Mae un o sefydliadau mwyaf adnabyddus gwledydd Prydain, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dathlu pen-blwydd arbennig ym mis Ionawr 2020. Ar 12 Ionawr, bydd hi’n 125 o flynyddoedd ers sefydlu’r Ymddiriedolaeth ym 1895 gan Octavia Hill, Syr Robert Hunter a Hardwicke Rawnsley. Gallwch ymweld â’r eiddo cyntaf un a ddaeth yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth ym 1886, Alfriston Clergy House, tŷ to gwellt canoloesol yn Sussex. Y warchodfa natur gyntaf oedd Wicken Fen yn Swydd Caergrawnt, a ddaeth i’w rhan ym 1899.
Bydd llawer yn ne Cymru yn gyfarwydd ag eiddo dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth yn yr ardal, yn cynnwys Tŷ Tredegar, Gerddi Dyffryn a rhannau o’r arfordir. Yr hyn na fyddent yn ei wybod efallai ydy y bu sefydliad yng Nghaerdydd am dros 40 o flynyddoedd, a sefydlwyd yn arbennig i roi’r gallu i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mwy allan o’u haelodaeth. Mae’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg ar gyfer Cymdeithas Aelodau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Caerdydd yn rhoi cipolwg ar gyfnod pan fyddai ymweld ag eiddo’r Ymddiriedolaeth yn gofyn teithio am bellteroedd maith. Ar ôl ei sefydlu ym 1971 fel rhan o rwydwaith trwy’r wlad, byddai Cymdeithas Caerdydd yn cynnig rhaglen flynyddol o ymweliadau i dai a gerddi hanesyddol a rownd misol o ddarlithoedd a chyfarfodydd gyda’r nos. Roedd y Gymdeithas yn grŵp poblogaidd a bywiog gyda dros 800 aelod ar un adeg.

Mae copïau o ddetholiad o Gylchlythyrau’r Gymdeithas yn Archifau Morgannwg yn dangos ystod y gweithgareddau a oedd ar gael. Er enghraifft, mae cylchlythyr hydref 2002 yn nodi rhaglen o hyd at 3 chyfarfod y mis ar draws lleoliadau yn Ninas Powys, Rhiwbeina a Llys-faen. Ym mis Hydref yn unig, traddododd gwesteion gwadd sgyrsiau am ‘Churchill a Chartwell’, ‘Y Tŷ Crwm ar y Cymin’ a’r sgwrs dan y teitl enigmatig: ‘Ymarfer Edrych’. Wyth mis yn ddiweddarach, yn haf 2003, roedd y rhaglen ymweliadau ar eu hanterth gyda theithiau i Tyntesfield, Dyrham Park, Abbey House Gardens, Malmesbury, Baddesley Clinton, Packwood House, Wells, Burford House a Croft Castle. Fodd bynnag, doedd y teithiau ddim bob tro yn syml. Er enghraifft, roedd yr ymweliad i erddi Abbey House yn cynnwys y rhybudd: Dyma dŷ’r ‘Garddwr Noeth’ ond peidiwch â phoeni, dydw i heb ddewis diwrnod lle mae dillad yn ddewisol. Ar achlysur arall, pan ddeallodd y trefnydd mai dim ond un tŷ bach oedd yn yr eiddo a dim cyfleusterau bwyta, teimlodd fod angen iddo gynnig cysur trwy ddweud Peidiwch â phoeni, fe wna’ i’n siŵr nad ydyn ni’n hepgor anghenion bywyd! Does dim cliwiau, yn anffodus, ynghylch beth oedd ystyr anghenion bywyd ganddi!
Roedd nifer o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael arian a gasglwyd gan Gymdeithas Caerdydd, ac yn benodol Llanerchaeron, Tŷ Mawr a Pharc Dinefwr. Eto, nid oedd hyn bob tro mor syml â’r disgwyl. Yr ymateb a gafwyd i’r £1000 a roddwyd ar gyfer cuddfan adar newydd yn Ninefwr gan reolwr yr ystâd oedd eu bod… ag angen dirfawr am darw newydd. Mae’n gobeithio prynu’r anifail ymhen ychydig wythnosau felly a gâi ddefnyddio’r rhodd at y diben hwn? Cytunwyd ar y newid ac o bosibl bu gweld y pryniant gwerthfawr yn rhan o ymweliad nesaf yr aelodau â Dinefwr.
Daeth y Gymdeithas i ben ar ddiwedd 2012, yn ddigon eironig, fel yr oedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cymryd awenau Parc Tredegar a Gerddi Dyffryn. Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf fel Cinio Dathlu ddydd Gwener 30 Tachwedd. Er bod y niferoedd wedi cwympo i tua 270, roedd llawer i edrych yn ôl arno gyda theimlad o falchder ac o gyflawni. Codwyd dros £100,00 at eiddo’r Ymddiriedolaeth a chyflwynwyd rhaglen o sgyrsiau ac ymweliadau dros 41 o flynyddoedd. Cyfeiriodd cylchlythyr olaf y Gymdeithas at y cymorth ar gyfer adfywio’r Gwartheg Gwynion a’u tras hynafol ym Mharc Dinefwr. Pwy a ŵyr, ond mae’n swnio fel petai’r buddsoddiad annisgwyl yn y tarw wedi talu ar ei ganfed!
Os hoffech chi weld enghreifftiau o’r cylchlythyrau a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Aelodau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Caerdydd, mae rhifynnau 92-93 (sy’n trafod blynyddoedd 2002 a 2003) a rhifynnau 119-122 (sy’n trafod 2011 a 2012) yn Archifau Morgannwg (cyf.: D1240/8).
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg