Bydd y rhai sy’n edrych allan yn frwd am yr arwyddion tai ‘ar werth’ yn gwybod bod eiddo eithaf arbennig yn dod i’r farchnad o bryd i’w gilydd. Efallai y bydd y pris ymhell y tu hwnt i’n poced, ond rydym yn dal yn awyddus i weld y manylion ac o bosibl i ddychmygu sut beth fyddai bod yn berchen ar dŷ o’r fath. Byddai hyn wedi bod yn wir i lawer pan, ym mis Gorffennaf 1898, y cynigiwyd Hollanton House ar Marine Parade ym Mhenarth i’w werthu. Roedd y tŷ i fynd ar werth drwy arwerthiant, gyda’r gwerthiant yn cael ei roi i arwerthwyr a syrfewyr siartredig o Gaerdydd, Stephenson ac Alexander. Mae cofnodion y cwmni, a gedwir yn Archifau Morgannwg, yn rhoi cipolwg ar yr adeilad mawreddog hwn a’r teulu a oedd yn byw yn Hollanton House.
Mae Marine Parade, sy’n edrych dros Erddi Windsor a phromenâd Penarth draw am Fôr Hafren, yn ymfalchïo hyd heddiw bod ganddo rai o’r eiddo mwyaf mawreddog â galw amdanynt yn ne Cymru. Adeiladwyd y tai ar y Parêd yn bennaf yng nghanol y 1880au, ac fe’u hadeiladwyd i greu argraff mewn ardal y cyfeirir ati’n aml fel Millionaires Row. Roedd Hollanton House, tŷ tri llawr gwedd flaen ddwbl wedi’i osod yn ei diroedd ei hun a ger llaw Gerddi Windsor, yn ychwanegiad gwych i’r Parêd.
Drwy’r manylion gwerthu, a luniwyd gan Stephenson ac Alexander, cawn daith dywys o amgylch y tŷ a’r tiroedd. Byddai’r rhai a fyddai wedi mynd i mewn i’r llawr gwaelod wedi dod ar draws cyfres o ystafelloedd â chymesuredd hael gan gynnwys ystafelloedd croeso, brecwast a chiniawa ac yna ystafell filiards a chegin. Ar y llawr cyntaf roedd tair ystafell wely wedi’u hategu gan ystafelloedd gwisgo ac eistedd ynghyd ag astudfa a swyddfeydd. Yn olaf, ymlaen i’r llawr uchaf lle’r oedd pedair ystafell wely arall, meithrinfa ac ail ystafell ymolchi. O ran y gerddi, roeddent yn cynnwys cwrt tennis glaswellt o flaen y tŷ gyda gerddi addurnol a thŷ haf i’r cefn.
Mae’n anodd mesur y crandrwydd a’r moethusrwydd sydd i’w cael mewn cartrefi o’r fath. Fodd bynnag, rhoddir arwydd o hynny gan y ffaith bod y dodrefn, yn bennaf mewn pren cneuen Ffrengig a mahogani, wedi dod o Maple and Co. o Lundain, gorchuddwyr dodrefn i’r Frenhines Victoria. Yn ogystal, roedd y perchnogion yn cyflogi tair morwyn tŷ a oedd yn byw ar y safle, ynghyd â phedwar arall a gyrhaeddai bob dydd i gadw trefn ar y gegin a’r ardd.
Mae’r manylion gwerthu yn rhoi portread hynod ddiddorol o’r teulu a oedd yn galw Hollanton House yn gartref. Ar y grisiau os craffwch, efallai y gwelwch ffigur Eugene Bregeon mewn pos braidd yn ddi-hid. Yn frodor o St Nazaire yn Ffrainc, roedd Bregeon wedi gwneud ei ffortiwn fel asiant yn allforio glo o dde Cymru i Ffrainc, gyda’i longau wedyn yn hwylio ymlaen i Bilbao a dychwelyd gyda mwyn haearn. Erbyn 1898 roedd yn ddyn cyfoethog a dylanwadol oedd yn dal nifer o gyfarwyddiaethau mewn cwmnïau fel Glofa’r Naval a Doc Sych y Barri. Fodd bynnag, roedd wedi penderfynu gwerthu, gyda chynlluniau ar gyfer cartref newydd ym Mharis. Yn agos at adeg ei ymadawiad nid oedd yn syndod bod llu o ffigurau blaenllaw yn y byd busnes yn bresennol mewn cinio a gynhaliwyd yng ngwesty gorau Penarth, yr Esplanade, i ddathlu ei amser yng Nghymru a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.
Ym mlaen y llun gallwch weld pedair o ferched Eugene yn cymryd hoe fer o chwarae tenis ar y cwrt glaswellt o flaen y tŷ. Yn eu harddegau hwyr a’u hugeiniau cynnar, roedd menywod Bregeon i’w gweld yn aml mewn digwyddiadau cymdeithasol ac elusenol ym Mhenarth a Chaerdydd. Roedd y teulu’n gysylltiedig ag Eglwys yr Holl Saint, a bu Eliza Bregeon a’i merched yn flaenllaw iawn mewn digwyddiadau codi arian a gynhaliwyd ar nosweithiau haf yng Ngerddi Windsor a barai o de prynhawn drwodd i ddawnsio’n hwyr i’r nos. Yn y llun mae’n debyg bod Eliza yn eistedd ar y feranda ar y llaw dde. Roedd gwraig gyntaf Eugene, Grace, wedi marw yn 37 oed ac roedd wedi priodi Eliza yn 1888. O ystyried bod Hollanton House wedi’i godi yng nghanol y 1880au, mae’n ddigon posibl iddo gael ei adeiladu ar gyfer teulu Bregeon pan symudon nhw o Gaerdydd i Benarth.
Nid yw unig fab Eugene, a enwir ar ôl ei dad, i’w weld yn y llun. Bedair blynedd ynghynt, roedd wedi priodi Minnie Weichert mewn priodas gymdeithasol enwog, gyda’r papurau newydd yn adrodd bod y gacen briodas wedi’i darparu gan Huntley a Palmers, ‘Purveyors to the Queen’. Yn gyfreithiwr, Eugene Junior oedd yr unig aelod o’r teulu i aros yn ne Cymru pan hwyliodd teulu Bregeon am Ffrainc maes o law.
O ran y gwerthiant, mae cofnodion Stephenson ac Alexander yn cadarnhau iddo gael ei werthu mewn dwy ran. Cafodd y dodrefn, o ystyried eu safon, eu bachu’n gyflym, gyda llawer yn cael eu gwerthu i John Cory, hefyd o Benarth a phennaeth cwmni llongau Caerdydd, John Cory a’i Feibion. Gwnaeth cynnwys y tŷ argraff debyg ar yr arwerthwyr, i’r graddau y prynodd D T Alexander sawl eitem. Fodd bynnag, methodd y tŷ â chyrraedd ei bris wrth gefn o £3800 ac roedd o leiaf un parti â diddordeb wedi tynnu’n ôl pan ddwedwyd wrtho nad oedd stablau yno. Serch hynny, roedd yn adeilad trawiadol mewn ardal lle roedd llawer yn dymuno byw.
Yn ystod y misoedd canlynol daeth yn amlwg bod darpar brynwr yn yr arfaeth. Roedd teulu’r Duncan, yn wreiddiol o’r Alban, yn berchnogion nifer o bapurau newydd yn ne Cymru, gan gynnwys y Cardiff Times, South Wales Echo a’r South Wales Daily News. John Duncan (Syr John yn ddiweddarach), yr hynaf o dri brawd, a gyflwynodd gynnig cychwynnol am Hollanton House, yn sylweddol is na’r pris gofyn. Gydag Eugene Bregeon bellach ym Mharis a’r tŷ’n wag, gyrrodd Duncan fargen galed a phrynodd y tŷ yn y pen draw, yn gynnar yn 1899, am £3500.
Ar y pwynt hwn daw’r ffynonellau cyfoethog eu wybodaeth a ddarparwyd gan bapurau Stephenson ac Alexander i ben. Fodd bynnag, gwyddom fod Eugene Bregeon wedi dychwelyd i Brydain a sefydlu cartref yn Weston Super Mare lle bu farw yn 1918. O ran Eugene Junior a Minnie, yn anffodus methodd eu priodas gydag ysgariad Eugene ym 1922 yn dweud iddo “ffoi a chamymddwyn”. O ran Hollanton House, diflannodd yr enw yn fuan o’r cofnodion ac mae’n debygol iddo gael ei ailenwi gan deulu Duncan fel Dros y Môr. os felly bu’n gartref i John Duncan hyd ei farwolaeth ym 1914. Y tu hwnt i hyn, os gallwch ychwanegu at yr hyn a wyddom am Hollanton House, yna cysylltwch â ni a byddwn yn diweddaru’r stori.
Mae manylion casgliad Stephenson ac Alexander, yn cynnwys y prosbectws gwerthu ar gyfer Hollanton House, ar gael ar-lein, o dan y cyfeirnod DSA, yng nghatalog Archifau Morgannwg https://canfod.glamarchives.gov.uk/.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg