Roedd Capel Methodistaidd Wesleaidd Roath Road ar y gornel rhwng Heol y Plwca a Heol Casnewydd. Roedd yn adeilad mawr a adeiladwyd tua 1860, gyda lle i 1000 o bobl. Sefydlwyd Cylchgrawn Roath Road yn wreiddiol fel cylchgrawn Ysgol Sul Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road (DX320/3/2/i-iii). O fis Tachwedd 1914 fe’i cyhoeddwyd yn fisol o dan yr enw ‘Roath Road Roamer’ (RRR) i gynnig newyddion ar y rhyfel ac, yn benodol, ffawd y milwyr a oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Wesleaidd Roath Road, yr Ysgol a’r Cynulliad a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog (DAWES6). Fe’i dosbarthwyd ledled yr ardal, ac fe’i hanfonwyd dramor i roi newyddion o Gymru i filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd â gwybodaeth am eu cyfoedion yn y lluoedd. Yn benodol, roedd yn cynnwys ffotograffau a llythyrau gan filwyr a oedd yn gwasanaethu dramor.
O’r cychwyn cyntaf, y bwriad oedd i’r cylchgrawn sôn am gyfraniad merched y plwyf ac, yn benodol, y rheini ‘mewn iwnifform’. Yn eu crynswth, soniodd y cylchgronau am 19 o ferched o ardal y Rhath. Roedd llawer yn chwiorydd i filwyr, morwyr a pheilotiaid a oedd ar faes y gad. Ceir ffotograffau o 17 ohonynt yn y cylchgronau, a sawl llythyr. Cyfeiriwyd atynt yn y cylchgrawn fel ‘ein Merched Crwydrol’ a bydd y darluniau dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cip ar sut y symudodd merched i mewn i rolau a swyddogaethau a arferai gael eu dominyddu gan ddynion yn sgîl y rhyfel.
Ar ddechrau’r rhyfel, y llwybr amlycaf i ferched a oedd am gyfrannu at yr ymdrech ryfel oedd gwirfoddoli gydag elusennau lleol a chyrff cenedlaethol fel y Groes Goch. Dyma wnaeth saith o’r merched y sonnir amdanynt yn y cylchgrawn. Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel, oherwydd prinder milwyr yn dilyn consgripsiwn 1916, agorwyd drysau i ferched mewn sawl maes gwaith newydd. Erbyn 1918 roedd y Merched Crwydrol i’w canfod yng Nghorfflu Atodol Byddin y Merched, y Llu Awyr Brenhinol, Byddin y Tir a gwasanaethau lleol, gan gynnwys y rheilffyrdd a’r post. At hynny, o’u llythyrau, gwyddom fod llawer ohonynt wedi gwasanaethu dramor.
Corfflu Atodol Byddin y Merched – May Brooks, May Kear, Edith Townsend a Gladys Townsend
Roedd ffurfio Corfflu Atodol Byddin y Merched (WAAC) ym 1917 yn garreg filltir bwysig o ran derbyn y gallai merched gyflawni rolau ac eithrio nyrsio yn y Lluoedd Arfog. Er bod Byddin y Tir yn gorff gwirfoddol a domestig (er eu bod wedi’u trefnu mewn modd milwrol), roedd WAAC yn debycach i uned byddin.
Ffotograffwyd chwech o Ferched Crwydrol y Rhath yng ngwisg WAAC. Roedd May Kear a May Brooks yn gwisgo ffrog-gôt gabardîn frown unigryw a het ffelt gron WAAC. Erbyn 1918 roedd WAAC wedi’i ailenwi’n Gorfflu Atodol Byddin y Frenhines Mari (QMAAC), a ffotograffwyd dwy chwaer, Edith a Gladys Townsend, yn gwisgo gwisg QMAAC. Fel llawer o Ferched Crwydrol y Rhath, roedd gan y chwiorydd frawd, Fred, yn gwasanaethu yn y Fyddin.
Ymrestrodd dros 57,000 o ferched gyda WAAC. Nid oedd bywyd yn fêl i gyd, ond roedd WAAC yn cynnig y cyfle iddynt deithio ac yn rhoi rhywfaint o annibyniaeth iddynt, a oedd yn fwy nag y gallai llawer o ferched ifanc y Rhath ei ddisgwyl yn y cyfnod hwnnw. Er bod rhai yn cael eu cyflogi fel mecanwyr, rolau fel cogyddion, clercod, morwynion a gyrwyr oedd yr unig opsiynau i’r mwyafrif ohonynt. Rhoddodd y llythyrau a ysgrifennodd Edith a Gladys yn rhifyn Mehefin 1918 o ‘The Roamer’ flas ar eu misoedd cyntaf yn QMAAC:
‘Well we have done some travelling since we first joined up, spent the first three weeks at Kimmel Park as Mess orderlies, we felt like old soldiers, then we had a month at the training camp at Abbey Wood, near Woolwich, experienced three air raids there, no damage was done anywhere near us although we were very excited. From there we were sent to Newcastle, made a stay from the Thursday before Good Friday until Easter Tuesday, did two Church Parades, one on Good Friday to the Parish Church, the second one we marched from Bensham Workhouse to the Cathedral. We enjoyed both services very much. Bensham Workhouse is the hostel where we were stationed. Being holiday time we were able to have a good look around and enjoy ourselves, we thought Newcastle very much like Cardiff, so felt more at home there than we have at any other place. Arrived at this camp on Easter Tuesday afternoon about 4 o clock, just about fagged out after travelling all day. Felt very strange at first but now we have settled down and know the ins and outs of the different Messes and like the life very much’ (Cyf.44, t.6).
Rydyn ni’n gwybod o gofnod gwasanaeth May Brooks y dilynodd ei bywyd hi gyda WAAC batrwm tebyg.
Roedd May yn 18 oed pan ymrestrodd, ac yn byw yn Elm Street, Caerdydd. Roedd yn glerc mewn cwmni melysion yng Nghaerdydd, a gwnaeth gais i weithio i WAAC yng Nghyfnewidfa Lafur Caerdydd. Mae cofnodion y Gyfnewidfa’n cadarnhau ei bod hi’n ‘ymgeisydd addas iawn’. Fodd bynnag, roedd yn rhaid pasio prawf meddygol a chael dau eirda i ymrestru. O’i chofnod rhyfel, gwyddom fod May wedi cael geirda gan ei chymydog yn Elm Street yn nodi ei bod hi’n ddibynadwy, yn ddiwyd ac yn ddyfal. Cafodd eirda canmoliaethus arall gan Olygydd y ‘Roath Roamer’, W. E. Clogg:
‘I believe her to be a steady, honest, straightforward girl and a capable one too. I have every confidence in thoroughly recommending her’.
Cynigiwyd iwnifform a llety am ddim, ond roedd hanner o’r cyflog wythnosol o 24 swllt a dalwyd i’r rhengoedd is yn cael ei ddidynnu am fwyd. Er nad oedd gan y merched a oedd yn gwasanaethu yn WAAC statws milwrol llawn, roedd disgyblaeth lem ar waith. Codwyd pryderon penodol ynghylch sut i reoli dynion a merched yn byw a gweithio ochr yn ochr â’i gilydd mewn gwersylloedd milwrol. Yn y ‘Rheolau Cyffredinol’, nodwyd:
‘Members of the WAAC will not whilst off duty associate with Officers and other ranks of the Army without the written permission of a Controller or Administrator’.
Gweithiodd May Brookes mewn sawl canolfan fyddin yn ne Lloegr. Fel miloedd o’i chyfoedion, daliodd y ffliw yn ystod epidemig a ledodd ar hyd Prydain ym 1918, a threuliodd wythnos yn yr ysbyty. Cafodd ei rhyddhau ar sail dosturiol ym mis Mehefin 1919. Yn yr un modd â llawer o ddatblygiadau’r merched rhwng 1914 a 1918, tybiwyd mai ymateb i’r rhyfel yn bennaf oedd WAAC ac, ym 1921, diddymwyd ei gorff olynol, QMAAC.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg