Dyddiadur Rhyfel Augustus William Goldsworthy

Ganed Augustus William Goldsworthy (Gus) yn Sir Fynwy ym 1886. Prin yw’r cofnodion am ei fywyd cynnar, heblaw’r ffaith iddo fynychu Ysgol Fethodistaidd Wycliffe yng Nghaerloyw. Roedd ei deulu’n adnabyddus yn Sir Fynwy a Chasnewydd, gan ddal swyddi pwysig mewn diwydiant a llywodraeth leol. Roedd y teulu hefyd yn aelodau gweithgar iawn o’r mudiad Methodistaidd Wesleaidd yn Ne Cymru.  Ar ôl cwblhau ei addysg, cymhwysodd Gus fel Bargyfreithiwr, ac roedd yn aelod o’r proffesiwn hwnnw tan iddo ymrestru â Byddin Ymgyrchol Dramor Canada (The Canadian Overseas Expeditionary Force (CEF)) ar 25 Medi 1914. Ni chofnodwyd ei resymau dros ymuno â’r CEF yn hytrach na’r Fyddin Brydeinig, fodd bynnag, erbyn diwedd y rhyfel yn 1918 roedd o leiaf 50% o aelodau’r CEF yn ddynion a aned ym Mhrydain.

Mae’r dyddiadur ei hun yn nodi manylion symudiadau Goldsworthy yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel. Mae ei gofnodion cynnar, sy’n sôn am fisoedd cyntaf y Rhyfel, yn nodi manylion cryno am ei leoliadau yn y DU ac Ewrop. Ym mis Mai 1915 mae’n cyfeirio at ymladd yn Ymwthiad Ypres ym mrwydr Festubert, lle chwaraeodd lluoedd Canada ran amlwg. Yn ystod yr ymladd yn Ymwthiad Ypres defnyddiwyd nwy gwenwynig am y tro cyntaf gan Fyddin yr Almaen. Ceir disgrifiadau o’r amgylchiadau erchyll yn Fflandrys yng nghofnodion Goldsworthy yn ystod Mai a Mehefin 1915:

D331_24 22 May 1915

22 Mai 1915Proceeded to trenches at Festubert, rained all night devil of a fatigue carrying bombs to front line, slept on a manure heap by mistake.

D331_24 23 June 1915

23 Mehefin 1915Proceeded to Estaires slept in a field two days there, marched to Ploegsteert [known to the Tommies as Plugstree]. Got into position at Rotten Row. Devil of a march 15 miles ended up carrying two rifles…

Roedd yn gyffredin i filwyr Prydeinig enwi’r gwahanol ffosydd ar faes y gad ar ôl enwau mannau ym Mhrydain. Ar hyd y rhan hon o’r ffrynt, gelwid y ffosydd yn Hyde Park Corner, The Strand ac enwau llawer o safleoedd adnabyddus eraill yn Llundain, gan ddangos cysylltiad cryf â’r ddinas honno.

Mae cofnod yn ystod mis Tachwedd 1915 yn nodi manylion trosglwyddiad Goldsworthy i gatrawd 1af Sir Fynwy. Mae cofnodion mis Ionawr 1916 yn disgrifio dychwelyd i Ffrainc ac ymadael i’r Aifft a Chamlas Suez:

21 Ionawr 1916Landed at Alexandria stayed at Winter Palace…joined sporting club played tennis- no parades…

28 Ionawr 1916Battalion sailed for France

29 Ionawr 1916I proceeded to France with details.

Ni wyddys y rhesymau am daith am gyfnod mor fer am un wythnos i’r Dwyrain Canol, ac ni nodwyd unrhyw fanylion yn y dyddiadur.

Mae cofnodion olaf y dyddiadur yn disgrifio dychwelyd i Ffrainc ym mis Chwefror 1916. Dyna ddiwedd cofnodion y dyddiadur, ac nid oes manylion ychwanegol ar gael ymhlith ein cofnodion yn Archifau Morgannwg. Fodd bynnag, yn sgîl cofnodion milwrol, gwyddom fod Gus Goldsworthy wedi goroesi’r rhyfel.  Fe’i hanafwyd yn ddifrifol, a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. Bu farw ym 1950 yn y Faenor, Sir Frycheiniog.

John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Yr Heddlu yn Ne Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, recriwtiwyd nifer fawr o swyddogion Heddlu Morgannwg a heddluoedd bwrdeistrefi’r De i’r lluoedd arfog.  Yn sgîl hynny, roedd llawer o swyddi gwag yn yr heddlu, ac ymrestrodd rhai o’r rheini nad oedd wedi ymuno â’r lluoedd arfog i ymuno â’r heddlu.  Adlewyrchir hynny yn adroddiadau papur newydd y cyfnod, a gedwir ymhlith y llyfrau torion papur newydd a gasglwyd gan Heddlu Bwrdeistref Caerdydd:

‘Many citizens have enrolled themselves as special constables at Cardiff and have signified their intention of rendering service gratis’; ‘355 special constables recruited’.  Heddlu Bwrdeistref Caerdydd, torion papur newydd (DCONC/5/46)

‘The number of special constables in Cardiff is around 1100 and 1200. There are 228 vacancies due to many who have joined the colours’.  Heddlu Bwrdeistref Caerdydd, torion papur newydd (DCONC/5/52)

Gan fod cymaint o ddynion wedi ymuno â’r lluoedd arfog, roedd yn gyfle i fenywod gymryd rhan ym mhatrolau’r heddlu, yn ogystal â’r gwaith roeddent yn ei gyflawni eisoes o ran goruchwylio, chwilio a hebrwng menywod a phlant yn y ddalfa.  Mae cofnodion Cydbwyllgor Sefydlog [Yr Heddlu] Cyngor Sir Forgannwg yn nodi’r canlynol:

Police

‘By permission of the Chairman I have made small temporary advances of 10s. per week to the wives of the reservists recalled to the Colours, for their immediate requirements.  Seven of these are stationed in County Police cottages, which must be kept at the disposal of the Police’.  Cydbwyllgor Sefydlog [Yr Heddlu] Cyngor Sir Forgannwg, cofnodion (GC/SJ/4/2)

Roedd llawer o’r heddweision benywaidd yn wragedd dynion a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.  Fodd bynnag, er eu bod yn cael eu gweld y tu allan i orsaf yr heddlu yn amlach nag o’r blaen, roedd patrolau’r swyddogion heddlu benywaidd fel arfer yn canolbwyntio ar atal menywod rhag ‘mynd ar gyfeiliorn’, yn foesol ac yn llythrennol, tra bod heddweision gwrywaidd yn cyflawni dyletswyddau eraill.

Roedd angen i’r dynion a oedd yn ymuno â’r heddlu fod yn ymwybodol y gallent gael eu galw i wasanaethu yn y lluoedd arfog rywbryd yn y dyfodol:

‘…the only men belonging to the special police who can regard themselves as exempt from military services are those of 35 and over’.  Heddlu Bwrdeistref Caerdydd, torion papur newydd (DCONC/5/52)

Amcangyfrifwyd bod tua 60-70% o’r dynion a ymrestrodd fel cwnstabliaid arbennig yn y De ar ddechrau’r rhyfel wedi’u cynnwys o dan ddarpariaethau’r gorchymyn uchod.

Yn anochel, gwnaeth llawer o’r cwnstabliaid hynny a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yr aberth eithaf dros y wlad:

‘The Head Constable reported that Constable Camfield was killed in action between 14-16 Sep at Soupir, France’.  Cyngor Bwrdeistref Caerdydd, cofnodion (BC/C/6/49)

‘The Head Constable reported that the following members of the Force had been killed in action, namely, Constable Bert Clements, 34c, Constable Frank Willis, 43c, and Constable Frank Ford, 17b’; ‘The Head Constable reported the deaths of Constable Thomas Lemuel Jones and Constable Walter John Twining. PC Jones was a Reservist of the Grenadier Guards, and PC Twining on 6 Sep rejoined his old Regiment the 10th Hussars’.  Cyngor Bwrdeistref Caerdydd, cofnodion (BC/C/6/50)

‘The Head Constable reported the death of Lance-Corporal HJ Fisher, of the Welsh Guards, killed in action in France on 16 Sep’.  Cyngor Bwrdeistref Caerdydd, cofnodion (BC/C/6/53)

‘The Head Constable reported the death of Probationer Constable Milton Horace Wood, a Reservist of the RAMC, who married after leaving the Force, and left a widow and child behind him’.  Cyngor Bwrdeistref Caerdydd, cofnodion (BC/C/6/55)

‘Welsh Guardsman George Lock ex Cardiff Police killed in action’.  Heddlu Bwrdeistref Caerdydd, torion papur newydd (DCONC/5/51)

Cafodd llawer ohonynt eu hanafu, felly nid oeddent yn ffit i wasanaethu gyda’r heddlu ar ôl dychwelyd o’r lluoedd arfog:

‘25 of our men have been discharged from the Army for various reasons.  Of these, five have not rejoined the Force, four have rejoined the Force and then left on account of their health or to obtain more remunerative employment, and 16 are still serving in the Force’.  Cydbwyllgor Sefydlog [Yr Heddlu] Cyngor Sir Forgannwg, cofnodion (GC/SJ/4/2)

Wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen, roedd nifer cynyddol o Heddweision yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac er gwaethaf recriwtio sifiliaid fel y nodwyd uchod, roedd prinder y cwnstabliaid yn peri pryder i’r heddlu:

‘The Military Authorities having now further depleted the Police Force beyond the 250 which the Committee deemed indispensable for their general duties (which are very heavily increased), the attention of the Chief Constable was called to the resolution of the March 1917 meeting of the Committee as to the Police not undertaking voluntary work for the Military Authorities, which they expect will be carried out’.  Cydbwyllgor Sefydlog [Yr Heddlu] Cyngor Sir Forgannwg, cofnodion (GC/SJ/2/2)

Drwy gydol y Rhyfel, roedd disgwyl i’r Heddlu barhau i gyflawni eu dyletswyddau o orfodi’r gyfraith yn y meysydd yr oeddent yn gyfrifol amdanynt. Daeth rhai cyfreithiau newydd i rym yn sgîl y rhyfel yn benodol , yn bennaf yn sgîl Deddf Amddiffyn y Deyrnas 1914; un enghraifft oedd gorfod pylu goleuadau gyda’r nos:

‘…the Head Constable communicated with those Lighting Authorities, Companies or persons within the City whom he may think necessary, requested them to take steps gradually to diminish their lights from the hours of 10pm to 12 midnight, after which latter hour all prominent lights must be extinguished or subdued in such a manner as not to be visible from above’.  Cyngor Bwrdeistref Caerdydd, cofnodion (BC/C/6/49)

Ymhlith yr enghreifftiau eraill roedd gwaharddiadau ar werthu alcohol, carcharu heb dreial, sensoriaeth o ran geiriau argraffedig a geiriau llafar a chyfyngiadau o ran symudiad estroniaid; gan gynnwys ffoaduriaid o Wlad Belg neu gyn-drigolion yr Almaen ac Awstria.  Arweiniodd amheuon y cyhoedd Prydeinig ynghylch cyn-drigolion yr Almaen at derfysgoedd y bu’n rhaid i’r Heddlu fynd i’r afael â nhw:

‘On the 15th May 1915, anti-German riots took place at Neath, and some looting occurred.  The Neath Police were overpowered, and Supt. Ben. Evans, of the “D” or Neath Division of the County Police, sent three Inspectors, three Sergeants, four acting sergeants, and 12 Constables to their assistance.  With the Assistance of this Force the riot was quelled’.  Cydbwyllgor Sefydlog [Yr Heddlu] Cyngor Sir Forgannwg, cofnodion (GC/SJ/4/2)

Roedd gwrthdaro rhwng heddychwyr a chefnogwyr y rhyfel yn broblem arall i’r Heddlu. Arweiniodd y gwrthdaro hwn at olygfeydd rhyfeddol ar un achlysur mewn neuadd yng Nghaerdydd:

‘Scenes were witnessed in Cardiff when protesters against the peace policy of the National Council for Civil Liberties stormed the Cory Hall and forced the delegates to abandon their meeting. A meeting had been held previously to take steps to prevent the holding of the conference. A procession was arranged and when they arrived at the Hall, where they were unopposed by the police but met resistance, but were able to gain entrance and soon the delegates lead by Mr Ramsay Macdonald MP beat a retreat. There were no arrests’.  Heddlu Bwrdeistref Caerdydd, torion papur newydd (DCONC/5/52)

Ar ôl diwedd y rhyfel, dechreuodd yr Heddweision fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ddychwelyd i’w gwaith blaenorol, gan gymryd lle’r gwirfoddolwyr:

‘The strength of the Force is 627, being 101 below authorised strength of 728. There are also 74 members with the Private companies, including five Weights and Measures Inspectors.  I herewith append a schedule showing the number of men who have returned to the Force from Active Service, and their state of health:  No. of men returned unfit for further Military Service 57. No. of men returned to the Force upon demobilisation 198. No. of men passed as ‘Fit for Police duty’ and now serving in the Force 169. No. of men placed ‘Upon probation to come up before the doctor for re-examination’ 35. No. of men placed ‘Upon Light duty’ and to come up for re-examination 14. No. of men who have returned, unlikely to completely regain their health, who have now made a start in another profession 34. No. of men who have died since returning to the Force 3’.  Cydbwyllgor Sefydlog [Yr Heddlu] Cyngor Sir Forgannwg, cofnodion (GC/SJ/4/2)

Gan fod cymaint o heddweision wedi’u lladd neu eu hanafu tra’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, nid oes syndod bod diffyg heddweision yn ystod y cyfnod yn union wedi’r rhyfel.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro

Stori Tomi: Arthur Cornelius Hobbs

Mae’r Casgliad yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion helaeth yn ymwneud â sawl agwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf.  Mae’r rhain yn amrywio o bolisïau a chyfarwyddebau llywodraethol swyddogol, boed yn lleol neu genedlaethol, i ddogfennau’n adlewyrchu effeithiau’r rhyfel ar y boblogaeth gyffredinol. Mae’r darn byr hwn yn disgrifio’r dogfennau y gallai’r milwr cyffredin fod wedi’u casglu a’u cadw fel cofnod o’i amser yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod rhyfel 1914-18.

Nid yw cofnodion Arthur Cornelius Hobbs yn disgrifio unrhyw frwydrau mawr nac yn ddyddiadur o fuddugoliaethau a methiannau’r Rhyfel, ond maent yn dogfennu bywyd y fyddin ar flaen y gad.

Ganed Arthur ym Morebath, Dyfnaint ym mis Rhagfyr 1875, lle bu’n gweithio fel halltwr pysgod.  Nid oes unrhyw gofnodion yn yr Archifau sy’n disgrifio ei fywyd cyn iddo ymuno â’r fyddin ac ymrestru ar 4 Awst 1916. Ceir copi o’r hysbysiad a oedd yn ei orchymyn i wneud hynny ymysg ei bapurau.  Erbyn yr adeg hon o’r Rhyfel, nid oedd y fyddin yn cynnwys gwirfoddolwyr; roedd yn ofynnol i ddynion abl o fewn grwpiau oedran penodol wasanaethu yn y lluoedd arfog. Byddai Arthur, yn yr un modd â’r recriwtiaid eraill, wedi bod yn ymwybodol bod brwdfrydedd y gwirfoddolwyr ar ddechrau’r rhyfel ym 1914 wedi diflannu’n llwyr yn sgîl adroddiadau am nifer y marwolaethau a ddioddefwyd yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhyfel.  Roedd hyn yn arbennig o wir ym mis Awst 1916; roedd Brwydr y Somme yn ei hail fis ac roedd Byddin Prydain yn colli mwy o ddynion nag erioed. Er nad oedd Arthur ar flaen y gad yn ystod y cyfnod hwn, creodd ei ffotograffau, sydd mor gadarn eu natur o ystyried y digwyddiadau trychinebus yn Ffrainc a thu hwnt, gryn argraff arnom.

D1207

Mae papurau Arthur yn cynnwys nifer o gardiau cyfarch yn dathlu’r Nadolig a phenblwyddi, yn ogystal â digon o enghreifftiau o gariad Byddin Prydain at waith papur! Ceir indenturau ar gyfer dognau, gan gynnwys bara, sigaréts ac olew morfilod, ynghyd â derbynebion ar gyfer dosbarthu a dychwelyd offer. Ymysg y papurau mwyaf diddorol mae rhaglen ar gyfer cynhyrchiad yr 85ain Ysbyty Maes o Aladdin, a cherdyn ‘Ffrangeg i Ddechreuwyr’ ag ymadroddion defnyddiol arno, megis ‘Pa ffordd i Baris?’

Goroesodd Arthur Hobbs y rhyfel.  Dychwelodd adref, symudodd i’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a gweithiodd mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys fel fforman glo, cyn ymddeol ym mis Mawrth 1938. Roedd hefyd yn Gomisiynydd Dosbarth ar gyfer Sgowtiaid De Cymru. Bu farw ar 6 Rhagfyr 1939 yn 63 oed.

John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffoaduriaid o Wlad Belg ym Morgannwg

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914, un o’r grwpiau o bobl cyntaf yr effeithiwyd arnynt oedd trigolion Gwlad Belg. Gan ofni erledigaeth gan fyddin yr Almaen a oedd yn llifo i mewn i’r wlad, penderfynodd tua 250,000 ohonynt adael Gwlad Belg a symud i’r Deyrnas Unedig, sef y mewnlifiad mwyaf o ffoaduriaid yn hanes Prydain. Daeth rhai o’r rheiny i fyw yng Nghymoedd De Cymru.

Roedd gan y plwyfi a chapeli lleol eu rhan i’w chwarae o ran helpu’r ffoaduriaid:

Proposed by Councillor D. Bayliss that the council should recommend to the Public Meeting that as many persons as possible in the Parish should subscribe a certain sum weekly, to maintain a family of Refugees during the period of War. Carried. Cyngor Plwyf Sant Ffraid (P78)

It was proposed by Councillor D Lewis that they allow rates to be free on the Belgian Refugee House. Carried. Cyngor Plwyf Sant Ffraid (P78)

Mr Brown gave particulars of the offered apartments in Albany Road & after consideration Mr Roberts proposed and Mrs Farrar seconded that the house in Albany Road be taken subject to the Belgian Relief Committee agreeing to furnish same. Carried. Eglwys Ddiwygiedig Unedig Parc y Rhath (D601/7)

Yr awdurdodau lleol gymerodd y cyfrifoldeb am les y ffoaduriaid yn y pen draw. Byddai’n rhaid iddynt fod wedi delio ag amrywiaeth o faterion. Un o’r meysydd yr oedd rhaid iddynt delio ag o oedd iechyd y ffoaduriaid:

He reported that he had received a warning from the Authorities that a case of small pox had occurred at the Earls Court Refugee Camp for Belgians and he had therefore visited the refugees from that camp who were at Angelton Cottage and found a child there with suspicious symptoms. He had called on the Medical Officer who had instructed him to report on the case on Monday next. It was moved by Mr R. John seconded by Mr W.A. Howell and Resolved that, if the case proves to be small pox, the Clerk be instructed to give twenty four hours notice to the Hospital Committee to clear the Small Pox Hospital ready for its reception. Cyngor Dosbarth Gwledig Penybont (RDPB/C/14)

Hospitals

Letter from the War Refugees Committee asking that the recent Belgian refugees be treated locally and free of charge, as many were sick, convalescent and suffering from nervous shock, infectious disease etc. and were, in the most, entirely without means. Resolved that the council are prepared to deal with local cases in their Accident and Surgical Hospital and Infectious Diseases Hospital. Cyngor Dosbarth Trefol Y Barri (BB/C/1/20)

Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ceisio helpu’r ffoaduriaid drwy ostwng neu gael gwared yn gyfan gwbl ar gostau eu llety a threuliau eraill:

…that the Collectors be instructed not to collect rates from premises occupied by Belgian Refugees… Cyngor Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud Faerdref (RDLL/C/13)

Resolved that the Belgian Refugees in Penarth be allowed to use the Baths free of charge. Cyngor Dosbarth Trefol Penarth (UDPE/C/1/4)

Roedd yr awdurdodau yn ceisio helpu’r ffoaduriaid mewn ffyrdd eraill yn ogystal, un ai eu hunain neu drwy grwpiau gwirfoddol:

The Chairman submitted a letter he had received from the Central Committee asking the Council to organize another Christmas Day collection for the relief of the Belgian Children. Resolved that the Council support the movement and that the following members be requested to make the necessary arrangements for their respective wards… Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw (UDOG/C/1/11)

The Deputy Clerk reported that arrangements had been made for a visit of the Belgian Artistes to Porthcawl on Friday next and that the use of the Pavilion had been granted free of charge by Mr Conrad. Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl (UDPC/C/1/10)

That public meetings be held in the various parts of the District with a view to making arrangements for housing and for providing for the comfort and maintenance of the Belgian Refugees. Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar (UDMA/C/4/12)

Library

The Librarian stated that Mr H Stanley Jevons had sent a number of French books on loan for the use of the Belgian Refugees. Cyngor Bwrdeistref Caerdydd (BC/C/6/50)

A letter was read from Mrs Marychurch, applying for work for a Belgian Refugee as Book Repairer or Binder. Cyngor Bwrdeistref Caerdydd (BC/C/6/50)

Un o dasgau’r awdurdodau lleol oedd helpu swyddfa’r Cofrestrydd i ddogfennu pobl gwlad Belg a ffoaduriaid eraill. Erbyn dechrau 1915 roedd yr awdurdodau lleol wedi canfod bod nifer y ffoaduriaid o Wlad Belg ledled Morgannwg fel a ganlyn:

Dynion dros 16 oed – 408; Merched dros 16 oed – 505; Bechgyn – 212; Genethod – 202; Cyfanswm – 1327.  Pwyllgor Cymorth Gofid Rhyfel Cyngor Sir Morgannwg (GC/WD/1)

Mae’n werth nodi na adawodd pob Belgiad ei wlad a dod i’r DU; arhosodd llawer, ac roedd rhywfaint o’r gwaith elusennol a wnaed yn y DU er budd y rheiny oedd dal yng Ngwlad Belg:

The National Committee…have for some time been £30,000 short each week of the amount necessary to provide the irreducible minimum of one meal per day…may I beg that you will give this appeal your most sympathetic consideration. Siambr Fasnach Corfforedig Caerdydd (DCOMC/1/8/18)

Cyn pen blwyddyn ar ôl diwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1918, roedd 90% o’r ffoaduriaid o Wlad Belg ym Mhrydain wedi dychwelyd adref. Daeth y rheiny a arhosodd yn aelodau o gymdeithas Prydain, gan ddiflannu o olwg y genedl, ac felly daeth stori’r ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof ymhen fawr o dro.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Yr Orffwysfa, Porthcawl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym 1862 agorodd Dr James Lewis Yr Orffwysfa ar gyfer Pobl Anabl, Cleifion Ymadfer a Chleifion Manwynnog (sef The Rest for Invalids, Convalescents and Scrofulous Patients yn Saesneg) yn Notais, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg, a oedd yn cynnwys tri bwthyn a oedd yn eiddo iddo. Y nod oedd sicrhau bod rhywle ar gael i bobl a anafwyd neu bobl ag afiechydon wella ynddo, gan gael budd o awyr iach glan y môr, deiet iachus ac ymarfer corff. Y nod oedd symud yr Orffwysfa i safle mwy o lawer. Bu Dr Lewis mewn cysylltiad â Florence Nightingale ym 1871 i drafod sut y dylid cynllunio adeilad o’r fath.

DXEL-5-1 004

Dewiswyd dyluniad i’w godi ger Porthcawl ym 1874, ond yn fuan wedyn daeth i’r amlwg na fyddai’n bosibl codi’r arian yr oedd ei angen, oherwydd chwalfa’r diwydiant haearn a’r lleihad ym mhris glo. Awdurdodwyd fersiwn llai o faint o’r cynllun ym 1876, a chwblhawyd y gwaith ym 1878. Roedd poblogrwydd cynyddol Yr Orffwysfa drwy gydol y 1880au yn golygu nad oedd y cyfleusterau’n ddigon mawr mwyach, ac agorwyd estyniad newydd ym 1893 ar gyfer cleifion benywaidd. Agorwyd adain newydd o’r ysbyty ym 1897, agorwyd estyniad ychwanegol ar gyfer plant ym 1900, ac agorwyd estyniad arall ym 1909, felly erbyn hynny roedd Yr Orffwysfa yn edrych fel y dylai fod wedi yn ôl cynlluniau gwreiddiol yr 1870au. Ym 1913 prynodd Pwyllgor Rheoli’r Orffwysfa Westy Dunraven yn Southerndown, er mwyn creu llety ar gyfer menywod a phlant.

Cynigiwyd y syniad y gellid rhoi llety i filwyr a morwyr a oedd yn ymadfer yn ystod Rhyfel y Boeriaid yn wreiddiol, er bod y Swyddfa Ryfel wedi gwrthod y cynnig hwnnw. Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ychydig fisoedd yn unig ar ôl i’r Orffwysfa yn Southerndown agor. Unwaith eto, cynigiodd y Pwyllgor Rheoli y gellid rhoi llety i filwyr clwyfedig yn y ddau safle, ond bryd hynny roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel eisoes wedi sicrhau bod dros 20,000 o welyau ar gael i’r lluoedd arfog, a’r disgwyl oedd y byddai’r rhyfel ar ben erbyn y Nadolig, felly gwrthodwyd y cynnig unwaith eto. Gan hynny, ffoaduriaid o Wlad Belg oedd y cyntaf i gael llety yn Yr Orffwysfa yn sgîl y Rhyfel.

Belgian Refugees

Erbyn 5 Tachwedd 1914, roedd 29 o ffoaduriaid gwrywaidd yn cael llety yn yr Orffwysfa ym Mhorthcawl. Erbyn diwedd mis Tachwedd, roedd y Groes Goch wedi gwneud cais i gael defnyddio’r Orffwysfa yn Southerndown. Cytunwyd i’r cais hwnnw, ar yr amod mai’r metron fyddai’n rheoli’r safle ar bob achlysur.

Ym mis Ionawr 1915, gyda’r rhyfel yn parhau’n hwy na’r disgwyl, gofynnodd yr awdurdodau milwrol lleol am lety ar gyfer dros 180 o recriwtiaid Ambiwlans Maes 1af Cymru, Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, a chytunodd Pwyllgor Rheoli’r Orffwysfa i’r cais hwnnw. Ar ôl symud i’r Orffwysfa yn Southerndown, gadawodd y ffoaduriaid Belgaidd ddechrau mis Mawrth 1915, heblaw am ddau wnaeth aros fel aelodau o staff.

Ar ddiwedd 1915, roedd Cymdeithas Ambiwlans St Ioan wedi gwneud cais i ddefnyddio’r Orffwysfa ym Mhorthcawl fel Ysbyty Rhyfel Atodol. Rhoddwyd caniatâd iddynt ddefnyddio’r Orffwysfa tan ddiwedd y rhyfel, er bod disgwyl i’r Gymdeithas dalu o leiaf rywfaint o gostau cynnal a chadw’r cyfleusterau. Roedd hynny’n golygu nad oedd ar gael i gleifion sifilaidd yn ystod y cyfnod hynny, ac nid oedd y milwyr na’r morwr yn talu am docyn fel yr oedd sifiliaid wedi gwneud.

Soldiers 1917

Darparwyd rhagor o welyau ym 1916, ac ystyriwyd sefydlu ysbyty maes ar dir yr Orffwysfa ym Mhorthcawl, er na chafodd ei adeiladu yn y pendraw. Erbyn diwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1918 roedd bron 2,500 o gleifion o luoedd arfog Prydain, Awstralia, Canada a Seland Newydd wedi cael triniaeth yn y ddwy Orffwysfa, ac roedd yr un yn Southerndown yn dal i dderbyn cleifion sifiliaidd.

Ym 1919 aeth y ddwy Orffwysfa yn ôl i’r drefn arferol o dderbyn cleifion sifiliaidd, fel y gwnaed cyn y rhyfel. Gwerthwyd yr Orffwysfa yn Southerndown ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chaeodd yr Orffwysfa ym Mhorthcawl ddiwedd 2013.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro