Sefydlwyd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd ym mis Medi 1867 ac yn nhymor yr hydref eleni mae’n dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed. Yn rhan o’r digwyddiadau y mae’r Gymdeithas wedi eu trefnu, bydd Iolo Williams yn cynnal darlith gyhoeddus, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ddydd Iau 5 Hydref. Mae’n briodol bod y dathliadau’n cynnwys digwyddiad o’r fath gan fod darlithoedd cyhoeddus y Gymdeithas bob amser wedi’u hystyried yn ffordd werthfawr o gynnig cyfleoedd i’r cyhoedd ehangach ymwneud â’r gwyddorau naturiol a’u mwynhau.
Gellir olrhain blynyddoedd cynnar y Gymdeithas drwy’r cofnodion sydd yn Archifau Morgannwg. Mae’n amlwg yr ystyrid cyfarfodydd y gymdeithas ar y dechrau fel cyfle i’r aelodau rannu eu gwybodaeth am amrywiol agweddau ar y gwyddorau naturiol. Er enghraifft, yn y cyfarfod cyntaf un ar 11 Medi 1867, daeth un o’r aelodau cyntaf, Philip Robinson, â chasgliad o loÿnnod byw Prydeinig i’w harddangos ac er mwyn i’r rhai a oedd yn bresennol gael eu harchwilio. Yn y trydydd cyfarfod, ar 11 Tachwedd 1867, traddododd aelod arall, yr Athro Joseph Gagliardi, ddarlith ar y gwahanol rywogaethau o bysgod. Ar y cyfan, gosododd hyn y patrwm a fu wedyn ar gyfer y cyfarfodydd yn ystod y cyfnod hwn, er, ar adegau, ategwyd y rhaglen gan siaradwyr gwadd.
O fewn blwyddyn, cynhaliodd y Gymdeithas ei “Hymgomwest” gyntaf. Gan ddefnyddio Neuadd y Dref ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd, roedd yr Ymgomwest yn cynnwys cyfres o arddangosfeydd ar agweddau ar y gwyddorau naturiol ac yn defnyddio casgliadau’r Gymdeithas a rhai dan fenthyciad gan Amgueddfeydd. Ategwyd yr arddangosfeydd ar sawl achlysur gan ddarlithoedd cyhoeddus yr Ystafelloedd Cyfarfod. Erbyn mis Ebrill 1873 roedd hyn mor boblogaidd fel y cafodd tair darlith gan siaradwyr a oedd yn rhan o’r Gymdeithas, Edmund Wheeler, Cymrawd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, eu hailadrodd yr wythnos ganlynol. Cymeradwywyd y Gymdeithasol yn y papurau newyddion lleol a nodwyd bod y digwyddiad wedi adfywio “… the drooping Naturalists’ Society”.
Wedi’i hannog gan lwyddiant yr Ymgomwest ym mis Ebrill 1873, cyhoeddodd y Gymdeithas ei chyfres gyntaf o ddarlithoedd cyhoeddus ym mis Tachwedd 1873. Y bwriad oedd cynnal y darlithoedd yn yr Ystafelloedd Cyfarfod bob pythefnos o fis Tachwedd tan fis Ebrill yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr amlwg. Roedd yn amlwg y cyhoeddwyd hyn â rhywfaint o anniddigrwydd o ystyried costau defnyddio’r neuadd a’r ffioedd ar gyfer y siaradwyr gwadd. Er y cynlluniwyd gweithredu system docynnau ar gyfer bob darlith, gan godi tâl mynediad gwerth chwe cheiniog ar aelodau a swllt ar bobl nad oeddent yn aelodau, mynegwyd pryder y byddai’r Gymdeithas ar ei cholled yn ofnadwy. Hyd yma, nid oedd rhan fwyaf y siaradwyr gwadd wedi codi tâl am eu gwasanaethau ac i roi sicrwydd i bryderon aelodau, cytunwyd sefydlu cronfa arbennig, a fyddai bron yn sicr wedi’i gwarantu gan nifer o aelodau’r gymdeithas, er mwyn talu unrhyw gostau o’r gyfres ddarlithoedd.
Serch hynny, cyhoeddwyd y rhaglen darlithoedd cyhoeddus yn frwd ym mis Tachwedd a rhoddwyd hysbysebion yn y papur newydd lleol yn nodi manylion am y siaradwyr a’r pynciau y bwriedid eu trafod. Roedd y rhaglen yn amrywiol iawn ac yn cynnwys darlithoedd ar “Ddadansoddi Sbectrwm”, “Trysorau’r Dyfnderoedd” a hyd yn oed “Atgofion Personol Wellington”. Fel y mae cofnodion cyfarfod y Gymdeithas ar 18 Tachwedd 1873 yn cadarnhau, nid oedd unrhyw draul i’w wahardd.
The Committee have now completed their arrangements for the delivery of series of popular and scientific Lectures to be given fortnightly during the present session. The lectures are provided by the Society at some considerable expense and are intended for the intellectual enjoyment of all classes.
Many of the lectures will be illustrated by beautiful drawings and dissolving views, and by the performance of brilliant and costly experiments.
The Committee solicit the special attention of the Public to this Series of Lectures which is the first attempt to supply a want long felt in Cardiff, viz the Periodical Delivery of First Class Scientific Lectures, by thoroughly able Professional Men. It is proposed in the event of this experiment proving successful, to establish a continuous Winter Series, embracing the highest Scientific and Literary talent which can be obtained.
The first lecture will be delivered by Edward H Jones, Esq, FCS, Analytical Chemist, on “Egypt” and 1000 miles up the Nile, being a tour amongst the ancient Temples and ruins of Egypt and Nubia, and illustrated by paintings and photographs, shown by the aid of lime light and dissolving views [Cofnodion, 18 Tach 1873, DCNS/3/1]

Roedd llawer iawn yn y fantol ar noson y ddarlith gyntaf ar 27 Tachwedd. Adroddodd Guardian Caerdydd a Merthyr y diwrnod canlynol:
There was a large and fashionable audience, the room being crowded. The lectures … promise to prove as interesting as they will be intellectual and a rich treat is in store…. [Cardiff and Merthyr Guardian, 28 Tachwedd 1873]
Yn y digwyddiad, roedd y ddarlith yn unrhyw beth ond “gwledd”. Crynhowyd y ddarlith ym mhapur newydd y South Wales Daily News, mewn adroddiad hirfaith, fel a ganlyn:
… a disconnected, unintelligible descriptive outline of a number of places situated between Southampton and the second cataract of the Nile and back through the Suez Canal.
… the precipitate manner in which the audience left the room when the curtain was drawn across the views, without even thanking Mr Jones for his trouble, will perhaps convince him that a description of scenes that might have pleased the juveniles of a school would be ill- suited to the intelligence of the adult educated persons of both sexes present.
Ar y cyfan, roedd y ddarlith wedi:
…caused the greatest disappointment to the vast majority of the audience [South Wales Daily News, 28 Tachwedd 1873]
Mae’n rhaid y bu’n ergyd difrifol i’r Gymdeithas a dim ond ychydig ddyddiau oedd ganddynt i adfer y sefyllfa cyn y ddarlith nesaf ar 3 Rhagfyr. Eto, roedd yr Ystafelloedd Cyfarfod dan eu sang a doedd dim dewis ond ymddiheuro am y llanast ar y 27ain. Cynigiodd Cadeirydd y noson y 3ydd o Ragfyr, Mr Lukis, ei ddamcaniaeth i’r gynulleidfa yn yr Ystafelloedd Cyfarfod, sef:
…the Mr Jones they had was the wrong one and must have been an imposteur as he had not turned up since that evening – not even to call on Dr Taylor for his honorarium [South Wales Daily News, 4 Rhagfyr 1873]
Yn ffodus i’r Gymdeithas, roedd y ddarlith y noson honno ar “Ffenomena Sain” i’w chyflwyno gan Edmund Wheeler, y cymeradwywyd ei gyfres o ddarlithoedd gystal ym mis Ebrill. Cadarnhaodd adroddiad y papur newydd drannoeth fod:
The lecture was a very able one throughout and was highly appreciated by the audience
Roedd y gyfres ddarlithoedd yn ôl ar y trywydd iawn.
Felly, wrth i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd baratoi am ei darlith gyhoeddus ddydd Iau 5 Hydref eleni, does dim amheuaeth bod “gwledd” yn aros y rhai sy’n bwriadu mynd i’r Amgueddfa Genedlaethol. Fodd bynnag, o ystyried amgylchiadau cyfres darlithoedd cyhoeddus gyntaf y Gymdeithas yn 1873, efallai y byddai’n werth edrych eto i weld a ydynt wedi gwahodd yr Iolo Williams “cywir”.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg