Stephenson & Alexander, Arwerthwyr a Syrfewyr Siartredig – D L Evans, Siop Ddillad Cyfanwerthu a Manwerthu, y Barri

Mae cofnodion yr arwerthwyr a’r syrfewyr siartredig o Gaerdydd, Stephenson & Alexander, yn rhoi cipolwg ar fywyd yn Ne Cymru ychydig dros gan mlynedd yn ôl. Roedd llawer o’r busnesau a basiodd drwy lyfrau’r cwmni yn fusnesau mawr, gan gynnwys glofeydd, gweithgynhyrchwyr metel a bragdai. Fodd bynnag, roedd llawer o gwmnïau a siopau llai hefyd yn gwasanaethu cymunedau lleol am ddegawdau ac roeddent yn rhan fawr o’r seilwaith lleol.

D L Evans

Un cwmni o’r fath oedd D L Evans & Co o Heol Holltwn, y Barri. Wedi’i chynnig ar werth gan Stephenson & Alexander ym mis Mai 1920, roedd siop D L Evans yn gwerthu bron popeth yr oedd ei angen ar deuluoedd lleol o ran dillad a deunyddiau. Dyma’r lle i fynd am ddillad smart, gwisg ysgol a dillad gwaith, ac am bron pob agwedd ar ddefnyddiau i’r cartref. Mae’r ffotograff sydd wedi’i gynnwys gyda’r manylion gwerthu yn dangos ffenestri’r siop yn llawn o bob math o nwyddau ac yn edrych fel ogof Aladdin.

Roedd ymweliadau â D L Evans wedi’u cynllunio i fod yn “brofiad siopa” gyda hysbysebion yn y papurau newydd lleol yn brolio mai D L Evans oedd y lle i fynd os oeddech chi am ddychwelyd o’ch siopa …yn ffres ac yn hapus… . Wrth fynd i mewn i’r safle, croesawyd cwsmeriaid gan lu o gynorthwywyr wedi’u gwisgo’n smart. Wrth sefyll y tu ôl i’r cownteri derw a mahogani pymtheg troedfedd o hyd, roedd y staff yn barod i dynnu nwyddau, i’w harchwilio a’u gwerthu, o’r rhengoedd o droriau â dolenni pres ym mhob cownter.  Ar hyd y waliau roedd rhesi o gabinetau arddangos gwydr ac, ar ddiwedd yr ystafell, desg â chaead rhôl lle ymdriniwyd â’r cyfrifon.  Cafodd y rhai oedd yn chwilio am nwyddau mwy arbenigol neu o bosibl archebu ffrogiau a wnaed i fesur eu tywys i gyfres o ystafelloedd arddangos addurnol yn yr islawr ac ar y llawr cyntaf.

Nid oes manylion am nifer y staff a gyflogwyd, ond mae’n rhaid bod y nifer yn sylweddol. Roedd gan yr eiddo ar Heol Holltwn ystafelloedd gwely ar yr ail lawr bron yn sicr ar gyfer staff. Fodd bynnag, mae’n debyg y rhoddwyd gorau i’w defnyddio erbyn 1920 oherwydd bod Evans wedi prynu tri thŷ ar Heol Merthyr yn y Barri i’w defnyddio fel hostel staff.

Roedd Evans yn ddyn busnes di-flewyn ar dafod. Roedd hysbysebion y cwmni yn blwmp ac yn blaen, gan gynnwys … dim sothach dosbarth isel… ac … os taw gwerth rydych chi ei eisiau – yma cewch afael arno. Mae’r manylion gwerthu a gedwir gan Stephenson & Alexander hefyd yn cynnwys papur pennawd y cwmni a ddefnyddiwyd gan D L Evans & Co sy’n dweud llawer wrthych am y perchennog a’r meddylfryd poblogaidd ar y pryd. Roedd Evans yn adnabyddus am ddelio ag arian parod yn unig. Mae’n ymddangos yr oedd hyn yn bwynt o egwyddor, gan fod y papur pennawd yn honni …derbyn credyd yw gwerthu eich rhyddid… ac …mae arian parod yn bwerus, mae’n gorchfygu pob anhawster wrth fasnachu. I danlinellu’r pwynt hwn cynigiwyd gwobr o £100 i unrhyw un a allai ddangos bod y cwmni’n gweithredu mewn unrhyw ffordd heblaw trwy arian parod.

Reward front

Reward back

Mae’n debyg mai Evans oedd y preswylydd cyntaf o’r adeilad ar Heol Holltwn, a adeiladwyd ym 1891 fel Adeiladau Nolton. Fodd bynnag, ar ôl bron i ddeng mlynedd ar hugain roedd hi’n amser ymddeol. Roedd y busnes yn siŵr o fod yn gynnig deniadol i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid lleol, o ystyried bod y llyfrau yn cadarnhau ei fod yn gwneud elw sylweddol.  Roedd y pris a osodwyd ar gyfer y busnes, fodd bynnag, yn dipyn o her gyda’r siop yn cael ei rhoi ar y farchnad am ddeuddeg mil o bunnoedd – ychydig llai na hanner miliwn o bunnoedd yn arian heddiw – a hynny mewn arian parod, siŵr o fod. Yn ogystal, roedd y stoc a ffitiadau i’w gwerthu ar wahân.  Nid oedd efallai’n syndod felly i’r siop fethu â chyrraedd y pris yr ofynnwyd amdano mewn ocsiwn ym mis Mai 1920 ac na chafodd ei gwerthu.

Felly beth ddigwyddodd nesaf? Rydym yn gwybod i D L Evans ymddeol i Gaerdydd o fewn flwyddyn, a gwerthwyd y stoc o’r siop gan ei frawd, W L Evans o’r Stryd Fawr, Merthyr Tudful, oedd hefyd yn ddilledydd. Gyda’r siop wedi ei werthu neu ar rent, nid oedd y busnes bu’n gwasanaethu gymaint o bobol yn nodwedd o stryd fawr y Barri mwyach.

A pam gwerthodd D L Evans y busnes?  Efallai o ganlyniad i iechyd gwael, gan fu farw ym 1931 yn weddol ifanc yn 60 oed. Hefyd, efallai dyma gydnabyddiaeth o’r gystadleuaeth oedd yn ymddangos ar Heol Holltwn yn enwedig gan Dan Evans & Co. Agorodd Dan Evans & Co. ym 1905 yn 81 Heol Holltwn fel haearnwerthwr; tyfodd y busnes yn gyflym gan ehangu ei amrediad o nwyddau i’r cartref i ddod yn siop adrannol cyntaf y Barri cyn i’r busnes cau yn 2006.

Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â Heol Holltwn yn ymwybodol bod y safle a feddwyd gan D L Evans yn 1920 yn parhau mewn defnydd heddiw fel archfarchnad. Ond os mae unrhyw un yn gallu ychwanegu at ein gwybodaeth ni am D L Evans & Co rhowch wybod.

Mae manylion casgliad Stephenson & Alexander, yn cynnwys y prosbectws gwerthu ar gyfer D L Evans & Co, 102-106 Heol Holltwn, y Barri ar gael ar-lein, o dan y cyfeirnod DSA, yng nghatalog Archifau Morgannwg https://canfod.glamarchives.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg