Mae’n 35 mlynedd ers i Bab Ioan Pawl yr Ail ymweld â Chaerdydd. Roedd ‘na dorfeydd enfawr ar strydoedd y ddinas ac yn y digwyddiadau awyr-agored yng Nghaeau Pontcanna a Pharc Ninian ar ddiwrnod yr ymweliad, 2 Mehefin 1982. Roedd ‘na groeso Cymreig wrth i gôr ganu “We’ll keep a welcome” pan laniodd awyren y Pab ym Maes Awyr Y Rhws fel y’i gelwid ar y pryd, ac ym Mhontcanna gwelwyd baneri â’r geiriau “JP II converts more than JPR”.
Ceir hanes ymweliad y Pab yng nghofnodion Heddlu De Cymru yn Archifau Morgannwg. Yn y flwyddyn flaenorol cafwyd ymgais i ddienyddio’r Pab yn Sgwâr San Pedr, Rhufain, ac roedd y misoedd yn arwain at yr ymweliad yn llawn tensiwn yn sgil Rhyfel y Falklands a galwad y Pab am gadoediad. Tasg yr Heddlu felly oedd gwarchod y Pab a rheoli’r torfeydd o 500,000 yr oedd disgwyl iddyn nhw gyrraedd Caerdydd ar 2 Mehefin 1982.
Fel y gellid dychmygu, rhaid oedd cynllunio’n drylwyr ac yn fanwl mewn partneriaeth â heddluoedd cyfagos a thimau arbenigol amrywiol, gan gynnwys tîm diogelwch personol y Pab, Heddlu Llundain a Chorfflu Ordnans y Fyddin Frenhinol. Parhaodd y gwaith trefnu am gyfnod o sawl mis, ac ar ei ddiwedd lluniwyd saith o orchmynion gweithredu manwl sydd i’w gweld bellach yn Archifau Morgannwg.
Mae’r Gorchmynion yn cwmpasu bron i bob agwedd o ymweliad y Pab, o’r funud y cyrhaeddodd Faes Awyr y Rhws am 9.05 ar 2 Mehefin i’r funud y gadawodd naw awr yn ddiweddarach am 18.15. Roedd yn ymarferiad cymhleth, nid yn unig yn ymwneud â diogelwch ond hefyd â rheoli’r traffig, gyda chanol y ddinas ar gau i bob pwrpas am y dydd. Rhaid oedd cytuno â’r wasg a’r cyfryngau ynglŷn â lle i’w lleoli nhw a’u camerâu, a threfnu miloedd o stiwardiaid a wirfoddolodd i weithio yn y digwyddiadau ym Mhontcanna a Pharc Ninian. Fel y nodwyd yng ngorchmynion yr heddlu ar gyfer y diwrnod:
The security arrangements have had to be tailored to the possibility, however remote, of someone wishing to attack the Pontiff. There may also be attempts to disrupt the visit by demonstrations, hoax bomb calls etc.
The eyes of the world through national and international television will be upon us and we must endeavour to excel ourselves in out turnout, dress and deportment on the day.
Amcangyfrifwyd y byddai angen bron i 2,500 o swyddogion heddlu i blismona’r digwyddiad, gyda Heddlu De Cymru yn cael cymorth 600 o swyddogion o heddluoedd Dyfed Powys a Gwent, gyda chymorth ychwanegol gan Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon.
Ar 2 Mehefin, toc wedi hanner nos, caewyd canol y ddinas i gerbydau gan yr heddlu. Gan weithio gyda staff yr awdurdod lleol agorwyd pump o feysydd parcio ar gyrion Caerdydd, gydag arwyddion ar y prif ffyrdd i mewn. Defnyddiwyd bysiau gwennol i symud ymwelwyr i mewn ac allan o ganol y ddinas. Yn ychwanegol at hyn, trefnwyd bod Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn rheoli llif yr ymwelwyr i Gaerdydd ar y trên. Roedd hyn yn dasg sylweddol. Roedd y prif orsafoedd yn Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog wedi arfer delio â thua 14,000 o deithwyr yn cyrraedd y ddinas yn ddyddiol, ond rhagwelwyd y gallai’r ffigwr hwn chwyddo i gymaint â 120,000 ar 2 Mehefin. Efallai gyda’u tafod yn eu boch, awgrymwyd y gallai’r rhai hynny oedd yn teithio o Fryste hwylio ar y Waverley i Benarth i guro’r traffig. Nid yn annisgwyl, penderfynodd nifer o fusnesau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau gau am y dydd, yn wyneb y posibilrwydd o dagfeydd a threnau gorlawn.
Er i Faes Awyr Y Rhws aros yn agored drwy’r dydd i ganiatáu i awyrennau hedfan yn ôl yr amserlen, caeodd Heddlu De Cymru y ffin o amgylch y maes awyr i bob pwrpas o 4am ymlaen, gyda phob un oedd yn cyrraedd neu adael yn cael ei chwilio. Nodwyd yn y gorchmynion i’r heddlu yn y maes awyr:
Your responsibility is to ensure the safe arrival and departure from Cardiff Wales Airport of His Holiness Pope John Paul II. In addition, you have an obligation to the air flight passengers to ensure that the hindrance to them is of the minimum to ensure the safety of His Holiness.
At 4.00am on Wednesday 2nd June 1982 officers of the E Division CID will commence a search and seal operation. They will be assisted by Bomb Disposal officers and police dogs and handlers….The operation must be completed by 6.00am when the full security operation will come into force.
Y disgwyl oedd y byddai’r Pab yn y maes awyr am gyn lleied â chwarter awr cyn hedfan mewn hofrennydd i Blackweir yng nghwmni’r Prif Gwnstabl. Fodd bynnag, rhaid oedd glynu at fesurau diogelwch llym drwy gydol y dydd, a threfniadau wrth gefn yn eu lle i ddelio ag unrhyw ddigwyddiad posib. Er enghraifft, roedd 12 plismon ar gefn beiciau modur yn aros i hebrwng y Pab o’r maes awyr os fyddai’r tywydd yn rhy wael i’r hofrennydd hedfan.
Ar ôl cyrraedd Blackweir teithiodd y Pab yn un o ddau ‘Popemobile’ a ddefnyddiwyd ar y diwrnod, dros bont Bailey i’r offeren awyr agored ym Mhontcanna. Roedd rheoli’r digwyddiad yma gyda’r dorf ddisgwyliedig o 350,000 yn her anferthol. Fel y dengys y cofnodion, roedd yr heddlu wedi briffio a gweithio mewn partneriaeth â’r 5,000 o stiwardiaid gwirfoddol gafodd eu recriwtio ar gyfer y diwrnod. Unwaith eto, roedd Heddlu’r De wedi cau’r safle am hanner nos a doedd yr un garreg heb ei throi, wrth i blismyn fod ar eu gwyliadwriaeth ym Mhontcanna o’r bore bach. Ar ben hyn bu nofwyr tanddaearol yn edrych o dan y bont Bailey a’r pontydd codi dros ffos y castell. Bu cŵn yr heddlu yn chwilio’r safle am ffrwydron, gyda chymorth Corfflu Ordnans y Fyddin Frenhinol os oedd angen.
Roedd trefniadau yn eu lle ynglŷn â sut i reoli’r tyrfaoedd yn yr Offeren, ond roedd pryder yn amlwg am faint y dorf enfawr mewn ardal gyfyngedig ag iddi afon ar un ochr. Yn wreiddiol roedd rhaid cael tocyn mynediad i fynychu, ond rhoddwyd gorau i’r syniad. Rhaid oedd i bawb oedd am fynychu fod yn eu lleoedd erbyn 08.30, gyda phawb yn cael eu rhoi mewn ‘corlan’ iddyn nhw gael gweld y Pab wrth iddo gael ei yrru o gwmpas y safle. Wedi cyrraedd y llwyfan canolog, â’i garped o liwiau’r Babaeth, anerchodd y Pab y dorf a rhoi cymundeb i 30 o blant a 70 o unigolion dethol eraill. Ar yr un pryd bu 800 o offeiriaid yn offrymu’r cymun i’r dorf. Nodwyd yn y cynlluniau:
… it is necessary to be particularly vigilant to stop persons transferring from one corral to another.
Another consideration is the possibility of hysteria being engendered and/or a sudden surge by a section of the crowd. Stewards have been asked to look for early signs and to promote a calm situation. Police officers also have their responsibility.
The anticipated influx of a tremendous number of people prior and during the visit may provide a lucrative market for pickpockets and the opportunist criminal.
Er mwyn sicrhau y byddai modd ymateb i unrhyw ddigwyddiad posib, bu’r Heddlu yn gweithio ochr yn ochr â bron i 800 o staff meddygol a chymorth cyntaf, a bu tîm achub bywyd yn cadw llygad ar lannau’r afon.
Cyfrifoldeb Heddlu De Cymru hefyd oedd penderfynu ar nifer y newyddiadurwyr, ac o ble y bydden nhw’n adrodd ar y digwyddiad. HTV oedd yn ffilmio’r offeren ym Mhontcanna, gyda’r BBC yn gosod eu camerâu ar fannau penodol fel y Central Hotel, Ysgol Gynradd Parc Ninian a gorsaf fysiau Sloper Road, er mwyn ffilmio’r modurgad ar hyd y ffyrdd. Bu 800 o weithwyr y cyfryngau yn bresennol yn yr Offeren awyr agored a’r cinio yn y Castell, lle derbyniodd y Pab Ryddfraint y Ddinas. Yn ogystal â chytuno ar safleoedd y camerâu, hwylusodd yr heddlu drefniadau cymhleth iawn yn ôl safonau heddiw, i gludo’r ffilm o Gastell Caerdydd i’r papurau newydd.
…film taken during and after the ceremony can be quickly taken to motor cycle dispatch riders positioned outside the castle grounds. These films will then be taken to Thomson House (Western Mail and Echo) for developing, printing and wiring locally, nationally and internationally. It is proposed that …runners be positioned below the bay windows so that films which will be in pre-addressed envelopes can be dropped out to them for immediate despatch.
Gadawodd y Pab y Castell ar hyd y ffordd i fynychu rali yn llawn 35,000 o bobl ifanc, a drefnwyd gan y mudiad ieuenctid Catholig, ar gae pêl-droed Dinas Caerdydd ym Mharc Ninian. Yn y stadiwm anerchodd y Pab y dorf o lwyfan gafodd ei adeiladu o flaen y prif eisteddle, cyn gyrru o amgylch y cae yn ei Popemobile.
Daeth yr ymweliad i ben gyda modurgad arall o’r stadiwm i Faes Awyr y Rhws. Mae’n debyg mai rheoli’r modurgadau oedd yn teithio ar gyflymder o ddeng milltir yr awr drwy’r strydoedd, oedd elfen fwyaf heriol yr holl ymweliad. Ar gyfer y ddwy daith defnyddiodd y Pab yr ail o’r ddau ‘Popemobile’ sef Land Rover agored wedi’i addasu.
The Papal entourage will leave the Castle by the main entrance into Castle Street. The Pontiff will travel in vehicle (RR1). As well as the escort vehicles in the procession a motorcycle escort of twelve outriders will be provided. The procession will travel at a speed of 10mph (distance approximately two and quarter miles). Uniformed personnel lining the route will ensure that the cavalcade is unobstructed. It is anticipated that many people will line the route and that many thousands will converge from the Pontcanna Mass area. Arrangements will be made to barrier certain sections of the route for crowd control purposes.
Roedd dros 600 o swyddogion ar hyd y llwybr o’r Castell drwy ganol y ddinas i’r stadiwm ac yna o Barc Ninian yn ôl i’r Rhws. Roedd y gorchmynion gweithredol yn nodi’r canlynol:
Helmets, best uniform and gannex coats (if necessary) are to be worn. If the weather is suitable, the Chief Constable may authorise short sleeve order which will apply to all officers. Officers should be prepared for this contingency.
Meals will not be provided. Sufficient packed food should be carried to provide at least a 12 hour tour of duty.
Police officers involved in these duties will face the crowds and maintain constant observation to ensure the safety of the Pontiff. Police duty will take precedence over the saluting or standing to attention.
Bu swyddogion CID yn cefnogi’r timau o blismyn mewn lifrai:
Detectives will position themselves at the rear of the crowd and endeavour to identify any security risk. They will also direct their observations to premises on the opposite side of the road, overlooking the route. Any suspicious activities are to be communicated to Base Control.
Ond dim ond darn bach iawn o’r gwaith oedd hyn. Cyn yr ymweliad roedd swyddogion wedi ymweld â phob eiddo ar hyd llwybr y daith i ddarganfod a oedd un wedi newid dwylo’n ddiweddar, neu a oedd rhywrai wedi rhentu ystafelloedd neu adeiladau gyda golygfa o’r daith. Yn ychwanegol, ar fore’r ymweliad cafodd y pontydd ar Heol Penarth a Phont Trelái ar Ffordd y Bont-faen eu harchwilio am ffrwydron.
Nid yn annisgwyl, ychydig o fanylion sydd yn y cofnodion am drefniadau diogelwch y modurgadau nad oedd mor amlwg i’r llygad. Drwy gydol y dydd bu Heddlu De Cymru yn gweithio ochr yn ochr â gwarchodwyr personol y Pab ac Uned Warchod Agos Heddlu Llundain. Hefyd roedd gan yr Heddlu blismyn arfog mewn mannau allweddol gan gynnwys Y Rhws a Phontcanna. Ymdoddi i’r dorf oedd y gorchymyn i’r plismyn hynny oedd ar ddyletswydd yn Y Rhws.
The nominated officers will take up their designated positions at 6.00am and will work a two hours on and two hours off shift. They will be in possession of their rifles and binoculars. They will draw from the store flat caps (traffic style) and will wear police issue uniform. Under no circumstances will they expose their weapons to the public or media unless there is a need for their use. They will give to the public and the media the appearance of observers. Their principal task is to locate and prevent intrusion, by unauthorised persons, onto the Airport.
Yr eitem olaf ar y rhestr o orchmynion gweithredol oedd cynllun i osod tîm camera ar y llain lanio yn Y Rhws i ffilmio awyren y Pab yn gadael am 18.15.
Fel y mae’r papurau newydd yn cofnodi, cyrhaeddodd y Pab Gaerdydd ar 2 Mehefin i haul gwresog a chroeso twymgalon. Roedd maint y dorf yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd a thorrwyd ar draws y digwyddiad gan storom fer tua hanner dydd. Er gwaethaf hynny, bu’r diwrnod yn llwyddiant. Daeth dros 100,000 i’r Offeren yng nghaeau Pontcanna a 35,000 o bobl ifanc i weld y Pab ym Mharc Ninian. Roedd y strydoedd yn llawn pobl drwy gydol yr ymweliad, yn awyddus i weld y Pab wrth iddo yrru drwy’r ddinas cyn gadael am y maes awyr.
Amcangyfrifwyd bod cost plismona’r digwyddiad tua £600 mil. Bu rhai yn y wasg leol yn yr wythnosau i ddilyn yn cwestiynu maint y paratoi gan yr heddlu o gofio’r niferoedd a ddaeth i’r digwyddiad. Mae’n debygol fodd bynnag, y gellir crynhoi ymateb yr Heddlu yn y dyfyniad hwn yn y South Wales Echo drannoeth ar 3 Mehefin 1982:
A South Wales police spokesman said the operation went very smoothly and he gave a pat on the back to the huge crowds for good behaviour.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg