Cofeb Scott ym Mharc y Rhath

Efallai mai’r tirnod mwyaf adnabyddus ym Mharc y Rhath yw tŵr y cloc ger y promenâd ym mhen deheuol y llyn. Mae’r tŵr yn gofeb i ymdrechion arwrol Capten Robert Falcon Scott a fu farw, gyda thri o’i dîm, yn yr Antarctig ym 1912 ar eu taith yn ôl o Begwn y De.

Mae’r cysylltiadau rhwng taith Scott a Chymru yn rhai cryf. Roedd tîm Scott yn cynnwys dau Gymro.  Roedd yr Is-swyddog Edgar Evans yn dod o Rosili ac yn un o’r tîm pedwar dyn a aeth gyda Scott i Begwn y De.  Roedd Edwards Evans, dirprwy’r alldaith a chapten y Terra Nova, sef llong Scott, er iddo gael ei eni yn Llundain, o dras Gymreig ac yn aml yn disgrifio’i hun fel Cymro.

Roedd y daith bron yn gwbl ddibynnol ar roddion ac, yn ddiau, roedd cael Edgar ac Edward Evans o fewn y tîm o gymorth enfawr wrth godi arian yng Nghymru. Cymaint felly fel bod Scott yn frwd i gydnabod y cyfraniad gwych a wnaed gan fusnesau a chymunedau Cymru i gwrdd â chostau’r daith.

Mae’n debyg bod y cytundeb â Chymru ac, yn benodol, Caerdydd wedi’i selio, fodd bynnag, gyda’r penderfyniad y byddai’r Terra Nova, ar ôl gadael Llundain, yn galw yng Nghaerdydd i dderbyn tanwydd ychwanegol a chynnal rownd olaf o ddigwyddiadau codi arian. O Ddoc Bute yng Nghaerdydd, felly, cychwynnodd y Terra Nova o’r diwedd, ar 15 Mehefin 1910, i hwylio tua’r Antarctig. Roedd ond yn naturiol, felly, fod pobl Caerdydd yn teimlo cysylltiad agos â Scott a’r Terra Nova.

Yr hyn nad yw mor adnabyddus yw nad tŵr y cloc oedd y gofeb gyntaf i Gapten Scott ym Mharc y Rhath.   Ar ôl methiant taith Scott, dychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym 1913 a chafodd ei hagor i ymwelwyr fel rhan o ymgyrch genedlaethol i godi arian i ddibynyddion y rhai a fu farw, ac i godi cyfres o gofebion.

Yn ystod ei harhosiad, ac i nodi’r cysylltiad arbennig â Chymru, tynnwyd y flaenddelw o’r llong a’i gyflwyno i Ddinas Caerdydd gan Frederick Charles Bowring, un o berchnogion y llong. Fe’i dadorchuddiwyd ym Mharc y Rhath ddydd Llun 8 Rhagfyr 1913 a’i ddisgrifio yn y wasg leol fel a ganlyn:

… the most inspiring of all the monuments that are being erected in many parts of the world in memory of Captain Scott.

Yn y seremoni hon awgrymwyd yn gyntaf y dylid adeiladu tŵr cloc yn y parc fel cofeb arall i Gapten Scott.  Cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer y tŵr ym mis Mawrth 1914 a dechreuodd y gwaith adeiladu yn ystod haf y flwyddyn honno.  Cwblhawyd y tŵr, a adeiladwyd i fod yn debyg i oleudy, erbyn 1915, fel y nodwyd gan y plac y gellir ei weld ar y tŵr heddiw. Credir yn aml fod asgell y gwynt ar ben y goleudy yn fodel o’r Terra Nova. Mewn gwirionedd, y Discovery ydyw, llong Scott o daith Antarctig gynharach.

Arhosodd blaenddelw’r Terra Nova, a gerfiwyd o dderw, yn y parc am bron i ugain mlynedd cyn cael ei symud i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1932. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe’i disodlwyd gan ardd goffa newydd ym mhen gorllewinol y promenâd.  Wedi’i greu yn 2010 i nodi canmlwyddiant taith Scott, enillodd y dyluniad wobr yn sioe flodau Chelsea cyn cael cartref parhaol ym Mharc y Rhath yn 2012. Felly, y tro nesaf y byddwch yn ymweld â Pharc y Rhath, yn ogystal ag edmygu Tŵr y Cloc a adnewyddwyd yn ddiweddar, beth am edrych ar yr Ardd Goffa hefyd?

D332-18-23-11

Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethom hefyd addo sôn ychydig mwy wrthych am y sawl dewr a blymiodd i’r dŵr o ben tŵr y cloc. Y fenyw dan sylw oedd Mrs D Allen ac ym mis Awst 1922, dringodd yr ysgolion sy’n cysylltu’r tair lefel o fewn tŵr y cloc cyn ymddangos ar y balconi. Yna syfrdanodd wylwyr trwy blymio o’r balconi i’r llyn islaw ac, fel y mae ffotograffau yn y wasg leol yn cadarnhau, llwyddodd a bu fyw i adrodd y stori.

Clwb Nofio Parc y Rhath, yn y cyfnod hwn, oedd un o’r mwyaf yn Ne Cymru.  Roedd yn cynnwys nifer o bencampwyr Cymreig a Chenedlaethol a gwahoddwyd y clwb yn aml i roi arddangosfeydd nofio mewn galas ar draws De Cymru.  Adeg y plymio, roedd Mrs Allen yn Ysgrifennydd Adran y Merched.  Roedd hi hefyd yn arbenigwr plymio ac wedi ennill sawl cystadleuaeth plymio.  Mae’n siŵr yr oedd y llyn yn ddyfnach yn y dyddiau hynny a, gyda’i phrofiad, nid oedd y penderfyniad i blymio i’r dŵr mor anniogel ag y mae’n swnio, o bell ffordd. Serch hynny, yr oedd yn dipyn o gamp.  Os gall unrhyw un ein helpu i gael gwybod mwy am Mrs Allen a’i phlymiad o Dŵr Coffa Scott, rhowch wybod i ni a byddwn yn cynnwys y wybodaeth mewn erthygl arall.

This is the fifth article in a series looking at the history of the park through the collection of photographs held at the Glamorgan Archives.

Dyma’r pumed erthygl mewn cyfres sy’n edrych ar hanes y Parc trwy’r casgliad o ffotograffau a gadwyd yn Archifau Morgannwg.  Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r lluniau uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley, cyf.: D332/18/23/12-13.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Dim un eiliad ddiflas – cân, dawns a’r bwrlésg: Y Pafiliwn Cyngerdd ym Mharc y Rhath

Efallai mai’r ffotograff heddiw o Barc y Rhath yw un o olygfeydd mwyaf adnabyddus y parc, gan edrych ar draws y llyn tuag at y promenâd gyda thŵr a chloc urddasol Cofeb Scott ar ochr chwith y llun.

D332-18-23-13

Edrychwch yn ofalus, fodd bynnag, ar yr adeilad ychydig yn is na’r promenâd ar ochr dde’r ffotograff.  Efallai bod rhywrai sy’n cofio’r strwythur a safai yn yr ardal lle mae teuluoedd bellach yn cael picnic ar y glaswellt ar ddyddiau o haf. Fodd bynnag, nid oes gan y rhan fwyaf o ymwelwyr unrhyw syniad bod un rhan o’r maes chwarae plant presennol unwaith yn gartref i bafiliwn cyngerdd mawreddog a oedd yn darparu adloniant drwy gydol misoedd yr haf.

Mae’n debyg i’r llun gael ei dynnu ar ddechrau’r 1920au, o gofio i’r pafiliwn gael ei agor gan Arglwydd Faer Caerdydd, Yr Henadur James Taylor, ar nos Wener 31 Gorffennaf 1921. Wedi’i chodi ar gost o £4,000 roedd yn cynnwys arena siâp hecsagon, gyda tho rhannol wydr, a oedd yn darparu gorchudd a seddau i gynulleidfa ynghyd â llwyfan cyngerdd ac ystafelloedd newid.

Roedd cerddoriaeth yn y parc wedi’i darparu’n rheolaidd ers 1903, gyda chodi bandstand ychydig islaw’r promenâd. Er bod perfformiadau gan fandiau pres a chorau wedi cael derbyniad da, o fewn ychydig flynyddoedd adroddodd Uwch-arolygydd y Parciau fod awydd a galw am ystod fwy amrywiol o adloniant. O ganlyniad, yn y blynyddoedd yn arwain at 1914 ac yn ystod y rhyfel, roedd partïon cyngerdd yn aml yn cael eu cyflogi gan Bwyllgor y Parciau i berfformio ym Mharc y Rhath.  Fodd bynnag, llesteiriwyd perfformiadau gan absenoldeb llwyfan parhaol ac roedd y gynulleidfa’n aml yn eistedd yn yr awyr agored ac ar drugaredd yr elfennau.

Nod y Pafiliwn Cyngerdd, a agorwyd ym 1921, oedd rhoi adloniant yn y parc ar sail broffesiynol gyda llwyfan o ansawdd theatr a system oleuo. Er mai 750 oedd capasiti cychwynnol yr ardal eistedd dan do, roedd cynlluniau eisoes ar y gweill i gynyddu hyn i 1,200. Aeth anrhydedd cael perfformiad yno gyntaf ar ddiwrnod yr agoriad i Gwmni Vaudeville Mr Bert Grey. Roedd y cwmni o dan yr enw “Pro Rata”, yn cynnwys Katherine Dawn, diddanwr ar y piano; Gwen Maddocks, soprano Cymreig; Ethel Dennison, digrifwraig a dawnsiwr; Tom Minshall, bariton; Billie Sinclair, digrifwr ysgafn; a Bert Grey, digrifwr a dawnsiwr.

Roedd yr adolygiad o’r noson gyntaf yn The Stage yn gadarnhaol iawn:

From the rise of the curtain to the finale there was not a dull moment and whether in song , dance or burlesque the party were equally at home.

Efallai yn bwysicach fyth, cafodd y perfformiad sêl bendith Pwyllgor y Parciau gydag Ernest Williams, y Cyfarwyddwr Cyngerdd, yn ddiau yn tynnu ochenaid o ryddhad ac yn llongyfarch “Pro Rata” ar ddarparu …un o’r sioeau disgleiriaf, gorau a glanaf a welwyd ym Mharc y Rhath ers blynyddoedd.

Yn y blynyddoedd canlynol bu fformat a oedd yn plethu  comedi, dawns a chân yn hynod lwyddiannus, gyda pherfformiadau â thocynnau y rhan fwyaf o nosweithiau am 7.30pm ynghyd â sioeau pnawn ar brynhawniau Mercher a Sadwrn. Daeth hanner cant o filoedd o bobl i gyngherddau yn y pafiliwn yn ystod tymor yr haf 1926.  Ond aeth y record yn y cyfnod hwn i berfformiad gan fand pres, ar brynhawn Sul ym Mehefin 1924, pan lwyddodd 1,800 o bobl wasgu i’r pafiliwn i glywed perfformiad gan y band arobryn The Besses o’ th’ Barn.

Roedd y Pafiliwn Cyngerdd yn nodwedd boblogaidd o Barc y Rhath am dros 30 mlynedd nes y barnwyd ei fod yn strwythurol anniogel ac fe’i datgymalwyd yn 1953. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n gartref i berfformiadau di-rif ac yn aml fe’i defnyddiwyd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sioeau garddwriaethol a hyd yn oed arddangosfeydd gymnasteg.

Nid agor y Pafiliwn Cyngerdd newydd oedd yr unig nodwedd a dynnodd y torfeydd i Barc y Rhath yn y cyfnod hwn.  Ym mis Awst y flwyddyn ganlynol, syfrdanodd menyw ifanc y gwylwyr ger llaw pan blymiodd o’r balconi ar ben Cofeb Scott i’r llyn a byw i adrodd yr hanes. Ond mwy am hynny a Chofeb Scott yn yr erthygl nesaf yn y gyfres hon yn edrych ar hanes y parc drwy’r casgliad ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r llun uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley, cyf.: D332/18/23/13.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

“Danteithion Ychwanegol” – Cerddoriaeth ym Mharc y Rhath

Rydym wedi dangos, yn ddiweddar, sawl llun o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath a gedwir yng nghasgliad T F Holley yn Archifau Morgannwg. Agorwyd y parc ym mis Mehefin 1894 a chymerwyd y ffotograffau dros gyfnod o 20 mlynedd hyd at ddechrau’r rhyfel ym mis Awst 1914.

Er bod y ffocws cychwynnol wedi bod ar y llyn, heddiw edrychwn ar adloniant a oedd yn cael ei ddarparu yn y parc ac, yn benodol, y llwyfan bandiau a oedd wedi’i leoli ychydig yn is na’r promenâd lle mae maes chwarae’r plant bellach wedi’i lleoli. Mae’r ddau lun yn y casgliad yn dangos Parc y Rhath ar brynhawn, neu o bosibl yn gynnar gyda’r nos, yn llawn ymwelwyr, llawer ohonynt yn eu dillad Sul gorau.

D332-18-23-2

Maent yn mwynhau’r parc ac, mewn un ffotograff, maent yn cymryd eu seddi i gyngerdd gael ei gyflwyno yn y llwyfan bandiau.

D332-18-23-3

Wrth ddyddio’r lluniau maen nhw’n sicr o 1903 ymlaen, gan y cafodd y llwyfan bandiau ei hadeiladu yn y flwyddyn honno ac yna dim ond ar ôl llawer o drafod.

Roedd y cynlluniau cychwynnol ar gyfer Parc y Rhath wedi cynnwys darpariaeth ar gyfer llwyfan bandiau a rhaglen reolaidd o adloniant cerddorol. Mae’n ddigon posibl bod Band Stampio Tun Caerdydd wedi darparu’r perfformiad cyntaf, ym mis Gorffennaf 1894, dim ond mis ar ôl i’r parc agor. Fodd bynnag, byddent wedi gorfod gwneud hynny ar y promenâd tra bod Pwyllgor y Parciau yn trafod a ddylid ariannu’r gwaith o adeiladu llwyfan bandiau.

Er bod llawer a wrthwynebodd unrhyw awgrym o berfformiadau ar ddydd Sul, cyllid oedd y prif rwystr. Hyd yn oed pan gafwyd cyfle i brynu un o’r ddwy lwyfan bandiau a ddefnyddiwyd ar gyfer Arddangosfa Caerdydd yn 1896, oedodd y Gorfforaeth, gan chwilio am sicrwydd y gellid lleihau’r costau ar gyfer adeiladu a llogi bandiau. Penderfynodd pwyllgor y Parciau o’r diwedd ym mis Rhagfyr 1902 gyda chytundeb y dylid adeiladu llwyfan bandiau ar gyfer tymor 1903 ar gost o £390.

Roedd y cyngerdd cyntaf bron yn sicr ddydd Llun y Sulgwyn, 1 Mehefin, 1903. Er gwaethaf cystadleuaeth gan atyniadau eraill, gan gynnwys cyfarfod rasio yn Nhrelái a Chwaraeon Hibernia yng Ngerddi Sophia, ymwelodd y nifer uchaf o bobl erioed â Pharc y Rhath i gael eu diddanu yn ystod y prynhawn a’r noson gynnar gan Fand Milwrol Caerdydd. Fel y nododd yr Evening Express, ar 3 Mehefin, “…gwerthfawrogwyd y danteithion ychwanegol yn fawr”.

Daeth cerddoriaeth yn y parc yn boblogaidd ar unwaith fel y dangosir gan yr adroddiad, y flwyddyn ganlynol, o Uwcharolygydd y Parciau, William Pettigrew. Er bod darpariaeth wedi’i gwneud i ddechrau ar gyfer 100 o gadeiriau sy’n plygu mewn man amgaeedig ger y llwyfan bandiau, cymaint oedd y galw bod 400 bellach ar gael i’w llogi ar gyfer pob perfformiad. Cyfanswm yr incwm o logi cadeiriau a gwerthu dros 15,000 o raglenni yn ystod 1904 oedd £80. Fodd bynnag, cafodd y record ei guro gan y £115 a ddarparwyd gan Bwyllgor y Tramffyrdd o’r refeniw ychwanegol a gymerwyd ar y tramiau a oedd yn rhedeg i Barc y Rhath.  Pan holodd un cynghorydd, yn 1905, pam y dewiswyd rhai parciau ar gyfer perfformiadau cerddorol, dywedwyd wrtho’n eithaf di-flewyn ar dafod fod y penderfyniadau’n seiliedig ar amcangyfrifon o ba mor bell y byddai’r perfformiadau’n cynhyrchu refeniw ychwanegol o wasanaethau tram i’r parc.

Ym mis Mehefin 1910 talodd dros 1500 o bobl i logi cadeiriau pan berfformiodd Band Cyfarthfa a’r Band Trefol yn y Parc. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod y dorf gyfan yn agos i 5000, gyda llawer yn gwylio o’r gerddi a’r promenâd cyfagos. Fis yn ddiweddarach, mynychodd dros 16,000 “Carnifal Dŵr” YMCA a gynhaliwyd yn y Llyn, gydag adloniant gyda’r nos yn cael ei ddarparu gan fand Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Darparwyd y perfformiad olaf gyda’r nos gan arddangosfa o dân gwyllt a dyfodiad llong awyr siâp sigâr, a dreialwyd gan yr awyrennwr arloesol o Gymru, Ernest Willows, a oedd, er llawenydd y dorf, yn cylchu’r parc.

Gyda Pharc y Rhath yn cael ei ddisgrifio fel y “… gorau yn y wlad y tu allan i Hyde Park, Llundain” roedd galw cynyddol am fwy o adloniant. Roedd goleuadau trydan, a osodwyd yn 1911, yn caniatáu i berfformiadau yn y llwyfan bandiau barhau yn hwyrach yn y nos a hefyd ymestyn y tymor blynyddol ar gyfer cerddoriaeth yn y parc. Fodd bynnag, y broblem oedd bod y cyhoedd hefyd am gael amrywiaeth fawr o adloniant.

Yn 1910 roedd Pwyllgor y Parciau wedi ystyried yr achos dros faes perfformio newydd i’w ddefnyddio gan gorau a chantorion. Ychwanegwyd at hyn yr awgrym y gellid gwahodd partïon cyngerdd i berfformio yn y parc. O ganlyniad, cafodd Pettigrew gyfarwyddyd i ystyried yr hyn y gellid ei wneud ac adrodd yn ôl i Bwyllgor y Parciau.

Nid dyma’r diwedd i’r llwyfan bandiau o bell ffordd. Goroesodd am 30 mlynedd arall cyn cael ei symud o’i diwedd. Fodd bynnag, dyma oedd cyfnod newydd ar gyfer cerddoriaeth ac adloniant ym Mharc y Rhath y byddwn yn dangos yn yr erthygl nesaf yn y gyfres hon gan edrych ar hanes y parc drwy gasgliad o ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r llun uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley, cyf.: D332/18/23/8.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Y “Pysgotwr Nos” yn dod i Barc y Rhath

Mae llawer o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath yng nghasgliad Archifau Morgannwg. Ers ei agor ym mis Mehefin 1894 mae’r llyn yn y parc wedi bod yn lleoliad poblogaidd i genedlaethau o deuluoedd o bob rhan o dde Cymru.

Yn ddiweddar, fe dynnon ni sylw at ffotograff o’r platfform ymdrochi ger y promenâd.  Mae’r llun isod, a gymerwyd cyn 1914 hefyd, o ran o’r llyn sydd, efallai, ychydig yn llai cyfarwydd. Mae’n dangos yr ynysoedd ar ben uchaf (pen gogleddol) y llyn a’r bont lle mae Nant Lleucu yn llifo i’r llyn am y tro cyntaf. Y tu ôl i’r ffotograffydd y mae’r ardal a elwir yn Gerddi Gwyllt.

D332-18-23-8

Tynnir y llygad at y bobl sy’n mwynhau mynd ar gychod o amgylch yr ynysoedd. Edrychwch yn ofalus, fodd bynnag, ar un o’r ffigurau yn y blaendir.  Mae’n pysgota a’r tebygolrwydd yw, pe byddai wedi bod yn llwyddiannus y diwrnod hwnnw, y byddai ei fasged yn cynnwys brithyll. Pan agorwyd y llyn am y tro cyntaf, cafodd ei stocio â 1500 o frithyll brown a brynwyd o Loch Leven. Am flynyddoedd lawer, y brithyll brown a oedd yn teyrnasu yn y llyn i raddau helaeth, gyda’r pysgod yn cael eu hail-stocio â physgod a fagwyd yn neorfeydd y parc ei hun a leolid i ddechrau ger y gerddi botanegol ac yn ddiweddarach yn y Gerddi Gwyllt.

A chan gofio mantoli’r gyllideb, byddai cost yr ailstocio yn cael ei godi drwy roi trwyddedau pysgota a thrwy werthu canran o’r brithyll a fagwyd yn y deorfeydd.  O bryd i’w gilydd, byddai lefel y llyn yn cael ei ostwng ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Pan ddigwyddai hyn, cai’r brithyll eu dal mewn cored bysgod yn y nant rhwng y ddwy bont islaw’r promenâd. Roedd hyn hefyd yn caniatáu i wiriadau gael eu gwneud ar y niferoedd. Ym mis Hydref 1909, adroddodd William Pettigrew, Uwcharolygydd y Parciau, fod 25,000 o silod brithyll wedi’u rhyddhau i’r llyn er mwyn cynnal lefelau stoc.

At ei gilydd, gweithiai’r system yn dda, er, ar un adeg, cyhoeddwyd rhybudd llym pan ymddangosodd nifer o frithyll yn siop gwerthwr pysgod lleol. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, nad pysgotwyr lleol yn unig oedd yn mynd ar drywydd y brithyll. Ar sawl achlysur gwelwyd dyfrgwn yn y llyn ac, ar un achlysur, dyfrgi gwrywaidd llawn maint 22 pwys. O ganlyniad, gosodwyd trapiau er bod hyn wedi achosi rhywfaint o gythrwfl, gydag arsylwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod llyswennod yn llawer mwy o berygl i’r brithyll ifanc iawn na’r dyfrgwn.

Efallai mai’r prif bysgotwr yn y llyn, fodd bynnag, oedd cath drilliw benodol a oedd yn eiddo i Mr H N Jenkins ac a enwyd gan y wasg fel y “pysgotwr nos”. Dywedodd Mr Jenkins fod ei gath yn ymddangos yn rheolaidd ar garreg ei ddrws yn gynnar bob bore gyda brithyll yn ei geg a adawyd yn rhodd i’w berchennog. Awgrymir yn aml bod pysgotwyr yn adrodd “celwydd golau” yn achlysurol, ond perchnogion cathod? Go brin!

Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r llun uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley cyf. D332/18/23/8.  Mae stori’r “pysgotwr nos” i’w gweld yn Papurau Newydd Cymru ar lein, Evening Express, 2 Tachwedd 1898.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Y Gemau Olympaidd yn dod i Barc y Rhath

Mae llawer o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath yng nghasgliad Archifau Morgannwg. Ers ei agor ym mis Mehefin 1894 mae’r llyn yn y parc wedi bod yn lleoliad poblogaidd i genedlaethau o deuluoedd o bob rhan o dde Cymru.

Wrth edrych ar ffotograffau cynnar o’r llyn, a dynnwyd cyn 1914, maen nhw’n adrodd hanes diwrnodau braf o haf gyda phicnic, cychod, ymdrochi a rowndiau diddiwedd o gemau plant.  Ond ymddengys nad dyma’r stori lawn… Y llyn oedd lleoliad nifer o ddigwyddiadau mawreddog, y mae llawer ohonynt bellach bron wedi mynd yn angof. Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod ei fod wedi cynnal y treialon ar gyfer tîm Olympaidd Prydain, ac roedd miloedd yn bresennol i weld arwr lleol yn cystadlu yn y llyn?

Picture1

Roedd y llyn yn lleoliad ymdrochi poblogaidd iawn ym 1912. Drwy deithio ar y tram o ganol Caerdydd, gallai’r rhai oedd ag awydd mynd i’r dŵr logi dillad nofio, tywelion ac un o drigain o gabanau newid pren. Gyda llwyfan ymdrochi, byrddau plymio ac ardal nofio wedi’i dynodi gan fwiau, roedd anghenion bron pawb yn cael eu diwallu. Fodd bynnag, yn achos damwain, roedd cwch a ‘nofiwr arbenigol’ bob amser wrth law i’r rhai a oedd yn mynd i ddyfroedd dyfnion.

Yr un flwyddyn, cynhaliwyd treialon ledled y wlad i’r timau nofio a pholo dŵr i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd Stockholm. Parc y Rhath oedd y lleoliad perffaith ar gyfer treialon Cymru, a gynhaliwyd ar 27 Ebrill a 4 Mai.  Daeth miloedd i wylio Paolo Radmilovic, arwr lleol Caerdydd. Yn 26 oed y flwyddyn honno, roedd Paolo wedi cael ei ddewis ar gyfer tîm polo dŵr Cymru yn 15 oed ac roedd ganddo amrywiaeth o deitlau nofio Cymreig a Phrydeinig. Roedd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain ym 1908.

Cafodd torf Parc y Rhath eu trin i ras wefreiddiol y diwrnod hwnnw gyda ‘Raddy’ a’r gystadleuaeth leol, Billy Kimber, yn mynd ati’n dynn am y safle buddugol yn y ras ddull rhydd dros 100 metr. Aeth y ddau nofiwr drwodd i rowndiau terfynol y treialon ond ‘Raddy’ a sicrhaodd ei le ar y tîm Olympaidd. Er iddo gael siom yn y nofio yn Stockholm, enillodd fedal aur arall fel capten tîm polo dŵr buddugol Prydain.

Roedd Gemau Olympaidd Stockholm yn garreg filltir arall i Paolo Radmilovic mewn gyrfa a oedd yn ymestyn dros 30 mlynedd ac yn cynnwys cystadlu mewn chwe Gêm Olympaidd a chyfanswm o bedair medal aur Olympaidd. I’r rhai a safodd ar y promenâd ac wrth ymyl y dŵr ym Mharc y Rhath ym mis Ebrill 1912, byddai wedi bod yn un o’r adegau “Roeddwn i yno” wrth iddynt gefnogi’r bachgen lleol a ddaeth, o bosibl, yn Olympiad gorau Cymru.

Mae Archifau Morgannwg yn dal sawl set o luniau o’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn.  Mae’r lluniau ar gael o fewn Casgliad T F Holley Collection, cyf.: D332/18/23/1-13.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Sefydliad Mackintosh, Keppoch St, Y Rhath, Caerdydd

Yn wreiddiol yn rhan o ystâd Roath Court, ymddengys fod Plasnewydd (a elwid hefyd ar wahanol adegau yn Roath Lodge a Roath Castle) wedi’i hadeiladu tua throad y 19eg ganrif.  Yn 1841, hwn oedd cartref teuluol John Matthew Richards (1803–1843), a oedd yn berchen ar 124 erw o dir i’r gogledd a’r de o’r hyn sy’n Heol Albany erbyn heddiw.  Erbyn 1856, roedd Plasnewydd yn eiddo i Edward Priest Richards a briododd Harriet Georgina Tyler o Cottrell, Sain Nicolas ym mis Chwefror y flwyddyn honno.  Cyn diwedd y flwyddyn, bu farw Edward yn 25 oed, ar ôl cael ei daflu oddi ar ei geffyl wrth ddod adref ar hyd Heol y Plwca ond, ar 23 Mehefin 1857, rhoes Harriet enedigaeth i’w ferch.  Enwyd y plentyn yn Harriet Diana Arabella Mary Richards ac, ym mis Ebrill 1880, priododd ag Alfred Donald Mackintosh a oedd, fel Pennaeth Clan, yn cael ei adnabod yn fwy ffurfiol fel ‘The Mackintosh of Mackintosh’.

D1093-1-5 p34

Darlun Mary Traynor o Sefydliad Mackintosh

Er bod prif gartref y cwpl yn yr Alban, roedden nhw’n cadw Cottrell fel preswylfa yn ne Cymru.  O fewn ychydig flynyddoedd, datblygwyd ystâd y Rhath  gyda strydoedd newydd i gartrefu poblogaeth gynyddol Caerdydd ac, ym 1890, rhoddodd Mackintosh brydles hir ar gyfer Plasnewydd a dwy erw o dir o’i gwmpas i’w defnyddio fel cyfleuster cymdeithasol a hamdden, a adwaenid fel Sefydliad Mackintosh.  Wrth i’r brydles hon ddirwyn i ben yn y 1980au, caffaelodd Clwb Chwaraeon Mackintosh rydd-ddaliad y safle, sydd wedi’i estyn ers hynny i ddarparu lle ychwanegol at ddefnydd y gymuned.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Cofnodion Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath (: D328/14)
  • Childs, Jeff: Roath, Splott and Adamsdown – One Thousand Years of History
  • Childs, Jeff: Roath, Splott and Adamsdown (The Archives Photographs Series)
  • Williams, Stewart: Cardiff Yesterday Cyf 11, Delwedd 98
  • Cyfrifiad 1841
  • The Cardiff and Merthyr Guardian, 9 Chwefror 1856
  • The Cardiff and Merthyr Guardian, 22 Tachwedd 1856
  • The Cardiff and Merthyr Guardian , 27 Mehefin 1857
  • http://www.mackintoshsportsclub.org/history/

Ysgol Sant Pedr, Caerdydd

Cyn y 1840au, go denau oedd poblogaeth Gatholig Caerdydd.  Yna bu cynnydd sylweddol yn y niferoedd oherwydd y twf yn sgil mewnfudwyr o Iwerddon.  Eglwys Dewi Sant (rhagflaenydd y gadeirlan bresennol) oedd yr eglwys Gatholig gyntaf yn y dref.  Wedi’i chodi ym 1842, roedd ar safle sydd bellach o dan Arena Motorpoint.  Erbyn 1861, roedd dros 10,000 o Gatholigion yng Nghaerdydd – traean o’r boblogaeth gyfan – ac roedd yr angen wedi codi am ail eglwys.  Caffaelwyd safle o Ystâd Homfray ac agorwyd Eglwys Sant Pedr, y Rhath ar 24 Medi 1862.

D1093-1-2 p1

Sefydlodd yr offeiriad lleol, y Tad Fortunatus Signini, Ysgol Sant Pedr ar ei gwedd gyntaf ym 1868.  Hen gapel Wesleyaidd oedd ei chartref, yn agos i’r eglwys yn yr hyn sydd bellach yn Bedford Place.  Fodd bynnag, roedd angen safle fwy.  Gyda chymorth Ardalydd Bute, cafwyd safle yn St Peter’s Street, ar draws y ffordd o’r eglwys ac ychydig i’r gorllewin ohoni.  Datblygwyd cynlluniau gan bensaer o Gaerdydd, W. P James, ac fe’u cymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar 27 Hydref 1871.  Gydag un ystafell ddosbarth i ddechrau a oedd yn mesur 60 troedfedd (18 metr) o hyd a 30 troedfedd (9 metr) o led, agorodd yr ysgol newydd ar 1 Awst 1872.  Fe’i hestynnwyd ym 1902, i ddarparu ystafelloedd dosbarth ychwanegol; roedd merched bellach yn cael eu haddysgu ar y llawr gwaelod a bechgyn ar y llawr cyntaf.  Dyblwyd maint yr ysgol gydag estyniad arall ym 1928 a chafodd cynllun yr ystafelloedd yn yr adeilad hŷn ei aildrefnu hefyd.  Ym 1977, symudodd Ysgol Sant Pedr i hen safle Ysgol Uwchradd Caerdydd yn Southey Street.  Dymchwelwyd yr adeilad ar St Peter’s Street ac mae’r lleoliad bellach yn safle i ddatblygiad o fflatiau, sef Richmond Court.

Mae braslun Mary Traynor yn dangos yr adeilad gwreiddiol ym 1871, fel yr ymddangosai ym 1982.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/2)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ysgol Gatholig arfaethedig, Ysgol Gatholig Sant Pedr, St. Peter’s Street, 1871 (cyf.: BC/S/1/90594)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiadau i Ysgol Gatholig Sant Pedr, 1902 (cyf.: BC/S/1/14822)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer newidiadau ac ychwanegiadau i ysgol, Ysgol Gatholig Sant Pedr, St. Peter’s Street, 1928 (cyf.: BC/S/1/25801)
  • Archesgobaeth Caerdydd: A History of St Peter’s Parish, Roath, Cardiff 1854-2001

Ymgiliad Plant Ysgol o Gaerdydd, 31 Mai 1941

Ar fore dydd Sadwrn 31 Mai 1941, ymgasglodd plant Ysgol Merched Marlborough Road ar iard chwarae Ysgol Gynradd Parc y Rhath. Ddydd Gwener roedd yr ysgol wedi torri ar gyfer gwyliau’r Sulgwyn, ond nid taith wyliau oedd y daith a gynlluniwyd ar gyfer dydd Sadwrn ola’r mis. Roedd pob plentyn yn cario masg nwy a ches bach o eiddo. Roedd ganddynt hefyd label gyda’u henwau a’u hysgol wedi’u cysylltu i’w cotiau. Mewn iardiau ysgol ar draws Caerdydd, roedd grwpiau tebyg yn ymgynnull, a wyliwyd gan rieni pryderus a dagreuol, fel rhan o raglen i yrru plant i fannau diogel i ffwrdd o’r cyrchoedd bomio a ddigwyddai bron yn ddyddiol.

BC_PH_1_34

Heol Casnewydd, 31 Mawrth 1941

Roedd yn eironig bod Caerdydd, ar ddechrau’r rhyfel, ym 1939 wedi cael ei hystyried yn barth cymharol ddiogel y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o awyrennau’r Almaen.   Roedd y ddinas wedi derbyn a gofalu am filoedd o ffoaduriaid, llawer ohonynt o ardal Birmingham.  Erbyn 1941, fodd bynnag, roedd y sefyllfa wedi newid.  Roedd tirnodau adnabyddus ar draws y ddinas, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Llandaf, wedi dioddef gan donnau o gyrchoedd bomio.

BC_PH_1_36i

Heol Penylan, [1940au]

Er bod propaganda’r gelyn yn honni bod yr ymosodiadau yn canolbwyntio ar ardal a ffatrïoedd y dociau, mewn gwirionedd nid oedd unrhyw ran o’r ddinas yn ddiogel. Roedd Ysgol Marlborough Road wedi cael ei bomio ar noson y 3ydd o Fawrth. Roedd ysgol y babanod wedi llwyddo i osgoi difrod sylweddol ond roedd yr adeilad brics coch tri llawr a oedd yn gartref i’r rhan fwyaf o’r disgyblion i bob pwrpas wedi ei wastatáu i’r llawr.

Ailgartrefwyd y disgyblion mewn ysgolion cynradd lleol, gan gynnwys rhai Parc y Rhath a Heol Albany, ond parhaodd bygythiad ymosodiadau eraill. Ar 22 Mai cofnododd Pennaeth Ysgol y Babanod Heol Albany:

Air Raid over the city from 2.15pm-2.30pm. School took shelter in school Air Raid Shelters [EC1/2, t362]

Erbyn hynny roedd yr awdurdod lleol wedi penderfynu, cymaint oedd y perygl, y byddai plant ysgol pum mlwydd oed ac yn hŷn yn cael cynnig i adael Caerdydd.

Gweithredwyd y cynlluniau’n rhyfeddol o gyflym. Dim ond wyth diwrnod oedd rhwng cytuno ar y cynllun gadael ac ymadawiad y plant cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mynychodd Mary Jenkins, Pennaeth Ysgol y Merched Marlborough Road, gyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Addysg i gael manylion y cynllun ac yna defnyddiodd y wybodaeth ar gyfer cyfarfodydd lleol gyda rhieni.

Roedd y cynllun yn wirfoddol a mater i’r rhieni oedd penderfynu a fyddai eu plentyn yn ymuno â’r ymgiliad. Ar gyfer y pedair mil a gofrestrodd, cynhaliwyd archwiliadau meddygol ar ddiwrnod olaf y tymor, y diwrnod cyn ymadael. I’r rhan fwyaf cam syml yn y broses oedd hyn, ond bu o leiaf un plentyn yn Ysgol Fabanod Parc y Rhath yn lwcus i raddau, fel yr adroddodd y Pennaeth:

Fourteen children (two have withdrawn) are being medically examined this morning for evacuation with the school tomorrow. One has Chicken Pox. [EC44/1/2, t119]

Yn y diwedd dim ond deunaw merch o Ysgol y Merched Marlborough Road a ddewisodd ymgilio ynghyd â deuddeg o blant o ysgol y babanod. Ymunodd pedwar deg pump o ddisgyblion o Ysgol y Bechgyn Parc y Rhath a 165 o ddisgyblion o Ysgol Heol Albany. Ar ben hyn, anfonodd llawer o rieni eu plant at deulu a ffrindiau yn hytrach na chofrestru ar gyfer y cynllun swyddogol.

Ddydd Sadwrn 31 Mai teithiodd merched Marlborough Road gyda’u hathrawon, ar dram mae’n debyg, i ganol Caerdydd ac yna, ar y trên i ddechrau, i’w cyrchfan, sef Pontlotyn.  Ym Mhontlotyn fe’u cymerwyd i neuadd dderbyn ganolog lle’r oedd pobl leol, a oedd wedi cytuno i gartrefu’r plant, wedi ymgasglu.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar 2 Mehefin, cofnododd Mary Jenkins:

Eighteen of our girls were taken to Pontlottyn on 31st May. Reports are that they are happy and satisfactorily settled. [EC20/1, tt322-3]

Er ei fod yn llai na 30 milltir o Gaerdydd, mae’n rhaid ei fod wedi ymddangos fel byd gwahanol, yn byw gyda theulu newydd, mewn amgylchedd anghyfarwydd ac yn mynd i’r ysgol leol. Byddai’r bechgyn o Barc y Rhath wedi cael profiad tebyg, dim ond yn eu hachos hwy roedd y parti o bedwar deg pump wedi ei wahanu gyda’r bechgyn yn cael eu cartrefu ym Medlinog, Trelewis ac Ystrad Mynach. O leiaf roedd rhai wynebau cyfarwydd yn yr ysgol gydag athrawon o ysgolion Caerdydd yn ymuno â’r staff lleol.

Er gwaethaf sylwadau calonogol Miss Jenkins, pan ailagorodd ysgolion Caerdydd ar ôl y gwyliau cafwyd adroddiadau bod llif cyson o blant yn dychwelyd.  Er bod y gwyrddni a’r bryniau yn dipyn o newid i lawer, wedi’i osod yn erbyn hyn roedd y plant yn hiraethu’n daer am gael mynd adref. Gyda rhieni’n aml yn ymweld dros y penwythnos roedd temtasiwn cryf i dynnu’n ôl o gynllun a oedd, wedi’r cyfan, yn un gwirfoddol. Yn ogystal, roedd cyrchoedd awyr ar Gwm-parc a Chwm-bach wedi cadarnhau nad oedd y Cymoedd yn ddiogel rhag ymosodiad.

Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf roedd dros 500 o blant wedi dychwelyd i Gaerdydd, gan gynnwys tri o fechgyn Parc y Rhath.  Roedd gweithio ynghlwm â’r ymgiliad hefyd yn amhoblogaidd gyda staff addysgu. O ganlyniad i’r niferoedd isel yn gwirfoddoli i weithio i ffwrdd o Gaerdydd, ym mis Mehefin, gwnaeth y Pwyllgor Addysg hi’n ofynnol i bob athro, pan ofynnid iddo wneud hynny, weithio am un tymor, a ymestynnwyd yn ddiweddarach i hyd at flwyddyn, mewn ysgol lle’r oedd plant a adawodd Gaerdydd wedi’u gosod. Ar 24 Mehefin 1941 nododd Pennaeth Ysgol y Merched Parc y Rhath:

Miss Clarissa Thomas was transferred to the Reception Area at Trelewis for the remainder of this term [EC44/3/2, t3]

Roedd penaethiaid ledled Caerdydd yn ysgrifennu cofnodion tebyg wrth i staff gael eu symud i weithio gyda phlant yr ymgiliad.

Erbyn diwedd 1941 roedd dros hanner y rhai a adawodd wedi dychwelyd.   Er na chiliodd y bygythiad o ymosodiadau awyr ar Gaerdydd tan ymhell i mewn i 1943, roedd mwyafrif helaeth y faciwîs wedi dychwelyd i’r ddinas erbyn hynny. I’r rhai a arhosodd am y cyfnod cyfan roedd yn brofiad a arhosodd gyda nhw weddill eu hoes. Efallai mai un o’r faciwîs mwyaf adnabyddus oedd Betty Campbell a ddaeth, mewn blynyddoedd i ddod, yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Mount Stuart. Mewn cyfweliad, wedi’i recordio ac ar gael ar-lein, siaradodd Betty â disgybl o Ysgol Gynradd y Santes Fair am ei phrofiad, fel plentyn saith oed, o gael ei symud o’r Santes Fair i ysgol yn Aberdâr.  Mae’r cyfweliad – Antur Faciwî – i’w ganfod ar wefan y BBC https://www.bbc.co.uk/teach/class-clips-video/history-ks2-an-evacuees-adventure/zk7hy9q

Dyma’r gyntaf mewn cyfres fer o erthyglau am Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel gan dynnu ar y cofnodion a gedwid gan Benaethiaid ysgolion ar y pryd. Am fanylion llyfrau log yr ysgolion a gedwir ar gyfer 1939-45, cysylltwch ag Archifau Morgannwg www.archifaumorgannwg.gov.uk.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Eglwys y Santes Ann, Snipe Street, Caerdydd

Adeiladwyd Eglwys y Santes Ann – capel anwes i Eglwys y Santes Marged yn y Rhath – i ddarparu ar gyfer poblogaeth gynyddol yn ardal Plasnewydd.  Credir bod gwasanaethau bob amser wedi dilyn y traddodiad Eingl-Gatholig, neu’r traddodiad Uchel-Eglwysig.

D1093-1-1 p7

Y pensaer oedd Joseph Arthur Reeve, yr arddangoswyd ei gynlluniau ar gyfer yr eglwys yn yr Academi Frenhinol.  Yn anffodus, roeddent yn rhy uchelgeisiol a dim ond y gangell oedd wedi’i chodi yn ôl cynllun gwreiddiol Reeve pan gafodd yr eglwys ei chysegru ym mis Medi 1887.  Ychwanegwyd corff mwy diymhongar yn y 1890au, gan roi golwg anarferol i Eglwys y Santes Ann.  Mae gwedd flaen Snipe Street – a ddarluniwyd ym mraslun Mary Traynor – yn awgrymu adeilad mawreddog gyda changell uchel, meindwr a thransept gogleddol (ni chwblhawyd y transept deheuol arfaethedig erioed), tra bod yr olygfa o Crofts Street yn un o eglwys ychydig yn fwy diymhongar, yn swatio y tu ôl i’w hen ysgol – a ddaeth yn Feithrinfa y Pelican yn 2015.

Erbyn 2015, roedd y cynulleidfa’r eglwys wedi lleihau i tua dwsin.  Gan yr amcangyfrifwyd y byddai’r atgyweiriadau angenrheidiol yn costio £250,000, penderfynwyd cau Eglwys y Santes Ann; cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ar Noswyl Nadolig y flwyddyn honno.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

“Bu trychineb ofnadwy neithiwr” – Caerdydd, 3 Mawrth 1941

Erbyn mis Mawrth 1941 roedd trefi a phentrefi yn ne Cymru wedi bod yn destun cyrchoedd bomio rheolaidd a helaeth Luftwaffe’r Almaen ers dros naw mis. Mewn sawl ffordd doedd dim byd gwahanol am nos Lun 3 Mawrth wrth i’r seirenau cyrch awyr rybuddio pobl Caerdydd i gysgodi rhag ymosodiad oedd ar fin digwydd. Y bore wedyn roedd system bropaganda’r Almaen yn clodfori cyrch llwyddiannus arall:

Strong forces of German bombers attacked important war objectives and supply depots in Cardiff last night with great success.

Ychwanegodd yr hysbysiad:

As weather conditions proved good the chosen targets were easily picked out by the pilots.

Gyda hunanfeddiant nodweddiadol, bu Gweinyddiaeth Awyr Prydain yn ymateb gyda chyhoeddiad:

Last night’s enemy activity was not on a large scale. Bombs were dropped on a town in South Wales where a number of fires were caused but all were extinguished in the early hours of the morning.

Rhywle rhwng y ddau gyhoeddiad oedd y stori lawn. Er nad ar raddfa’r ymosodiad yn wythnos gyntaf mis Ionawr pan oedd Eglwys Gadeiriol Llandaf wedi’i difrodi’n wael, bu Caerdydd yn destun un o gyrchoedd tân mwyaf y rhyfel. Yn ystod y nos syrthiodd miloedd o dunelli o rocedi goleuo, bomiau cynnau tân a ffrwydron ffyrnig ar draws y dref, gyda’r difrod gwaethaf mewn llawer o’r ardaloedd preswyl.

Mae stori’r noson honno a’i sgîl-effeithiau yn cael ei hadrodd, yn rhannol, gan y cofnodion a gedwid gan Benaethiaid ysgolion ledled Caerdydd. Mae’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg yn anhygoel o ran y graddau y maent yn “ddigyffro” iawn. Er hynny, roedd y realiti’n wahanol. Gydag adeiladau’n cael eu dinistrio gan ffrwydron ffyrnig a thanau’n llosgi’n wyllt ar draws rhannau helaeth o Gaerdydd, roedd yn noson fythgofiadwy i lawer.

Mae’n rhyfeddol bod cynifer o blant wedi parhau i fynd i’r ysgol y bore wedyn. Er enghraifft, cofnododd Ysgol Fabanod Radnor Road fod 255 o ddisgyblion yn bresennol. Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o ddisgyblion, doedd dim ysgol y diwrnod hwnnw wrth i staff asesu cyflwr yr adeiladau. Roedd gan bron pob ysgol ffenestri wedi torri gyda gwydr wedi’i wasgaru ar draws meysydd chwarae. Roedd y difrod i ffenestri a nenfydau ystafelloedd dosbarth mor wael fel bod rhaid i ysgolion Tredegarville a Stacey Road gau nes y gellid gwneud gwaith atgyweirio.

Mewn rhai achosion roedd bomiau cynnau tân wedi glanio ar do ysgol. Er bod y tanau canlynol wedi’u cyfyngu’n llwyddiannus, bu difrod i do ac ystafelloedd llawr uchaf Allensbank, Gladstone a Lansdowne o ganlyniad i’r bomiau a’r rocedi goleuo baneri a oedd wedi syrthio yn ystod y nos. Mewn llawer o achosion, gofalwyr yr ysgolion oedd yr arwyr lleol a oedd wedi helpu diffoddwyr tân lleol i ddiffodd y fflamau a chyfyngu’r dinistr.

Hyd yn oed lle’r oedd ysgolion wedi goroesi’r nos heb ormod o ddifrod, arhosai llawer ohonynt ar gau oherwydd bod strydoedd cyfagos wedi’u rhwystro gan rwbel o adeiladau a ddinistriwyd gan y bomio a gwaith parhaus i ddiffiwsio bomiau nad oeddent wedi ffrwydro. Yn ogystal, caeodd ysgolion, fel Llandaf, fel y gallai athrawon sy’n gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr lleol ddarparu bwyd a lloches i’r teuluoedd niferus a oedd wedi colli eu cartrefi yn ystod y nos.

Mewn sawl achos roedd yr adroddiadau am ddifrod yn llawer mwy difrifol.  Ar y dydd Gwener blaenorol, roedd disgyblion Heol Marlborough wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roeddent wedi cael eu tywys i loches cyrch awyr yr ysgol ganol y bore wrth i’r seirenau ganu. Fodd bynnag, o fewn hanner awr derbyniwyd y caniad diogelwch a pharhaodd yr ŵyl. Nawr, dim ond pedwar diwrnod yn ddiweddarach, ar 4 Mawrth, adroddodd Mary Jenkins, Pennaeth Ysgol Merched Marlborough Road, yn log yr ysgol: 

Log book - no date

A terrible catastrophe took place last night to our beloved school. Through enemy action the whole of the Senior School, which housed the Boys and Girls suffered irreparable damage. High explosive bombs were dropped in this district and it is surmised that a stick of bombs demolished our building.

Roedd yr ysgol fabanod wedi goroesi ond roedd ffenestri wedi torri a difrod i’r nenfydau.  Fodd bynnag, roedd prif adeilad brics coch trillawr trawiadol yr ysgol wedi’i chwalu’n deilchion. Dros yr wythnosau canlynol, bu’r staff wrthi’n gweithio bob dydd i achub unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio o’r rwbel. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd yr ystafelloedd dosbarth wedi’u troi’n lludw ac yn frics wedi torri ond mewn rhai rhannau o’r adeilad, gellid achub celfi ac offer. Fel y nododd Mary Jenkins:

Every member of staff has worked most earnestly and energetically to this purpose.  A great deal of stock from other classrooms as well as 3 sewing machines and the gramophone had been retrieved and is now in use.

Roedd ysgolion eraill, gan gynnwys Ysgol Fechgyn Howard Gardens ac Illtud Sant, wedi dioddef yr un ffawd, gyda rhannau helaeth o’r ysgolion wedi’u dinistrio gan fomiau a thân.

Roedd ardal y Rhath yng Nghaerdydd wedi cael ei tharo’n wael, gyda thirnodau fel Eglwys Wesleaidd Heol y Rhath ar gornel Heol y Ddinas a Heol Casnewydd wedi’u dinistrio. Roedd Ysbyty Brenhinol Caerdydd hefyd wedi cael ei fomio. Bu Uwcharolygydd Meddygol yr ysbyty yn canmol dewrder y staff nyrsio y noson honno:

…scorning flying shrapnel and amid flames and sparks they coolly carried on as if they were doing an ordinary job of work.

Lladdwyd 51 o bobl i gyd ac anafwyd 243 ar noson pan syrthiodd dros 7000 o fomiau cynnau tân ar Gaerdydd. Adroddwyd bod dwy awyren fomio Almaenig wedi’u saethu i lawr gan ynnau gwrthawyrennol.

DCC-PL-11-7-9

Safle Ysgol Marlborough ym 1949

DCC-PL-11-7-8

Safle Ysgol Marlborough ym 1949

Ac eto, o fewn pythefnos roedd Ysgol Marlborough Road ar agor eto gyda’r plant o’r ysgol iau yn gweithio gyda’u hathrawon mewn ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Roath Park ac Ysgol Albany Road. Roedd yn arwydd o wydnwch y bobl leol y gellid adfer rhyw fath o normalrwydd mor gyflym. Ac eto, roedd llawer mwy o heriau o’n blaenau.

Dyma’r gyntaf o gyfres fer o erthyglau am Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel gan dynnu ar y cofnodion a gedwid gan benaethiaid ar y pryd. Am fanylion llyfrau log yr ysgolion a gedwir ar gyfer 1939-45, cysylltwch ag Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg