Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

 

Mercher 26 Awst 1914

Cysgon ni wrth ein ceffylau ar y llwybr coblog. Symudon ni gyda’r wawr i ymuno ag Adran yn Clary i gynorthwyo’r 4edd Adran a oedd mewn ffosydd ar dir uchel i’r de o Le Cateau-Cambrai. Cawsom fwyd gan y troedfilwyr – roedden ni’n llwgu. Mae’r frwydr yn rhuo gydol y dydd gyda gynnau’n tanio’n ddi-ben-draw. Llwyddodd y drylliau peiriannol i wrthsefyll ymosodiad cyntaf yr Almaenwyr, ond cafodd ein byddin ei gwthio’n ôl yn ddiweddarach. Roedd Adran y Marchfilwyr yn llonydd, yn amddiffyn ystlys y 4edd Adran. Llwyddon ni i adael heb neb yn ein dilyn.

Cafodd y Gatrawd ei thorri i fyny’n hwyr yn y nos mewn pentref. Gwelais i gyrff meirw’r troedfilwyr ymhobman, a sylwais ar wir ystyr ymddeoliad strategol.

Cyrhaeddais fwthyn bach lle cefais wely a brandi gan fenyw fach garedig.

Iau 27 Awst  1914

Gorymdaith gynnar i ymuno ag Ansell mewn pant a oedd ger pentref. Roedd gweld y milwyr traed yn cilio’n olygfa a hanner. Roedd y dynion yn hanner marw, ond roedden nhw’n barod i ymladd eto.

Fe ymunon ni ag Adran yn Roussoy, lle cysyllton ni â Brigâd o Ddragwniaid Ffrengig.

Cafodd y gatrawd ei rhoi mewn trefn ar ben bryn. Ymunais i â 3 Hwsâr.

Glaniodd sawl bom yn agos iawn. Cafodd fy nhrwyn ei daro gan sblint.

Ni oedd y sgwadron olaf i ymddeol, ac roedden ni mewn trwbl. Roedd Carabinwyr wedi’u lladd yn y coed y tu ôl i ni, felly symudon ni i rywle arall. Ar ôl taith hir, cyrhaeddon ni yn Peronne. Daeth awyren â neges am Almaenwyr. Fe glirion ni allan, cyn mynd ar orymdaith gofiadwy gyda’r nos. Roedd dynion yn disgyn drwy flinder. Cawson ni ein gwahanu, a chiliodd y gatrawd i ffordd yn Bethuncourt. Fe welon ni gerbyd a oedd yn edrych fel chwilolau Almaenig.

Teithiais i, Johnson ac Archie ar gefn yr un ceffyl.

Am bum noson yn olynol ni chafodd y gatrawd fwy na 2 awr o gwsg.

28 Awst 1914

Wrth iddi wawrio edrychais ar fap a gweld y byddai’r Almaenwyr yn siŵr o gyrraedd ymhen tipyn; roedd pawb yn cysgu, gan gynnwys Ansell, Balfour a’r staff.

Cefais orchymyn i ffurfio ôl-fyddin ar bont gyda’r Milwyr 1af. Syrthiais i gysgu cyn deffro i ddatganiad bod y gelyn yn nesáu. Roedd pethau’n edrych yn ddrwg. Roedd colofn arall (marchfilwyr) i’r dde ohonon ni. Fel mae’n digwydd, adran Sordit oedd y rhain yn dod i’n helpu ni.

Llwyddon nhw i wthio’r Almaenwyr yn ôl.

Ymddeolon ni i Néry, lle daethon ni o hyd i fwyd ar ochr y ffordd, cyn symud ymlaen i Cressy.

Cawsom ein gorchymyn i ddychwelyd yn ôl i’r Gogledd. Casglon ni ddŵr mewn cae heddychlon a chodi gwersyll dros dro ger tref.

Buon ni’n prynu pethau a chael bwyd mewn gwesty. Roedd pawb mewn hwyliau llawer gwell.

Roedden ni’n byw drwy atafael ac ewyllys.

Roedd sifiliaid yn ffoi yn blocio’r ffyrdd yr holl ffordd gyda cherti, beiciau ac ati.

 

Sadwrn 29 Awst  1914

Roedden ni’n disgwyl diwrnod tawel, ond am 8am clywsom ni gwmni o Droedfilwyr Almaenig ger yr afon yn Bethancourt.

Cymeron ni’r cyfrwy a symud y Sgwadron i bont Ossoy.

Am 12 cawsom ein gorchymyn i ymgasglu yn Honfleur.

Cefais fy ngorchymyn i ddychwelyd ar unwaith, ond cafodd cylchwylwyr Archie a Patterson ac Oswald eu gadael allan ar y maes.

Symudodd y Sgwadron i leoliad ger Lesle i’w helpu i ddychwelyd.

Roedd yr Almaenwyr o fewn ychydig gannoedd o lathenni, yn bomio Lesle, cyn stopio am ginio. Llwyddodd fy nghylchwylwyr i gyrraedd yn ôl o drwch blewyn.

Ymddeolon ni drwy Cressy a Lagny i Plessis cyn biledu mewn ystafell biliards mewn tafarn fach. Cawson ni gyfle i olchi yno.

 

Sul 30 Awst 1914

Taith gerdded hir ar fore crasboeth. Casglon ni ddŵr ger camlas, lle ffeindion ni fotel o win gwyn.

Cyrhaeddon ni yn Choisy au Bac ar Afon Oise. Dyma’r biledau gorau rydyn ni wedi eu cael hyd yma, mewn cartref artist.

Rwy’n disgwyl gorffwys yma.

Mwynheais nofio yn yr afon.

 

Llun 31 Awst 1914

Gorymdaith hir yng ngwres llethol yr haul. Roedd gwin yn cael ei roi i ni yr holl ffordd. Casglon ni ddŵr o’r afon yn Verb, a gwelsom ni’r tirailleurs Ffrengig o Nice.

Ar ôl teithio i fyny bryn serth, cyrhaeddon ni yn Néry. Rydw i’n rhan o sgwadron y rhagfintai ar yr ochr dde. Cawsom ni fara yn nhŷ gwerinwr a chinio mewn ystafell biliards.

Ystyriais gysgu mewn mynwent, ond penderfynais beidio. Syrthiais i gysgu yn pendroni am faint fyddai’n cysgu yn y fynwent hon yfory.

Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

Mawrth 19 Awst 1914

Ar y trên drwy’r dydd gan stopio am ychydig funudau mewn llefydd amrywiol i gasglu dŵr. Roedd pobl yn rhoi ffrwythau a chardiau post i ni yr holl ffordd i fyny.

Cyrraedd yn Hautmont ar ôl iddi nosi cyn symud i gae gwlyb iawn yn llawn glaswellt hir, lle gorweddon ni.

Mercher 19 Awst 1914

Bant i Colleret. Pentref Belgaidd-Ffrengig iawn. Aethon ni i’r biledau. Ar y cyfan rydyn ni’n fodlon ein byd yn gofalu am y ceffylau ar ôl y daith.

Buon ni’n marchogaeth gyda Johnson, y dehonglydd, ac eraill dros ffin Gwlad Belg, ac fe welsom ni dir y gelyn.

Iau 20 Awst 1914

Ychydig o ymarfer corff i’r Sgwadron yng nghefn gwlad. Mae’r lle’n chwarae triciau arna’i. Mae’n edrych fel tir rhwydd i’w groesi, ond fe gymeron ni awr i deithio un filltir.

Yn ôl i’r biledau i gael bwyd.

Gwener 21 Awst 1914

Gorymdeithio i Wlad Belg ar hyd llwybr coblog. Wrth i ni fynd i’r biledau, daethom ar draws lu mawr o Almaenwyr.

Roedd y Sgwadron ar ei hôl hi; a dechreuodd pethau droi’n sur. Ni ddaeth unrhyw beth ohono. Teithion ni i Villiers St. Ghislain.  Aeth Ansell â holl arweinwyr y Sgwadron o amgylch yr holl amddiffynfeydd.

Sadwrn 22 Awst 1914

Treulio’r bore’n cloddio fy narn i o dir. Daliais annwyd yn y berllan oer.

Lwyddon ni i ddal rhai milwyr ffo a’u cwestiynu. Daeth newyddion o’r 3edd Frigâd fod yr Almaenwyr yn dod.

Aeth y Sgwadron i’r coed ac aros yno drwy’r dydd.

Gwelon ni’r Almaenwyr ar y gorwel. Glaniodd un bom o fewn 300 llath i ni. Bomiwyd pedwar Hwsâr. Dechreuodd y rhyfel pan daniodd y llwydion ddrylliau peiriannol. Cafodd cylchwylwyr eu dal yn y coed gan farchogion y ceffylau gwinau. Am 4 y bore, symudon ni i’r llwybr coblog.

Gorymdeithion ni gyda’r nos dros y llwybr drwy Mons, lle roedd miloedd o bobl yn gweddi. Yn y pen draw, cyrhaeddon ni bentref lle cysgon ni mewn biledau ar fferm.

Sul 23 Awst 1914

Gorymdeithion ni ar fyr rybudd i’r rheilffordd i’r Dwyrain o Gr., gyda’r marchogion i gadw golwg ar y ffosydd gyda’r nos.

Gorffwys drwy’r dydd. Dechreuodd y sifiliaid ein helpu yn y pendraw.

Llun 24 Awst 1914

Parhau i balu ffosydd wrth iddi wawrio.

Mae bwlch wedi’i adael ar ochr dde fy ystlys. Soniais am hyn wrth Briggs. Dywedodd nad yw’r tir hwn yn ei adran ef.

Wrth gwrs, ymddangosodd yr Almaenwyr gyferbyn â’r pwynt hwn o wendid. Mae’n amhosibl dweud ai cyfaill neu elyn sydd o’m mlaen i nes bod ergyd yn cael ei thanio. Yna bydd yr ail filwr yn tanio. Ar ôl i ni eu gweld yn eu helmedau llwyd pigog, troeon ni i’r chwith tuag at y pentref. Cyn hir roedd y pentref yng ngafael y fflamau. Cilion ni. Aeth llawer o’r dynion i mewn i’r ffosydd i symud at ffatri fawr, gan gynnwys Allenby.

Roedd y bomiau’n dechrau syrthio’n agos aton ni, felly dilynon ni’r Sgwadron gan ymuno ag Ansell yn Elonges.

Tua 2pm cawsom ein galw’n ôl, gan deithio i lawr bryn a thrwy’r pentref. Ar yr ochr arall aeth pethau’n flêr. Roedd bwledi’n cael eu tanio o bob cyfeiriad. Ar ôl ymladd ffyrnig, ymddeolon ni i’r fferm. Roedd llawer wedi’u hanafu.

Arhosodd y rhengoedd ôl gyda’r adran wrth deithio drwy’r pentref, ond nid ymosododd yr Almaenwyr.

Cilion ni i Genlain.

Mawrth 25 Awst 1914

Dechrau am 5am. Roedden ni i’r chwith o Rengoedd Ôl y fyddin. Roedd y ceffylau gwinau i’r dde ohonon ni. Cefais fy anfon i Artres. Cyrhaeddais frig y cribyn yn ddiogel. Roedd 2 filwr yn casglu dŵr pan ymddangosodd Almaenwyr (2 fagnelfa ac 1 gatrawd o Jaegers) tua chanllath i ffwrdd. Rhedon ni i mewn i chwarel. Ymosodwyd arnon ni’n ffyrnig, ond cawsom ein diogelu gan y chwarel. Llwyddon ni i ddychwelyd i’r gatrawd. Dihangfa lwcus.

Ar ôl cyrraedd yn ôl, ymunon ni â’r Rhengoedd Ôl.

Llwyddodd Ansell i ddal ei dir, gydag adran o ddrylliau, am amser hir i arbed y Groes Goch. Roedd bomiau’n syrthio o’n cwmpas. Gadawon ni Wlan neu ddau yn y fferm.

Cafodd milwyr Ffrengig eu dal yn Valenciennes. Camon ni i’r adwy.

Cawsom ein rhoi yn ffosydd y troedfilwyr cyn cael ein tynnu allan gan Allenby. Gyda’r nos, cilion ni i dref ger melin. Bu’n rhaid symud ar fyr rybudd – roedd y dref wedi’i hamgylchynu. Yn y diwedd cyrhaeddon ni ffordd ger Beaumont. Oer a gwlyb iawn.

Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

Sadwrn 15 Awst 1914

(Gadael y Pinwydd cyn iddi wawrio). Mae hi’n arllwys y glaw. Aethon ni i gyd i wersyll gorffwys yn Southampton tra bod y glaw’n syrthio. Aeth un o swyddogion y Sgwadron i mewn i’r dre i gael cinio, a buon ni bron â’i anghofio. Diwrnod hir ac undonog o’n blaenau.

Sul 16 Awst 1914

Ychydig o heddwch ar fwrdd y llong. Cyrraedd ar ôl cinio. Cawson ni drafferthion mawr yn gadael y llong oherwydd cafodd yr holl ffitiadau eu hadeiladau mewn 3 diwrnod. Fy sgwadron i yw’r olaf i adael. Cysgon ni ar fêls gwair mewn sied cotwm enfawr.

Llun 17 Awst 1914

Gorymdaith ar hyd y llwybr, ymarfer gyda chleddyfau. Aethon ni i Havre i wledda mewn bwyty mawr. Roedd yr holl le’n llawn “entente cordial”.

Gorffennon ni ddim tan yr oriau mân.

Dyddiadur Rhyfel y Capten Mervyn Crawshay

4ydd Awst. 2014 yw canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf; mae’r cyfnod trychinebus hwn o’r 20fed Ganrif yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau ar hyn o bryd drwy lawer o lyfrau ac erthyglau. Yn Archifau Morgannwg rydym yn ffodus o gael ffotograffau a chofnodion ysgrifenedig amrywiol yn dangos effaith y “Rhyfel Mawr” ar unigolion a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’r cofnodion hyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a myfyrwyr ymchwil gael gafael ar wybodaeth amrywiol, o effaith y rhyfel ar blant (llyfrau log ysgolion) i fesurau rhyfel ar y ffrynt cartref (Cofnodion Awdurdod Lleol). Fodd bynnag, mae’r erthygl fer hon yn edrych ar eitem unigryw yn y casgliad; dyddiadur y Capten Mervyn Crawshay yn ystod wythnosau cyntaf y Rhyfel yng Ngwlad Belg. Mae Crawshay yn rhoi cofnod dyddiol o’i brofiadau, gan ddechrau ar 15 Awst tan iddo gael ei ladd ar faes y gad ar 31 Hydref 1914.

Cyn trafod dyddiadur Crawshay gellid gofyn; “Pam oedd aelod o un o deuluoedd cyfoethocaf a mwyaf pwerus Cymru yn ymladd y lluoedd Almaenig yng Ngwlad Belg?”  Ganed Mervyn Crawshay ar 5ed Mai 1881 yn Dimlands, Llanilltud Fawr, yn fab i Tudor Crawshay, Uwch Siryf Morgannwg (1887), ac yn ŵyr i’r meistr haearn William Crawshay o Ferthyr Tudful. Roedd y teulu Crawshay yn flaenllaw yn niwydiant haearn gogledd Morgannwg am lawer o’r 19eg Ganrif. Fodd bynnag, dewisodd Mervyn ddilyn gyrfa yn y fyddin ac ymunodd â Chatrawd Caerwrangon ym 1902. Gwasanaethodd am ddwy flynedd yn rhyfel De Affrica gan ennill medal y Frenhines â dau glesbyn. Ym 1908 symudodd Crawshay i 5ed Gwarchodlu’r Marchfilwyr (Tywysoges Charlotte o Gymru) a chafodd ei ddyrchafu’n gapten ym mis Ebrill 1911. Roedd Crawshay yn farchog o fri a chynrychiolodd Loegr mewn twrnameintiau milwrol yn America ym 1913, gan ennill y Cwpan Aur yn y gystadleuaeth ryngwladol.

Roedd Mervyn Crawshay yn aelod o Fyddin Ymdeithiol Prydain (BYP), a oedd yn gymharol fach, a anfonwyd i helpu’r Ffrancwyr i amddiffyn Gwlad Belg yn wyneb ymosodiad yr Almaen. Roedd Gwlad Belg, sy’n wlad fach, yn cynnig llwybr allweddol y gallai Ffrainc neu’r Almaen ei ddefnyddio i ymosod ar ystlys y gelyn. Fodd bynnag, dan Gyfamod Llundain 1839, sicrhawyd niwtraliaeth Gwlad Belg gan y pum prif bŵer yn Ewrop, a gytunodd i amddiffyn niwtraliaeth Gwlad Belg pe bai’n cael ei meddiannu. Roedd y Cadfridog Schlieffen o’r Almaen wedi llunio cynlluniau mor gynnar â 1905 i ymosod ar ystlys Byddin Ffrainc drwy oresgyn Gwlad Belg, gan gynnig llwybr haws i Baris a modd o gipio porthladdoedd y culfor. Roedd y tensiwn yn codi yn ystod haf 1914 a, thrwy gyfres gymhleth o gynghreiriau, gwelwyd 3 miliwn o filwyr Almaenig a Ffrengig yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Gwrthododd Llywodraeth yr Almaen i roi’r gorau i’w goresgyniad o Wlad Belg, ac yn sgil hynny datganwyd rhyfel gan Brydain a Ffrainc ar 4ydd Awst 1914.

Roedd cyflymder hyn oll yn amlwg o gofnodion Crawshay; mae’r cofnodion ar 15/16 Awst yn sôn am adael Southampton a chyrraedd Le Havre. Wythnos yn ddiweddarach, ar ôl teithio drwy ogledd Ffrainc a chroesi’r ffin â Gwlad Belg, roedd BYP yn brwydro ger Mons. Erbyn hyn, gelwir y digwyddiadau a gofnodir rhwng 21ain a 29ain Awst gan Mervyn Crawshay yn Frwydr Mons. Prif nodwedd y frwydr oedd enciliad BYP yn wyneb ymosodiadau llethol lluoedd yr Almaen: roedd 70,000 o ddynion yn wynebu 160,000.

Awst 24… Mae’n amhosibl dweud ai cyfaill neu elyn sydd o’m mlaen i nes bod ergyd yn cael ei thanio… Yna rydyn ni’n eu gweld nhw yn eu helmedau llwyd pigog… Yn ddigon buan mae’r pentref mewn fflamau…

Awst 26, Brwydr yn Le Cateau… Cawsom fwyd gan y milwyr traed gan ein bod ni’n llwgu. Mae’r frwydr yn rhuo gydol y dydd gyda gynnau’n tanio…

Awst 27, Ciliodd y milwyr traed. Am olygfa. Roedd y dynion yn hanner marw, ond roedden nhw’n barod i ymladd eto… Am bum noson yn olynol cafodd y gatrawd lai na dwy awr o gwsg.

Yn ystod brwydr y rhengoedd ôl yn Le Cateau, collodd BYP 8,000 o ddynion; collodd yr Almaen tua 15,000 o filwyr. Disgrifir brwydr ffyrnig y rhengoedd ôl mewn manylder yn y cofnodion hyd at 6ed Medi. Mae’r 3-4 wythnos nesaf yn nyddiadur Crawshay yn disgrifio Brwydr Marne.

Medi 7… Cyhoeddodd Syr John French (Comander BYP) orchymyn yn nodi bod Byddin Prydain wedi bod yn cael amser caled, ond ei bod nawr am gydweithredu â Byddin Ffrainc… Gwnaethom basio Almaenwyr wedi’u clwyfo a rhai milwyr meirw yn y strydoedd. Roedd Choisy’n llanast llwyr, wedi’i hysbeilio gan yr Almaenwyr.

Yn dilyn mis o ymladd milain, gwelwyd proffesiynoldeb BYP a’r Ffrancwyr yn dechrau dwyn ffrwyth. Rhoddodd yr Almaenwyr y gorau i’w hymosodiad ar Baris, a methodd y nod strategol o drechu ystlys Byddin Ffrainc.

Medi 27, diwrnod helbulus i Crawshay… Bomiau’n syrthio, ond dim ond un ddaeth yn agos; Fe welais i Winston Churchill mewn car… Bu’n rhaid rhoi’r gorau i sgwennu – glaniodd blwch glo a chefais orchymyn i fynd i’r biled.  

(Roedd ‘blwch glo’ yn slang ar gyfer bom Almaenig 5.9 modfedd yn y Rhyfel Byd Cyntaf).

Yn sgil anaf Mervyn Crawshay i’w goes cafodd ganiatâd i adael y Rheng Flaen, ac achubodd ar y cyfle i deithio i Baris.

Hydref 5, Es i a Kavanagh yn syth i’r Ritz a oedd newydd ailagor… Teithion ni o gwmpas Paris, i’r Chatham ar Champs Elysee ac i gael te yn Café de la Paix… Ymunodd Harvey o’r 9fed Gwaywyr â ni ac aethon ni i Moulin Rouge.

Cafodd ei alw’n ôl yn rhy fuan o lawer i’r Gatrawd, ar ôl llwyddo i gael petrol a gyrru drwy’r nos… Gyrrais i ac Osborne i’r biled. Roedd pawb yn synnu o ngweld i’n ôl mor fuan, ac wedi gwella.  

Mae’r cofnodion eraill ar gyfer mis Hydref yn disgrifio’r ymladd tanbaid yn ardal Messines, a elwir yn swyddogol yn Frwydr Gyntaf Ypres neu’r Ras i’r Môr. O ganlyniad i golled yr Almaenwyr ym Mrwydr Marne, gwnaethant lansio ymosodiad mawr, gyda’r ddwy fyddin yn ceisio cyrraedd arfordir Môr y Gogledd. Yn y frwydr hon, ar ddiwedd mis Hydref, y cafodd Mervyn Crawshay ei anafu’n angheuol. Mae’r cofnodion yn nodi y bu Adran Marchoglu Cyntaf Crawshay yn ceisio amddiffyn safle amhosibl yn Wytschaete am 48 awr cyn cael eu trechu.

Erbyn canol mis Tachwedd, rhoddodd yr Almaenwyr y gorau i’w hymosodiad, a daliodd BYP eu gafael ar Ypres; cafodd 58,155 o Fyddin Prydain eu lladd. Roedd disgrifiadau Crawshay o’r cyfnod rhyfelgar hwn yn sôn am ryfel symudol a chyflym. Erbyn diwedd Tachwedd derbyniodd yr Almaen ei bod wedi methu gyda’i chynllun strategol am fuddugoliaeth gyflym yn Ffrainc, a gosodwyd sylfaen ar gyfer y 4 blynedd nesaf drwy balu ffosydd.

Ceir eironi trist i farwolaeth Crawshay yn Ypres ym mis Hydref 1914; tair blynedd yn ddiweddarach, yn dilyn marwolaeth miliynau o filwyr dewr eraill, gwelwyd un o frwydrau mwyaf echrydus y Rhyfel Mawr, unwaith eto yn Ypres, sef Brwydr Passchendaele.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Archifau Morgannwg yn arddangos holl gofnodion dyddiadur rhyfel Mervyn Crawshay ar ein blog, fel y gellir dilyn ei daith yn y rhyfel 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Cyd Bwyllgor Archifau Morgannwg

Mae ein blog penblwydd 75ed yn dod i derfyn gyda’n cofnod olaf o’n 75ed derbyniad flynyddol.

Cydbwyllgor Archifau Morgannwg ydy corff llywodraethu Archifau Morgannwg.  Ar ei ffurf bresennol mae’n cynnwys 16 aelod etholedig o bob un o’r awdurdodau sy’n ei ariannu yn ôl cyfran eu poblogaeth. Felly mae gan Gaerdydd 5 aelod, mae gan Rondda Cynon Taf 4 aelod, mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Bro Morgannwg oll â 2 aelod yr un ac mae gan Merthyr Tudful un aelod.  Caiff rôl y cadeirydd a’r is-gadeirydd ei rhannu ar sail rota flynyddol, fel bod pob awdurdod yn cael cyfle i fod yn y gadair dros gyfnod o 6 blynedd.  Ceir darpariaeth ar gyfer cyfethol nifer o aelodau y tybir bod ganddynt wybodaeth a phrofiad gwerthfawr i’r Cydbwyllgor, ac mae awdurdodau hefyd yn anfon swyddogion i arsylwi.  Mae Caerdydd, fel yr awdurdod sy’n darparu gwasanaethau cymorth, fel arfer yn anfon swyddogion ariannol, cyfreithiol ac ysgrifenyddol.  Dim ond aelodau etholedig gaiff bleidleisio.

 

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac mae Archifydd Morgannwg yn mynd ag adroddiad ar y gweithgareddau i bob cyfarfod.  Mae’r holl bapurau a dyddiadau’r cyfarfodydd ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.  Mae’r cyfarfodydd, a gynhelir yn adeilad Archifau Morgannwg, yn agored i’r cyhoedd fel arfer.

Mae aelodau etholedig wedi rhoi cefnogaeth gref i’r archifau a’i weithgareddau erioed.  Yr aelodau yw ein cyswllt i’r awdurdodau lleol sy’n ariannu’r cydwasanaeth.  Maent yn frwd dros bledio achos yr archifau a hebddynt hwy ni fyddai’r adeilad newydd gennym.  Maent yn cymeradwyo ein cynllun gwaith blynyddol ac yn cael y newyddion diweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni targedau disgwyliedig drwy gydol y flwyddyn.  Maent hefyd yn cytuno ar y gyllideb a anfonir i bob awdurdod i’w chymeradwyo. Caiff Archifydd Morgannwg ei benodi’n uniongyrchol gan y Cydbwyllgor i reoli gwasanaethau archifau ar ran y chwe awdurdod a rheoli’r gyllideb y cytunwyd arni.

Rydym yn ffodus o fod wedi llwyddo i ddal gafael yn ein haelodau a’u profiad am gyfnodau hir; roedd rhai o’r aelodau presennol yn gwasanaethu ar gydbwyllgor Cynghorau Canol a De Morgannwg gynt.  Mae aelodau newydd yn parhau i ddod â brwdfrydedd ac ymrwymiad gyda nhw.  Mae aelodau hefyd wedi cyfrannu at yr archifau ac mae rhai o’u cyfraniadau wedi bod yn rhan o’r 75ain eitem sawl blwyddyn.  Rydym yn ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.

Codi’r Llen!

Y 75fed derbyniad ym 1995 oedd casgliad o raglenni theatr.  Fel rhan o prosiect ‘Codi’r Llen!’ sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd yn Archifau Morgannwg, mae posteri theatr yn hysbysebu perfformiadau yn y Theatr Frenhinol, Caerdydd yn cael eu catalogio.  Mae’r posteri yn dyddio o’r flynyddoedd 1885-1895 ac maent yn hysbyseby ystod eang o pherfformiadau, gan gynnwys bwrlesg Fictoraidd, clasuron Gilbert & Sullivan a phantomeimiau Nadolig flynyddol Caerdydd!

 

Lleolwyd y Theatr Frenhinol ar gornel Stryd y Santes Fair a Stryd Wood ac fe’i adeiladwyd ym 1878.  Cyfeiriwyd ato fel yr ail Theatr Frenhinol gan i’r cyntaf, a leolwyd yn Crockherbtown (Stryd y Frenhines erbyn hyn) wedi llosgi y flwyddyn cynt ar yr 11eg o Ragfyr 1877.  Credwyd i’r tan ddechrau yn siediau storfa’r theatre a oedd yn dal gwellt ar gyfer cynhyrchiad o ‘The Scamps of London’.

Adeiladwyd y Theatr Frenhinol newydd gan Webb & Sons o Birmingham i gynlluniau Waring & Blesaley.  Adeiladwyd y theatre fel chwaraedy gyda awditoriwm yn cynnwys seddau cor, seddi-ol, bocsys a galeri.  Ehangwyd y nifer o leoedd i 2000 mewn cymhariaeth a’r 1000 yn yr hen Theatr Frenhinol.

Agorodd y Theatr Frenhinol newydd yn swyddogol ar Ddydd Llun 7fed Hydref 1878 byda ‘Pygmalion and Galatea’ gan W. Gilbert, cynhyrchiad a fyddai’n ymddangos droeon eto dros y flynyddoedd i ddod.

Ceir perfformiadau gan amrywiaeth o sioeau teithiol yn y Theatr Frenhinol.  Yr adloniant mwyaf poblogaidd oedd operau, gyda rhestri rhydd yn aml yn cael wi atal a Rheilffyrdd Taff Vale a’r Great Western yn cynnal trenau arbennig ar gyfer mynychwyr theatr.  Denwyd torfeydd hefyd gan perfformiadau newyddbeth, gyda cynhyrchiadau gan ‘Band of Real Indiand’, ’16 Educated Horses’ a ‘King Barney and the St. Bernard Dog’.

Trist adrodd i’r ail Theatr Frenhinol hefyd losgi, ym 1899, ond fe’i ailadeiladwyd ar unwaith yn yr un ddull.  Mae’r theatr yn dal i’w sefyll yng Nghaerdydd heddiw ond erbyn hyn mae’n weithredy fel tafarn y ‘Prince of Wales’.

 

Archif Menywod Cymru

Mae ein rhestr o’r 75fed eitemau yn cynnwys rhodd gan Archif Menywod Cymru.

Sefydlwyd Archif Menywod Cymru ym 1997. Ei nod yw codi proffil menywod yn hanes Cymru ac annog pobl i astudio a deall bywydau’r menywod hynny. Mae’n gweithio gyda gwasanaethau archifau ledled Cymru i sicrhau bod dogfennau sy’n ymwneud â hanes menywod yn cael eu cadw at y dyfodol. Caiff eitemau eu rhoi i’r Archif Menywod ac yna eu gosod yn yr archif leol neu’r corff cenedlaethol mwyaf priodol lle cânt eu cadw yn y cyflwr gorau posibl. Maent ar gael i aelodau o’r cyhoedd eu harchwilio.

Mae Archif Menywod Cymru yn elusen a ariennir drwy danysgrifiadau aelodau. Maent yn cynnal cynhadledd flynyddol bob hydref, yn llunio cylchlythyr rheolaidd ac yn cyflwyno darlith bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Maen nhw hefyd yn mynd i’r afael â nifer o brojectau. Ar hyn o bryd maen nhw’n cofnodi hanes llafar merched a oedd yn gweithio yn y diwydiannau gweithgynhyrchu ledled Cymru rhwng 1945 a 1975 fel rhan o’r project Lleisiau o Lawr y Ffatri, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae casgliadau Archif Menywod Cymru yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion Cangen De Cymru o Gynghrair Ryngwladol Heddwch a Rhyddid y Merched; Cymdeithas Celfyddydau’r Merched, Permanent Waves; cofnodion o ganghennau lleol Merched y Wawr, a Chasgliad Gwersyll Heddwch Merched Comin Greenham, ynghyd â phapurau personol llawer o ferched lleol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Archif Menywod Cymru yn http://www.womensarchivewales.org/

Cofnodion y Sesiynau Bach

Eitem rhif 75 o 1962 yw cofnodion Adran Sesiwn Fach Meisgyn Isaf. Fel awgryma’r enw, dim ond pedwar gwaith y flwyddyn roedd y Llysoedd Chwater – y soniwyd amdanynt ar y blog yn gynharach yr wythnos hon – yn cwrdd, ond dros y blynyddoedd, bu’n rhaid iddynt ymdrin â nifer cynyddol o achosion cyfreithiol a gweinyddol. Dechreuodd yr Ynadon gynnal sesiynau ychwanegol, gan gwrdd mewn niferoedd bach yn eu hardaloedd lleol. Gelwid y cyfarfodydd hyn yn Sesiynau Bach.

Yn ystod y 19eg ganrif, dechreuwyd rhoi trefn fwy ffurfiol ar y system Sesiynau Bach, gydag ynadon yn cynnal eu sesiynau’n amlach. Cyhoeddwyd Deddfau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gadw cofnodion ffurfiol o’r trafodion. Cynhaliwyd y llys gerbron o leiaf ddau ynad, ond heb reithgor, ac roeddent yn ymdrin â mân achosion megis meddwdod, potsio a chardota. Câi achosion mwy difrifol eu cyfeirio at un o’r llysoedd uwch, sef y Llysoedd Chwarter neu’r Sesiynau Mawr (a ddisodlwyd gan y Brawdlysoedd ym 1830).

Roedd adrannau’r Sesiynau Bach yn seiliedig ar y grwpiau o blwyfi a elwid yn Gantrefi. Adrannau Morgannwg oedd Caerffili Uchaf, a oedd yn eistedd ym Mhontlotyn, Gelligaer a Merthyr; Caerffili Isaf, a oedd yn eistedd yng Nghaerffili a Bargod; y Bont-faen; Dinas Powys, a oedd yn eistedd yn y Barri a Phenarth; Cibwr, a oedd yn eistedd yn yr Eglwys Newydd; Meisgyn Uchaf, a oedd yn eistedd yn Aberdâr ac Aberpennar; Meisgyn Isaf, a oedd yn eistedd yn Llantrisant, Pontypridd, y Porth ac Ystrad Rhondda; a’r Castellnewydd ac Ogwr, a oedd yn eistedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg.

Drwy siarter frenhinol, caniatawyd i Gaerdydd a Merthyr Tudful gynnal Sesiynau Bach ar gyfer y fwrdeistref ar wahân i sesiynau’r sir. Dim ond ambell dro yr arferwyd yr hawl hwnnw tan y 19eg ganrif.

Roedd y Llys yn aml wedi’i leoli yng ngorsaf yr heddlu, felly gelwid y llysoedd yn llysoedd yr heddlu hefyd. Yn ogystal ag ymdrin â mân achosion a chyfeirio achosion i lysoedd uwch, roedd y llysoedd hyn hefyd yn ymdrin â thrwyddedu tafarndai a chofnodi cam terfynol y broses o fabwysiadu plant.

Cofrestr Cerdd a Ddawnsio Sesiwn Fach Meisgyn Isaf, 1904

Cofrestr Cerdd a Ddawnsio Sesiwn Fach Meisgyn Isaf, 1904

Ymhlith y cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg ceir llyfrau cofnodion llysoedd, cofrestrau llysoedd a chofrestrau’r llys plant; cofrestrau trwyddedu; cofrestrau clybiau; cofnodion pwyllgorau, gan gynnwys pwyllgorau trwyddedu a phwyllgorau prawf; blwyddlyfrau; llyfrau cofnodion a chofrestrau llysoedd priodasol, a chofnodion mabwysiadu.

Ym 1971, disodlwyd y Llysoedd Chwarter a’r Sesiynau Bach gan Lysoedd y Goron a Llysoedd Ynadon.