Dechreuodd y sinema ym 1895 pan gynhaliodd Louis Lumière y tafluniad cyntaf o ddelweddau ffotograffig symudol i gynulleidfaoedd am dâl ym Mharis. Yn fuan daeth dangos lluniau symudol yn fath poblogaidd o adloniant. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd sinemâu’n gyflym i fod yn fath mawr o adloniant torfol, gan gyrraedd anterth poblogrwydd yn y 1930au. Erbyn 1934, roedd un sedd sinema ar gyfer pob deg person yn Ne Cymru. Roedd yn fusnes proffidiol i entrepreneuriaid lleol gymryd rhan ynddo.
Sefydlwyd cwmni S. Andrews a Son gan Solomon Andrews. Wedi’i eni yn Trowbridge yn Wiltshire, ymgartrefodd Andrews yng Nghaerdydd yn y 1850au. I ddechrau, sefydlodd busnes fel pobydd a melysydd. Cyn bo hir, lledaenodd ei ddiddordebau busnes i feysydd mor amrywiol â threfnu angladdau, symud dodrefn, darparu gwasanaethau bysus a thramiau, siopau a siopau adrannol, rheoli a datblygu eiddo, a glofeydd.
Mentrodd y cwmni i fusnes y sinema am y tro cyntaf ym 1911, pan drodd y rinc sglefrolio yn Yr Ais, Caerdydd, yn sinema. Agorodd y sinema Central ym mis Mawrth 1911, ac arhosodd yn nwylo’r cwmni tan fis Tachwedd 1959, pan gafodd ei werthu gydag Adeiladau’r Aes, ar ôl difrod tân helaeth.
Yn dilyn llwyddiant y sinema Central, caffaelodd S. Andrews and Son dir yn Abertawe ac agorodd sinema’r Castle yno ym 1913.
Ym 1915 cafodd safle hen neuadd y dref yn Stryd Hannah, y Porth, ei brydlesu gan y cwmni, ac adeiladwyd sinema newydd.
Agorodd y sinema Central, yn y Porth, ym 1916, a bu’n gweithredu fel sinema tan 1974, pan gafodd ei chymryd drosodd yn gyfan gwbl fel neuadd bingo. Mae cofnodion ar gyfer y sinema hon yn cynnwys llyfrau arian parod sy’n manylu ar y cyllid wythnosol ar gyfer y blynyddoedd 1917 i 1930. Mae’r cyfrolau cynharach yn rhestru ffigurau derbyn wythnosol, ac maent yn rhoi gwybodaeth am raglenni ffilmiau. Mae yna hefyd lyfrau nodiadau sy’n rhoi’r rhaglenni ffilmiau wythnosol ar gyfer y cyfnod rhwng 1919 a 1945.
Ymhlith y ffilmiau niferus a recordiwyd yn y llyfrau nodiadau, mae teitlau clasurol amrywiol yn ymddangos, megis David Copperfield gyda W.C. Fields a Basil Rathbone (a ddangoswyd ym 1935), a Jane Eyre gyda Joan Fontaine ac Orson Welles (a ddangoswyd ym 1944). Ymhlith y ffilmiau poblogaidd roedd ffilm ias a chyffro Hitchcock The Lady Vanishes gyda Margaret Lockwood a Michael Redgrave (a ddangoswyd ym 1939), a The Wizard of Oz gyda Judy Garland (a ddangoswyd ym 1940). Cafodd y ffilm olaf ei chadw yn y Central am chwe diwrnod yn hytrach na’r tri diwrnod arferol, oherwydd ei phoblogrwydd.
Roedd rhaglenni amrywiol yn cwmpasu chwe diwrnod, gan gynnwys ffilmiau Shirley Temple Poor Little Rich Girl (a ddangoswyd ym 1937), a The Little Princess (a ddangoswyd ym 1940), a hefyd Fred Astaire a Ginger Rogers yn Swing Time (a ddangoswyd ym 1937). Hollywood, o ddyddiad cynnar, oedd yn flaenllaw yn y diwydiant sinema ac adlewyrchir hyn yng nghofnodion y Central.
Roedd dwy o’r ffilmiau a ddangoswyd yn sinema’r Central, yn y Porth, yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â chymoedd De Cymru. Dangoswyd Proud Valley, gyda Paul Robeson a Rachel Thomas, ym 1940 ac eto ym 1943. A chafodd y ffilm sydd fwy na thebyg yr un enwocaf a wnaed erioed am Gymru, sef How Green Was My Valley, ei dangos ym 1942.
Grŵp diddorol o gofnodion o sinema Central y Porth yw’r llythyrau rheoli, sy’n rhedeg o 1920 i 1947, gyda bwlch ar gyfer y blynyddoedd rhwng 1928 a 1934. Llythyrau gan reolwr y Central at gyfarwyddwyr Castle and Central Cinemas Ltd. yw’r rhain i roi gwybod iddynt am weithrediad dyddiol y sinema. Maent yn cynnwys y cyfnod pan oedd mynd i’r sinema ar ei anterth, ac maent yn helpu i daflu goleuni ar amodau cymdeithasol ac economaidd yng nghymoedd De Cymru. Mae’r wybodaeth a roddir yn y llythyrau yn cynnwys gweithrediad cyffredinol y sinema, rhaglen a phoblogrwydd ffilmiau, cynnal a chadw offer, atgyweirio’r adeilad, a llogi staff. Fodd bynnag, mae’r rheolwr yn sôn am ddigwyddiad lleol neu genedlaethol lle mae’n effeithio ar weithrediad y sinema a ffigurau presenoldeb. Felly mae’r llythyrau’n cynnwys gwybodaeth am streiciau lleol a chenedlaethol, y bwriad i gau pwll glo lleol, a thrychinebau lleol fel tân neu lifogydd.
Roedd y teulu Andrews hefyd yn berchen ar sinema Olympia, Heol y Frenhines, Caerdydd, a agorodd ym 1922.
Chwaraeodd Solomon Andrews a Son ran fawr yn hanes sinemâu ym Morgannwg. Roedd y cwmni’n darparu gwasanaeth adloniant pwysig, ac mae llawer o’r dogfennau sy’n ymwneud â’u cyfranogiad yn y diwydiant sinema wedi goroesi. Mae cofnodion Solomon Andrews and Son ar gael i’w harchwilio yn Archifau Morgannwg a gellir pori trwy’r catalog, sydd ar gael trwy ein gwefan www.archifaumorgannwg.gov.uk, o dan gyfeirnod DAB.