Actwari yw person sydd â’r dasg o werthuso a rheoli risg ariannol, swydd y gellir ei holrhain dros ddau gan mlynedd yn ôl at William Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei gydnabod gan lawer fel tad y proffesiwn.
Ganwyd William Morgan ym 1750, yn fab i feddyg. Ar y dechrau ei fwriad oedd dilyn ôl traed ei dad, ond ym 1774 newidiodd ei yrfa ac fe’i penodwyd yn Gynorthwy-ydd Actwari i’r Equitable Assurance Society. Cafodd ei benodi’n Brif Actwari flwyddyn yn ddiweddarach. Yn ystod gyrfa a barodd am hanner can mlynedd bu’n gyfrifol am sawl datblygiad allweddol ym maes yswiriant bywyd a chyhoeddodd sawl darn o waith am ystadegau a blwydd-daliadau.
Roedd yn wyddonydd medrus a dywedir mai ef ddyfeisiodd y tiwb pelydr-X cyntaf. Roedd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol ac roedd hefyd yn radicalydd gwleidyddol, yn cael ei annog gan ei ewythr, yr athronydd radical Dr Richard Price.
Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad o lythyrau a anfonwyd at William Morgan (cyf: D945). Derbyniodd ohebiaeth oddi wrth clerigwyr ac arglwyddi’r deyrnas ac mae’n amlwg o’r cofnodion hyn ei fod yn uchel ei barch gyda sawl un yn crybwyll cymaint roeddynt yn ymddiried yn ei gyngor ariannol.
Mae’r llythyrau hefyd yn datgelu perthynas bersonol glos rhwng Mr Morgan a’r rhai oedd yn gohebu ag ef. Derbyniodd sawl ymholiad ynghylch ei iechyd, gwahoddiadau i swper, cynnig anrhegion ac ambell nodyn doniol a oedd yn dangos yr hoffter oedd tuag ato.
Yn ystod mis Rhagfyr 1823 nododd Esgob Henffordd ei fod yn gobeithio bod Mr Morgan ‘mewn cystal iechyd nawr ag yr oedd ef y mis Rhagfyr blaenorol’ (D945/1/13). Mae gohebiaeth gan F Burdett (mwy na thebyg y gwleidydd radical, Francis Burdett) yn nodi y byddai’n ‘hapus’ i gael pryd o fwyd gydag ef a’i fod yn edrych ymlaen at bleser cwmni Mr Morgan. Ar yr achlysur hwn fodd bynnag, dim ond ‘pryd sâl iawn’ y gall Mr Burdett addo (D945/1/21).
Mae darn o ohebiaeth arall yn datgelu y cafodd Mr Morgan gynnig anrheg anarferol gan yr Arglwydd Vernon, a oedd erbyn mis Awst 1813 wedi ‘etifeddu Parc Ceirw sylweddol a llawn’. O ganlyniad i ‘natur gyfeillgar’ William Morgan, mae’r Arglwydd Morgan yn cynnig rhodd flynyddol o ‘Hanner Bwch’ (D945/1/6).
Mae sawl llythyr a ysgrifennwyd gan William Morgan wedi goroesi hefyd. Mewn neges ym mis Hydref 1770 mae’n ceryddu ei chwiorydd am beidio ag ysgrifennu ato am ‘amser rhy hir o lawer’ sef pum wythnos gan awgrymu bod rhywbeth arall wedi dwyn eu sylw ac yn gyfrifol am y fath ‘dawelwch hir, hir’ (D945/2/2).
Ymddeolodd William Morgan ym mis Rhagfyr 1830 a’i olynydd fel actwari’r Equitable Assurance Society oedd ei fab ieuengaf, Arthur. Derbyniodd Arthur neges deimladwy yn fuan wedi marwolaeth ei dad ym mis Mai 1833. Ysgrifennodd ei gefnder, Walter, o Landaf drannoeth wedi marwolaeth William, fod ‘tristwch mawr’ yn dilyn ‘y newydd digalon am ymadawiad fy ewythr druan o’r byd hwn’ (D945/3/4).