Ffotograffau Maes Glo De Cymru – Mae angen eich help arnom

rsz_d1544-2-9

“V6 Boys” (D1544/2/9)

Mae angen eich help ar Archifau Morgannwg i adnabod ffotograffau o faes glo De Cymru a roddwyd i’r Archifau yn gynharach eleni.

Mae’r 79 ffotograff yn bortread arbennig o faes glo De Cymru. Maent yn cynnwys lluniau o lowyr ym Mhwll Glo Abercynon, tua 1980; lluniau’n dogfennu’r pyllau glo yn cau yn y 1980au; lluniau o bosteri ac arwyddion oedd ar ddangos mewn gwahanol byllau glo; a lluniau o deuluoedd yn casglu glo o’r tomenni yn ystod streic y glowyr rhwng 1984 a 1985.

Fodd bynnag, ychydig iawn a wyddom am hanes y casgliad. Ni chofnodwyd unrhyw fanylion am y ffotograffydd/ffotograffwyr nac am y rhesymau dros dynnu’r ffotograffau. Mae enwau rhai o’r dynion yn y lluniau wedi cael eu nodi, ond dyna’r cyfan a wyddom. Felly, rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd â manylion am y lluniau, pam eu bod wedi cael eu tynnu a phwy dynnodd nhw.

Trosglwyddwyd y ffotograffau i Archifau Morgannwg gan staff ON Archifau Fife, a ddaeth o hyd i’r casgliad wrth restru casgliad hanes llafar SCOTSPEAK. Cafodd y ffotograffau eu rhoi i’r project SCOTSPEAK gan Amgueddfa Lofaol Cardenden, felly mae’n bosibl bod y lluniau wedi cael eu harddangos yn yr amgueddfa ar ryw adeg.

Diolch i waith Iain Flett, Gwirfoddolwr yn ON Archifau Fife, gallwch weld y casgliad yn ein hystafell chwilio bellach (cyf.: D1544), a gallwch gael golwg ar y lluniau digidol drwy ein catalog Canfod: http://calmview.cardiff.gov.uk/

Dangosir ychydig o luniau o’r casgliad isod. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y casgliad neu am unrhyw ffotograff unigol, cysylltwch â: glamro@cardiff.gov.uk

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

Lluniau o weithwyr yn Abercynon, c.1980

rsz_d1544-1-1

Roy Lewis, Trydanwr (D1544/1/1)

rsz_d1544-1-2

Mike James, Ffitiwr (D1544/1/2)

rsz_d1544-1-3

Alex Withers, “Work Wear” (D1544/1/3)

rsz_d1544-1-7

Tony Morgan, Ffordd Cyflenwi (D1544/1/7)

rsz_d1544-1-9

“Boss Pit Man” (D1544/1/9)

 

Lluniau o grwpiau o weithwyr yng Nglofa Abercynon

rsz_d1544-2-1

Dynion Adfer, Abercynon 1989 (D1544/2/1)

rsz_d1544-2-4

Sied Lampau (D1544/2/4)

rsz_d1544-2-5

Baddonau’r Glofa (D1544/2/5)

rsz_d1544-2-6

Derek Williams, Danny Williams, Darell Dixon, Sifft Paratoi (D1544/2/6)

 

Tirweddau Glofeydd

rsz_d1544-3-1

Glofa National, “Monuments” (D1544/3/1)

rsz_d1544-3-8

Glofa Lewis Merthyr (D1544/3/8)

rsz_d1544-3-11

Glofa Coedely (D1544/3/11)

rsz_d1544-3-12

Glofa Fernhill (D1544/3/12)

 

Casglu glo [wrth Tomen Lo Cwmcynon yn ystod Streic y Glowyr, 1984-1985]

rsz_d1544-4-1

“It’s a Good Job We Can Laugh” (D1544/4/1)

rsz_d1544-4-7

“Helping Dad” (D1544/4/7)

rsz_d1544-4-8

Dyn yn gwthio bechgyn ifanc mewn pram (D1544/4/8)

rsz_d1544-4-10

Grwp teuluol yn chwilio am lo (D1544/4/10)

Mae Ceri Thompson yn nodi: ‘the little girl in the colourful coat is Nathalie Butts-Thompson.  I interviewed her for GLO and she supplied me with that photo for the publication’.

rsz_d1544-4-13.jpg

Plant yn casglu glo (D1544/4/13)

rsz_d1544-4-15

Plant yn llenwi sach a glo (D1544/4/15)

 

Glofeydd Segur

rsz_d1544-5-5.jpg

Glofa Merthyr Vale, Adeilad wedi dadfeilio  (D1544/5/5)

rsz_d1544-5-8.jpg

“Another Way of Telling”, Golygfa dros Lofa Bedwas (D1544/5/8)

rsz_d1544-5-10.jpg

Poster Militant Miner, ‘SAVE THE PITS!’ (D1544/5/10)

rsz_d1544-5-14.jpg

De Celynen, llun o graffiti ar y wal (D1544/5/14)

rsz_d1544-5-15

“Last Day Ynysybwl Colliery”, Nodyn llawysgrifen gan staff y sied lampau [yng Nglofa Lady Windsor] (D1544/5/15)

rsz_d1544-5-22

“Only History Will Tell”, Golygfa dros adeilad segur yn Nglofa Coedely (D1544/5/22)

 

Cau’r Glofeydd: Diwedd Oes

Mae cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol a’i ragflaenwyr a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dangos cyfnodau da a gwael y diwydiant glo yn Ne Cymru. Drwy gofnodion ariannol gwelwn sut yr oedd cwmnïau mawr y pyllau glo fel Powell Duffryn ac Ocean Coal yn perfformio ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed.

rsz_d1400-2-5-1

Tudalen o Grynodebau Cost Glo’r Glofeydd, Ocean Coal Co. Ltd, 1900-1905 (D1400/2/5/1)

Erbyn 1947 a gwladoli’r diwydiant gwelwn gofnodion sy’n dangos y cynlluniau buddsoddi ac ad-drefnu enfawr y credai’r rhai oedd yn gyfrifol am y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddent yn sicrhau’r diwydiant am flynyddoedd i ddod.

Yn anffodus, mae’r llyfrau hanes yn dweud wrthym nad oedd y dyfodol yn ddisglair i’r diwydiant glo, yn groes i’r honiad a wnaed ar daflen hyrwyddo Cloddfa’r Betws (Sir Gaerfyrddin), oherwydd llai na hanner can mlynedd ar ôl gwladoli, daeth diwydiant glo’r DU i ben.

rsz_dncb-5-1-5-2

Glofa Drifft Betws, taflen o’r lofa, Ion 1984 (DNCB/5/1/5/2)

Mae’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dangos y camau a gymerodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau pan ddaeth y glofeydd i ben. Mae cofrestr cau pyllau glo sy’n dyddio rhwng 1948 a1970 yn rhoi gwybodaeth am allbwn, rhesymau dros gau, nifer y personél, nifer y bobl a drosglwyddwyd neu a gadwyd, ffigurau dileu swyddi amcangyfrifedig, trafodaethau ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr, rhybuddion swydd a roddwyd i ddynion a dyddiad cau’r pyllau. Ategir y trosolwg o’r rhesymau dros gau hwn gan ffeiliau sy’n ymwneud â chau glofeydd unigol, sy’n cynnwys adroddiadau cau, cofnodion, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd a chyfrifon elw a cholled.

rsz_dncb-67-5-20_-pg1

Tudalen o gofrestr cau pyllau glo’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, 1948-1970 (DNCB/67/5/20)

Mae datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd yn ymwneud â chau Tŷ Mawr/Lewis Merthyr, Coegnant, Brynlliw/Morlais, Britannia ac Aberpergwm i’w gweld yn ffeiliau’r adran Cysylltiadau Cyhoeddus. Yn ogystal â hyn, ceir ffeil cysylltiadau cyhoeddus hefyd sy’n cynnwys nodiadau briffio a gohebiaeth ar gau glofeydd ac anghydfodau cyflogau a ffeil yn ymwneud â chau glofeydd, sy’n cynnwys rhestrau amrywiol o lofeydd sy’n rhoi manylion y dyddiadau y gwnaethant agor a’r dyddiad a’r rheswm dros gau.

Ar ôl iddynt gau, cafodd rhai glofeydd fywyd newydd. Mae ffeil sy’n dyddio rhwng 1977 a 1987 yn cynnwys gohebiaeth ynghylch tynged glofa Lewis Merthyr. Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a chynlluniau sy’n ymwneud â’r glofa ynghyd â gohebiaeth ynghylch gwerthu’r tir a chynigion i’w throi’n amgueddfa treftadaeth. Efallai bod rhai ohonoch wedi bod i’r safle ar ei ffurf bresennol fel Parc Treftadaeth y Rhondda.

DNCB-14-1-17

Glofa Lewis Merthyr, tua 1950 (DNCB/14/1/17)

Roedd cau’r glofeydd yn ddiwedd cyfnod a ffordd o fyw i’r rhai ym maes glo De Cymru. Er mwyn coffáu’r ffordd hon o fyw a diwedd y diwydiant, cyhoeddwyd taflenni cofroddion yn dathlu llwyddiannau’r glofeydd ar drothwy eu cau.  Mae enghreifftiau o lofeydd Penalltau a Maerdy wedi goroesi yng nghasgliad Archifau Morgannwg.

DNCB-67-12-4 Mardy brochure

Cofraglen, cau Glofa Maerdy, 1990 (DNCB/5/3/4)

Mae ein catalog Canfod yn rhoi mwy o wybodaeth am yr eitemau hyn a chofnodion eraill sy’n ymwneud â chynnydd a chwymp y diwydiant glo yn Ne Cymru. Dechreuwch eich chwiliad gyda chasgliad y DNCB i weld ble mae’n mynd â chi. Mae catalogio cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol dal ar y gweill, felly parhewch i ddarllen Canfod ar gyfer deunydd newydd http://calmview.cardiff.gov.uk/

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

Knuts Llandaf: Yr ysbyty cyntaf yn Rookwood, 1918

Roedd deunydd blaenorol ar hanes Rookwood yn ymwneud â’r paratoadau ar gyfer gwerthu’r tŷ ym mis Gorffennaf 1917 gan ddefnyddio prosbectws a baratowyd gan Stephenson and Alexander, Arwerthwyr a Thirfesurwyr Siartredig, y Stryd Fawr, Caerdydd. Yn yr erthygl hon fe ailgydiwn yn yr hanes canlynol a dathlu sefydlu’r ysbyty cyntaf yn Rockwood ym 1918, gan mlynedd yn ôl.

Blog-photos-05-09-2018-002-

Mae’r cofnodion ar gyfer Stephenson and Alexander sydd yn Archifau Morgannwg yn cadarnhau y gwnaed ymdrechion glew i werthu’r tŷ a’r ystâd yn ystod haf 1917. Bu bron â’i werthu ar ddau achlysur, gyda ffigyrau amlwg yn y gymuned fusnes leol yn dangos diddordeb. Fodd bynnag, ym mhob achos, roedd y prisiad o £20,000 a roddodd y teulu Hill ar y tŷ a’r ystâd yn ormod. Efallai na fu’n help i werthu’r tŷ y bu Rookwood yn wag ers peth amser bryd hynny. Bu farw Sir Edward Stock Hill ym 1902 ac, erbyn 1917, roedd Lady Hill a’i merch hynaf Mabel yn byw yn Charlton Kings, Swydd Gaerloyw. Roedd rhan fwyaf o frodyr a chwiorydd Mabel yn briod ac yn byw hefyd yn Lloegr a’i brodyr Eustace a Vernon yn bennaf a oedd yn trafod y gwerthiant, ill dau yn byw yn ardal Bryste.  Roedd ystâd Rockwood, felly yn wag, ac roedd llawer o’r celfi wedi eu cludo i gartrefi teuluol yn Lloegr. Awgryma cofnodion y cyflogid dau aelod o staff i ofalu am y tŷ. Yn ychwanegol at hynny, roedd pen garddwr, Duncan McIntyre ac un cynorthwyydd yn edrych ar ôl y gerddi. Mae’n bosibl taw ystryw oedd gostwng y pris, ond cwynai sawl parti â diddordeb fod angen sylw ar y tŷ a’r ardd ac nad oedd y pris yn adlewyrchu’r …gwariant fyddai’n rhaid ei wneud er mwyn gwella’r eiddo.

Ar y pwynt hwn yr ymddangosodd Maud Purnell am y tro cyntaf yn y cofnodion. Yn ystod misoedd olaf 1917 comisiynodd y teulu Hill Stephenson and Alexander i ddechrau gwerthu’r cynnwys a oedd yn weddill yn y tŷ. Wedi’r gwerthiant, ysgrifennodd yr Arglwyddes Hill at yr arwerthwyr yn mynegi ei siom â’r £355 a godwyd a’r methiant parhaus i ganfod prynwr. Mae’n rhaid y daeth yn rhyddhad i bawb dan sylw pan dderbyniwyd llythyr ym mis Chwefror 1918 gan Maud Purnell o Weybridge yn Surrey yn holi a fyddai modd prydlesu’r tŷ i’w ddefnyddio fel ysbyty ar gyfer y Rhyfel.

Roedd Maud Alice Purnell yn ddylanwadol iawn. Er ei bod yn byw yn Surrey gyda’i gŵr, Ivor Purnell, pensaer, hi oedd merch hynaf Philip Morel. Gyda’i frawd, Thomas, a’i frawd yng nghyfraith, John Gibbs, Philip Morel oedd sylfaenydd cwmni llongau Morel, un o’r fflyd llongau mwyaf a mwyaf gwerthfawr a weithredai yng Nghaerdydd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y teulu Morel yn byw yn bennaf yn ardal Penarth ac, ynghyd â’i gŵr cyntaf, Francis Hibbert, gwerthwr corn, roedd Maud yn ffigwr adnabyddus yn ne Cymru. Roedd hi i’w gweld yn aml ar dudalennau’r papurau newydd yn sgil ei hymwneud â’i heglwys a’i gwaith elusennol, gan gynnwys rhoi £1000 ym 1908 ar gyfer gwely yn Ysbyty Morwyr y Royal Hamadryad er cof am ei thad a fu farw’r flwyddyn honno.

Priododd Maud ag Ivor Purnell ym 1913 yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf, ac ar drothwy’r rhyfel, taflodd ei hun yn frwdfrydig i weithio i’r Groes Goch. Gyda sefydlu trydydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yng Ngerddi Howard, roedd Caerdydd yn ganolfan o bwys ar gyfer derbyn y rhai a anafwyd a ddeuai mewn llongau ac ar y rheilffordd o Ffrainc a Gwlad Belg. O ganlyniad roedd angen cael ysbytai ychwanegol llai, lle gellid gofalu am y rhai oedd yn gadael yr ysbytai milwrol tra roeddent yn gwella. Ysgwyddwyd y gwaith hwn gan y Groes Goch gan ddefnyddio gwirfoddolwyr lleol y cyfeiriwyd atynt fel VAD’s (Voluntary Aid Detachments). Roedd 48 Ysbyty’r Groes Goch ym Morgannwg yn unig yn ystod y rhyfel.

Pan briododd Maud ag Ivor Purnell, rhoes ei chyfeiriad fel Lavernock House, Penarth. Roedd llawer o’r ysbytai ychwanegol yn dai mawrion a roddwyd ar fenthyg neu ar rent i’r Groes Goch, ac yn sicr roedd Maud Purnell yn ymwneud ag, ac yn fwy na thebyg yn rhedeg, ysbyty’r Groes Goch yn Lavernock House a ofalai am swyddogion di-gomisiwn a rhengoedd eraill. Ond, erbyn 1918 roedd angen Lavernock House ar yr awdurdodau i ddarparu gwelyau ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Brenin Edward VII yng Nghaerdydd. Roedd Mrs Purnell felly yn chwilio am eiddo addas er mwyn sefydlu ysbyty newydd. Mewn llythyr i Stephenson and Alexander, ar 15 Chwefror 1918, mynnodd benderfyniad buan ar ei chais am brydles. Roed hi hefyd yn osgoi’r confensiynau arferol drwy ofyn am anfon ail lythyr yn uniongyrchol at yr Arglwyddes Hill yn dadlau ei chais.

Of course I am leaving it to Mr Alexander to arrange any reasonable rent but I am writing this to assure you that in the event of our coming to terms I should be living in the house in entire charge myself and am bearing all the expenses, except the Army grant per Officer. I will be responsible that no damage shall be done at all to your very beautiful property [llythyr 15 Chwefror, cyf.: DSA/12/2933].

Llofnodwyd y llythyr â Maud A Purnell, Pencadlywydd Anrhydeddus. Roedd yr Ysbyty cyntaf yn Rockwood, felly, yn ysbyty’r Groes Goch ond wedi ei gadw’n llwyr ar gyfer gofalu am swyddogion. Er bod y teulu Hill yn gobeithio gwerthu, ond ildiont pan ddwedwyd wrthynt na fyddai Mrs Purnell yn fodlon prynu ‘am unrhyw bris’. Erbyn 8 Ebrill roedd y telerau wedi eu cwblhau gyda Mrs Purnell yn sicrhau les i’w hysbyty am £500 y flwyddyn am gyfnod o 12 mis i ddechrau, a chytundeb y byddai’r brydles yn dod i ben 6 mis wedi diwedd y rhyfel.

Fel y tenant, cymerodd Mrs Purnell gyfrifoldeb am gynnal a chadw tu mewn y tŷ a hefyd y tiroedd o’i amgylch, gerddi’r gegin, stablau a’r bythynnod. Etifeddodd hefyd wasanaethau Duncan MacIntyre, y pen garddwr, a oedd yn byw ar ystâd Rookwood Lodge. Roedd yn dipyn o bluen yn ei het am fod Duncan, a hanai yn wreiddiol o Kilmartin yn Argye, a’i wraig Lizzie wedi gweithio i deulu’r Hill am bron iawn i 20 mlynedd. Fel y Pen Garddwr yn Rookwood roedd yn ffigwr lleol parchus a fyddai’n aml yn gweithredu fel beirniad mewn sioeau garddwriaethol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Er ei fod wedi colli llawer o’r staff y byddai Rookwood yn ei fri wedi eu cyflogi i dendio’r gerddi, doedd neb gwell i gynnal a chadw’r ystâd.

Cyhoeddwyd cynlluniau Mrs Purnell ar gyfer Rookwood yn y papurau lleol ym mis Ebrill 1918.

Mrs Ivor Purnell of Penarth has rented Rookwood, Llandaff formerly the residence of Lady Hill for the period of the war and it will shortly be opened as a hospital for officers….Rookwood contains something like twenty bedrooms and if all the accommodation that it provides be utilised it will afford room for not far short of 100 beds [Western Mail, 30 Ebrill 1918].

Dylid cofio, tan yr hydref ym 1918, roedd canlyniad y rhyfel yn gwbl ansicr. Roedd cyrchoedd yr Almaen yn Ffrainc a Gwlad Belg ym mis Mawrth ac Ebrill wedi taflu lluoedd y Cynghreiriaid yn eu holau mewn anrhefn lwyr ac roedd y niferoedd a anafwyd ar y ddwy ochr yn uchel. Roedd y clwyfedig, felly, yn parhau i lifo i Gaerdydd. O ran y penderfyniad i sefydlu ysbyty yn benodol ar gyfer swyddogion, derbyniwyd mai’r confensiwn oedd gofalu am swyddogion ar wahân, a does dim dwywaith y llwyddodd y trefniant hwn i lyfnhau’r trefniadau gyda theulu’r Hill. Ar ben hynny, byddai’r premiwm ychwanegol a delid i ofalu am swyddogion wedi helpu i fantoli’r llyfrau yn ariannol.

Does dim cofnodion penodol gan Amgueddfa ac Archif y Groes Goch yn Llundain ar gyfer Rookwood. Serch hynny, daw cofnodion Stephenson and Alexander i achub y dydd, sef bod angen cytuno ar unrhyw waith ar y tŷ â theulu’r Hill. Roedd y tŷ yn amlwg mewn tipyn o gyflwr. Mewn llythyr i Stephenson and Alexander, dywedodd Ivor Purnell fod  …cyfran sylweddol o’r papur wal mewn cyflwr gwael iawn… a chynigwyd i  …ei stripio neu ei liwio lle’r oedd angen, i gynnal glendid. Ar ben hynny, gwnaed newidiadau ar y llawr cyntaf gan osod ystafelloedd ymolchi newydd a thai bach ychwanegol ar y llawr gwaelod [Llythyr gan Ivor Purnell at Stephenson & Alexander, 30 Mawrth 1918, cyf.: DSA/12/2933]. Y tu hwnt i hyn, i bob pwrpas arhosodd y tŷ’r un fath gyda byrddau wedi eu gosod dros wrthrychau gwerthfawr, gan gynnwys y lle tân yn yr ystafell groeso. Yn ychwanegol at hyn, arhosodd y siandelïer trydanol, y drychau fframiau pres, y cerflun marmor o Clytie a’r cwrbyn pres wrth y lle tân yn yr ystafell groeso, ar berwyl y perchennog, hyd y gellid eu gwerthu neu eu symud oddi yno.

Blog-photos-05-09-2018-005-

Rhedai prydles Mrs Purnell o 8 Ebrill 1918 ac mae’n debygol yr oedd yr ysbyty’n weithredol erbyn diwedd Ebrill. Byddai unrhyw ymwelydd wedi gweld ffigwr sylweddol Mrs Purnell yn ei lifrai Pen cadlywydd coch ac o boptu iddi swyddog cyflenwi, metron a chogydd. Gwirfoddolwyr nyrsio’r Groes goch fyddai wedi staffio’r ysbyty yn bennaf, a fyddai wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf a gofal cartref. O dan eu ffedogau starts gwynion, wedi eu marcio â nod y Groes Goch, byddent wedi gwisgo ffrogiau gleision gyda choleri gwynion wedi eu startsio a llewys uchaf o liain. Erbyn 1918 roedd steil y cyfnod yn newid ac fe gytunwyd y gallai hem y ffrogiau fod cymaint â 6 modfedd yn uwch na’r ddaear. Byddai llawer wedi bod yn newydd-ddyfodiaid o’r cyffiniau ond byddai modd adnabod y rhai â phrofiad blaenorol mewn ysbytai milwrol neu forwrol gyda’r streipiau ar y llawes dde. Yn gyffredinol, gwirfoddolwyr gwrywaidd oedd gan amlaf yn gwneud gwaith codi a chludo stretsieri, mewn lifrai lled filwrol glas.

Nid aeth popeth yn ôl y bwriad, fodd bynnag. Ar 16 Mai 1918 adroddodd y Western Mail y derbyniodd Mrs Purnell a Ruth Hibbert  …wŷs yng Nghaerdydd ddydd Mercher am ddefnyddio car yng Nghaerdydd yn groes i’r Gorchymyn Cyfyngu ar Betrol. Yn ei hamddiffyniad, honnodd Mrs Purnell ei bod ar fusnes swyddogol yn mynd ag un o’i nyrsys, Miss Ruth Hibbert, adref. Fodd bynnag, nid nyrs arferol oedd Ruth. Merch Mrs Purnell o’i phriodas gyntaf oedd hi. Nid oedd modd dwyn perswâd ar yr awdurdodau a derbyniodd Maud Purnell ddirwy o £10 a chafodd Ruth Hibbert rybudd [Western Mail, 16 Mai 1918].

Beth felly am Knuts Llandaf a grybwyllwyd yn gynharach? Ceir ffotograff yn Archifau Morgannwg a all fod o bosib yr unig gofnod ffotograffig o Ysbyty’r Groes Goch Rockwood. Mae’n dangos pum milwr yn wynebu’r camera ac o dan y llun, dywed: ‘Llandaff Knuts, April 1918’ [cyf.: DX308/2].

Blog-photos-05-09-2018-003-

Mae’r pum gŵr mewn lifrai milwrol arferol a wisgai milwyr mewn ysbytai – siacedi gleision a llabedi gwynion, crysau gwynion, tei goch a chapiau catrawd. Dim ond un o’r dynion gaiff ei enwi, John Swallow, sy’n eistedd yn y blaen ar y chwith. Nid yw’r dystiolaeth yn gwbl gadarn ond mae’n debygol eu bod yn rhan o’r criw cyntaf o swyddogion y gofalwyd amdanynt yn Rockwood. Daeth y term ‘knut’ o gân adnabyddus o’r cyfnod ‘Gilbert and Filbert’. Cafodd ei ‘ddiwygio’ a’i fabwysiadu gan filwyr fel ymdeithgan a defnyddiwyd y term ‘knut’ am ‘ddynion ifanc hyd y dref’ – dandïaid.  Mae’n swnio felly, fod y dynion mewn hwyliau da wrth iddynt ymgartrefu yn Rookwood.

Fodd bynnag, roedd eraill â diddordeb yn cael gafael ar Rookwood ac roedd y Pen cadlywydd yn amlwg yn ymwybodol o hyn. Ar 1 Medi 1918 ysgrifennodd Maud Purnell at Stephenson and Alexander:

Will you kindly remember that I am tenant of this property.

Erbyn canol mis Hydref roedd Rookwood wedi ei werthu am bris yn agos at bris cychwynnol y teulu Hill. Roedd gofyn i’r gwerthiant fodd bynnag ystyried amodau prydles Maud Purnell. Rhaid i ni dybio felly, y parhaodd Ysbyty’r Groes Goch Rookwood i Swyddogion tan Ebrill 1919. Mae’n bosib bod hyn wedi gweddu yr holl bartïon oherwydd, yn dilyn llofnodi’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, lleihaodd yr angen am ysbytai ychwanegol. Ond, tra roedd y Groes Goch yn cael ei dirwyn i ben, roedd cyfnod nesaf bywyd Rookwood, hefyd fel ysbyty, eisoes yn cael ei gynllunio gyda gwerthu ystâd Rookwood i Syr Laurence Phillips.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Dyma un o gyfres o erthyglau ar ddigwyddiadau yn Rookwood o’r cyfnod pan adeiladwyd y tŷ ym 1866 hyd at y presennol, yn defnyddio cofnodion ar gadw yn Archifau Morgannwg. Mae’r wybodaeth ar Ysbyty’r Groes Goch yn Rookwood yn dod gan fwyaf o gofnodion Stephenson & Alexander, Arwerthwyr ac Arolygwyr Tir Siartredig, cyf.: DSA/12/2933.