Cylchgrawn The Ocean and National, 1936: Atgofion Drwy Lyfr Amser yng Nglofa Bute Merthyr

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r olaf mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

**********

D1400-9-9-3 Cover

Clawr Cyf. 9, Rhif 3, Mawrth 1936, D1400/9/9/3

Mae storïau o lofeydd unigol hefyd i’w gweld yng Nghylchgronau The Ocean and National. Yn 1936, mae cyfres o erthyglau wedi eu hysgrifennu gan ‘I.B.’, yn trafod cynnwys llyfr amser hanesyddol y daethpwyd o hyd iddo yng nglofa Bute-Merthyr. Mae’r awdur yn disgrifio:

…wiping away the quarter inch of grime that encased its front cover…an accumulation of 20 years… [and opening] up a field of reminiscences.

D1400-9-9-3 page 93

Atgofion llyfr amser yng Nglofa Bute Merthyr, D1400/9/9/3, t.93

Mae’r erthyglau yn sôn am bobl y mae eu henwau’n ymddangos yn y llyfr amser, gan gynnwys ambell ddyn oedd yn dal yn fyw. Sylwa gyntaf ar enw David Timothy, oedd yn Dipiwr, a dywed fod Mr Timothy…yn fyw ac yn iach yn 93 oed…a’i fod yn dal i weithio yn y Bute-Merthyr pan oedd yn 70, ac ar y plwy adeg streic 1921. Sonnir hefyd am wasanaeth hirhoedlog Thomas Griffiths, Pwmpsmon, yr oedd yr awdur yn cofio clywed mai ef a wasanaethodd hiraf o bawb yn y Bute-Merthyr, gyda’i frawd yn ail iddo. Sonnir hefyd am Mr W.D. Jones, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Billy Jones, Y Stafell Ddarllen’, ac am ei wasanaeth hir dros 50 mlynedd i Bute-Merthyr.

D1400-9-9-7 page 236

W D Jones, cyflogai hirhoedlog glofa Bute Merthyr, D1400/9/9/7, t.236

Mae’r awdur hefyd yn defnyddio’r llyfr amser i dynnu sylw at rôl gweithlu’r Bute-Merthyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan nodi bod 157 wedi ymuno â Lluoedd Ei Fawrhydi rhwng 1914 a 1916. Yn rhifyn mis Mai, rhoddwyd sylw i’r sawl a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r awdur yn dwyn nifer o ddynion a wasanaethodd i gof, ac yn eu plith roedd John Candy. Yn 18 mlwydd oed, dychwelodd Candy, oedd wedi colli un o’i lygaid ac ag ôl bwled yn ei fraich chwith, o’r Rhyfel ac fe’i cofnodwyd yn bwyswr yn Hydref 1916. Mae’r awdur wedyn yn sylwi ar enwau Peitre Arents a Louis Popilier yn y llyfr amser, a dywed nad oedden nhw’n…enwau y byddai disgwyl eu gweld mewn Llyfr Amser o Lofeydd Cymru. Eglurir bod ffoaduriaid o Wlad Belg wedi byw yn yr ardal yn ystod y Rhyfel.

Yn rhifyn mis Ebrill, mae’r llyfr amser yn trafod marwolaethau a damweiniau.  Mae gweld enwau Walter Durrant, Pwmpsmon, yn atgoffa’r awdur o’i farwolaeth mewn storm eira yn 1925. Enw arall a geir yw un Thomas Llewellyn, a fu’n weithiwr drifft, ac mae’r awdur yn cofio am ddamwain drasig a ddigwyddodd i Mr Llewellyn yn 1896. Roedd grŵp o bobl wedi cael gafael ar offer tanio a phowdwr ac fe gafwyd ffrwydrad, y collodd Mr Llewellyn ddau fys o’i herwydd.

D1411-2-1-16-1---Web

Enghraifft o Lyfr Tâl o Lofa Bute-Merthyr yng nghasgliad Archifau Morgannwg, Ion-Tach 1926, D1411/2/1/16/1

Mae’r erthyglau hyn yn dangos sut gall dogfennau hanesyddol gael eu defnyddio i hel atgofion ac adrodd storïau’r bobl sydd ynddynt. Nid yw’r llyfr amser y sonnir amdano yn yr erthygl hon wedi goroesi, ond mae llyfrau talu eraill o Lofa Bute-Merthyr a glofeydd eraill yn y casgliad, a gellir ymgynghori â nhw yn ein hystafell chwilio. 

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Cylchgrawn Ocean and National, 1935: ‘Why Doesn’t Someone Localise our ‘Snakes and Ladders’ Board?’

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r wythfed mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

**********

Ym 1935 argraffodd cylchgrawn The Ocean and National gyfres o erthyglau yn holi’r cwestiwn ‘Pam na wnaiff rhywun…?’ Ym mis Awst pwnc yr erthygl oedd y syniad o greu fersiwn leol o’r gêm fwrdd Snakes and Ladders. Mae cynllun y bwrdd i’w weld ar un o’r tudalennau, ac roedd bron 20 o leoliadau gyda chyfarwyddiadau ar yr hyn i’w wneud ar ôl cyrraedd yno. Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r ardal o amgylch Cymoedd y Rhondda yn debygol o ystyried y lleoliadau a’r cyfarwyddiadau yn ddigon difyr.

Snakes and Ladders_edited

 

  1. Stag Hotel – Anodd Dechrau. Rhaid sgorio chwech neu ofyn am wydraid o ddŵr. Fel arall colli dau dro.

 

  1. Red Cow – Cwrdd â ffrind ac aros. Colli un tro a mynd nôl i rif 1.

 

  1. Swamp – Arbed bywyd dafad ond cael eich llorio gan wŷdd. Neidio dros un (rhif).

 

  1. Luigi’s Ic Cream – Anghofiwch y gêm, trafodwch Abyssinia a chael cornet. Colli dau dro.

 

  1. Heddlu Pentre – Anghofio’r dyddiad a dymuno ‘Nadolig Llawen’ i’r Sarjant mewn camgymeriad. Nôl dau.

 

  1. Swyddfa’r Prudential – cael eich atal gan asiant sy’n eich gwthio nôl dri cham – am weddill eich bywyd.

 

  1. Gwesty ‘r Bridgend – Cwrdd â hen ffrind sy’n adrodd hanes ei lawdriniaeth wrthych. Colli pedwar tro.

 

  1. Allanfa Gorsaf Ystrad – Un o fechgyn yr ‘Echo’ yn eich llorio. Nôl chwech er mwyn gallu dal eich gwynt.

 

  1. Swyddfa Ystadau – Talwch eich rhent daear cyn pryd. Neidio 4 mewn llawenydd.

 

  1. Co-op Ton – cael eich camgymryd am werthwr cwponau pêl-droed Cael eich arestio am dri thro. Ewch nôl i Rif 5.

 

  1. Gwesty’r Windsor – oedi i ddadebru. Gwrthsefyll y demtasiwn i gael ‘Corona’ a symud ymlaen dri cham.
  2. Gorsaf Heddlu Ton – colli tri thro oherwydd eich gorfodi i fynychu’r llys. Manylion wedi eu sensro. Ewch nôl ddau a gwyliwch eich cam.

 

  1. West End Ton – Arogl y dŵr yn eich adfywio. Symudwch ymlaen dri – yn gyflym.

 

  1. Ysbyty Pentwyn – Gwyrwch i lawr y grisiau marmor. Cwrdd â’ch swyddog prawf. Colli deuddeg tro, ond cymryd llwybr tarw yn ôl i rif 3.

 

  1. Cyffordd Nantymoel – Gwrthsefyll temtasiwn i fynd â’ch cariad ar hyd y ffordd newydd . Sgipio chwech.

 

  1. Cyffordd Cwmparc – Derbyn gwahoddiad i gael bath yn y lofa. Y sioc yn golygu colli pedwar tro.

 

  1. Swyddfeydd yr Ocean – Ei gamgymryd am swyddfeydd Byddin yr Iachawdwriaeth a cholli dau dro i ddod atoch eich hun.

 

  1. Gwesty’r Pengelli – Mynd yno mewn camgymeriad. Syrthio i afon (trap cudd) a mynd nôl i 14.

 

  1. Meddygfa – Gyda digon o amser gennych rydych yn eistedd i ddisgwyl eich potel nesaf o ffisig. Fe’ch cludir nôl i 12 yn teimlo’n well.

 

  1. Sefydliad y Parc a’r Dâr – Gartref o’r diwedd! Syrthio i gysgu. Gweld Mae West a galw i’w gweld hi ryw dro.

 

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg