio ar thema cofnodion gwahanol bob wythnos. Dros y pum wythnos fe edrychon nhw ar gofnodion o’u hysgol, dychweliadau’r cyfrifiad, cynlluniau adeiladau, mapiau, cofnodion yr heddlu, cofnodion y seilam a ffotograffau. Yn ystod eu hwythnos olaf dewisodd y plant eu hoff ddogfen er mwyn ysgrifennu amdani a thynnu ffotograff ohoni.

 0791 edited

Dewisodd Ali, Drew, Ollie, Emir ac Isaac nodiadau achos ar gyfer Seilam Angelton (cyf: DHGL/10/66) fel eu hoff ddogfen. ‘Dyma fy hoff ddogfen am ei bod yn ddiddorol iawn ac yn gallu dweud hanes pobl y Seilam wrthym a’r rheswm dros eu gyrru yno.’ Roedd y plant wedi rhyfeddu o weld ffotograffau’r cleifion ‘Mae lluniau a disgrifiadau o’r bobl.  Roeddwn yn hoffi edrych ar yr holl bobl’. Fe dreulion nhw amser yn edrych ar y dogfennau yn ofalus gan greu disgrifiadau arbennig o lachar; ‘llyfr mawr pren wedi ei orchuddio â lledr’, ‘Mae’n gwynto fel llwch’, ‘mae’n gwynto fel tŷ fy Mamgu’. Cipiwyd eu dychymyg gan y dechneg fritho a ddefnyddiwyd i addurno y tu mewn i glawr y gyfrol, ‘mae’n edrych fel Noson Serennog Vincent Van Gough ond gan ddefnyddio gwyrdd a brown yn unig’.

Radnor-University-001-web

Radnor-University-002-web

Radnor-University-003-web

Photographed by Ali, Drew, Ollie, Emir and Isaac.

Dewisodd Sheika, Katie, Cora, Jaiza a Miriam lyfrau log ysgol (cyf: E/C21/1, E/C21/3 a E/C21/8) fel eu hoff ddogfennau. Dyma fy hoff ddogfen am ei bod yn dweud wrtha i am hanes fy ysgol’, ‘Mae’n ymwneud â phlant a’n hysgol ni’, ‘Gallwch weld yr hyn sydd yr un fath yn yr ysgol a’r hyn sy’n wahanol.’ Bu’n rhaid i’r merched fynd i’r afael â pheth llawysgrifen anodd ‘mae’r llawysgrifen yn gyrliog, droellog ac anodd ei ddarllen’. Ond unwaith y daethon nhw i arfer â’r peth fe sylweddolon nhw fod y llyfrau log yn drysorfa o wybodaeth. Mae’n dweud wrthym am y salwch a’r hyn ddigwyddodd i’r plant’, ‘mae llawer o ffeithiau ynddo sy’n aros i gael eu canfod’, ‘Byddai’n wych gallu teithio nôl mewn amser i weld ein hysgol’.

Radnor-University-004-web

Radnor-University-005-web

Radnor-University-009-web

Radnor-University-010-web

Photographed by Sheikha, Katie, Cora, Jaiza and Mariam

Dewisodd Freya, Annabel a Zach Gofrestr ôl Bysedd a Ffotograffig Heddlu Morgannwg (cyf: D/CON/3/2/1). ‘Dewisais y ddogfen hon am fy mod yn hoff o edrych ar y bobl aeth i’r carchar ac rwy’n hoff o edrych ar y ffotograffau’. Roedd y plant wedi eu rhyfeddu i ddysgu am y troseddau a gyflawnwyd a’r dedfrydau carchar trwm a gafodd y drwgweithredwyr. Fe wnaethon nhw fwynhau’n arbennig gweld y troseddwyr hynny oedd â ffugenwau ‘Weithiau roedden nhw’n rhoi enw ffug!’ Treuliodd y plant amser yn meddwl am ba fath o fywydau fyddai wedi bod gan rai o’r bobl yn y gofrestr ‘roedd rhai pobl yn rhy dlawd i gael eu bwyd a’u dillad eu hunain felly byddent yn dwyn gan bobl eraill’.

 Radnor-University-006-web

Radnor-University-007-web

Radnor-University-008-web

Photographed by Freya, Annabel and Zach

Diolch i chi ym Mhrifysgol Radnor am eich holl waith caled wrth ymchwilio yn yr Archifau. Gobeithio y gwnaethoch fwynhau cymaint ag y gwnaethom ni.

 

Advertisements

Cadw Gwaed Morgannwg ar Wydr

figure 1

Mae casgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Archifau Morgannwg yn cynnwys llawer o negatifau ffotograffig ar blatiau plastig a gwydr.

figure 2

Yn y negatifau plât gwydr, rhyw 5440 ohonyn nhw i gyd, mae pob math o bethau gan gynnwys lluniau o dwneli, glowyr wrth eu gwaith, offer, merlod y pyllau glo, canolfannau meddygol, digwyddiadau cymdeithasol a chynnwys amrywiol arall.

figure 3

Yn rhan o broject Gwaed Morgannwg, caiff y lluniau hyn eu catalogio, eu glanhau, eu digideiddio, eu cadw a’u hailgartrefu er mwyn i’r cyhoedd eu gweld nhw.

figure 4

Dim ond glanhau sydd ei angen ar y rhan fwyaf o’r negatifau plât gwydr cyn cael eu digideiddio, ond mae mwy o ôl traul ar eraill.    Mae nifer o’r platiau wedi torri, neu mae’r emylsiwn wedi codi neu ddifrodi (Llun 5). Bydd angen rhagor o ddatrysiadau tai mwy cefnogol neu driniaeth gadwraeth fwy dwys.

figure 5

Llun 5

Rhaid glanhau negatifau plât gwydr sydd heb eu difrodi cyn eu digideiddio a’u hailgartrefu.  Mae baw ar yr eitemau hyn yn gallu peri i’w cyflwr waethygu dros y tymor hir a gall fod yn weladwy ar y ddelwedd ddigidol.    Mae’n bwysig glanhau’r platiau hyn yn drwyadl cyn dechrau ar unrhyw gamau eraill o’r broses gadw.

I lanhau’r platiau, mae teclyn chwythu aer yn symud llwch a baw rhydd ar ochr yr emylsiwn ac ar ochr y gwydr.  Drwy ddefnyddio’r offeryn hwn, mae modd glanhau ochr emylsiwn y plât heb risg o grafu’r llun.  Nesaf, defnyddir ffyn gwlân cotwm wedi’u lapio mewn papur sidan, a’u trochi mewn cymysgedd o ddŵr ac ethanol i dynnu llwch a saim o ochr wydr y platiau.  Mae olion yn cael eu tynnu â ffon gwlân cotwm sych.

figure 6

Llun 6

Mae’r platiau glân yn cael eu hailgartrefu mewn ffolderi wnaed o ddeunydd sy’n bodloni safonau’r Prawf Gweithgarwch Ffotograffig.    Rydym ni’n defnyddio ffolderi o feintiau gwahanol ar gyfer platiau sydd mewn fformatau amrywiol yn ôl yr angen (Llun 6). Câi’r eitemau hyn eu cadw mewn amlenni papur gwydr yn wreiddiol, sy’n fath o bapur caboledig sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cadw negatifau ffotograffig. Mae papur gwydr yn ddeunydd cadw amhriodol gan ei fod yn melynu gyda threigl amser a gall ddifrodi’r emylsiwn ffotograffig (Llun 7).

figure 7

Llun 7

Ar ôl eu glanhau, mae’r platiau’n cael eu sganio ac mae delwedd bositif yn cael ei chreu.  Mae hwn wedyn yn cael ei ychwanegu at gatalog yr Archifau.

figure 8

Llun 8

Mae angen cadw negatifau platiau gwydr sydd wedi torri mewn cas sy’n cadw’r darnau mân ac sydd hefyd yn eu cadw ar wahân er mwyn sicrhau na chaiff yr emylsiwn bregus ei ddifrodi wrth i’r teilchion gwydr gyffwrdd.  Mae’r cas newydd yn cynnwys sbwng plasterzote o fewn amgaead cerdyn sydd heb ei fyffro.    Mae’r cas newydd hwn yn ei gwneud hi’n bosibl cadw’r negatifau’n ddiogel a’u gweld  yn ôl yr angen heb dynnu’r teilchion unigol (Lluniau 8 a 9). Mae modd defnyddio’r cas syml hwn i gadw’r negatifau dros dro neu dros y tymor hir a pharhau i’w trin a’u hadfer eto yn y dyfodol.

Figure 9

Llun 9

Bydd y negatifau sydd wedi’u difrodi’n cael eu sganio a’u digideiddio, a bydd hynny’n lleihau’r angen i’w cyffwrdd ac yn sicrhau bod modd i’r cyhoedd weld y delweddau gwych hyn.

Stephanie Jamieson, Cadwraethwr Prosiect Glamorgan’s Blood

Adeiladu Stadiwm y Mileniwm

D1093_2_53 compressed

Ym 1878, rhoddwyd caniatâd i Glwb Pêl-droed Caerdydd (Clwb Rygbi Caerdydd yn ddiweddarach) a Chlwb Criced Caerdydd i ddefnyddio Parc yr Arfau yng Nghaerdydd ar rhent rhad, gan drydydd Ardalydd Bute. Ym 1922, cyfunodd y ddau glwb i ffurfio Clwb Athletau Caerdydd, a aeth yn ei flaen wedyn i brynu’r tir oddi wrth deulu’r Bute ar y ddealltwriaeth ei fod i’w gadw at ddibenion hamdden. Hyd at ddiwedd y 1960au, defnyddiwyd rhan ogleddol y safle i chwarae criced a’r rhan ddeheuol i chwarae rygbi, gyda Chymru yn chwarae gemau rhyngwladol cartref ar yr un cae â Chlwb Rygbi Caerdydd – er, cyn 1953, chwaraewyd rhai gemau yn Abertawe.

Ym 1968, daeth rhydd-ddaliad y tir deheuol i ddwylo Undeb Rygbi Cymru (URC). Symudodd y criced i Erddi Sophia a thrawsnewidiwyd eu hen gae yn gae newydd ar gyfer Clwb Rygbi Caerdydd. Dechreuodd gwaith wedyn ar ailddatblygu safle’r de i greu Stadiwm Cenedlaethol i’w ddefnyddio’n unswydd ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol. Ar ôl ei adeiladu mewn sawl cam, fe’i cwblhawyd ym 1984 gyda lle i 65,000, ond a gwtogwyd yn ddiweddarach i 53,000 am resymau diogelwch.

O fewn deng mlynedd, roedd URC yn archwilio posibiliadau ar gyfer ailddatblygu pellach ar y stadiwm, ond gyda nifer y seddi bellach yn sylweddol is na stadia cenedlaethol Lloegr a’r Alban. Cynyddodd y pwysau pan ddewiswyd Cymru i roi cartref i Gwpan Rygbi’r Byd ym 1999. Y datrysiad oedd stadiwm newydd ar yr un safle yn fras. Fodd bynnag, roedd prynu tir gerllaw yn golygu alinio’r cae o’r gorllewin-dwyrain i’r gogledd-de, a chynyddu nifer y seddi i 72,500. Byddai to symudol gan y stadiwm newydd, fyddai’n ei alluogi i fod yn lleoliad aml-ddefnydd.

Dyluniwyd y stadiwm gan Lobb Sport Architecture. Y prif gontractwr oedd John Laing Construction a’r peirianwyr strwythurol – a ddyluniodd y to symudol – oedd WS Atkins. Aeth 56,000 tunnell o goncrid  a dur i mewn i’r project rhwng 1997 a 1999. Er mwyn darparu’r nifer angenrheidiol o seddau a chydymffurfio â chyfyngiadau o amgylch y safle, mae’r eisteddleoedd yn gwyro am allan wrth godi o’r ddaear gan greu ffurf bensaernïol ddramatig.

Cyfanswm y cost adeiladu oedd £121 miliwn, gyda £46 miliwn o hwnnw yn arian loteri a roddwyd gan Gomisiwn y Mileniwm. Cafodd hyn ei gydnabod yn enw’r stadiwm tan 2015. Fodd bynnag, ym mis Medi’r flwyddyn honno, cyhoeddodd URC fargen nawdd dros 10 mlynedd gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality, ac yn sgil hynny, newidiodd yr enw i ‘Stadiwm y Principality’ yn 2016.

Yn ogystal â rygbi’r undeb, mae Stadiwm y Mileniwm wedi croesawu amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys rygbi’r gynghrair, rasio beiciau modur, bocsio, cymal o Bencampwriaeth Ralïo’r Byd, criced dan do, digwyddiadau marchogaeth, a gemau pêl-droed rhyngwladol. Chwaraewyd chwech rownd derfynol Cwpan yr FA a sawl gêm bêl-droed bwysig arall yno tra oedd Stadiwm Wembley yn cael ei ail-ddatblygu rhwng 2002 a 2007.  Chwaraewyd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn y Stadiwm yn 2017.

Bob blwyddyn, cynhelir sawl digwyddiad cerddorol byw ynghyd â nifer o artistiaid rhyngwladol blaenllaw yn perfformio. Yn hynod nodedig fe fu cyngerdd elusennol a gafodd ei gynnal ar 22 Ionawr 2005. Fe’i trefnwyd mewn cwta tair wythnos, denodd lu o sêr a chododd £1.25 miliwn i gynorthwyo’r ymdrechion cymorth yn dilyn tswnami ddiwrnod gŵyl San Steffan yn Ne Asia.

Ar lefel mwy sylfaenol o ddydd i ddydd, mae’r stadiwm hefyd yn cynnig ystod o gyfleusterau ar gyfer cynadleddau, ciniawau, gwleddoedd, dawnsfeydd, partïon a gwleddoedd priodas.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

Clwb Hwylio Caerdydd a Gât y Doc

Sefydlwyd Clwb Hwylio Caerdydd yn 1900, gan gyfarfod yn yr Avondale Hotel yn  Clarence Road yn wreiddiol, sef safle Avondale Court heddiw.  Cyflwynodd yr Ardalydd Bute gwpanau arian i enillwyr y rasys a gynhaliwyd mewn regatas blynyddol.

rsz_1d1093-2-052

Saif y clwb a ddarlunnir gan Mary Traynor i’r de o’r loc i Fasn y Rhath sydd bellach wedi cau.  Cafodd ei adeiladu gan aelodau fel adeilad parod yn 1958 a’i ehangu yn 1981.

Yn sgil y gwaith o ailddatblygu Bae Caerdydd, symudodd y Clwb Hwylio yn 2001 i safle newydd ym mhen gorllewinol Rhodfa Windsor.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

Preswylfa, Clive Road, Caerdydd

Roedd Preswylfa ar Clive Road, Treganna, ar yr ochr ogleddol i’r gyffordd gyda Romilly Road.  Nid oes sicrwydd pryd y cafodd ei adeiladu, ond y tebyg yw ei fod yn eithaf newydd ym 1861 pan gofnodwyd yn y cyfrifiad mai Robert Rees a’r deulu oedd yn byw yno.  Roedd Rees yn pedwar deg pedwar oed ar y pryd, yn Weinidog gyda’r Methodistiaid Wesleaidd, ac yn Oruchwyliwr ar un deg pedwar o gapeli yng Nghaerdydd.  Ar y pryd, caeau a chefn gwlad fyddai wedi amgylchynu’r tŷ.  Mae rhai wedi awgrymu mai Lewis Davis, perchennog glo yn y Rhondda, adeiladodd Preswylfa. Mae’n debyg ei fod wedi byw yno yn hwyr yn y 1860au; nid yw hyn yn anghyson gyda chofnod 1861, oherwydd gwyddys fod Davis wedi cyfrannu’n hael at gronfeydd y Wesleaid.

Erbyn 1871, roedd yr eiddo ym mherchnogaeth Charles Thompson, partner pwysig ym musnes melina Spillers yn y dociau.  Er i Preswylfa symud o deulu Thompson ar ôl marwolaeth Charles ar 1 Mehefin 1889, mae’n werth nodi bod o leiaf dri o’i feibion wedi cyfrannu’n sylweddol at asedau diwylliannol a hamdden Caerdydd a’r cyffiniau.  Adeiladodd James Pyke Thompson (1846-1897) oriel Tŷ Turner ym Mhenarth, ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr oedd yn gymwynaswr iddi hefyd.  Cyflwynodd Charles Thompson (1852-1938) y gerddi a adwaenir heddiw fel Parc Thompson, a bu Herbert Metford Thompson (1856-1939) yn gynghorydd dinas ac yn henadur. Gyda’i frawd, Charles, chwaraeodd rôl bwysig yn ymdrech lwyddiannus y ddinas i brynu Caeau Llandaf fel gofod cyhoeddus.  Ysgrifennodd Herbert lyfrau ar nifer o bynciau, cyhoeddwyd ‘An Amateur’s Study of Llandaff Cathedral’, i’w ddosbarthu’n breifat yn 1924. Cyhoeddwyd hanes Caerdydd ganddo ym 1930. Gwnaed Charles (yr Ieuengaf) a Herbert, ill dau, yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus, a chofir enw James Pyke Thompson yn enw’r oriel yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Cathays.

Mae cyfeirlyfrau’r 1890au yn rhestru’r brodyr Albanaidd, perchnogion cychod, ym Mhreswylfa. Eu henwau oedd John (Syr John, maes o law) a Marcus Gunn.  Erbyn 1901, fodd bynnag, John Mullins oedd yn byw yno. Yn fasnachwr corn, mae’n debyg ei fod yn dal yno ym 1908. Dengys cyfrifiad 1911 mai’r cyfreithiwr Henry Thomas Box, ei wraig, eu dau fab, a phedwar o weision oedd yn byw yno.  Enw Box sydd yng nghyfeirlyfrau Caerdydd tan 1915. Mae Preswylfa yn diflannu, wedyn, o’r cyfeirlyfrau sydd ar gael, tan 1924. Erbyn hynny, Henry Woodley, sylfaenydd y busnes cigyddiaeth oedd yn dwyn ei enw, oedd y preswylydd.  Bu yno tan iddo farw ar 17 Mawrth 1950.

rsz_2d1093-2-051_preswylfa

Erbyn 1953, roedd Preswylfa wedi troi’n glinig iechyd y cyhoedd a bu’n gartref i lawer o wasanaethau Iechyd tan y 1970 o leiaf.  Tynnodd Mary Traynor ddarlun o Preswylfa ym mis Hydrefn 1996. Wedi hynny, cafodd ei ddymchwel.  Maes yr Annedd sydd ar y safle erbyn hyn, datblygiad o ryw dri deg o dai modern.  Gan mai ‘dwelling’ neu ‘abode’ yw ystyr y gair ‘preswylfa’, Mae ‘na gysylltiad, er ei fod yn un gwantan, gyda’r hen dŷ.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

Symud Waterguard / Y Tollty, Bae Caerdydd

Wedi’i sefydlu ym 1809, y Waterguard oedd cangen forol gorfodi refeniw’r DU.  Daethai dan reolaeth y Morlys tan 1822, pan y’i symudwyd dan adain y Bwrdd Tollau, gan ddod yn adran o Dollau Tramor a Chartref ym 1909. Gydag ad-drenu Tollau Tramor a Chartref EM ym 1972, daethai’r enw Waterguard i ben yn swyddogol.

rsz_d1093-2-050

Credir i’r adeilad crenellog a ddangosir yma gael ei godi yn Nociau’r Rhath yn y 1850au, i fod yn swyddfa Dollau leol.  Fe’i cadwyd pan adnewyddwyd yr ardal ar ddiwedd yr 20fed ganrif.  Ym 1993, cafodd yr adeilad cyfan ei symud ar drelar tua 100 metr i ffwrdd; a daeth yn flaen i dafarn newydd, a godwyd yn 2001 ac a enwyd The Waterguard.  Dengys llun Mary Traynor y gwaith symud yn mynd rhagddo.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Sources consulted:

 

Casablanca Club / Capel Bethel, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

rsz_d1093-2-048_bethel_chapel_casablanca_club

Mae Bethel yn dyddio nôl i 1840 pan sefydlwyd ysgol Sul ar Orllewin Stryd Bute gan aelodau Eglwys Fedyddwyr Saesneg Bethany, Heol Eglwys Fair.  Maes o law codwyd capel ar James Street ac, ym 1855, ffurfiwyd achos ar wahân pan drosglwyddodd pedwar ar ddeg o aelodau o Eglwys Bethany.

Cyn bo hir roedd angen lleoliad mwy.  Gwerthwyd y safle ar James Street a rhoddodd Ardalydd Bute brydles am 99 o flynyddoedd ar ddarn o dir yng nghornel de-orllewinol Sgwâr Mount Stuart lle codwyd adeilad capel ac ysgoldy newydd.  Pan ddaeth y les i ben ym 1955, symudodd Bethel i hen gapel yr Annibynwyr yn Pomeroy Street gerllaw, gan gau yn 2000 oherwydd gostyngiad yn nifer yr aelodau a oedd yn oedrannus gan mwyaf.

Yn dilyn adleoli’r eglwys, defnyddiwyd yr adeilad ar Sgwâr Mount Stuart fel Neuadd Bingo i ddechrau, cyn sefydlu clwb nos Casablanca yno ddiwedd y 1960au.  Mae’n ymddangos bod y clwb yn parhau i weithredu ym 1988, ond ei fod wedi cau erbyn 1991. Ers ei ddymchwel, mae’r safle wedi cael ei ddefnyddio fel maes parcio preifat.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/48]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, cofnodion, 1855-65 [D472/1/1]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, hanes yr egwlys gan Viv Purchase, Ysgrifennydd, 2000 [D472/11]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, adroddiad ar Gapel Bethel i Gapel Bedyddwyr Bethany, 1854 [DBAP/15/10/2]
  • Casgliad Ystad Bute Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, prydles ar dir ac eiddo ar Sgwâr Mount Stuart, 1965 [DBDT/73/16]
  • Casgliad Ystad Bute Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, prydles ar dir ac eiddo a elwir Casablanca Club ar Sgwâr Mount Stuart, 1971 [DBDT/73/19]
  • Jenkins, J Austin & James, R Edward, The History of Nonconformity in Cardiff
  • http://www.coflein.gov.uk
  • https://www.facebook.com/rockcardiff/photos