Arcêd Wyndham, Caerdydd

Cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer Arcêd Wyndham gan Gyngor Bwrdeistref Caerdydd ar 28 Ionawr 1886.  Wedi’i dylunio gan J P Jones ac, mae’n debyg, wedi’i henwi ar ôl y teulu Wyndham-Quinn (Ieirll Dwnrhefn), roedd yn cynnwys 35 o unedau siop, pob un â seler ac, yn y rhan fwyaf o achosion, lety ar y llawr cyntaf hefyd.  Roedd y fynedfa o Heol Eglwys Fair yn rhedeg trwy’r Adeiladau Teigil a fodolai yno, a chrëwyd ffasâd trillawr addurnedig a bwaog yn Lôn y Felin, lle roedd sawl uned ar yr ochr ddeheuol yn ffurfio’r Gwesty Arcêd Wyndham yn wreiddiol.  Caewyd y gwesty ar ddechrau’r 1950au, ac adferwyd yr unedau hyn i’w defnyddio fel siopau.

D1093-1-3 p36

Braslun Mary Traynor o Arcêd Wyndham

Rhwng 1923 a 1969, roedd canolfan Clwb Rygbi Crwydriaid Morgannwg yn Arcêd Wyndham, yr oedd ei agosrwydd at Barc yr Arfau Caerdydd yn gwneud y clwb yn lle yfed adnabyddus a phoblogaidd i gefnogwyr rygbi rhyngwladol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae agosrwydd Arcêd Wyndham at Lôn y Felin ac Ardal Gaffis Heol Eglwys Fair wedi sbarduno troi sawl uned fanwerthu yn sefydliadau arlwyo.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Y Gemau Olympaidd yn dod i Barc y Rhath

Mae llawer o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath yng nghasgliad Archifau Morgannwg. Ers ei agor ym mis Mehefin 1894 mae’r llyn yn y parc wedi bod yn lleoliad poblogaidd i genedlaethau o deuluoedd o bob rhan o dde Cymru.

Wrth edrych ar ffotograffau cynnar o’r llyn, a dynnwyd cyn 1914, maen nhw’n adrodd hanes diwrnodau braf o haf gyda phicnic, cychod, ymdrochi a rowndiau diddiwedd o gemau plant.  Ond ymddengys nad dyma’r stori lawn… Y llyn oedd lleoliad nifer o ddigwyddiadau mawreddog, y mae llawer ohonynt bellach bron wedi mynd yn angof. Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod ei fod wedi cynnal y treialon ar gyfer tîm Olympaidd Prydain, ac roedd miloedd yn bresennol i weld arwr lleol yn cystadlu yn y llyn?

Picture1

Roedd y llyn yn lleoliad ymdrochi poblogaidd iawn ym 1912. Drwy deithio ar y tram o ganol Caerdydd, gallai’r rhai oedd ag awydd mynd i’r dŵr logi dillad nofio, tywelion ac un o drigain o gabanau newid pren. Gyda llwyfan ymdrochi, byrddau plymio ac ardal nofio wedi’i dynodi gan fwiau, roedd anghenion bron pawb yn cael eu diwallu. Fodd bynnag, yn achos damwain, roedd cwch a ‘nofiwr arbenigol’ bob amser wrth law i’r rhai a oedd yn mynd i ddyfroedd dyfnion.

Yr un flwyddyn, cynhaliwyd treialon ledled y wlad i’r timau nofio a pholo dŵr i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd Stockholm. Parc y Rhath oedd y lleoliad perffaith ar gyfer treialon Cymru, a gynhaliwyd ar 27 Ebrill a 4 Mai.  Daeth miloedd i wylio Paolo Radmilovic, arwr lleol Caerdydd. Yn 26 oed y flwyddyn honno, roedd Paolo wedi cael ei ddewis ar gyfer tîm polo dŵr Cymru yn 15 oed ac roedd ganddo amrywiaeth o deitlau nofio Cymreig a Phrydeinig. Roedd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain ym 1908.

Cafodd torf Parc y Rhath eu trin i ras wefreiddiol y diwrnod hwnnw gyda ‘Raddy’ a’r gystadleuaeth leol, Billy Kimber, yn mynd ati’n dynn am y safle buddugol yn y ras ddull rhydd dros 100 metr. Aeth y ddau nofiwr drwodd i rowndiau terfynol y treialon ond ‘Raddy’ a sicrhaodd ei le ar y tîm Olympaidd. Er iddo gael siom yn y nofio yn Stockholm, enillodd fedal aur arall fel capten tîm polo dŵr buddugol Prydain.

Roedd Gemau Olympaidd Stockholm yn garreg filltir arall i Paolo Radmilovic mewn gyrfa a oedd yn ymestyn dros 30 mlynedd ac yn cynnwys cystadlu mewn chwe Gêm Olympaidd a chyfanswm o bedair medal aur Olympaidd. I’r rhai a safodd ar y promenâd ac wrth ymyl y dŵr ym Mharc y Rhath ym mis Ebrill 1912, byddai wedi bod yn un o’r adegau “Roeddwn i yno” wrth iddynt gefnogi’r bachgen lleol a ddaeth, o bosibl, yn Olympiad gorau Cymru.

Mae Archifau Morgannwg yn dal sawl set o luniau o’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn.  Mae’r lluniau ar gael o fewn Casgliad T F Holley Collection, cyf.: D332/18/23/1-13.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Y Tŷ Coch, Heol y Fferi, Caerdydd

Adeiladwyd y Penarth Railway Hotel ym 1860 ar ‘y ffordd o’r Grange i Fferi Penarth’ (Heol y Fferi yn ddiweddarach), rhwng aberoedd Taf ac Elái.  Ei drwyddedai cyntaf oedd Philip Williams a oedd, mor gynnar â 1862, yng nghanol anghydfod cyfreithiol gyda’i denant.

D1093-1-4 p5

Darlun Mary Traynor o’r Ty Coch

Mewn hysbyseb ym 1868, dwedodd y perchennog ar y pryd, Richard Cook, wrth ymwelwyr ei fod wedi ‘gosod pob cyfleuster yn y gwesty, ac y gellir cael llety ar delerau cymedrol’.  Aeth ymlaen i ddisgrifio’r lleoliad fel un ‘mewn llecyn hyfryd ar fryn gyda golygfa hardd o Fôr Hafren a llongau’.

Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod y dafarn yn denu morwyr a gweithwyr dociau.  Oherwydd ei lleoliad amlwg a’i lliw nodedig, cafodd ei hailenwi’n ‘Y Tŷ Coch’.  Mae un adroddiad yn awgrymu y newidiwyd yr enw ym 1926.  Fodd bynnag, nid yw’n glir a gafodd hyn ei gydnabod yn swyddogol gan fod y lle’n cael ei drwyddedu o hyd fel y Penarth Railway Hotel ym 1972.

Dymchwelwyd y Tŷ Coch tua 2005.  Mae ei leoliad bras bellach ar safle bloc fflatiau Watermark.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
  • Cofnodion Sesiwn Fach Bwrdeistref Caerdydd, Lys Trwyddedi: llyfr cofnodion, 8 Chwe 1972 (cyf.: PSCBO/27)
  • Monmouthshire Merlin, 26 Gorffennaf 1862
  • Cardiff & Merthyr Guardian, 17 Hydref 1868
  • South Wales Daily News, 17 Tachwedd 1877
  • http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_east/3995731.stm

Sefydliad Mackintosh, Keppoch St, Y Rhath, Caerdydd

Yn wreiddiol yn rhan o ystâd Roath Court, ymddengys fod Plasnewydd (a elwid hefyd ar wahanol adegau yn Roath Lodge a Roath Castle) wedi’i hadeiladu tua throad y 19eg ganrif.  Yn 1841, hwn oedd cartref teuluol John Matthew Richards (1803–1843), a oedd yn berchen ar 124 erw o dir i’r gogledd a’r de o’r hyn sy’n Heol Albany erbyn heddiw.  Erbyn 1856, roedd Plasnewydd yn eiddo i Edward Priest Richards a briododd Harriet Georgina Tyler o Cottrell, Sain Nicolas ym mis Chwefror y flwyddyn honno.  Cyn diwedd y flwyddyn, bu farw Edward yn 25 oed, ar ôl cael ei daflu oddi ar ei geffyl wrth ddod adref ar hyd Heol y Plwca ond, ar 23 Mehefin 1857, rhoes Harriet enedigaeth i’w ferch.  Enwyd y plentyn yn Harriet Diana Arabella Mary Richards ac, ym mis Ebrill 1880, priododd ag Alfred Donald Mackintosh a oedd, fel Pennaeth Clan, yn cael ei adnabod yn fwy ffurfiol fel ‘The Mackintosh of Mackintosh’.

D1093-1-5 p34

Darlun Mary Traynor o Sefydliad Mackintosh

Er bod prif gartref y cwpl yn yr Alban, roedden nhw’n cadw Cottrell fel preswylfa yn ne Cymru.  O fewn ychydig flynyddoedd, datblygwyd ystâd y Rhath  gyda strydoedd newydd i gartrefu poblogaeth gynyddol Caerdydd ac, ym 1890, rhoddodd Mackintosh brydles hir ar gyfer Plasnewydd a dwy erw o dir o’i gwmpas i’w defnyddio fel cyfleuster cymdeithasol a hamdden, a adwaenid fel Sefydliad Mackintosh.  Wrth i’r brydles hon ddirwyn i ben yn y 1980au, caffaelodd Clwb Chwaraeon Mackintosh rydd-ddaliad y safle, sydd wedi’i estyn ers hynny i ddarparu lle ychwanegol at ddefnydd y gymuned.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Cofnodion Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath (: D328/14)
  • Childs, Jeff: Roath, Splott and Adamsdown – One Thousand Years of History
  • Childs, Jeff: Roath, Splott and Adamsdown (The Archives Photographs Series)
  • Williams, Stewart: Cardiff Yesterday Cyf 11, Delwedd 98
  • Cyfrifiad 1841
  • The Cardiff and Merthyr Guardian, 9 Chwefror 1856
  • The Cardiff and Merthyr Guardian, 22 Tachwedd 1856
  • The Cardiff and Merthyr Guardian , 27 Mehefin 1857
  • http://www.mackintoshsportsclub.org/history/