O ystyried y rhan chwaraeodd glo ym mywydau cymunedau ar hyd a lled de Cymru efallai nad yw’n syndod bod y casgliad o luniau a dynnwyd gan Edwin Miles ac a gedwir yn Archifau Morgannwg, yn cynnwys nifer o lofeydd. Mae’r llun, isod, o Lofa’r Meiros yn Llanharan ac mae’n debyg iddo gael ei dynnu yn y 1920au.
Fel gyda’r rhan fwyaf o gasgliad Miles ychydig iawn o wybodaeth gefndirol sydd. Fodd bynnag, mae gan Archifau Morgannwg ystod eang o adnoddau sy’n adrodd hanes glofeydd lleol a’r cymunedau glofaol yn ne Cymru. Mae gan Gofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol a gedwir yn yr Archifau wybodaeth sylfaenol am bob pwll glo fwy neu lai. Mae’r ddalen wybodaeth am y Meiros yn cadarnhau bod y pwll yn gweithredu am ychydig dros hanner can mlynedd o 1880 i 1931. Ar ei anterth, ym 1923, cyflogai 750 o ddynion yn gweithio’r wythïen Pentre ar gyfer glo a ddefnyddid yn bennaf i greu nwy ac mewn ffyrnau golosg.
Yn debyg iawn i lo, fe ddewch o hyd i wythïen gyfoethog yn y cofnodion yn yr Archifau o dro i dro. Roedd Glofa’r Meiros yn rhannol dan berchnogaeth Francis Andrews am ran helaeth o’r amser. Roedd Francis yn fab i Solomon Andrews, a oedd â diddordebau busnes helaeth yng Nghaerdydd a’r deheubarth, ac mae’r cofnodion am Solomon Andrews a’i Fab yn cael eu cadw yn yr Archifdy. Maent yn cynnwys nifer o ffotograffau godidog o Lofa’r Meiros ynghyd â phapurau busnes ac adroddiadau blynyddol sy’n manylu ar berfformiad y lofa. Tynnwyd y ffotograffau mae’n debyg tua 1918, ar adeg pan oedd y pwll yn cynhyrchu bron i chwarter miliwn tunnell o lo bob blwyddyn ac yn gwneud elw sylweddol.
Yn anochel, cafodd Meiros ei siâr o drychinebau glofaol hefyd. Mae’r cofnodion yn cynnwys adroddiad am chwe dyn a gafodd eu hanfon i lawr ar ddiwedd y shifft ddydd i ddelio â’r hyn y tybid oedd yn boced o nwy. Yn anffodus bu ffrwydrad a lladdwyd un o’r dynion a llosgwyd y lleill yn ddifrifol. Cymaint oedd gwirioneddau plaen bywyd yn y pyllau bryd hynny, barnwyd nad oedd y ffrwydrad wedi niweidio’r pwll yn sylweddol ac aeth y shifft nos i lawr y noson honno yn ôl yr arfer.
Gyda dirwasgiad economaidd yn dilyn y rhyfel, roedd y 1920au yn gyfnod anodd i’r diwydiant glo. At ddiwedd y ddegawd gwnaeth y pwll golled y rhan fwyaf o flynyddoedd ac fe’i caewyd maes o law ym 1931. Un o’r cofnodion olaf yng nghofnodion Andrews yw copi o’r llyfryn a gynhyrchwyd ar gyfer gwerthu offer y lofa a oedd yn cynnwys dau o locomotifau rheilffordd lydan chwe olwyn godidog.
Mae’r llun o Lofa’r Meiros gan Edwin Miles i’w gael o dan y cyfeirnod D261/M774. Mae’r taflenni gwybodaeth NCB y cyfeirir atynt i’w gweld yn DNCB/5/2. Mae’r ffotograffau a dynnwyd o bapurau Andrews yn DAB/34/25.
Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y diwydiant glo a chymunedau lleol yn ne Cymru gallwch ddefnyddio canllaw ymchwil, “Cofnodion Glofeydd i Haneswyr Teulu “, ar wefan Archifau Morgannwg. Efallai y byddech hefyd am ymweld ag arddangosfa Gwaed Morgannwg. Mae dyddiadau a lleoliadau ar gyfer yr arddangosfa, a grëwyd gan ddefnyddio cofnodion yr NCB, i’w gweld ar wefan Archifau Morgannwg dan y pennawd “Digwyddiadau”.
Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg