
DNCB/79/8/188: Tri glöwr dienw, Agor Baddon Caerau, 6 Maw 1954
Wrth i’r prosiect Glamorgan’s Blood barhau, mae deunydd yn ymwneud â baddonau pen y pyllau glo yn dod i’r amlwg yng nghasgliad Archifau Morgannwg.

DNCB/66/197: Baddonau Pen y pwll, Treharris, Golwg gyffredinol o faddonau pen y pwll, tua 1921
Roedd baddonau pen y pwll, a gyflwynwyd yn y 1920au, o fudd mawr i’r bobl oedd yn gweithio ym maes glo de Cymru. Cyn baddonau pen y pwll, byddai glowyr yn mynd adre o’r gwaith mewn dillad brwnt, yn wlyb diferu â dŵr a chwys. Roedd hyn yn ychwanegu at beryglon eu gwaith oherwydd byddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o drosglwyddo salwch. Daeth baddonau pen y bwll â rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn y fath afiechydon, gyda chawodydd a chyfleusterau newid yn caniatáu i’r glowyr fynd adre mewn dillad glân a sych. 1
Nid oedd yn rhaid i’r glowyr olchi yn ystafell fyw y teulu mwyach – byddai gwraig y glöwr yn paratoi bath ac yn glanhau a golchi ei ddillad brwnt. Byddai hyn yn dod â dwst glo a budreddi i mewn i gartref y teulu. Roedd y gwaith o baratoi dŵr y bath hefyd yn beryglus i deulu’r glöwr:
…many children were badly scalded – and often died – as a result of falling into prepared bath water or upsetting water which was being boiled in readiness for the bath. One south Wales coroner claimed that he conducted more inquests into the deaths of children who were scaled than he did into miners who were killed underground. 2

DNCB/66/3: Glöwr yn y baddon, Penalltau, tua 1930
Un o’r prif gasgliadau sy’n cynnwys gwybodaeth am Faddonau Pen y Pwll yw casgliad cynlluniau adeiladu’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Fel rhan o’r prosiect Glamorgan’s Blood, mae’r archifydd a gwarchodwr y prosiect wrthi’n gweithio gyda’i gilydd i gatalogio’r deunydd a’i asesu i nodi’r gofynion trin a storio.

DNCB/1/4/2/10: Baddonau Pen y Pwll Abercynon, Ebr 1950
Mae meintiau, prosesau a deunyddiau amrywiol y casgliad hwn yn her o safbwynt cadwraeth ac o ran gofynion storio, mynediad at ddeunydd a chadwraeth hirdymor. Mae’r cynlluniau ar gyfer baddonau pen y pwll yng nghasgliad y Bwrdd yn dangos amrywiaeth o dechnegau a phrosesau gwahanol ar gyfer cynhyrchu darluniau pensaernïol. Diazoteipiau, glasbrintiau a darluniau pensil ac inc sy’n ymddangos gan amlaf, ar amrywiaeth o swbstradau. Mae enghreifftiau o brintiau golchi, lithograffau jél a phrintiau halid arian hefyd i’w gweld yn y casgliad, sy’n dod â heriau cadwraeth gwahanol. Yr her gadwraeth flaenllaw yw’r cymhorthion asetad sydd wedi dirywio a ddefnyddiwyd fel deunydd amlinellu ac fel negydd i greu cynlluniau dyblyg. Maent i’w gweld yn y casgliad hwn fel sylfaen i ddarluniau pensil ac inc a diazoteipiau. Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau asetad hyn yn dangos dirywiad plastig datblygedig ar ffurf breuo sydd wedi achosi iddynt gracio a malu, sy’n golygu eu bod yn amhosibl i’w cynhyrchu yn yr ystafell chwilio. Digideiddio fydd yr unig ffordd o sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael, gan nad oes llawer o opsiynau o ran triniaeth cadwraeth a chadwraeth hirdymor y math hwn o ddeunydd.

DNCB/60/65/4: Enghraifft o Gynllun Wedi Malu, Asetad, 1951
Mae’r cynlluniau’n dangos baddonau pen y pwll o byllau glo ledled de Cymru, yn dyddio rhwng y 1930au a’r 1970au. Drwy gynlluniau llawr, cynlluniau safle a golygon, gall ymchwilwyr weld pa gyfleusterau oedd ar gael i weithwyr y pyllau glo, gan gynnwys mynedfeydd glân a brwnt ar wahân a loceri, cawodydd, ardaloedd glanhau sgidiau, canolfannau triniaeth feddygol a ffreuturau. Wedi gwladoli, daeth y cyfleusterau hyn yn ‘ddarn hanfodol o offer cynhyrchu’, a bydd y cynlluniau a’r deunydd arall yng nghasgliad Archifau Morgannwg yn sicrhau bod yr adeiladau hyn, sydd wedi diflannu i bob pwrpas o dirwedd de Cymru, yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

DNCB/1/4/13/2-3: Golygfeydd o Faddonau Pwll Glo Cwm, Meh 1952
Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood
Stephanie Jamieson, Gwarchodwr Prosiect Glamorgan’s Blood
- Evans, Neil; Jones, Dot, ‘A Blessing for the Miner’s Wife: the campaign for pithead baths in the South Wales coalfield, 1908-1950’, Llafur : Journal of Welsh Labour History, t.7
- Evans, Neil; Jones, Dot, t.6