
Dydd Mawrth 8 Medi 1914
Wedi ymdeithio cyn y wawr am 2.30am. Mae A yn arwain y sgwadron. Aethom heibio i fyddin Ffrainc yn y dref. Roedd Tiger yn y marchoglu blaen.
Mae Wlaniaid gerllaw ond nid oes sicrwydd ai Saeson ydynt, tan i rywun danio at Sgwadron C o’r pentref.
Yna ar y cefn uwchben Sablonieres gwelais Frigâd yr Almaenwyr a rhoddais wybod amdani i’r Uwch Swyddogion, ond tybiwyd mai gwan oedd amddiffyniad y pentref a gorchmynnwyd i mi ei chipio.
Yna daeth dyn o sgwadron B i mewn gan ddweud mai ef oedd yr unig un yn weddill o farchoglu Joe Nettlefolds, a oedd wedi eu dal mewn cudd-ymosodiad.
Aethom i lawr i’r ffordd heb unrhyw golledion drwy ymochel, aethom ar hyd y ffordd gan ymosod ar yr Almaenwyr gyferbyn.
Lladdwyd Partridge a Norwood, ac anafwyd Martin a J. Nettlefold.
Aeth y marchoglu 1af yn ei flaen.
Daeth sgwadron A o hyd i un gwn peiriannol a gynnau eraill yn y pentref, rydym yn symud ymlaen i gyrion Monvilliers.
Cefais sbectol a banner gan swyddog Almaenaidd clwyfedig.
Dechreuodd lawio’n drwm, euthum i fferm ar fryn a chefais ginio da yna.
Roedd hi’n arllwys y glaw.
Sgwadron A oedd y milwyr cyntaf i gyrraedd Monvilliers.

Dydd Mercher 9 Medi 1914
Dechrau ymdeithio am 2.30am.
Croesi afon Marne tua 10am.
Cafodd y milwyr ar y bryn eu bwrw gan ffrwydron ein gynnau mawr ein hunain, ac nid oedd yn bosibl atal hynny.
Gwelsom ein marchfilwyr yn ymosod ar bentref, yna es i gyda’r Sgwadron i Etre Pilly. Cyfarfûm â Blackburn, a soniodd am 1000 o Almaenwyr o’m blaen. Confoi ydyw. Dechreuodd ein gynnau mawr danio wrth i mi agosáu.
Cuddiais mewn pant, yna aeth Tiger i fan lle roedd yn gallu gweld croesffordd, roedd Almaenwyr o bob math yno ar feiciau ac mewn ceir. Ni wnaethom ymosod, gan mai casglu gwybodaeth oedd fy ngwaith i. Aeth Brook i ffwrdd ar ei ben ei hun. Ni ddychwelodd fyth. Cafodd y Corporal Kelly wybodaeth gan y Ffrancod a chefais fy achub.
Cyrhaeddais y llety yn y tywyllwch yn flinedig iawn, roeddwn wedi meddwl ein bod wedi colli’r ffordd. Y Sarsiant Christian arweiniodd y ffordd.
Ar ôl cyflwyno adroddiad i Briggs, cysgais yn y gwellt oer.

Dydd Iau 10 Medi 1914
Arweiniodd sgwadron A y sgwadron dros dir anodd. Torrodd Yellow Sally ei gwddf wrth groesi pont.
Roedd brwydr ger pentref, nid oedd yn bosibl gweld pwy oedd yr Almaenwyr a phwy oedd y Saeson.
Taniwyd atom o berth, ac aeth Gwaywyr Ffrengig ati i hela’r ddau garcharor Almaenaidd oddi yno.
Roedd cryn dipyn o ddryswch.
Daeth Watson, un o’r gynwyr, i ragchwilio gyda sgwadron A, a anfonwyd yn agos at ein milwyr traed.
Taniwyd ffrwydron atom, anafwyd Watson yn ddifrifol.
Aeth y sgwadron yn ôl i’r Frigâd ar garlam, anafwyd dau o’r dynion, wyth o geffylau, gyda rhai o’r ceffylau wedi’u lladd.
Ar ôl cipio bryn, aeth X heibio i’r 11eg Hwsariaid ger coeden wrth fynd i chwilio am Winwood. Glaniodd ffrwydryn o fewn 5 llath i mi ar y merlyn, gan glwyfo Lockett ymhlith eraill.
Cefais lety da yn y dyffryn, a chysgais mewn gwely.
Gwelodd X adran y Marchoglu Almaenaidd yn mynd yn araf ar draws y gwastatir 2 filltir i ffwrdd.
Nid oedd y gynwyr yn gallu cyrraedd mewn pryd.
Daeth cawod drom o ffrwydron a bu’n rhaid i’n gynwyr adael y gynnau.

Dydd Gwener 11 Medi 1914
Ymdeithiwyd heibio i Oulchy, cyn troi i’r gogledd-ddwyrain.
Mae 8 corfflu ac un adran Almaenaidd yn gweithredu yma.
Cafodd y Ffrancod lwyddiant yma.
Dywedwyd bod byddin Lloegr wedi cipio 7 o gynnau mawr, llawer o gynnau peiriannol a 1000 o garcharorion. Eisteddais dan geuffos yn wlyb diferol, ac yna yn ôl i’r pentref yn frwnt, yn flêr ac yn oer.
Gwnaethom gynnau tân a chymryd gafr wen.
Aeth Pankhurst yn sâl gyda niwmonia, nid yw’n syndod i mi.

Dydd Sadwrn 12 Medi. 1914
Rydym yn symud ymlaen, ac yn dod ar draws y gelyn yn fuan.
Llwyddwyd i ddal gafael ar bentref Braine. Aeth sgwadron A i mewn i goedwig ar ochr dde’r ffordd, gan gyrraedd castell yn y pendraw, lle roedd cyfle i saethu o bell at gefn y milwyr traed Almaenaidd, a oedd hefyd yn wynebu cawod drom o ffrwydron pryd bynnag yr oeddent yn ymddangos, gan syrthio i’r maip ar bob ochr.
Cyrhaeddodd Sgwadron A fferm o’r enw “La Saulx Sadree”, ar hyd ffordd orchuddiedig. Tybiwyd bod yr Almaenwyr oll wedi mynd, pan gafwyd tanio sydyn, ac yn fuan wedyn ymddangosodd 45 o filwyr ac un swyddog ar y ffordd.
Saethodd y sgwadron o’r tu ôl i gât ar y ffordd, i lawr aeth yr Almaenwyr, gydag ond ambell ergyd yn ôl, gydag un ohonynt yn taro Sarsiant Christian.
Yna aethom i mewn i’r plasty eto, gan fynd i’r seler wrth i’n gynnau mawr danio uwchben.
Aeth 5 ohonom ymlaen gyda’r faner wen, a oedd yn beth byrbwyll i’w wneud. Roedd 20 o’r Almaenwyr yn ddianaf, 12 wedi’u lladd neu eu hanafu, ac roedd y swyddog ar fin marw.
Yn ffodus, roedd y milwyr dianaf y tu ôl i’r das wair yn ofnus iawn. Ar ôl i mi eu bygwth gyda chleddyf ac ar ôl i ni danio pistolau, gwnaethom eu trosglwyddo i’r milwyr traed, a gipiodd eu harfau.
Roedd hwn yn llwyddiant da i sgwadron A. Gwelais Allenby yn fuan ar ôl diwedd y sgarmes.
Aethom ar siwrnai seithug ar ôl rhai gynnau peiriannol yn y glaw. Roedd sôn ein bod ar fin ymosod gyda’r nos yng nghanol y mwd a’r glaw, ond ni ymosodwyd.
Brwydr Marne oedd hyn oll, o 6 Medi.
Cefais lety yn Dhuisel, gadewais fy helm yno. Arllwys y glaw, llety gwael, roedd y preswylwyr yn anfoesol, roedd yn rhaid i mi eu bygwth.
Gadewais fy helm gyda: Mons Mathieux de Guart, Dhuisel, Aisne.

Dydd Sul 13 Medi 1914
Euthum i fyny i’r lle yr oedd Catrawd Caerwrangon, yna’r tu ôl iddynt. Dechreuodd y gynnau mawr danio gerllaw, felly symudom. Croeswyd afon Aisne am y tro cyntaf. Gwelais y Swafiaid.
Roedd brwydr fawr yn mynd rhagddi, gyda channoedd o gynnau’n tanio.
Aeth y Frigâd allan i ganol maes y gad ddwywaith, ond bu’n rhaid ymgilio oherwydd y ffrwydron.
Rwy’n gyfrifol am gysylltu ag ymosodiadau’r Ffrancod, gan farchogaeth i lawr atynt yn y pentref ger Craonne, lle bu Napoleon yn brwydro ym 1814.
Roedd y Frigâd wedi symud yn sydyn, bu’n rhaid ymgilio, gyda llawer o filwyr clwyfedig yn dod i mewn, gan gynnwys Loyd ifanc o’r 60fed Reifflwyr, a ddywedodd bod Nat (fy mrawd) gyda’r Ail Fataliwn wedi cipio 12 o gynnau mawr yr Almaenwyr, a bod Nat yn ddianaf.
Euthum ar ôl y frigâd. Maent mewn twll yn Chavonne, lle disgwylir gwrth-ymosodiad.
Mae ein llety yn llawn eisoes.

Dydd Llun 14 Medi 1914
Mae’r cyrch wedi cychwyn i geisio cipio’r tir uchel ar lan ogleddol afon Aisne. Bu brwydro drwy’r dydd, roeddem wedi ennill tua dwy filltir o dir erbyn diwedd y dydd.
Cyrraedd Pagnan, gwelais Swafiaid y Ffrancwyr.
Roeddem gyda’r frigâd drwy’r dydd, gan fynd i wynebu’r gelyn ambell waith ger fferm Tourde Paissy, yng nghanol y gynnau mawr.
Anfonwyd Tiger a minnau i gadw mewn cysylltiad â’r Ffrancwyr, ym mhentref bach Varogne. Wrth wylio ymosodiad petrus y Ffrancwyr, ymosododd yr Almaenwyr ar hyd y llinell, anfonwyd y Frigâd i Chavonne i amddiffyn man hollbwysig. Euthum ar eu hôl gan weld ffrwydryn mawr yn taro’r gynwyr. Roedd gan lawer o’r milwyr araf draed oer hefyd.
Roeddem yn aros am y gwrth-ymosodiad ond ni ddaeth, gan ein bod wrth gefn. Yna i Blasty Soupir dan linell orchuddiedig.
Cyrhaeddais yn hwyr, gan gael gorchymyn i ymuno â’r Sgwadron i baratoi am frwydr yn y nos. Noson hir iawn mewn tir agored y tu ôl i amddiffynfeydd.
Cwympais i lawr clawdd.
Yn ffodus ni ymosodwyd arnom, nid oes bidogau gennym.