Y 75fed derbyniad ym 1995 oedd casgliad o raglenni theatr. Fel rhan o prosiect ‘Codi’r Llen!’ sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd yn Archifau Morgannwg, mae posteri theatr yn hysbysebu perfformiadau yn y Theatr Frenhinol, Caerdydd yn cael eu catalogio. Mae’r posteri yn dyddio o’r flynyddoedd 1885-1895 ac maent yn hysbyseby ystod eang o pherfformiadau, gan gynnwys bwrlesg Fictoraidd, clasuron Gilbert & Sullivan a phantomeimiau Nadolig flynyddol Caerdydd!
Lleolwyd y Theatr Frenhinol ar gornel Stryd y Santes Fair a Stryd Wood ac fe’i adeiladwyd ym 1878. Cyfeiriwyd ato fel yr ail Theatr Frenhinol gan i’r cyntaf, a leolwyd yn Crockherbtown (Stryd y Frenhines erbyn hyn) wedi llosgi y flwyddyn cynt ar yr 11eg o Ragfyr 1877. Credwyd i’r tan ddechrau yn siediau storfa’r theatre a oedd yn dal gwellt ar gyfer cynhyrchiad o ‘The Scamps of London’.
Adeiladwyd y Theatr Frenhinol newydd gan Webb & Sons o Birmingham i gynlluniau Waring & Blesaley. Adeiladwyd y theatre fel chwaraedy gyda awditoriwm yn cynnwys seddau cor, seddi-ol, bocsys a galeri. Ehangwyd y nifer o leoedd i 2000 mewn cymhariaeth a’r 1000 yn yr hen Theatr Frenhinol.
Agorodd y Theatr Frenhinol newydd yn swyddogol ar Ddydd Llun 7fed Hydref 1878 byda ‘Pygmalion and Galatea’ gan W. Gilbert, cynhyrchiad a fyddai’n ymddangos droeon eto dros y flynyddoedd i ddod.
Ceir perfformiadau gan amrywiaeth o sioeau teithiol yn y Theatr Frenhinol. Yr adloniant mwyaf poblogaidd oedd operau, gyda rhestri rhydd yn aml yn cael wi atal a Rheilffyrdd Taff Vale a’r Great Western yn cynnal trenau arbennig ar gyfer mynychwyr theatr. Denwyd torfeydd hefyd gan perfformiadau newyddbeth, gyda cynhyrchiadau gan ‘Band of Real Indiand’, ’16 Educated Horses’ a ‘King Barney and the St. Bernard Dog’.
Trist adrodd i’r ail Theatr Frenhinol hefyd losgi, ym 1899, ond fe’i ailadeiladwyd ar unwaith yn yr un ddull. Mae’r theatr yn dal i’w sefyll yng Nghaerdydd heddiw ond erbyn hyn mae’n weithredy fel tafarn y ‘Prince of Wales’.