Roedd y 31ain Mai 1916 yn ddiwrnod anarferol i ddisgyblion Ysgol Heol y Frenhines, Merthyr Tudful. Cafodd gwersi’r prynhawn eu canslo ac aeth yr ysgol gyfan i’r Theatr Frenhinol i weld y ffilm Britain Prepared.
Nid ffilm arferol oedd hon. Dyma oedd y gyntaf mewn cyfres o ffilmiau a gynhyrchwyd gan y Llywodraeth yn ystod y rhyfel i hyrwyddo cryfder byddin a llynges Prydain, ac i godi ysbryd y bobl. Gallwn ond ddyfalu ymateb y disgyblion i’r ffilm, gyda chlipiau o filwyr yn ymarfer at y rhyfel ac arddangosiadau o bŵer arfog y Llynges Frenhinol. Fodd bynnag, erbyn 1916 roedd y disgyblion eisoes yn gyfarwydd â phwysigrwydd gwladgarwch Prydeinig a’r bygythiad i Brydain gan elyn didostur a chreulon. Mae’n bosib fod yr ymweliad i weld Britain Prepared yn rhan o ddathliadau Diwrnod yr Ymerodraeth a ddathlwyd ym mhob ysgol ar 24ain Mai bob blwyddyn. Roedd Diwrnod yr Ymerodraeth yn gyfle i ddathlu’r Ymerodraeth Brydeinig drwy ganeuon a straeon am filwyr ac anturwyr enwog. Roedd disgyblion hefyd yn cael hanner diwrnod o wyliau i fynychu dathliadau lleol.
Y Rhyfel Mawr oedd yr achlysur cyntaf i’r Llywodraeth ddefnyddio print a ffilm fel teclynnau propaganda grymus. Roedd yr ymweliad i weld Britain Prepared yn sgîl cyfarwyddeb a gyhoeddwyd i Benaethiaid ysgolion gan y Cyfarwyddwr Addysg, Rhys Elias, yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Addysg Bwrdeistref Merthyr Tudful: ‘the senior classes of the Elementary Schools be allowed to attend the matinees in the Theatre Royal to see this film’ (BMT/1/26, p531). Erbyn diwedd 1916, pan ryddhawyd ffilm arall o’r enw The Somme, roedd yr awdurdod lleol yn fwy gwyliadwrus a chafodd ymweliadau â sinemâu lleol eu canslo. Fodd bynnag, cafodd ysgolion gyflenwad o lyfrau a llenyddiaeth ar achosion y rhyfel. At hynny, cyfarwyddwyd y Penaethiaid i sicrhau bod amser yn cael ei neilltuo bob wythnos i bwysleisio negeseuon ynghylch pwysigrwydd gwladgarwch Prydeinig. Er enghraifft, mae dyddlyfrau Ysgol Ferched Abermorlais ym mis Rhagfyr 1917 yn cofnodi: ‘Miss Evans and Miss Richards took St 5a, 6 and 7 to Cyfarthfa Museum on Monday afternoon to an exhibition of the Great Allied War Photographs lent by HM Government and Allied Powers’ (EMT 4/10, p257).
Yn Ysgol Fechgyn Abermorlais ym mis Mawrth 1917, nododd y Pennaeth: ‘A book called the Nation’s Heroes was given this morning to each boy in St6 and St7 and to each teacher. In fact, all the scholars in St 6 and 7 throughout the borough received one. – the giver being Mr H Seymour Berry a former pupil and teacher in this school and now one of the most prominent men in the S Wales Coal Trade’ (EMT4/7,p254).
Roedd hanesion am yr erchyllterau a gyflawnwyd gan Fyddin yr Almaen yn rhan annatod o bropaganda cyfnod y rhyfel. Er nad oes cofnod i straeon o’r fath gael eu hadrodd mewn ysgolion, roedd dienyddiad Edith Cavell, nyrs o Loegr, gan yr Almaenwyr ym 1915 yn cael ei ddefnyddio’n aml fel enghraifft o ddewrder unigol a chreulondeb y gelyn. Cofnododd Pennaeth Ysgol Iau Caedraw ym mis Mehefin 1918: ‘The last 20 mins of this morning was taken up by a little ceremony to unveil the picture of Nurse Cavell – national songs were sung and I gave a short address to assembled school on why and how she met her death’ (EMT 6/6, p56).
Er bod hwn yn fater difrifol iawn, i lawer o’r disgyblion roedd hefyd yn gyfle i ddianc o’r gwersi a’r drefn feunyddiol. Mae dyddlyfrau’r ysgol ar Ddiwrnod yr Ymerodraeth 1917 yn cyfleu’r hwyliau: : ‘Holiday given in the afternoon. Empire Day celebrated in the morning by decorating classrooms with flags. Lesson given on Love of Country, the British Empire. Patriotic Songs sung and poems read’ (Ysgol Merched Troedyrhiw, EMT 23/7, p57).
‘Patriotic Songs, recitations and lessons suitable to the occasions were given and also a dramatic performance was presented by St 4 scholars’ (Ysgol Merched Heol y Frenhines, EMT 19/5, p88-9).
Mae’r deunydd uchod wedi’i gymryd o ddyddlyfrau ysgolion ym Mwrdeistref Merthyr Tudful a chofnodion Pwyllgor Addysg Bwrdeistref Merthyr Tudful. Mae negeseuon a storïau tebyg i’w gweld yng nghofnodion ysgolion ledled Morgannwg ar gyfer 1914-18. Os ydych yn awyddus i ddysgu mwy am effaith y rhyfel ar ysgolion yn eich ardal a ledled Morgannwg mae crynodebau ar gyfer pob ardal awdurdod lleol ar gael (e.e. Merthyr Tudful) a thrawsgrifiadau o ddetholiadau o’r llyfrau log a gwblhawyd gan benaethiaid ysgolion unigol ar wefan Archifau Morgannwg http://www.archifaumorgannwg.gov.uk.
Gallwch weld clipiau o Britain Prepared ar wefan yr Imperial War Museum – http://www.iwm.org.uk. Gallwch weld penderfyniad y Pwyllgor Addysg yn Nyddlyfr Rhif 26 (Tach 1915 i 24 Hyd 1916) Pwyllgor Addysg Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg