A hithau’n ganol haf bydd meddyliau’n troi mewn llawer o drefi a phentrefi at y ffair haf flynyddol. Rydym felly heddiw yn cynnwys set o luniau a dynnwyd gan y ffotograffydd lleol, Edwin Miles, o Ffair a Gala’r Bont-faen a gynhaliwyd gant un deg a thri o flynyddoedd yn ôl ar 16 Mehefin 1909.
Canolbwynt y ffair oedd yr orymdaith agoriadol drwy’r brif stryd ac mae’r ffotograff cyntaf yn dal hyn yn berffaith.
Os edrychwch yn ofalus fe welwch mai’r Arglwydd Faer oedd yn arwain yr orymdaith a merch ifanc, Elizabeth Swinton, wedi ei gwisgo fel Herodr Cymru. Dilynir hwy gan Fand Pres Tal-y-garn a’r frigâd dân leol, gan gynnwys yr injan dân. Yn union y tu ôl i’r injan dân efallai y gallwch weld grŵp o nyrsys, oherwydd nod y carnifal oedd i godi arian i’r Gymdeithas Nyrsio leol. Roedd y tywydd ychydig yn anwadal y diwrnod hwnnw ac mae’r dorf, oll yn eu dillad parch, yn edrych braidd yn denau. Serch hynny, edrychwch ar yr adeiladau ar y chwith a gallwch weld pobl sydd wedi camu allan o’u ffenestri ar y lloriau uwch i wylio wrth sefyll ar do porth neu do ffenestri bae.
Edrychwch nawr ar yr ail lun. Mae’n anodd dal gwamalrwydd a hwyl gorymdaith garnifal ond mae Edwin Miles wedi gwneud ei orau.
Ar ôl i’r grwpiau ffurfiol fynd heibio, mae’r dorf a’r orymdaith, sydd bellach yn llawn cymeriadau a diddanwyr mewn gwisg ffansi, bron yn un. Mae rhai yn cerdded, llawer yn chwarae offerynnau cerdd, tra bod eraill mewn certiau wedi’u tynnu gan geffylau. Roedd yr orymdaith yn cynnwys nifer o ffigyrau lleol adnabyddus, gan gynnwys Mrs Ebsworth fel menyw o Rwsia a’r Meistri Gwyn a Wilkins wedi’u gwisgo fel Eidalwyr ac yn chwarae organ faril – gwisgoedd sydd .. wedi twyllo hyd yn oed eu ffrindiau agosaf. Rhwng popeth, roedd bron i bedwar cant o bobl yn yr orymdaith ac efallai mai’r mwyaf poblogaidd oedd y “costeriaid” – comedïwyr wedi’u gwisgo fel gwerthwyr ffrwythau a llysiau cocni.
Yn y ffotograff mae’r orymdaith wedi dod nôl i drefn. Mae’r llun yn dweud ychydig wrthym am yr hyn ddigwyddodd nesaf, gyda grŵp yn y blaen yn cario arwydd “Houp-La!” ac yna nifer o ferched ifanc yn reidio mewn cert gyda Bedwen Fai.
Y man aros nesaf a’r olaf ar gyfer yr orymdaith oedd y cae criced, a fenthyciwyd i bwyllgor y ffair am y diwrnod gan y tîm criced lleol, y Glamorgan Gypsies.
Gydag adloniant ar y cae gan ddawnswyr y Fedwen Fai, Band Pres Tal-y-garn a chôr meibion, gallai’r rhai a fynychodd fwynhau’r stondinau bach ychwanegol niferus gan gynnwys stondin cnau coco a “Modryb Sally”, ochr yn ochr â’r hŵpla. Ar gyfer y rhai mwy egnïol roedd na gymkhana a “champau gwledig” gyda chanu’n goron ar y noson. Er iddi lawio yn hwyrach yn y dydd, mynychodd dros fil o bobl y te a baratowyd yn y prynhawn a chodwyd tua £100. Felly ar y cyfan, cafodd pawb yno ddiwrnod da.
Tynnwyd y lluniau gan ffotograffydd lleol, Edwin Miles, a oedd yn berchen ar Stiwdio ar Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr. Tynnodd Miles luniau hefyd, a ddefnyddiwyd yn bennaf fel cardiau post, o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. Mae Ffotograffau Carnifal y Bont-faen, a ddefnyddir yn yr erthygl hon, i’w gweld dan y cyfeirnod D1622.
Gyda llaw os ydych chi’n pendroni ynghylch y cyfeiriad at “Modryb Sally” cawsom wybod ei bod yn gêm draddodiadol lle caiff pêl (doli) ei gosod ar ben polyn er mwyn ceisio ei tharo i’r llawr drwy daflu ffon neu gangen ati.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg