Wyth deg mlynedd yn ôl, ym mis Rhagfyr 1941, roedd Caerdydd yn profi ei thrydedd Nadolig yn yr Ail Ryfel Byd. Er bod y gwaethaf o’r blitz ar ben, roedd y ddinas yn dal i fod yn destun cyrchoedd bomio rheolaidd. Mae’r cofnodion ar gyfer Ysgol y Merched Grangetown yn cadarnhau bod dros ddeg ar hugain o rybuddion cyrchoedd awyr wedi bod yn ystod oriau ysgol yn chwarter olaf y flwyddyn gyda’r plant yn treulio tair awr ar ddeg yn llochesi cyrchoedd awyr yr ysgol. I ryw raddau roedd bywyd normal wedi ailddechrau. Roedd y bechgyn o ysgol Gymysg Llwynbedw unwaith eto’n mynd i gael gwersi nofio ym Maddonau Cilgant Guildford ond dim ond yn sgil codi cyfres o lochesi cyrchoedd awyr ar y llwybr o’r ysgol i’r baddonau. Yn ogystal, roedd gweld faciwîs yn parhau i gyrraedd Caerdydd yn fodd o atgoffa’n barhaus am effaith y bomiau ar ddinasoedd ledled y deyrnas.
Wrth gyflwyno dogni ar fwydydd sylfaenol, roedd y Nadolig, i’r rhan fwyaf o deuluoedd, yn debygol o fod yn brofiad go lwm. Felly, er bod oedolion wedi eu hoelio i’r newyddion dramatig bod fflyd Japan wedi ymosod ar ganolfan y llynges Americanaidd yn Pearl Harbour, mae’n bosibl y byddai gan blant Caerdydd fwy o ddiddordeb wedi bod mewn bwletin a gyhoeddwyd o Groto Siôn Corn. Yn benodol, roedd sawl papur yn adrodd stori bod Siôn Corn wedi recriwtio set newydd o gynorthwywyr fel y gallai olrhain a darparu anrhegion i blant a oedd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u cartrefi o ganlyniad i’r cyrchoedd bomio.
Roedd Unol Daleithiau America wedi aros yn niwtral tan yr ymosodiad ar Pearl Harbour ym mis Rhagfyr 1941. Roedd llawer ohonynt fodd bynnag yn benderfynol o helpu’r Cynghreiriaid, ac roedd nifer o sefydliadau elusennol wedi’u creu yn America i gynnig cymorth a rhyddhad i bobl Prydain. Y mwyaf adnabyddus, efallai, oedd Cymdeithas Gymorth Rhyfel Prydain neu’r British War Relief Society a ddarparodd lawer iawn o gymorth gan gynnwys bwyd, dillad a chyflenwadau meddygol. Er bod cyflenwadau i fod yn rhai “anfilwrol”, roedd y gymdeithas yn aml yn hwylio’n “go agos i’r gwynt” gyda, er enghraifft, y rhodd o hanner cant o unedau symudol a oedd yn darparu bwyd a diodydd poeth mewn canolfannau awyr ar gyfer lluoedd a chriwiau bomio yr Awyrlu Brenhinol.
Yn hydref 1941 troes y Gymdeithas ei golygon at baratoadau’r Nadolig. Roedd yn hysbys bod llawer o blant ledled Prydain wedi cael eu symud o’u cartrefi i ardaloedd diogel neu eu gorfodi i lety dros dro yn sgil y bomio. Felly, creodd y Gymdeithas gynllun i blant ifanc i ddarparu anrhegion Nadolig a fyddai’n cael eu cludo i Brydain ar draws yr Iwerydd.
Nid oedd yn dasg syml ym misoedd y gaeaf gyda llongau tanfor yr Almaen yn prowlan. Ac eto, yn nhrydedd wythnos Rhagfyr cafodd pedwar ar hugain o blant yn Ysgol Fabanod Sant Padrig yn Grangetown anrheg Nadolig cynnar gan Wncl Sam. I fechgyn roedd rhain yn cynnwys tegan mecanyddol a doliau i ferched. Yn ogystal, cafodd pob un ohonynt ail anrheg, fel jig-so neu gêm fwrdd, ynghyd â phecyn o injaroc Americanaidd. Gadawyd i ysgolion nodi derbynwyr yr anrhegion ond, o ystyried nifer yr ifaciwis a gyrhaeddodd Gaerdydd o Birmingham, ynghyd â phlant lleol doedd dim prinder o ymgeiswyr teilwng.
Gwnaed cyflwyniadau tebyg mewn ysgolion ledled Caerdydd a ledled Prydain. At ei gilydd, cafodd dros gan mil o blant anrheg Nadolig gan y Gymdeithas y flwyddyn honno; Pum mil o anrhegion oedd cyfran Caerdydd. Ym mlynyddoedd canlynol y rhyfel daeth anrhegion Nadolig gan Wncl Sam yn rhan o galendr yr ysgol yng Nghaerdydd. Er mai dim ond ar gyfer y rhai mwyaf anghenus y gellid darparu anrhegion, roeddent yn cynnig peth o ysbryd yr Ŵyl i blant oedd â’u bywydau wedi’u chwalu gan ryfel.
Dyma’r drydydd o gyfres fer o erthyglau am Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel gan dynnu ar y cofnodion a gedwid gan Benaethiaid ysgolion ar y pryd. Am fanylion y llyfrau log ysgolion sydd gennym ar gyfer 1939-45, cysylltwch ag Archifau Morgannwg www.archifaumorgannwg.gov.uk.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg