Cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer Arcêd Wyndham gan Gyngor Bwrdeistref Caerdydd ar 28 Ionawr 1886. Wedi’i dylunio gan J P Jones ac, mae’n debyg, wedi’i henwi ar ôl y teulu Wyndham-Quinn (Ieirll Dwnrhefn), roedd yn cynnwys 35 o unedau siop, pob un â seler ac, yn y rhan fwyaf o achosion, lety ar y llawr cyntaf hefyd. Roedd y fynedfa o Heol Eglwys Fair yn rhedeg trwy’r Adeiladau Teigil a fodolai yno, a chrëwyd ffasâd trillawr addurnedig a bwaog yn Lôn y Felin, lle roedd sawl uned ar yr ochr ddeheuol yn ffurfio’r Gwesty Arcêd Wyndham yn wreiddiol. Caewyd y gwesty ar ddechrau’r 1950au, ac adferwyd yr unedau hyn i’w defnyddio fel siopau.

Braslun Mary Traynor o Arcêd Wyndham
Rhwng 1923 a 1969, roedd canolfan Clwb Rygbi Crwydriaid Morgannwg yn Arcêd Wyndham, yr oedd ei agosrwydd at Barc yr Arfau Caerdydd yn gwneud y clwb yn lle yfed adnabyddus a phoblogaidd i gefnogwyr rygbi rhyngwladol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae agosrwydd Arcêd Wyndham at Lôn y Felin ac Ardal Gaffis Heol Eglwys Fair wedi sbarduno troi sawl uned fanwerthu yn sefydliadau arlwyo.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/3)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer arcêd arfaethedig o Heol Eglwys Fair at Lôn y Felin, 1886 (cyf.: BC/S/1/5455)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer addasiad arfaethedig yn trosi Gwesty Arcêd Wyndham i siopau, 1954 (cyf.: BC/S/1/44044)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- South Wales Daily News, 11 Awst 1886
- South Wales Echo, 5 Gorffennaf 1887
- The Weekly Mail, 9 Gorffennaf 1887
- http://planning.cardiff.gov.uk/online-applications [ceisiadau 12/00074/DCI & 16/00317/MNR]
- http://historypoints.org/index.php?page=wyndham-arcade-cardiff
- http://www.glamorganwanderers.co.uk