Ymgiliad Plant Ysgol o Gaerdydd, 31 Mai 1941

Ar fore dydd Sadwrn 31 Mai 1941, ymgasglodd plant Ysgol Merched Marlborough Road ar iard chwarae Ysgol Gynradd Parc y Rhath. Ddydd Gwener roedd yr ysgol wedi torri ar gyfer gwyliau’r Sulgwyn, ond nid taith wyliau oedd y daith a gynlluniwyd ar gyfer dydd Sadwrn ola’r mis. Roedd pob plentyn yn cario masg nwy a ches bach o eiddo. Roedd ganddynt hefyd label gyda’u henwau a’u hysgol wedi’u cysylltu i’w cotiau. Mewn iardiau ysgol ar draws Caerdydd, roedd grwpiau tebyg yn ymgynnull, a wyliwyd gan rieni pryderus a dagreuol, fel rhan o raglen i yrru plant i fannau diogel i ffwrdd o’r cyrchoedd bomio a ddigwyddai bron yn ddyddiol.

BC_PH_1_34

Heol Casnewydd, 31 Mawrth 1941

Roedd yn eironig bod Caerdydd, ar ddechrau’r rhyfel, ym 1939 wedi cael ei hystyried yn barth cymharol ddiogel y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o awyrennau’r Almaen.   Roedd y ddinas wedi derbyn a gofalu am filoedd o ffoaduriaid, llawer ohonynt o ardal Birmingham.  Erbyn 1941, fodd bynnag, roedd y sefyllfa wedi newid.  Roedd tirnodau adnabyddus ar draws y ddinas, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Llandaf, wedi dioddef gan donnau o gyrchoedd bomio.

BC_PH_1_36i

Heol Penylan, [1940au]

Er bod propaganda’r gelyn yn honni bod yr ymosodiadau yn canolbwyntio ar ardal a ffatrïoedd y dociau, mewn gwirionedd nid oedd unrhyw ran o’r ddinas yn ddiogel. Roedd Ysgol Marlborough Road wedi cael ei bomio ar noson y 3ydd o Fawrth. Roedd ysgol y babanod wedi llwyddo i osgoi difrod sylweddol ond roedd yr adeilad brics coch tri llawr a oedd yn gartref i’r rhan fwyaf o’r disgyblion i bob pwrpas wedi ei wastatáu i’r llawr.

Ailgartrefwyd y disgyblion mewn ysgolion cynradd lleol, gan gynnwys rhai Parc y Rhath a Heol Albany, ond parhaodd bygythiad ymosodiadau eraill. Ar 22 Mai cofnododd Pennaeth Ysgol y Babanod Heol Albany:

Air Raid over the city from 2.15pm-2.30pm. School took shelter in school Air Raid Shelters [EC1/2, t362]

Erbyn hynny roedd yr awdurdod lleol wedi penderfynu, cymaint oedd y perygl, y byddai plant ysgol pum mlwydd oed ac yn hŷn yn cael cynnig i adael Caerdydd.

Gweithredwyd y cynlluniau’n rhyfeddol o gyflym. Dim ond wyth diwrnod oedd rhwng cytuno ar y cynllun gadael ac ymadawiad y plant cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mynychodd Mary Jenkins, Pennaeth Ysgol y Merched Marlborough Road, gyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Addysg i gael manylion y cynllun ac yna defnyddiodd y wybodaeth ar gyfer cyfarfodydd lleol gyda rhieni.

Roedd y cynllun yn wirfoddol a mater i’r rhieni oedd penderfynu a fyddai eu plentyn yn ymuno â’r ymgiliad. Ar gyfer y pedair mil a gofrestrodd, cynhaliwyd archwiliadau meddygol ar ddiwrnod olaf y tymor, y diwrnod cyn ymadael. I’r rhan fwyaf cam syml yn y broses oedd hyn, ond bu o leiaf un plentyn yn Ysgol Fabanod Parc y Rhath yn lwcus i raddau, fel yr adroddodd y Pennaeth:

Fourteen children (two have withdrawn) are being medically examined this morning for evacuation with the school tomorrow. One has Chicken Pox. [EC44/1/2, t119]

Yn y diwedd dim ond deunaw merch o Ysgol y Merched Marlborough Road a ddewisodd ymgilio ynghyd â deuddeg o blant o ysgol y babanod. Ymunodd pedwar deg pump o ddisgyblion o Ysgol y Bechgyn Parc y Rhath a 165 o ddisgyblion o Ysgol Heol Albany. Ar ben hyn, anfonodd llawer o rieni eu plant at deulu a ffrindiau yn hytrach na chofrestru ar gyfer y cynllun swyddogol.

Ddydd Sadwrn 31 Mai teithiodd merched Marlborough Road gyda’u hathrawon, ar dram mae’n debyg, i ganol Caerdydd ac yna, ar y trên i ddechrau, i’w cyrchfan, sef Pontlotyn.  Ym Mhontlotyn fe’u cymerwyd i neuadd dderbyn ganolog lle’r oedd pobl leol, a oedd wedi cytuno i gartrefu’r plant, wedi ymgasglu.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar 2 Mehefin, cofnododd Mary Jenkins:

Eighteen of our girls were taken to Pontlottyn on 31st May. Reports are that they are happy and satisfactorily settled. [EC20/1, tt322-3]

Er ei fod yn llai na 30 milltir o Gaerdydd, mae’n rhaid ei fod wedi ymddangos fel byd gwahanol, yn byw gyda theulu newydd, mewn amgylchedd anghyfarwydd ac yn mynd i’r ysgol leol. Byddai’r bechgyn o Barc y Rhath wedi cael profiad tebyg, dim ond yn eu hachos hwy roedd y parti o bedwar deg pump wedi ei wahanu gyda’r bechgyn yn cael eu cartrefu ym Medlinog, Trelewis ac Ystrad Mynach. O leiaf roedd rhai wynebau cyfarwydd yn yr ysgol gydag athrawon o ysgolion Caerdydd yn ymuno â’r staff lleol.

Er gwaethaf sylwadau calonogol Miss Jenkins, pan ailagorodd ysgolion Caerdydd ar ôl y gwyliau cafwyd adroddiadau bod llif cyson o blant yn dychwelyd.  Er bod y gwyrddni a’r bryniau yn dipyn o newid i lawer, wedi’i osod yn erbyn hyn roedd y plant yn hiraethu’n daer am gael mynd adref. Gyda rhieni’n aml yn ymweld dros y penwythnos roedd temtasiwn cryf i dynnu’n ôl o gynllun a oedd, wedi’r cyfan, yn un gwirfoddol. Yn ogystal, roedd cyrchoedd awyr ar Gwm-parc a Chwm-bach wedi cadarnhau nad oedd y Cymoedd yn ddiogel rhag ymosodiad.

Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf roedd dros 500 o blant wedi dychwelyd i Gaerdydd, gan gynnwys tri o fechgyn Parc y Rhath.  Roedd gweithio ynghlwm â’r ymgiliad hefyd yn amhoblogaidd gyda staff addysgu. O ganlyniad i’r niferoedd isel yn gwirfoddoli i weithio i ffwrdd o Gaerdydd, ym mis Mehefin, gwnaeth y Pwyllgor Addysg hi’n ofynnol i bob athro, pan ofynnid iddo wneud hynny, weithio am un tymor, a ymestynnwyd yn ddiweddarach i hyd at flwyddyn, mewn ysgol lle’r oedd plant a adawodd Gaerdydd wedi’u gosod. Ar 24 Mehefin 1941 nododd Pennaeth Ysgol y Merched Parc y Rhath:

Miss Clarissa Thomas was transferred to the Reception Area at Trelewis for the remainder of this term [EC44/3/2, t3]

Roedd penaethiaid ledled Caerdydd yn ysgrifennu cofnodion tebyg wrth i staff gael eu symud i weithio gyda phlant yr ymgiliad.

Erbyn diwedd 1941 roedd dros hanner y rhai a adawodd wedi dychwelyd.   Er na chiliodd y bygythiad o ymosodiadau awyr ar Gaerdydd tan ymhell i mewn i 1943, roedd mwyafrif helaeth y faciwîs wedi dychwelyd i’r ddinas erbyn hynny. I’r rhai a arhosodd am y cyfnod cyfan roedd yn brofiad a arhosodd gyda nhw weddill eu hoes. Efallai mai un o’r faciwîs mwyaf adnabyddus oedd Betty Campbell a ddaeth, mewn blynyddoedd i ddod, yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Mount Stuart. Mewn cyfweliad, wedi’i recordio ac ar gael ar-lein, siaradodd Betty â disgybl o Ysgol Gynradd y Santes Fair am ei phrofiad, fel plentyn saith oed, o gael ei symud o’r Santes Fair i ysgol yn Aberdâr.  Mae’r cyfweliad – Antur Faciwî – i’w ganfod ar wefan y BBC https://www.bbc.co.uk/teach/class-clips-video/history-ks2-an-evacuees-adventure/zk7hy9q

Dyma’r gyntaf mewn cyfres fer o erthyglau am Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel gan dynnu ar y cofnodion a gedwid gan Benaethiaid ysgolion ar y pryd. Am fanylion llyfrau log yr ysgolion a gedwir ar gyfer 1939-45, cysylltwch ag Archifau Morgannwg www.archifaumorgannwg.gov.uk.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Eglwys y Santes Ffraid, Saint-y-brid

Mae gan Eglwys y Santes Ffraid wreiddiau Normanaidd, er mai bwa’r gangell yw’r unig nodwedd arwyddocaol i oroesi o’r cyfnod hwnnw.  Ailadeiladwyd yr eglwys yn y 14eg ganrif a’i hadfer yn helaeth yn y 1850au.  Ychwanegwyd tŵr trillawr yn y 15fed ganrif; er ei fod bellach yn gartref i chwe chloch, mae ei natur sylweddol a chadarn iawn yn awgrymu y cafodd hwn ei ddylunio’n wreiddiol fel adeiledd amddiffynnol.

D1093-1-6 p22

Fel y gwelir o frasluniau Mary Traynor, mae prif fynedfa’r eglwys ar yr ochr ogleddol, sy’n anarferol.  Y tu mewn i’r eglwys mae nifer o gofebion diddorol, yn benodol i aelodau o’r teuluoedd Butler a Wyndham, a oedd yn berchnogion olynol ar Gastell Dwnrhefn yn Southerndown.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
  • Newman, John: The Buildings of Wales – Glamorgan
  • Orrin, Geoffrey R: Medieval Churches of the Vale of Glamorgan
  • Rowlands, Bill: St Bridget’s Church, St Brides Major (Canllaw Eglwys)
  • https://en.wikipedia.org/wiki/Dunraven_Castle

Eglwys y Santes Ann, Snipe Street, Caerdydd

Adeiladwyd Eglwys y Santes Ann – capel anwes i Eglwys y Santes Marged yn y Rhath – i ddarparu ar gyfer poblogaeth gynyddol yn ardal Plasnewydd.  Credir bod gwasanaethau bob amser wedi dilyn y traddodiad Eingl-Gatholig, neu’r traddodiad Uchel-Eglwysig.

D1093-1-1 p7

Y pensaer oedd Joseph Arthur Reeve, yr arddangoswyd ei gynlluniau ar gyfer yr eglwys yn yr Academi Frenhinol.  Yn anffodus, roeddent yn rhy uchelgeisiol a dim ond y gangell oedd wedi’i chodi yn ôl cynllun gwreiddiol Reeve pan gafodd yr eglwys ei chysegru ym mis Medi 1887.  Ychwanegwyd corff mwy diymhongar yn y 1890au, gan roi golwg anarferol i Eglwys y Santes Ann.  Mae gwedd flaen Snipe Street – a ddarluniwyd ym mraslun Mary Traynor – yn awgrymu adeilad mawreddog gyda changell uchel, meindwr a thransept gogleddol (ni chwblhawyd y transept deheuol arfaethedig erioed), tra bod yr olygfa o Crofts Street yn un o eglwys ychydig yn fwy diymhongar, yn swatio y tu ôl i’w hen ysgol – a ddaeth yn Feithrinfa y Pelican yn 2015.

Erbyn 2015, roedd y cynulleidfa’r eglwys wedi lleihau i tua dwsin.  Gan yr amcangyfrifwyd y byddai’r atgyweiriadau angenrheidiol yn costio £250,000, penderfynwyd cau Eglwys y Santes Ann; cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ar Noswyl Nadolig y flwyddyn honno.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: