Athrawesau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle nas gwelwyd ei fath o’r blaen i fenywod ddechrau cyflawni rolau a galwedigaethau a gyflawnwyd gan ddynion yn unig cyn y rhyfel. Roedd creu Byddin Tir y Merched a Chorfflu Atodol Byddin y Menywod yn enghreifftiau amlwg iawn o fenywod yn gweithredu mewn meysydd newydd. Amcangyfrifwyd bod tua 1.5 miliwn o fenywod wedi ymuno â’r gweithlu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a phrin iawn oedd y sectorau o’r economi lle nad oedd menywod wedi dechrau gweithio ynddynt i ddiwallu’r galw cynyddol am lafurwyr ac i lenwi swyddi’r dynion a oedd oddi cartref yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

I raddau fawr daeth newidiadau pwysig yn sgîl profiadau 1914-1918. Sefydlodd Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw 1919 yr egwyddor na ddylid anghymwyso unigolion o swyddi ar sail rhyw. Yn ogystal, rhoddwyd y bleidlais i tua 8.5 miliwn o fenywod yn sgîl Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Fodd bynnag, er bod enbydrwydd y rhyfel wedi creu cyfleoedd newydd i fenywod, roedd llawer ohonynt yn dal i wynebu gwahaniaethu yn y gweithle yn ystod y rhyfel ac yn y cyfnod yn union ar ôl y rhyfel. Mae’r llyfrau cofnodion ysgolion a chofnodion awdurdodau lleol a gedwir yn Archifau Morgannwg yn olrhain y cynnydd a wnaed gan fenywod yn y proffesiwn addysgu yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â’r rhwystrau mynych a wynebwyd ganddynt.

Cafwyd effaith sylweddol ar ysgolion yn sgîl athrawon gwrywaidd yn ymuno â’r lluoedd arfog wedi Awst 1914. Er mwyn ymateb i hynny, bu’n rhaid i awdurdodau lleol newid y rheolau a oedd yn gorfdodi menywod, pan yn briodi, i ymddiswyddo fel athrawesau o fewn ysgolion. Serch hynny, fel yn y cyfnod cyn y rhyfel, roeddent ond yn cael eu cyflogi lle roedd diffyg staff ar gael a derbyniwyd y gellid eu diswyddo ag un mis o rybudd os oedd ymgeiswyr amgen addas ar gael.

Mae cofnod gan brifathro Ysgol Ganolog Dowlais, Richard Price, yn llyfr log yr ysgol ym mis Rhagfyr 1915 yn cynnig un o nifer o esiamplau o ansefydlogrwydd gwaith o fewn ysgolion ar gyfer menywod priod yn y cyfnod yma:

EMT-9-6 pg37

Mrs Margaret Davies, TCT, commenced duties on Monday December 6/15. Mrs Davies is a married lady and left her last appointment at Abermorlais Girls’ School in July 1907. Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.37.

EMT-9-6 pg38

Mrs E Claudia George, TCT, commenced duties on Wed afternoon, 8 December. Mrs George is a married lady and left her last appointment as TCT at Tyllwyn School, Ebbw Vale at Xmas 1908. Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.38.

Ond dim ond 7 mis yn hwyrach cadarnhawyd gan Richard Price bod Claudia George a Margaret Davies, ynghyd ag un Mrs Cummings, wedi gadael yr ysgol – ‘finished their duties at this school’ (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.50).

EMT-9-6 pg50

Dim ond y cychwyn oedd hyn i gylchred o cyflogiad ag ymddiwyddiad i Claudia a Margaret a wnaeth barhau drwy gydol y rhyfel. Erbyn Hydref 1916 ail-gyflogwyd y ddwy (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.52). Ond, deufis wedi diwedd y rhyfel, ar 31 Ionawr 1919, roedd y ddwy fenyw wedi gadael unwaith eto – ‘left the service of the Education Authority at this school on the afternoon of this day’ (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.86).

Mae cofnodion Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful yn ystod y rhyfel yn cadarnhau yr oedd hyd at 40 o fenywod priod yn cael eu cyflogi fel athrawesau mewn ysgolion yn y fwrdeistref. Roedd hyn yn cynnwys penodi athrawesau mewn ysgolion i fechgyn, rhywbeth a fyddai wedi ei ystyried yn anhygoel cyn 1914. Fodd bynnag, roedd y cyngor a roddwyd i Bwyllgor Addysg y Cyngor Bwrdeistref ym mis Gorffennaf 1916 gan Rhys Elias, y Cyfarwyddwr Addysg yn pwysleisio, er nad oedd dim dewis ond cyflogi menywod priod mewn ysgolion, ei fod yn benderfynol o derfynu’r penodiadau hynny cyn gynted â phosibl:

BMT-1-26

BMT-1-26 b

Cytunodd y pwyllgor i roi rhybudd diswyddo i’r holl athrawesau priod, a therfynu eu cyflogaeth ar ddiwedd Gorffennaf 1916. Roedd Claudia George a Margaret Davies, felly, dim ond yn ddwy o 40 o fenywod a gollodd eu swyddi o ganlyniad i’r penderfyniad yma. Llenwyd eu swyddi gan fyfyrwyr a oedd yn cwblhau Cyrsiau Coleg, neu gan Athrawon a oedd yn Ddisgyblion a Myfyrwyr a oedd yn cwblhau eu cyfnod dan hyfforddiant (Bwrdeistref Merthyr Tudful, cofnodion y Pwyllgor Addysg, BMT1/26 t.602-3). Mabwysiadwyd y dull gweithredu hwn drwy gydol y rhyfel, gan gyflogi menywod priod ar gontractau byrdymor lle roedd diffyg athrawon ar gael, ac yna terfynu eu contractau cyn gynted ag yr oedd ymgeiswyr amgen ar gael.

Yn ystod y cyfnod ar ôl y rhyfel, tybir bod llawer o fenywod a gyflogwyd yn ystod y rhyfel, efallai hanner ohonynt hyd yn oed, wedi gadael neu golli eu swyddi ym mhob sector o’r economi. Roedd Deddf Adfer Arferion Cyn y Rhyfel 1919 yn pwysleisio bod disgwyl i fenywod ildio’u swyddi i ddynion a oedd yn dychwelyd o’r lluoedd arfog. Ym mis Ionawr 1919, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Merthyr rybudd diswyddo i’r holl athrawesau priod:

The Director of Education reported that having regard to the probable early release from Military Service of a number of men teachers he had given notice to all married women (temporary) teachers now serving under the Authority to determine their engagement at the end of January, and that any further employment after that date would be subject to a week’s notice on either side. Bwrdeistref Merthyr Tudful, cofnodion y Pwyllgor Addysg, BMT1/29 t.183)

Unwaith eto bu Claudia George a Margaret Davies yn ddioddefwyr o benderfyniad yr Awdurdod. Mewn cyfarfodydd dilynol, cytunodd yr Awdurdod i ailgyflogi 28 o athrawon gwrywaidd ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r Lluoedd Arfog ym mis Chwefror, ac ailgyflogi 10 arall ym mis Ebrill 1919 (Bwrdeistref Merthyr Tudful, cofnodion y Pwyllgor Addysg, BMT1/29 t.246 a t.474).

Efallai bod hynny’n peri syndod gan fod Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw 1919 wedi dileu’r cyfyngiadau ar benodi menywod. Yn ymarferol, roedd cyflogwyr o’r farn bod y Ddeddf yn rhoi cyfle iddynt benodi menywod i broffesiynau lle bu dim ond dynion yn gweithio yn flaenorol. Fodd bynnag, ni thybiwyd bod yn Ddeddf yn rhoi’r hawl i ystyried cyflogi menywod ar yr un telerau â dynion. Cafwyd enghraifft amlwg o hynny yn y proffesiwn addysgu yn ne Cymru yn 1923 pan gyflwynodd 58 o athrawesau priod a ddiswyddwyd gan Awdurdod Addysg y Rhondda achos cyfreithiol yn erbyn y Cyngor. Yn achos Price v Cyngor Dosbarth Trefol y Rhondda, dyfarnwyd nad oedd y Cyngor wedi torri’r Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw drwy ddiswyddo’r athrawesau. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y gwaharddiad ffurfiol gan lawer o awdurdodau lleol ar athrawesau priod yn seiliedig ar y farn y gallai cyflogwyr barhau i gyflogi dynion yn unig os oeddent yn dymuno gwneud hynny.

Arweiniodd y Rhyfel Byd Cyntaf at gyfleoedd newydd i lawer o fenywod yn y proffesiwn addysgu. Ni fyddai llawer o ysgolion wedi gallu parhau heb gyflogi athrawesau priod, ac am y tro cyntaf, cyflogwyd menywod mewn ysgolion i fechgyn yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Ond i’r gwrthwyneb, yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, os oedd menywod priod yn gallu cael eu cyflogi mewn ysgolion, roedd yn bosibl terfynu eu contractau drwy roi un mis o rybudd iddynt. Mae cofnodion Ysgol Ganolog Dowlais yn cadarnhau bod 21 o athrawon wedi eu gyflogi yn yr ysgol ar 4 Mawrth 1919 – 12 dyn a 9 menyw ddi-briod (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT9/6 t.91). Gan hynny, roedd creu Undeb Genedlaethol yr Athrawesau ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn arwydd amlwg o’r brwydrau pellach a oedd i ddod o ran gwella cyfle cyfartal.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Delio â Ffilm Nitrad yn Archifau Morgannwg

Gall archifau ddal casgliadau o bob math o ddeunyddiau; popeth o femrwn, papur, seiliau cŵyr neu metel a reprograffeg ffotograff; i negatifau a wnaed o wydr, papur, nitrad seliwlos, asetad seliwlos a pholiestr. Caiff pob un o’r deunyddiau hyn eu heffeithio gan amodau amgylcheddol gwahanol gan ddiraddio mewn ffyrdd gwahanol, a gall rhai ohonynt beri risg sylweddol, gan gynnwys risg i iechyd pobl. Un o’r rhain yw ffilm nitrad seliwlos.

Defnyddiwyd ffilm nitrad seliwlos o tua 1889 i tua 1950. Cyn ffilm nitrad, defnyddiwyd negatifau plât gwydr. Roedd y rhain yn ddrudfawr a gallent fod yn anodd eu trin. Helpodd ffilm nitrad i boblogeiddio ffotograffiaeth amatur drwy ei gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl. O ganlyniad, mae gan y rhan fwyaf o archifau nifer fawr o negatifau ffotograffig, gyda nifer wedi’u gwneud o ffilm nitrad ac asetad.

Mae nitrad seliwlos yn fflamadwy iawn a gall losgi hyd yn oed heb ocsigen, a hyd hyn oed o dan ddŵr! Mae ffilm nitrad hefyd yn gemegol ansefydlog; mae’n raddol droi’n felyn, yn frau ac yn ludiog. Mae’n rhyddhau sgil-gynhyrchion cyrydol niweidiol ac yn arogli’n chwerw, sy’n achosi i’r ddelwedd arian bylu, y rhwymwr gelatin i ddadelfennu ac, yn y pen draw, at ddinistrio’r negatif cyfan.

Single negative

Yn ddiweddar, canfuwyd nifer fawr o negatifau nitrad seliwlos yn ystafelloedd diogel Archifau Morgannwg.

Negative bundle

Ar agor y bocsys, canfuwyd bod y negatifau’n dadelfennu a’u bod yn rhyddhau arogl chwerw a mymryn yn gawslyd. Cawsant eu symud ar unwaith o’r stiwdio gadwraeth a’u gosod yn y cwpwrdd mygdarthu i sicrhau bod y gollyngiadau asid nitrig yn cael eu cadw mewn un lle. Drwy wisgo offer diogelwch personol a defnyddio uned echdynnu symudol roedd modd rhoi’r negatifau nitrad seliwlos mewn pecyn di-aer a’u cadw’n barhaol yn y rhewgell.

Amanda

Cânt eu rhoi mewn pecynnau di-aer i’w diogelu rhag yr amgylchedd yn y rhewgell, i atal unrhyw beth arall a gedwir yn y rhewgell rhag eu halogi, ac atal y nwy a ryddheir gan y negatifau rhag halogi unrhyw beth arall yn y rhewgell. Drwy gadw’r negatifau yn y rhewgell mae modd atal dadelfennu pellach ag ymestyn oes y negatifau.   Bydd ffilm nitrad yn hylosgi mewn tymheredd poeth neu gynnes ac felly bydd eu cadw mewn lle oer yn helpu i atal hyn.

Freezer

Nid dyma ddiwedd y stori; mae cynlluniau ar waith i ddigideiddio’r eitemau hyn, felly er efallai bod y negatifau mewn perygl, bydd y delweddau a gadwant ar gael yn y dyfodol.

Egbert y Tanc yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn amlwg mai methiant fyddai’r ymdrech ryfel heb gyfraniadau ariannol gan y cyhoedd, busnesau a sefydliadau eraill i brynu offer a chadw gwasanaethau i fynd.

Un ffordd o godi arian oedd sefydlu Cymdeithas Cynilion Rhyfel. Un lleoliad a sefydlodd un o’r cymdeithasau hyn ar ddechrau’r rhyfel oedd Ysgol Fabanod Betws Pontycymer, a ffurfiodd Gymdeithas Cynilion Rhyfel ym mis Chwefror 1915. Erbyn mis Mehefin 1917 gweithredodd yr awdurdodau ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o Gynilion Rhyfel. Caeodd nifer o ysgolion eu drysau am un prynhawn y mis hwnnw fel y gallai athrawon fynychu cynadleddau gyda chynrychiolwyr o’r Pwyllgor Cynilion Rhyfel Cenedlaethol i gael gwybod sut i sefydlu Cymdeithas Cynilion Rhyfel mewn ysgol.

Ar ôl Brwydr Cambrai ym mis Tachwedd 1917, pan ddefnyddiwyd tanciau’n llwyddiannus am y tro cyntaf, roedd y cyhoedd am eu gweld â’u llygaid eu hun. Sylweddolodd yr awdurdodau y gallent arddangos y tanciau’n gyhoeddus i godi arian ar gyfer y Pwyllgor Cynilion Rhyfel Cenedlaethol.

Egbert oedd y cyntaf i’w ddefnyddio fel ‘Banc Tanc’ pan gafodd ei gludo o faes y gad i Lundain a’i arddangos yn Sgwâr Trafalgar. Byddai pobl yn ciwio i weld y tanc ar ôl prynu Bondiau Rhyfel a thystysgrifau, a byddai’r rhain yn cael eu stampio gan fenywod a oedd yn eistedd y tu mewn i’r tanc. Bu hyn yn llwyddiant ysgubol felly cludwyd mwy o danciau o Ffrainc a Gwlad Belg i deithio o amgylch Prydain.

Roedd gan y Tanciau Banc rôl arall i’w chwarae hefyd; roeddent yn gyfrifol am feithrin morâl a chenedlaetholdeb Prydeinig.

Cyn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr, roedd Egbert eisoes wedi bod yn Nhreherbert: School closed, owing to the visit of the Tank ‘Egbert’ to Treherbert.  Ysgol Ferched Dunraven, llyfr log (ER14/3)

Trafodwyd ymweliad Egbert â Phen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf gan Gyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr ar 6 Mehefin 1918:

The Clerk reported that the authorities had now agreed to send a real tank to Bridgend on the 18th and 19th. It was then resolved that the council bear the expenses of printing , postages, and other local expenses not paid by the Treasury and the action of the chairman and clerk in calling a meeting of probable workers in connection with the visit was approved. Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr, cofnodion (UDBR/C/1/13)

Pan ymwelodd y tanc â’r dref ar y 18fed a’r 19eg Mehefin 1918, cafodd llawer o ysgolion hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan o wyliau fel y gallai’r plant a’u teuluoedd fynd i weld y tanc a buddsoddi ynddo drwy dystysgrifau ar ffurf Bond Rhyfel:

Yesterday the 18th inst a holiday was given owing to the Tank being at Bridgend & Ogmore Vale. I collected on Monday last from the children of this school the sum of £4.4.0 for the Tank at Ogmore Vale, 5 certificates were bought & the rest is invested in stamps towards certificates. Ysgol Cymysg a Babanod Blackmill, llyfr log (EM5/1)

School closed all day for the visit of the Tank “Egbert” to the town. In the last three days the sum of £234-1-0 has been collected in this department and spent on the purchases of War Saving Certificates. Ysgol Bechgyn Oldcastle, llyfr log (EM9/8)

I took depositors in Tank War Loan to visit the Tank “Egbert” bearing bomb holes inflicted by the Huns. The children’s certificates were stamped at the tank. Ysgol Babanod Llynderw, Maesteg, llyfr log (EM32/1)

The school was closed on Tuesday in order that the Scholars may be enabled to visit Bridgend to view the Tank “Egbert” and place some of their savings in the War Loan. The War Savings’ Association established in connection with the School is in a flourishing condition and about £250 has been deposited… Ysgol Cymysg a Babanod Penybont, llyfr log (EM42/1)

Nododd Prifathro Ysgol Penybont cyrhaeddiad anferth yr ardal:

The tank “Egbert” paid a visit to our town on Tuesday and Wednesday, 18th and 19th inst. The huge sum of £230,500 was invested in the tank by the people of Bridgend and the surrounding district. As the population of the town is now only about 7,500 the above sum represents a sum per head of head of over £30. One of the best contributions in the Kingdom. The proceedings in front of the Town Hall where the tank was stationed were characterised by great enthusiasm and patriotic fervour. The Choir of our school occupied the stage in front of the tank an two occasions and sang numerous patriotic and national songs, to the evident pleasure of the great assemblage, which completely filled the square. Our School Assoc’, The Penybont Boys War Savings Association invested in the tank on Wed afternoon the comparatively large sum of £2,100, representing a sum of £2,800 in War Certificates. Ysgol Penybont, llyfr log (EM10/11)

Cyfarfu’r Cyngor eto ar 25ain Mehefin 1918, ar ôl ymweliad y tanc:

It was resolved that the thanks of the council be given to the Chairman, Mr Hitt, in connection with the great success of the Tank visit. Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr, cofnodion (UDBR/C/1/13)

Dridiau ar ôl ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, roedd Egbert yng Nghaerffili:

Visit of the Tank-“Egbert” to Caerphilly with the object of raising £100,000 for the purpose of the great war. The schools of the town were closed to celebrate the event. Ysgol Merched Caerffili, llyfr log (ECG13/3)

Mae’n debyg iddo fynd i Fargoed hefyd:

The clerk stated that he had received official intimation that the date of the Tank’s visit had now been fixed for July 5th and 6th, two days at Bargoed, and that the Model Tanks would be at Ystrad Mynach, Bedlinog and Pontlottyn on the same dates. Cyngor Dosbarth Trefol Gelligaer, cofnodion (UDG/C/1/13)

Gallwch ddysgu mwy am y Banciau Tanc yn:

http://www.britishpathe.com/video/war-bonds-sold-from-tank

http://www.bbc.co.uk/history/worldwars/wwone/gallery_tank_04.shtml

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro

Defnyddio Cofnodion Plwyf i Ddysgu am y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r cofnodion plwyf a gedwir yn Archifau Morgannwg yn drysorfa o wybodaeth i haneswyr lleol a’r sawl sy’n olrhain achau eu teuluoedd.

Rydym wrthi’n craffu’n fanwl ar y cofnodion hyn am wybodaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac maent yn rhoi dealltwriaeth ddiddorol iawn i’r agweddau tuag at y Rhyfel, yn ogystal â chipolwg o sut oedd bywyd gartref yn parhau er gwaethaf cyfyngiadau a gofidion y cyfnod.

Ceir gwahaniaeth sylweddol o ran faint o fanylion a geir yn y cofnodion o blwyf i blwyf; mae rhai’n gryno iawn heb fawr ddim manylion, ac mewn rhai achosion nid ydynt yn sôn am y rhyfel o gwbl. Mae cofnodion eraill yn adlewyrchu prif faterion lleol y cyfnod. Mae creu a rheoli rhandiroedd yn fater o bwys yn llawer o’r cofnodion:

  • ble y dylid eu lleoli?
  • sut y dylid mynd ati i gael y tir os nad yw’r perchennog o blaid hynny?
  • sut y dylid dyrannu’r rhandiroedd?

Ar ôl datrys y materion hynny, roedd problemau rheoli parhaus yn codi fel deiliaid rhandiroedd nad oeddent yn gofalu am eu lleiniau’n briodol, ffensys yr oedd angen eu trwsio, casglu rhent, methu â thalu rhent yn brydlon ac ailddyrannu lleiniau. Wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen, roedd llongau tanfor yr Almaen yn suddo nifer cynyddol o longau a oedd yn cludo bwyd i Brydain, felly roedd yn hanfodol i dyfu cymaint o fwyd â phosibl ar yr ynys hon, er bod y galw am randiroedd yn fwy na’r cyflenwad a oedd ar gael mewn rhai ardaloedd.

Roedd y plwyfi’n ymdrin â materion eraill hefyd, gan gynnwys cyflwr y ffyrdd a diffyg goleuadau stryd. Roedd rhaid cyfeirio’r materion hyn at y Cynghorau Dosbarth neu’r Cynghorau Sir, gyda manylion yr ohebiaeth yn ymddangos yn y cofnodion am fisoedd lawer.

Oherwydd yr ofn o gyrchoedd awyr, roedd llawer o blwyfi wedi sefydlu eu brigadau tân eu hunain, ac mae’r cofnodion yn disgrifio’r broses o gael gafael ar injan dân neu rannu un gyda’r plwyf cyfagos, a dod o hyd i wirfoddolwyr i weithio’r pympiau.

Mae Cylchgronau’r Plwyfi yn ffynhonnell arall o wybodaeth lai ffurfiol. Yn aml yn dechrau gyda’r Ficer yn mynegi ei farn ar hynt y rhyfel a sut y dylai’r ffyddloniaid ymdrin â hynny, maent hefyd yn cynnwys manylion gwasanaethau ychwanegol, ac yn annog pobl i gadw ieir, bwyta llai o fwyd a thyfu mwy o fwyd. Yna maent yn sôn am weithgareddau lleol sy’n aml yn gysylltiedig â’r ymdrech ryfel, megis casglu wyau a’r menywod yn gwau dillad ar gyfer y clwyfedigion, y Gymdeithas Cynilion Rhyfel a gwaith casglu papur y Geidiaid.

Ceir ambell i sylw doniol ar ddechrau’r rhyfel. Roedd plwyfolion y Rhath o’r farn bod y tîm criced yn colli cynifer o gemau gan fod eu chwaraewyr gorau wedi gwirfoddoli ar gyfer gwasanaeth milwrol.

Yn drist iawn ceir hefyd hysbysiadau am wŷr a meibion colledig. Er bod rhai ohonynt wedi’u canfod yn ddiweddarach wedi’u clwyfo, lladdwyd llawer ohonynt, a cheir ysgrifau coffa trist sy’n sôn am eu bywydau a’u marwolaethau, sef cofnodion ingol iawn o feddwl pa mor ifanc oedd llawer o’r sawl a laddwyd.

Ceir cofnodion hefyd am weithgareddau mwy arferol megis ffeiriau sborion, cyfarfodydd Undeb y Mamau, lle roeddent yn gwau sanau a sachau tywod, yr Urdd Nodwyddwaith, y Geidiaid, y Brownis a Chymdeithas Lesiant y Merched.

Mae cofnodion plwyf o bob math yn llawn enwau pobl leol a’u gweithgareddau, ond yn aml bydd ymchwilwyr yn eu hesgeuluso. Dewch i Archifau Morgannwg, ac efallai y cewch eich synnu gan yr hyn sydd ar gael.