Dyma’r ail o gyfres o erthyglau am yr adeilad a’r agoriad, ym mis Medi 1883, Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, a elwir bellach yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.
Rhyw 8 mis fu ers ôl gosod y garreg goffa ar gyfer cleifion cyntaf yn yr ysbyty newydd. Roedd nifer y cleifion mewnol yn yr hen ysbyty wedi gostwng yn raddol yn ystod mis Medi 1883 er mwyn hwyluso’r trosglwyddo. Erbyn 24ain Medi dim ond 9 oedd ar ôl, yn bennaf y rhai â thoresgyrn difrifol. Dechreuwyd symud i’r adeilad newydd ar ddydd Iau 20fed Medi, a châi’r cleifion mewnol eu symud ar y dydd Mawrth canlynol. Oherwydd tywydd gwael, fodd bynnag, bu’n rhaid oedi. Roedd yn ddydd Mercher 26ain cyn cawsant eu trosglwyddo, un ar y tro gan dîm o Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan dan oruchwyliaeth Matron Pratt. Ar gyfer y daith fer ar hyd Heol Casnewydd cafodd pob claf ei roi mewn ‘cert’ ambiwlans y gellid ei ddatgymalu a’i gludo i’r ysbyty.
Datganwyd bod yr ysbyty newydd …heb ei ail yng Nghymru… ac mor agos at berffaith ag y gallai fod. Ac eto, ym mis Medi, roedd llawer o ardaloedd yn dal i gael eu hadeiladu, gan gynnwys y blaen mawreddog gyda’r tŵr canolog 80 troedfedd. Fodd bynnag, roedd y ddau brif floc o wardiau, y gegin a’r golchdy wedi’u cwblhau. Roedd yn dda o beth bod nifer cychwynnol y cleifion yn isel. Disgwylid i’r staff, gan gynnwys y Llawfeddyg Preswyl, P Rhys Griffiths, Matron Pratt, nyrsys a phorthorion fyw ar y safle. Roedd yn rhaid iddynt hefyd fyw a chysgu yn un o’r wardiau nes bod eu llety, yn y brif adain a oedd yn wynebu Glossop Road, wedi’i orffen.
Nid oedd hyn yn ddrwg i gyd. Roedd y wardiau newydd wedi cael eu dylunio a’u cyfarparu yn unol â’r ysbytai gorau ym Mhrydain ar y pryd. Roedd dau lawr i bob un o’r ddau floc ward newydd. Ar bob llawr roedd un ward fawr gyda gwelyau ar gyfer 20 claf a thair ward ochr fach. Roedd cegin fechan ac ystafell ddillad hefyd. Er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael digonedd o awyr iach, roedd ystafell ddydd ar un pen i’r ward fawr gyda ffenestri bae mawr y gellid eu hagor yn llydan. Roedd gan gleifion ar y llawr gwaelod fynediad i deras allanol a oedd yn rhedeg ar hyd y ward. Roedd y penseiri’n arbennig o falch o’r trefniadau hylendid, a ddisgrifiwyd fel … tra effeithiol a chyflawn. Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu bod hyd at 30 o gleifion yn rhannu dwy ystafell ymolchi yr un â baddon, sinc a thoiled a dau doiled ar wahân.
Yr offer oedd balchder y lle, a osodwyd i sicrhau bod y wardiau’n cael eu cadw’n gynnes. Bron heb os, y stof Saxon Snell Thermhydric oedd hon, a ddefnyddid mewn ysbytai, ysgolion ac eglwysi ar draws y wlad. Golwg fel bocs teils mawr oedd arni ac roedd yng nghanol y ward i ddal tân glo. Roedd y stof yn cynhesu cyfres o bibellau dŵr poeth haearn a fyddai’n gwresogi aer a gâi ei gludo o amgylch y ward trwy bibellau. Gelwid y system ‘aer cynnes’ chwyldroadol hon …y system wresogi ddiweddaraf a’r orau wedi’i dilysu, ac mae’n eithaf siŵr bod y staff a’r cleifion yn ei chroesawu wrth i fisoedd y gaeaf agosáu. Tynnwyd y ffotograff isod o ward yr ysbyty yn hwyrach o lawer na 1883 ond mae’n rhoi argraff dda o sut y byddai’r ward newydd wedi edrych.
Byddai’r staff wedi bod yn llai bodlon ar y llwybr i’r wardiau o floc y gegin. Er bod gan y llwybr do, roedd yr ochrau’n agored i’r elfennau ac ychydig fyddai wedi loetran yno ar ddiwrnodau oer neu lawog. Mewn modd tebyg roedd gan y tŷ golchi a thrwsio dillad… yr offer gorau ar gyfer golchi a thrwsio llieiniau’r sefydliad cyfan, mewn adeilad ar wahân a oedd y tu hwnt i’r blociau ward. Dim ond ar ôl nifer o gwynion i’r llywodraethwyr gan Matron Platt y cytunwyd y dylid gorchuddio’r llwybr.
Felly pam rhuthrwyd i symud i’r ysbyty newydd? Y gwir oedd bod cyllid yr ysbyty yn aml mewn trafferthion. Dim ond dyddiau cyn y symud cyfarfu’r llywodraethwyr i drafod sut bydden nhw’n dod o hyd i’r £6,000 roedd ei angen eto i dalu am yr ysbyty newydd a’r offer. Roedd y cynnig o £400 y flwyddyn ar gyfer rhoi Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yn yr hen ysbyty i gartrefu yn rhy dda i’w wrthod. Fodd bynnag, daeth y cynnig ag amodau. Roedd angen yr adeilad ar y brifysgol erbyn 29ain Medi er mwyn gallu gwneud gwaith trosi ar gyfer tymor yr hydref. Dyna pam symudwyd yn sydyn i’r adeilad newydd.
Er gwaethaf yr anawsterau, cyn bo hir roedd gwaith yn mynd rhagddo fel yr arfer yn yr ysbyty newydd. Mae’n bosibl mai’r ‘argyfwng’ cyntaf oedd … bachgen bach o’r enw Gibbon roedd ei gefn wedi ei gymriwio yn ddifrifol ar ôl cael ei ddal mewn peirianwaith mewn ffatri fisgedi. Fel arall, gwyddom fod John Roberts wedi cael ei dderbyn 3 diwrnod yn unig ar ôl y symud i’r ysbyty newydd. Labrwr mewn gwaith saim ar y dociau oedd e, cafodd ei daro gan injan wrth dynnu berfa ar draws rheilffordd. Yn wyrthiol, er ei fod yn gleisiau a briwiau i gyd, ni chafodd ei anafu’n ddifrifol. Roedd y ddau achos yn dangos y peryglon mewn gweithle’r 19eg ganrif a’r heriau a oedd yn wynebu’r ysbyty newydd.
Mae Archifau Morgannwg yn cadw cofnodion Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy. Ar gyfer yr adroddiadau blynyddol a luniwyd gan bwyllgor rheoli’r ysbyty o 1837 i 1885 gweler DHC/48-50. Ar gyfer cofnodion Is-bwyllgor Adeilad yr Ysbyty Newydd, gweler DHC/44. Mae’r ffotograff o ward yr ysbyty yn DHC/107/2.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg