Ym 1962 derbyniwyd ein 75ain eitem, gweithred ar gyfer darn o dir yn y Bont-faen, gan gwmni cyfreithwyr H. J. Randall o Ben-y-bont ac ym 1961 cafwyd ein 75ain eitem gan Stockwood Solicitors, cwmni cyfreithwyr arall yn y dref.
Rhestrir Thomas Stockwood yng nghyfeirlyfr masnach 1865 fel cyfreithiwr yn gweithio o swyddfa yn neuadd y dref, tra dechreuodd teulu Randall weithio fel cyfreithwyr ym Mhen-y-bont pan agorodd William Richard Randall ei fusnes yn Norton Street yn y 1880au.
Dangosa papurau’r cwmnïau hyn (cyfeirnodau DRA a DST) yr amrywiaeth o ddeunydd a ddaeth i’n llaw o swyddfeydd cyfreithwyr. Mae cyfreithwyr yn rhan o nifer o ddigwyddiadau pwysig yn ein bywydau, gan lunio a diogelu ewyllysiau, delio ag ysgariadau a goruchwylio gwerthiant tai, felly rydym yn disgwyl gweld dogfennau cyfreithiol megis copïau o ewyllysiau a gweithredoedd eiddo a thir yn rhan o’u casgliadau.
Fodd bynnag, mae cyfreithwyr yn aml yn chwarae rôl flaenllaw yn eu cymunedau lleol, gan weithredu mewn rôl gyfreithiol ar gyfer nifer o gyrff cyhoeddus, yn ogystal â bod yn asiantau ar gyfer ystadau a maenordai tirfeddianwyr a sefydliadau lleol y mae ganddynt ddiddordeb personol ynddynt. Bu Randall of Bridgend, er enghraifft, yn gweithredu fel asiant ar ran Iarll Dwnrhefn ac yn stiward i sawl maenordy lleol. Roedd Thomas Stockwell yn glerc ynadon ac yn asiant i Iarlles Weddw Dwnrhefn. Roedd yn Ysgrifennydd Anrhydeddus y Rest ym Mhorthcawl, ac mae’r casgliad yn cynnwys llythyr iddo gan Florence Nightingale ym 1871, lle mae hi’n rhoi sylwadau ar gynllun ar gyfer adeilad newydd.
Mae’r ddau gasgliad yn adlewyrchu amryw ddiddordebau’r cyfreithwyr yn ogystal â’u gwahanol gwsmeriaid ac mae’r casgliadau’n cynnwys papurau’n ymwneud â phyllau glo, teuluoedd lleol, cyfleustodau cyhoeddus, amaeth, rheilffyrdd, Gwirfoddolwr Reifflau Morgannwg a barddoniaeth.
Cydnabuwyd pwysigrwydd darganfod pa gofnodion a oedd ym meddiant cyfreithwyr yn nyddiau cynnar yr Archifdy. Danfonodd Archifydd y Sir, Madeleine Elsas, lythyrau ym 1947 at gwmnïau cyfreithwyr lleol ledled Morgannwg. Rhoddodd yr ymatebion i’r llythyrau gipolwg hynod ddiddorol ar fywyd sawl cyfreithiwr yn y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel. Adroddodd rhai o Abertawe fod llawer o’u cofnodion hanesyddol wedi’u ‘dinistrio gan weithredodd y gelyn neu wedi’u difetha gan ddŵr yn dilyn gweithredoedd o’r fath’. Cafodd y rhyfel effeithiau eraill, gyda chwmni cyfreithiol ym Mhontypridd yn adrodd bod y ‘rhan fwyaf o’n hen ffeiliau a dogfennau yn ymwneud â’r ganrif ddiwethaf a dechrau’r ganrif hon naill ai wedi’u defnyddio ar gyfer adfer yn ystod y rhyfel, neu wedi’u dinistrio wrth ad-drefnu’r swyddfa ar ddiwedd y rhyfel.
Fodd bynnag, gwnaeth y llythyrau myfyrgar o’r Archifdy annog sawl cwmni i chwilio am ‘hen focsys a phentyrrau’, fel y disgrifiwyd gan un cyfreithiwr, ac arweiniodd at gyflwyno sawl casgliad gwerthfawr ac amrywiol.