Y Tu Mewn, Ffowndri Tubal Cain, Tyndall Street, Caerdydd

Bu farw William Catleugh, saer melinau a phensaer o 4 Yr Aes, Caerdydd, ar 19 Rhagfyr 1851. Mr H. Scale oedd ei olynydd cyntaf yn y busnes ond yna bu i George Parfitt ac Edward Jenkins gymryd yr awenau. Ym mis Gorffennaf 1857, hysbysebodd Parfitt a Jenkins fod ‘y ffowndri bellach yn weithredol, ac y rhoddir pob archeb dan eu gofal ar waith yn brydlon ac i safon eithriadol.’

Er y lleoliad canol y ddinas – a oedd hefyd yn gartref i’r perchnogion – mae’n rhaid bod y ffatri o faint eithaf sylweddol oherwydd y bu iddo gynhyrchu peiriant locomotif ym 1862 i weithio traffig mwynau o bwll glo yn ardal Abertawe.  Fodd bynnag, ar 1 Ebrill 1864, bu i’r Cardiff Times adrodd bod Parfitt a Jenkins wedi cymryd dros erw o dir ar brydles ym mhen Doc y Dwyrain, yn wynebu Tyndall Street.  Gosodwyd tendr adeiladu ac roedd gwaith cloddio a pheirianneg eisoes yn mynd rhagddo i osod sail eu ffowndri newydd.

Er na chanfuwyd tystiolaeth benodol yn egluro tarddiad enw’r gwaith newydd, cyfeirir ym Meibl y Brenin Iago at Tubal Cain, sef gor-or-or-or-or ŵyr i Adda ac Efa fel ‘cyfarwyddwr pob crefftwr pres a haearn’.  Felly, ymddengys ei fod yn enw addas ar beth y byddai Parfitt a Jenkins wedi ei weld fel estyniad enfawr ar eu busnes.  Un llawr oedd i’r tŷ bwrw, adeilad petryalog o frics gyda thair ffenestr bengrwn ar ddeg ar hyd y wal orllewinol.  Roedd cyfres o ategion haearn gyrru yn atgyfnerthu’r to, gan roi enghraifft anarferol o do ategion clym-far agored.

Yn gyntaf, ymddengys y bu Parfitt a Jenkins yn rhedeg gwaith Yr Aes a Tubal Cain ond, mae’n debyg bod Ffowndri’r Aes wedi cau erbyn 1875.  Bu farw George Parfitt ym 1886 ac Edward Jenkins ym 1888 ond parhaodd eu busnes i ffynnu.

Tra’n gwasanaethu’r diwydiannau morio a rheilffordd i ddechrau a oedd yn ehangu o amgylch Môr Hafren, ond oherwydd amrywiaeth y cynnyrch, roedd y cwmni’n hynod hyblyg.  Yn fwy diweddar, fel rhan o Penarth Industrial Services Ltd, dywedir mai Tubal Cain oedd yr unig ffowndri a oedd yn cyflogi yn ne Cymru a allai gynhyrchu darnau unigryw yn hytrach na chyfresi cynhyrchu yn unig.

Pan oedd gwaith datblygu Bae Caerdydd yn bwrw yn ei flaen yn y 1980au, cyflwynwyd archeb brynu orfodol ar y gwaith.  Yn ystod ymholiad cyhoeddus dilynol, dadleuodd y Gymdeithas Fictoraidd yn ddygn dros ei gadw.  Fodd bynnag, oherwydd yr allyriadau mwg, baw a sylffwr deuocsid, daethpwyd i’r casgliad na ddylai’r ffatri barhau i weithredu ar y safle yn Tyndall Street ac yn hwyrach, fe’i dymchwelwyd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

rsz_d1093-2-21_to_44_034__interior_tubal_cain_foundry

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/34]
  • Y Beibl – Genesis, pennod 4, adnod 22
  • Scammell & Co’s City of Bristol and South Wales Directory, 1852
  • Wakeford’s Cardiff Directory, 1855
  • The Cardiff Directory and Handbook, 1858
  • Webster’s Directory of Bristol and Glamorgan, 1865
  • The Post Office Directory of Monmouthshire and the Principal Towns and Places in South Wales, 1871
  • Worrell’s Directory of South Wales and Newport, Monmouthshire, 1875
  • Cyfrifiad 1851 a 1861
  • The City and Port of Cardiff – Official Handbook, 1955
  • The Monmouthshire Merlin, 26 Rhagfyr 1851
  • Cardiff Times, 21 Mawrth 1862
  • South Wales Echo, 12 Hydref 1886
  • Cardiff Times, 20 Hydref 1888
  • http://www.peoplescollection.wales/items/26968
  • http://www.coflein.gov.uk/en/site/40463/details/TUBAL+CAIN+FOUNDRY%3BPENARTH+FOUNDRY/

Sinema’r Coliseum, Heol y Bont-faen, Caerdydd

Dyluniwyd Sinema’r Coliseum yn Nhreganna gan y pensaer lleol, Edwin J. Jones, a’i adeiladu gan y Canton Cinema Company ym 1912. Roedd y cynlluniau a gymeradwywyd yn awgrymu bod ynddo seddi i 899 ar y llawr gwaelod gydag 192 ychwanegol yn yr oriel, ond mae sylwadau ar wefan Cinema Treasures yn awgrymu’r posibilrwydd bod nifer y seddi’n sylweddol lai na hyn.  Wedi ei leoli yn 139-143 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, ar gornel North Morgan Street, agorodd ar 6 Ionawr 1913, gyda The Panther’s Prey fel y brif ffilm.  Tua 1930 gosodwyd system sain RCA ynddo a’i ailenwi yn Coliseum Cinema.

rsz_d1093-2-21_to_44_033__coliseum_cinema_cowbridge_road

Fel sawl sinema arall, daeth yn neuadd fingo yn y 1960au.  Ar ddiwedd y 1980au cafodd ei ddymchwel a maes o law ailddatblygwyd y safle gan Castle Leisure Ltd (rhan o’r ymerodraeth fusnes a sefydlwyd gan Solomon Andrews, sydd ym meddiant ei ddisgynyddion o hyd), sy’n honni mai hwn oedd ‘y clwb bingo pwrpasol cyntaf i’w adeiladu yn y DU’.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Undeb y Myfyrwyr, Plas Dumfries, Caerdydd

Wedi ei ddylunio gan Alfred Armstrong, yr adeilad hwn ar ochr orllewinol Plas Dumfries oedd cartref gwreiddiol Ysgol Berchenogol Caerdydd.   Fe’i sefydlwyd ym 1875 gyda lle i 300 o ‘sgoloriaid, cynigiai ‘addysg gadarn a rhyddfrydol am gost rhesymol’, gan anelu at baratoi bechgyn ar gyfer y brifysgol, y gwasanaethau morwrol, milwrol a sifil, ac hefyd ar gyfer gyrfaoedd gwyddonol, proffesiynol a masnachol.

rsz_d1093-2-_009_students_union_dumfries_place

Ymddengys i’r ysgol fynd i drafferthion ariannol yn gymharol fuan.  Erbyn 1886, ceisiodd y llywodraethwyr drosglwyddo’r ysgol i elusen addysgol leol tra, ym 1891, cynghorwyd rhieni ‘yn sgil diffyg cefnogaeth’, y byddai’r ysgol yn cau ar 31 Gorffennaf y flwyddyn honno.  Yn dilyn cyfarfod cyffredinol arbennig ym mis Hydref 1992, cafodd y cwmni ei ddirwyn i ben a gwerthwyd yr adeilad i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy.

I ddechrau, ymddengys i’r Brifysgol ddefnyddio’r safle ar gyfer dosbarthiadau celf ond, erbyn 1895, roedd yn Ysgol Dechnegol, gan barhau felly tan y Rhyfel Byd Cyntaf.  O 1916 hyd tua 1950, bu’n gartref i swyddfeydd y llywodraeth, gan gynnwys y Comisiwn Yswiriant Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Cymru a’r Weinyddiaeth Bensiynau.

Yn ystod y 1950au, Symudodd Undeb y Myfyrwyr yma o 51 Plas-y-Parc, gan aros yma hyd nes codi eu hadeilad ar Heol Senghennydd yn y 1970au.  Yn dilyn ei ddymchwel, adeilad swyddfa fodern sydd ar y safle ar Blas Dumfries, sef Haywood House.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/5]
  • Bwrdesitref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun o Ysgol Berchenogol, Plas Dumfries, 1875 [BC/S/1/901021]
  • Bwrdesitref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynlluniau o Goleg Technegol Caerdydd, Plas Dumfries, 1895 [BC/S/1/10923.2; BC/S/1/10923.1]
  • Cardiff Times, 30 Mai 1874
  • South Wales Echo, 18 Tachwedd 1886
  • Kelly’s Directory of Monmouthshire and South Wales, 1891
  • Western Mail, 11 Mai 1891
  • The London Gazette, 25 Tachwedd 1892, t. 6937
  • Wright’s Cardiff Directory, 1893-94
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd, 1908 – 1964
  • Stewart Williams, Cardiff Yesterday, cyf. 11, delwedd 156

 

Adeiladau Victoria, Stryd Bute, Caerdydd

Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd Peter Steffano, siopwr gêr llongau 51 oed yn byw gyda’i deulu yn rhifau 56, 57 a 58 Stryd Bute, Caerdydd.  Ar yr aelwyd hefyd yr oedd Joseph Brailli, 23 oed a aned yn Awstria, a oedd yn glerc yn y siop longau ac a oedd yn briod â merch Steffano, Sophia.  Erbyn 1871, roedd y busnes bellach dan yr enw Stefano and Brailli, wedi symud i 63 Stryd Bute; roedd teulu’r Brailli yn byw yn rhif  65 a’r Steffanos yn rhif 66.

Bu farw Peter Steffano ym 1874 ac, erbyn 1881, roedd teulu’r Brailli wedi symud eu cartref i Crockherbtown (Heol y Frenhines erbyn hyn).  Fodd bynnag, mae’n ymddangos iddynt gadw eu safle busnes oherwydd, fis Ebrill 1887, derbyniodd Joseph ganiatâd yr awdurdod lleol i ailadeiladu 64-67 Stryd Bute.

rsz_d1093-2-21_to_44_032_griffiths_partnersken_jones_ltd_64-67_bute_street

Dyluniwyd yr adeilad newydd gan E M Bruce Vaughan a rhoddwyd yr enw Victoria Buildings arni.  Roedd lle i siop ar y llawr gwaelod gyda gofod warws yn y seler ac yng nghefn y llawr cyntaf.  Swyddfeydd oedd ar weddill y llawr cyntaf a’r ail lawr i gyd. Doedd dim lle preswyl yno mwyach.

Mae cyfeiriadur o 1884 yn dal i restru Joseph Brailli fel masnachwr gêr llongau ar safle Stryd Bute, ond erbyn 1891 Thomas Harper and Sons oedd yn rhedeg y busnes.  Hefyd wedi eu rhestru yn Adeiladau Fictoria yn y flwyddyn honno roedd Jacobs & Co, sef siop ddillad, Foster Hain & Co, broceriaid llongau a James Evans & Co Limited, sef perchnogion pyllau glo.  Roedd cwmni Thomas Harper yn dal i fod yno ym 1955, erbyn hynny roedd yr uned siop ar y llaw dde yn gartref i gangen leol George Angus, gwneuthurwyr beltiau diwydiannol ac ystod o gynnyrch arall gan gynnwys seliau olew.  Cwmnïau llongau oedd yn parhau i feddiannu’r swyddfeydd, ynghyd â Gwasanaeth Mewnfudo Ei Mawrhydi.  Erbyn 1972, y rhai a oedd yno oedd Reg Oldfield, y ffotograffydd, Ken Jones, y bwci, a J.F.Griffiths, gwerthwyr deunyddiau adeiladwyr.  Mae arwyddion yn narluniad Mary Traynor yn awgrymu fod y ddau gwmni diwethaf wedi aros yno tan ddiwedd oes yr adeilad.

Yn fras, safle Adeiladau Fictoria yw’r ardal o dir agored y tu cefn i rifau 5,6,7 ac 8 Cilgant Bute (Gwesty Jolyon’s, tŷ bwyta Duchess of Delhi a thafarn yr Eli Jenkins).

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/32]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynlluniau ar gyfer ailadeiladu 64-67 Stryd Bute, 1887 [BC/S/1/6250]
  • Cyfrifiad 1861-1891
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Calendr Profiant Genedlaethol Cymru a Lloegr 1874
  • Williams, Stewart, The Cardiff Book, cyf. 2 (t.185)
  • http://www.gracesguide.co.uk/George_Angus_and_Co

 

 

Merthyr House, James Street ac Evelyn Street, Caerdydd

Codwyd Merthyr House ym 1918 ar gornel James Street ac Evelyn Street, Caerdydd  Roedd yr adeilad yn mynd am yn ôl cyn belled ag Adelaide Place a chynigiai wedd flaen o garreg Bath i’r tair stryd.  Wedi ei ddylunio gan y pensaer lleol, Henry Budgen, fe’i hadeiladwyd gan y cwmni adnabyddus o Gaerdydd E. Turner & Sons Ltd.  Mae llyfryn gan Turner yn cyfeirio ati fel ‘pen gorllewinol’ yr adeilad, sy’n awgrymu bod uchelgais wedi bod i’w hestyn dros y bloc cyfan gyda gwedd flaen ychwanegol iddi ar Adelaide Street, ond ymddengys na wireddwyd hyn.  O’r dechrau’n deg, swyddfeydd oedd yn Merthyr House.  Ymhlith ei denantiaid roedd rhai o gwmnïau glo a llongau amlycaf De Cymru.

rsz_d1093-2-21_to_44_031_edwardian_warehouse_james_street_merthyr_house

Yn oriau mân y bore ar ddydd Sul 17 Mawrth 1946, cyneuodd tân ar ail lawr swyddfeydd cwmni llongau Reardon-Smith.  Ymddengys i’r tân gydio’n syth.  Llwyddodd ymladdwyr tân i achub y gofalwr a’i deulu a oedd wedi eu dal ar y llawr uchaf ac ni chollwyd bywyd ac ni wnaed difrod sylweddol i adeiladau gerllaw.  Llwyddwyd i arbed rhan sylweddol o ochr ddeheuol yr adeilad ond dinistriwyd y rhan ogleddol (James Street).  Yn ogystal â cholli eu swyddfeydd gweithredol, collodd sawl cwmni gofnodion yn nodi eu hanes fel cwmnïau.

Ychydig ddyddiau wedi’r digwyddiad, lleisiodd Sir James Wilson, Prif Gwnstabl Caerdydd, feirniadaeth am arafwch y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol yn ymateb, a hefyd y modd yr aethant ati i ymladd y tân.  Penodwyd John Flowers KC gan yr Ysgrifennydd Cartref i ymholi i’r cwestiynau a godwyd gan Sir James, a chyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.  Fel mae’n digwydd, nid yn unig i Flowers fethu cyfiawnhau unrhyw un o’r cwynion, ond yn hytrach fe ganmolodd yn benodol y modd y bu i un swyddog tân fynd i’r afael â’r achub a fu ar drigolion y llawr uchaf.

Ym 1950, gwnaed cais gan y perchnogion, J Cory & Sons Ltd, i adnewyddu Merthyr House.  Mae eu cynlluniau yn dangos yn glir fod pegwn James Street o’r adeilad wedi ei dynnu yn llwyr; gyda’r gwagle yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio.  Mewn gwirionedd, ni ailadeiladwyd y rhan ogleddol, er i floc mynediad concrid braidd yn hyll gael ei ychwanegu, ar ryw bwynt, ar yr ochr yna i’r adeilad.

Ni lwyddodd Merthyr House i adfer y statws a fu ganddo cyn y tân fel un o brif adeiladau swyddfeydd Butetown.  Yn gynnar yn y 60au, bu’n gartref i ddosbarthwr moduron; yn ddiweddarach bu’n gartref i Adran Waith Gwasg Prifysgol Cymru.  Ac ar ryw bwynt, cafodd ei ail-fedyddio yn Imperial House.  Wedi iddo gael ei esgeuluso am nifer o flynyddoedd, dymchwelwyd yr adeilad ac mae’r safle ar hyn o bryd yn wag.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/31]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer atgyweirio Merthyr House, James Street, 1950 [BC/S/1/39995]
  • Flowers, John KC, Inquiry into the Fire at Merthyr House, James Street, Cardiff on the 17th March 1946 (Cmd. 6877)
  • Superb Buildings erected by E. Turner & Sons Ltd (1929)
  • Lee, Brian, Cardiff’s Vanished Docklands
  • Lee, Brian & Butetown History and Arts Centre, Butetown and Cardiff Docks (cyfres Images of Wales)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • South Wales Echo, 18 Mawrth 1946; 21 Mawrth 1946; 3 Awst 1946

Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd, Heol Charles, Caerdydd

Safai Neuadd Ganolog yr Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd ar gornel Heol Charles a Heol y Bont, Caerdydd.  Gosodwyd y garreg sylfaen ar 16 Gorffennaf 1849 gan Alderman David Lewis, Maer Caerdydd, a oedd hefyd yn aelod o’r eglwys.  Cafodd ei dylunio gan James Wilson o Gaerfaddon. Ar y pryd, roedd ei harddull Gothig yn anarferol i adeilad anghydffurfiol yng Nghymru.  Agorwyd yr eglwys ar 25 Medi 1850.

Ar 12 Ebrill 1895, dinistriwyd yr adeilad mewn tân a gafodd ei gynnau yn fuan ar ôl  gorffen defosiynau Dydd Gwener y Groglith.    Ychydig dros dri mis yn ddiweddarach, ar 24 Gorffennaf, cymeradwywyd cynlluniau adeiladu ar gyfer eglwys newydd a ddyluniwyd gan Jones, Richards a Budgen o Gaerdydd, a chychwynnwyd ar y gwaith ailadeiladu, yn bennaf ar sylfaen yr adeilad gwreiddiol.

D1093-2-21 to 44 029 Wesleyan Charles Street levelled

 

Parhaodd yr eglwys i wasanaethau Methodistiaid Caerdydd yn ystod y pedwar degawd cyntaf o’r ugeinfed ganrif.  Cafodd y briodas olaf ei chofrestru yno ar 5 Mehefin 1937, a chaewyd yr eglwys yn fuan wedi hynny mae’n debyg.  Mae cyfeirlyfrau lleol yn awgrymu y cafodd yr adeilad ei ddefnyddio tua diwedd y 1940au gan y Weinyddiaeth Lafur a’r Gwasanaeth Gwladol (Adran y Menywod).  Yn ystod y 1950au, roedd yn gartref i Adran Gyflenwadau Bwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru, a hefyd yn Ddepo Dillad ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol i Fenywod.  Erbyn yr 1960au, ymddengys nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio.  Yn ddiweddarach, cafodd ei ddefnyddio am gyfnod gan Opera Cenedlaethol Cymru cyn cael ei ddymchwel yng nghanol y 1980au.

Bellach mae adeilad modern ar y safle sy’n gartref i Ganolfan Waith yng Nghaerdydd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/29]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer ail-adeiladu Capel Wesle, Heol Charles, 1895 [BC/S/1/10874]
  • Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Heol Charles, Caerdydd, cofrestr priodasau, 1934-1937 [DWESMARR7]
  • South Wales Echo, 13 Ebr 1895
  • Jenkins, J. A. & James, R.E., The History of Nonconformity in Cardiff (1901)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • http://www.coflein.gov.uk
  • http://www.peoplescollection.wales/items/11608
  • http://www.welshchapels.org

Warysau yn lle bu safle Pen Doc Gorllewin Bute (Glanfa Edward England)

Daeth John Humphrey England o Lundain i Gaerdydd tua 1840 a dechrau busnes.  Pan briododd ag Ann Rees yn Eglwys Sant Ioan ym 1841, dywedodd mai deliwr mewn cyflenwadau ydoedd.  Yng nghyfrifiad 1851, deliwr gwair oedd e.  Ond erbyn 1861, mae’r cyfrifiad yn cofnodi mai masnachwr tatws oedd ei waith a dyna beth y bu teulu England yn ei wneud am agos at ganrif wedyn.

Cafodd Ann a John lawer o blant – o leiaf 8 mab a 7 merch ac aeth nifer o’r bechgyn i fasnach eu tad.  Erbyn y 1880au, roedd gan Richard England (ganed 1851) ac Edward England (ganed 1859) fusnesau mewnforio tatws ar wahân yn Noc Gorllewin Pen Bute.  Yn dilyn marwolaeth Richard ym 1907 ac Edward ym 1917, aeth y busnesau i ddwylo plant y ddau.  Ymddengys bod Richard England Ltd wedi dod i ben tua 1960 ond parhaodd Edward England Ltd yn eiddo i’r teulu tan 2003 pan werthwyd y cwmni i Mason Potatoes Ltd.

rsz_d1093-2-21_to_44_028_frasers_warehouse_from_collingdon_road

Dyluniwyd yr warws ar ochr chwith y llun hwn ar gyfer Richard England ym 1884 gan y pensaer lleol, E M Bruce Vaughan.  Mae lluniau a dynnwyd ym 1955 yn dangos yr enw ‘Richard England Ltd’ yn dal ar y rhagfur.  Ers hynny, ymddengys mai Edward England Ltd oedd yno.

Mae’r cofnodion yn llai defnyddiol er mwyn darganfod beth yw’r adeilad ar y dde ond mae’n hŷn na warws Richard England.  Efallai mai storfa’r tollau oedd, y mae cyfeirlyfrau olynol ar gyfer Caerdydd yn nodi yr oedd ym Mhen Doc y Gorllewin.  O tua 1929, roedd y warws tollau yn rhan o fusnes Frazer & Company a oedd yn gweithredu hefyd fel masnachwyr storfa llongau yn Stryd Bute.  Roedd Frazers yn parhau i fod yno o leiaf tan y 1970au.

Cafodd yr holl adeiladau a welir yma eu newid yn fflatiau preswyl tua thro’r mileniwm; gelwir yr ardal nawr yn Glanfa Edward England.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/28]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer warws, Doc y Gorllewin, ar gyfer Richard England, 1884 [BC/S/1/4609]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer ychwanegiadau at warws, Doc Gorllewin Bute, ar gyfer Edward England, 1895 [BC/S/1/10775]
  • Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, Casgliad Ystad Bute, aseiniad prydles gan Richard Travell England i Richard England Ltd, 9 Chwe 1915 [DBDT/110/3]
  • South Wales Echo, 27 Awst 1887
  • Evening Express, 12 Hyd 1907
  • Cyfrifiad 1851 a 1861
  • Mynegai’r Cofrestrydd Cyffredinol o Genedigaethau a Marwolaethau
  • Cofrestr priodasau, Eglwys Sant Ioan, Caerdydd
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • http://www.masonpotatoes.co.uk/history.html
  • https://www.companycheck.co.uk/
  • Williams, Stewart, Cardiff Yesterday, cyf. 10, delweddau 41-42

Siambrau Gloucester, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

Ym mis Hydref 1888, agorodd y County of Gloucester Bank County of Gloucester Bank Ltd ei gangen gyntaf ar Heol yr Eglwys Fair.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd gwaith ar godi cangen newydd Dociau Bute yn rhif 15 Sgwâr Mount Stuart.  Tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo, fe brynon nhw’r safle drws nesaf yn rhif 16 a ymgorfforwyd i greu adeilad mwy.  Roedd y busnes bancio ar y llawr gwaelod tra defnyddiwyd y lloriau uwch, a adwaenid fel y Gloucester Chambers, gan gwmnïau glo a llongau.

Meddiannwyd y County of Gloucester Bank County of Gloucester gan Fanc Lloyds yn 1897 ac ni pharhaodd cangen Sgwâr Mount Stuart lawer wedi hynny.  O 1902 tan y 1950au, bu gan Evan Roberts Ltd – a adwaenid yn well flynyddoedd yn ddiweddarach am eu siop ar gornel Heol y Frenhines a Ffordd y Brenin – siop ddillad yn y lle a fu gynt yn fanc.  Parhaodd Gloucester Chambers i gynnig swyddfeydd i amryw fusnesau, ond erbyn y 1930au fodd bynnag, roedd busnesau glo llongau wedi ildio’u lle i gwmnïau o gyfrifwyr  a chyfreithwyr.

rsz_d1093-2-21_to_44_027__gloucester_chambers_mount_stuart_square

Yn y 1960au, gan adlewyrchu’r newid yn ffawd Dociau Caerdydd, daeth cwmni systemau ffeilio  ac asiant comisiwn tyweirch yn denantiaid ar 15 ac 16 Sgwâr Mount Stuart, ond ymddengys ei fod yn wag erbyn 1970 – sawl blwyddyn cyn darluniad Mary Traynor o 1982.  Bellach wedi ei ddymchwel, adeilad swyddfa brics cyfoes sydd ar y safle ynghyd â mannau parcio cysylltiedig.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: