‘Gwyliau Gartref’, yn null y 1940au

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o sôn wedi bod am wyliau gartref, neu ‘staycation’.

holidays poster 2

Ond mae’r syniad o gael gwyliau gartref yn un hirsefydledig. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y syniad o dreulio’ch gwyliau gartref yn cael ei annog gan lywodraeth Prydain a chafwyd ymgyrch ‘Holiday at Home’ swyddogol. Y nod oedd annog pobl i aros gartref a pheidio â theithio’n bell, a hynny er mwyn gadael i system drafnidiaeth y wlad i ganolbwyntio ar drafnidiaeth filwrol, yn enwedig wrth baratoi at D-Day ym 1944.

Roedd Bwrdeistref y Barri’n rhan o ymgyrch y llywodraeth, ac fe drefnwyd adloniant i bobl leol mewn ymgais i’w hargyhoeddi i gael “Gwyliau Gartref”.  Ymhlith cofnodion Bwrdeistref y Barri mae dwy ffeil (cyf BB/C/8/102,140) yn dangos y math o adloniant oedd ar gael. Maen nhw hefyd yn dangos fod y Cyngor wedi derbyn llwyth o geisiadau gan berfformwyr ac asiantau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn chwilio am waith yn y Barri.

Yn eu plith roedd arddangosiadau gyda merlod (ac ambell afr), pypedau o Fiena, Jingles the Jolly Jester a sioe bale (Donna Roma a Bales o Loegr a Ffrainc).  Mae’r cŵn Alsás o Penyghent, a gymeradwywyd gan yr RSPCA, yn ymddangos yn hynod o ddifyr. Enw’r hyfforddwr oedd Miss Parry ac roedd y cŵn yn perfformio nifer o gampau, yn cynnwys neidio drwy gylchoedd a rhyddhau person a oedd wedi’i glymu a’i gagio.

Alsatians programme

Cysylltodd nifer o bobl â’r fwrdeistref yn cynnig trefnu gornestau reslo, ac mae’r ffeiliau’n cynnwys templedi poster gyda bwlch gwag ar gyfer enw’r dref nesaf ar y daith reslo.

bb items 001

Roedd llawer o’r perfformwyr hyn yn ymddangos mewn trefi eraill ar hyd a lled y DU, fel rhan o’r ymgyrch ‘Gwyliau Gartref’ ac wedi anfon geirdaon oddi yno i geisio argyhoeddi’r Barri o safon aruchel eu gwaith. Mae’r deunydd yn dangos bod sioeau amrywiaeth (variety acts) wedi bod yn boblogaidd erioed ym Mhrydain. Mae tebygrwydd mawr rhwng rhai ohonyn nhw a rhai o’r pethau welwn ni heddiw ar raglenni fel ‘Britain’s Got Talent’.

Doedd gan Fwrdeistref y Barri ddim cronfa fawr o arian fodd bynnag, a doedd hi ddim yn gallu fforddio ffioedd y perfformwyr proffesiynol hyn. At bobl leol y trodd Cyngor y Barri am y rhan fwyaf o’i adloniant.  Ar ddawnsfeydd yr oedd y pwyslais, gyda bandiau lleol yn perfformio’r gerddoriaeth – bandiau fel Band Trafnidiaeth Corfforaeth Caerdydd (a gafodd ffi o £15) a Band Byddin yr Iachawdwriaeth.  Roedd cerddorion lleol hefyd yn cynnal cyngherddau. Yn eu plith roedd disgyblion Miss Mae Richardson Miss Hilda Gill a Pharti Madame Isabel Davies. Cynhaliwyd hefyd ddawnsfeydd Panatrope ar y caeau tennis (chwaraeydd recordiau gramoffon mawr oedd y panatrop). Trefnwyd hefyd ddigwyddiadau chwaraeon, fel gemau criced ar Faes Criced Ynys y Barri, gornest fowlio, cystadlaethau paffio a chafwyd cystadleuaeth farblys fawreddog hyd yn oed yn y Parc Canolog.   Cafodd sioeau prynhawn yn y sinemâu, fel y Tivoli a’r Plaza, eu hysbysebu fel rhan o’r ymgyrch, gyda ffilmiau mawr fel ‘Babes on Broadway’ (gyda Judy Garland) ac ‘International Squadron (gydag actor a ddaeth yn enwog iawn fel Arlywydd UDA flynyddoedd wedyn, sef Ronald Reagan) yn rhan o’r arlwy.

Mewn ymgais i arbed arian, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn yr awyr agored yn Sgwâr y Brenin, Parc Fictoria, y Parc Canolog, y Cnap, Parc Romilly, Gerddi’r Parade, Bae Whitmore, Gerddi Gladstone a Gerddi Alexandra. Cynhaliwyd digwyddiadau hefyd mewn eglwysi a chapeli lleol, er i Eglwys y Bedyddwyr, Salem, orfod gwrthod cais am fod cyflwr eu llenni ‘black-out’ gynddrwg.

Daeth ‘sw syrcas enfawr’ Syr Robert Fossett ar ymweliad i Barc Romilly ym mis Medi 1944. Roedd 20 o berfformiadau’n rhan o’r sioe, yn cynnwys rhai gan lewod, teigrod, eirth, ceffylau ac eliffant. Roedd lle i 3,000 o bobl yn y Pafiliwn mawr.

Zoo Circus

Roedd nifer o gyfyngiadau ar waith yn ystod y Rhyfel wrth gwrs, a chafodd Cyngor y Barri rybuddion gan yr adran Rheoli Papur am ddefnyddio gormod o bapur i brintio posteri.

Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus iawn, ond daeth hyn â phroblemau yn ei sgil. Gorfu i heddlu Morgannwg anfon swyddog heddlu i gyngherddau rhai o’r bandiau i ‘sicrhau trefn’ ar ôl i bobl gwyno fod plant yn rhedeg o amgylch ac yn gweiddi yn ystod cyngherddau.  Roedd llawer iawn o bobl yn mynd i rai o’r digwyddiadau hyn, gydag un sylwebydd yn nodi fod 400 o blant dan 12 oed wedi talu am docyn i ddawns, ond y bu’n rhaid ei chanslo am fod gormod yno!

Byddai’n wych clywed eich atgofion chi am ‘Gwyliau Gartref’ neu weld eich lluniau o gyngherddau neu ddigwyddiadau.

Ddoe a Heddiw

Un o’r agweddau mwyaf difyr ar hen ffotograffau o’n cymdogaethau yw eu bod nhw’n dangos yn glir gymaint y mae pethau wedi newid. Mae chwilio am adeiladau newydd, neu rai sydd wedi diflannu, yn hwyl a gall arwain at drafod mawr a rhannu atgofion.

Ond nid ffotograffau’n unig all brocio’r cof fel hyn. Mae catalogau a ddefnyddiwyd mewn arwerthiannau a’r manylion y maen nhw’n eu cynnwys am y gwrthrychau oedd ar werth hefyd yn ffynhonnell hanesyddol dda, yn enwedig pan fo ynddynt luniau a chynlluniau. Mae cofnodion Stephenson and Alexander, a gedwir yma, yn un o’r mwyaf sydd gennym. Cwmni o Arwerthwyr a Syrfewyr siartredig lleol oedd ydoedd.

Mae’r catalog a baratowyd ganddynt ar gyfer gwerthu’r Theatre Royal a’r Silver Cinema yn y Barri yn ddifyr dros ben, â’i glawr nodedig yn dangos y Theatre Royal tua’r flwyddyn 1922 (cyf. DSA/6/575).

DSA-6-575-1

Mae’r ffaith bod y Theatr erbyn hyn wedi ei dymchwel yn rhoi arwyddocâd arbennig i’r catalog.   Roedd y Theatre Royal a’r Silver Cinema ar werth gyda’i gilydd yn yr arwerthiant, a gynhaliwyd yn y Grand Hotel yn Birmingham. Roedd Silver Cinema yng Nghaerwrangon hefyd ar werth gyda nhw. Mae’r honno hefyd wedi ei dymchwel erbyn hyn.

Dywed y catalog fod y Theatr a’r Sinema yn cael eu rhedeg fel un busnes yn y Barri, gyda’r ddau adeilad yn dangos ‘pictiwrs’. Dywed hefyd, fodd bynnag, fod y Theatre Royal hefyd yn cynnal gweithgareddau ‘aruchel’ fel opera am 15 i 16 wythnos y flwyddyn.

Ym 1909 y cafodd y Theatre Royal ei hadeiladu yn y Barri, ac roedd yn cael ei defnyddio fel sinema tan 2008. Mae’r catalog yn llawn manylion am yr adeilad pan oedd yn anterth ei boblogrwydd. Mae yno fanylion am y celfi a’r addurniadau mewnol, yn cynnwys cadeiriau wedi eu clustogi ac y gellid eu codi yn y blaen a’r rhesi o gadeiriau pren, ar gyfer 550, yn ‘Y Pit’. Roedd yr addurniadau yn chwaethus iawn, gyda waliau glas a chornis a ffrîs gwyn, a phapur wal â phatrwm Tsieineaidd.  Roedd gan y Theatr yr offer technegol diweddaraf i gyd – roedd ‘offeryn teleffonio’ yn y blwch talu!

Er ei fod wedi newid yn aruthrol ers 1922, mae’r Silver Cinema yn y Barri o hyd. Mae neuadd snwcer yno erbyn hyn.  Dywed y catalog fod digon o le i 1,003 o bobl eistedd yn y neuadd, y balconi ac yn y Bocsys pan roddwyd hi ar werth.  Roedd wedi cael ei hailadeiladu’n gyfan gwbl flwyddyn ynghynt, ac roedd yn ‘un o sinemâu brafiaf y Dywysogaeth’.  Roedd yn sicr yn foethus, ac roedd ynddi ddwy banel gyda golygfeydd o Borth Ceri y Barri arnynt.

Gallwch ddarganfod mwy am y manylion gwerthiant o fewn casgliad Stephenson & Alexander ar ein catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ 

Rhagofalon Cyrchoedd Awyr ym Morgannwg

Ar gyfer ail ddegawd Archifau Morgannwg, penderfynais edrych ar ein casgliad o gofnodion Rhagofalon Cyrchoedd Awyr ar gyfer Morgannwg. Sefydlwyd Gwasanaeth Wardeniaid Cyrchoedd Awyr Caerdydd ym 1939. Roedd pencadlys y Gwasanaeth ym Mharc Cathays, gyda chanolfannau rheoli lleol ar hyd a lled Morgannwg.

Roedd y Gwasanaeth Rhagofalon Cyrchoedd Awyr yn cynnwys Wardeiniaid, Adrodd a Rheoli, Negeswyr, Swyddogion Cymorth Cyntaf, Gyrwyr Ambiwlans, Gwasanaethau Achub, Dadlygru Nwy a Gwarchodwyr Tân. Cyflwynwyd cynllun Gwylwyr Tân yn Ionawr 1941, oedd â’r gwaith o gadw golwg ar rai adeiladau penodol bedair awr ar hugain y dydd, a galw ar y gwasanaethau achub pan oedd angen. Gallai menywod a dynion o bob oed fod yn wardeiniaid RhCA. Gwirfoddolwyr oedd y mwyafrif, ond roedd rhai yn cael eu talu.

Roedd gorfodi’r ‘blacowt’ yn un o ddyletswyddau’r wardeiniaid RhCA. Cafodd rhai ohonyn nhw enw gwael am ymyrryd a busnesu yn sgil hyn. Pwy sy’n cofio’r Warden RhCA Hodges yn gweiddi ‘Put that light out!’ yn Dad’s Army?

Mae’r cofnod hwn o Ganolfan Reoli’r Barri [DARP/2/2] yn cofnodi cwyn am olau’n dangos:

DARP-2-2-2ndAug-1942 web

Roedd dyletswyddau eraill y Warden RhCA yn cynnwys seinio’r seiren cyrch awyr, helpu pobl i’r lloches cyrch awyr agosaf, dosbarthu masgiau nwy a gwylio am fomiau’n disgyn yn eu hardal. Roedd cryn ddefnydd ar y llyfryn 250 ARP Questions Answered [DARP/3/24].

DARP-3-24-web

Roedd disgwyl i wardeiniaid rhan amser fod ar ddyletswydd dair noson yr wythnos, ond roedd hyn yn cynyddu’n fawr pan oedd y bomio ddwysaf. Fel y gwelir o’r cofnod isod [DARP/1/10], roedd wardeiniaid ar ddyletswydd weithiau’n cwyno am amodau’r ystafell reoli. Roedd cyflwr y cwpanau’n peri gofid fe ymddengys, gydag un warden yn ymateb:

What would you like? Fire watching at the Ritz??!

DARP-1-10-8thAug-1941-cups v2 web

Mae’r cofnod canlynol o lyfr log Canolfan Reoli Pontypridd ar 25 Ebrill 1943 [DARP/13/9] yn adrodd am grater 5 troedfedd wrth 2 droedfedd a hanner o ddyfnder ger Fferm Fforest Uchaf ar Fynydd y Graig. Bu’r warden RhCA mewn cysylltiad â heddlu Pontypridd a Llantrisant, yn ogystal â’r Ganolfan Reoli, i sicrhau bod y bom wedi ffrwydro.

DARP-13-9-25thApril-1943 web

Byddai wardeiniaid RhCA yn cael y newyddion diweddaraf am newidiadau yn nhactegau’r gelyn ac roedd disgwyl iddyn nhw hefyd adrodd gwybodaeth yn ôl o lawr gwlad. Mae’r neges ganlynol o 15 Mehefin 1943 [DARP/13/9] yn disgrifio sut mae’r gelyn wedi dechrau gollwng bomiau gwrth-bersonél ar ôl gollwng bomiau tân er mwyn amharu ar ymdrechion i ymladd tanau.

DARP-13-9-15thJune-1943 web

Roedd wardeiniaid RhCA hefyd yn cymryd rhan mewn driliau ac ymarferion rheolaidd. Cynhaliwyd ymarferiad o’r fath ar 19 Hydref 1941 [DARP/1/7]:

Enemy cars discharging soldiers at Caegwyn Road, Manor Way Crossing…

DARP-1-7-19thOct-1941-exercise web

Pan oedd y Blitz yn ei anterth, roedd tua 27,000 o bobl yn gwasanaethu’n llawn amser i’r gwasanaeth Amddiffyn Sifil, ond erbyn diwedd 1943 roedd y nifer wedi gostwng i ryw 70,000. Yn ystod y rhyfel, gwasanaethodd 1.5 miliwn o bobl gyda’r RhCA/Gwasanaeth Amddiffyn Sifil. Cafodd y Gwasanaeth Amddiffyn Sifil ei ddileu yn y pen draw tuag at ddiwedd y rhyfel, ar ôl Diwrnod VE.

Melanie Taylor, Cynorthwy-ydd Cofnodion, Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Pwdin a Pharsel: Codi arian Nadolig yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg pan fyddwn ni’n meddwl am eraill a phan fydd elusennau yn lansio ymgyrchoedd arbennig i godi arian.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hyn yn bwysicach fyth gyda chymaint o filwyr a morwyr yn gwasanaethu dros y dŵr, ymhell o’u teuluoedd a chysuron y cartref.

Mae llyfrau log ysgolion yn cofnodi ymgyrchoedd codi arian y disgyblion.  Yn Ysgol Gellidawel yn Nhonyrefail ym mis Hydref 1914, cofnododd y Pennaeth iddo yrru archeb bost am £1 at y Dywysoges Mary ar gyfer ei chronfa hi i baratoi anrhegion Nadolig ar gyfer y lluoedd.  Roedd yr athrawon wedi darparu’r gwobrau ac roedd raffl ar gyfer y disgyblion a dalodd geiniog yr un am docyn [ELL26/2].

Ysgrifennodd un Pennaeth yn Ysgol Pen-y-bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr [EM10/11] yn ofidus ym mis Hydref 1914, na fyddai ganddo’r ‘wyneb (y flwyddyn honno) i ofyn am gyfraniadau’ i’r Gronfa Wobrau Nadolig yn sgil y rhyfel a’r pwysau mawr ar goffrau pobl. Fodd bynnag, codwyd arian ar gyfer y milwyr a gyrrwyd swm sylweddol o £7 at Gronfa tywysog Cymru.  Fe’i defnyddiwyd i brynu sigarennau, mwffleri gwlân a siocled a’u gyrru at yr Old Boys a oedd wedi eu lleoli yn yr Alban.  Mae’n cofnodi iddo dderbyn cydnabyddiaeth gan yr Uwch Ringyll Miles yn diolch i’r bechgyn am ‘eu Blwch Nadolig Llawen’ [EM10/11].

 

dx486-1_edited

Nid aeth y ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof dros y Nadolig.  Cofnododd Pennaeth Ysgol Gymysg Y Dyffryn yng Nglyn-rhedynog, fod arian wedi ei godi i’r ffoaduriaid gan ddisgyblion a fu’n casglu ar Ddydd Nadolig 1916 [ER15/1]. Mae llyfr cofnod Cartref Gofal Rest ym Mhorthcawl hefyd yn cofnodi’r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid o Wlad Belg:

…that the matter of providing extra diet etc. for the refugees and staff at xmas be left to matrons and chairman… [DXEL/3/5].

Trefnwyd cyngherddau i godi arian.  Gwnaeth Mr Leon Vint gais am drwydded gan Gyngor y Barri i agor ‘Vint’s Place’, Thompson Street, y Barri ar Ddydd Nadolig ym 1914 a 1915, gyda’r elw’r perfformiadau yn mynd at Ysbyty’r Groes Goch yn y Barri.  Roedd caniatâd hefyd i Neuadd Romilly gael agor ar Ddydd Nadolig i’r un diben [BB/C/1/20,21].  Yn ogystal â chodi arian, roedd agor lleoliadau ar Ddydd Nadolig yn golygu y gellid diddanu’r milwyr.  Rhoes Cyngor Bwrdeistref Caerdydd ganiatâd i agor y Central Cinema ar Yr Aes i gael ei ddefnyddio ar Ddydd Nadolig rhwng 5.30 ac 8pm at ddibenion ‘adloniant am ddim i’r milwyr’ [BC/C/6/54].  Cynigiodd Cyngor Ardal Drefol Aberpennar gynnal Cyngerdd Sul yn yr Abercynon Palace ar 29 Tachwedd 1914:

…the proceeds to be devoted to the making of, and sending a huge Christmas box of cigarettes, tobacco, socks etc to the soldiers at the front [UDMA/C/4/12].

Ym 1916 gofynnodd y Swyddfa Ryfel i’r Daily Telegraph a’r Daily News godi arian er mwyn anfon pwdinau Nadolig at filwyr yn y ffrynt, a chododd cynghorau lleol arian i’w anfon i’r elusen.  Anfonodd Cyngor Trefol Porthcawl dros £7 i’r ‘gronfa bwdin’ ym 1916 [UDPC/C/1/10].

Anfonwyd parseli i godi calonnau’r dynion dramor gan gynghorau plwyf lleol, eglwysi, capeli a sefydliadau eraill.

 

dce-1-5-p1_edited

dce-1-5-p3_edited

Ymhlith cofnodion Treflan Prifysgol Caerdydd mae llythyrau o ddiolch gan filwyr am barseli a dderbyniont dros y Nadolig.  Ar 19eg o Ragfyr 1916, mae’r Gynnwr C Upcott yn ysgrifennu at Edward Lewis:

I beg to thank you and all the members of the University Settlement for their kindness in sending me the parcel and I do not know how much to thank you for your kindness.  It is something terrible out here with the rain and one thing and another but I hope the end won’t be long so as we can all meet once again [DCE/1/64].

 

dce-1-64-p1_edited

Ysgrifennodd y Preifat William Slocombe o Gaerdydd, a dderbyniodd y Fedal Filwrol yn ystod y Rhyfel, o’r ffrynt at ei fam ar 9 Rhagfyr 1916. Mae’n gofyn iddi brynu ‘dyddiadur milwr’ iddo, a oedd yn cynnwys ‘llawer o wybodaeth filwrol ddefnyddiol a geiriadur Ffrangeg bychan yn y blaen’. …  ‘Carwn i chi anfon un ataf i os yw hynny’n bosibl. Nid yw’n costio mwy nag ambell swllt ar y mwyaf.’  Mae hefyd yn meddwl am anrhegion Nadolig i’w deulu adref ac yn anfon archeb bost am 10 swllt:

It is for the kids and yourself… If you can get some chocolates for the girls so much the better.  I should like to give Pa some tobacco too.

Yn deimladwy mae’n ysgrifennu:

…the circumstances are very different to last year aren’t they?  Your affectionate Son… [D895/1/3].

Mae’r cofnodion hyn, a llawer mwy sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

 

Cefnogi’r Ymgyrch Ryfel

Wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf fynd rhagddo, roedd awdurdodau lleol ar draws Prydain yn cydlynu eu hymdrechion i gefnogi’r ymgyrch ryfel.

Ar ddechrau’r rhyfel, un opsiwn a drafodwyd gan yr awdurdodau oedd defnyddio ysgolion cynradd fel ysbytai maes ar gyfer y sawl a anafwyd ar faes y gad. Sefydlwyd Didoliadau Cymorth Gwirfoddol i helpu nyrsys proffesiynol ar flaen y gad (er y cafwyd gwrthwynebiad i hynny ar y dechrau) ac yn yr ysbytai gartref. Testun trafod arall oedd ble y byddai recriwtiaid newydd yn aros cyn eu hanfon dramor neu i rywle arall ym Mhrydain. Yng Nghaerdydd, penderfynwyd defnyddio adeiladau cyhoeddus fel llety mewn argyfwng (RD/C/1/9).

Cafodd llawer o weithwyr a barhaodd i weithio i’r awdurdodau lleol gynnig Tâl Rhyfel Ychwanegol. Tâl i’w hannog nhw i weithio oriau hirach oedd hwn, yn aml i wneud yn iawn am golli gwyliau neu am gostau cynyddol hanfodion bywyd. Roedd y sawl nad oedden nhw yn y fyddin, gartref neu dramor, yn cael eu hannog i weithio mewn ffatrïoedd a oedd yn cynhyrchu arfau rhyfel neu ddeunydd arall ar gyfer awyrennau, llongau a thanciau. Byddai gwŷr hŷn neu ferched yn cymryd lle’r gwŷr a oedd yn rhyfela. Pan ddaeth y bygythiad y byddai awyrennau bomio a Sepelinau’r Almaen yn ymosod o’r awyr, cafodd yr awdurdodau lleol orchymyn i bylu neu ddiffodd goleuadau stryd a threfnu seirenau rhybudd.

Sefydlwyd elusennau i gefnogi’r sawl a oedd yn ymladd, eu teuluoedd a’u hanwyliaid. Yn Aberdâr, awgrymodd y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Cysuro’r Lluoedd y dylid dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ddiwrnod Fflagiau, ac y dylid casglu arian yn y stryd er mwyn y Gronfa (UDAB/C/1/9).

Aberdare UD flag day

Yn ogystal ag elusennau, roedd awdurdodau lleol yn annog rhai cyfleusterau megis ysgolion i roi arian tuag at gyfrif Cynilion Rhyfel. Tuag at ddiwedd y rhyfel, byddai tanciau a oedd wedi eu defnyddio ar faes y gad yn mynd o amgylch Prydain, a byddai’r cyhoedd yn cael taith mewn tanc weithiau am gyfraniad tuag at y Cynilion Rhyfel. Ar yr un pryd, roedd y llywodraeth yn cynnig Benthyciadau Rhyfel, yn annog pobl i fuddsoddi arian yn yr ymgyrch ryfel.

Yn ystod blynyddoedd diweddar y rhyfel, roedd rhai deunyddiau ar ddogn, un ai oherwydd ei bod yn anoddach cael gafael arnyn nhw, neu oherwydd bod eu hangen at ddibenion milwrol. Yn y Bari, penderfynodd yr awdurdodau beidio â defnyddio tar crai er mwyn cynnal ffyrdd oherwydd bod rhai o’r isgynhyrchion yn rhan o’r broses o gynhyrchu ffrwydron (BB/C/1/20). Wrth iddi ddod yn anoddach mewnforio neu gynhyrchu bwyd, dechreuodd yr awdurdodau annog pobl i dyfu bwyd mewn rhandiroedd. Yn ogystal â phobl ac adeiladau, cymerai’r lluoedd arfog gerbydau dinasyddion er mwyn eu defnyddio yn bennaf fel cerbydau trafnidiaeth. Yng Nghaerffili, rhoddodd Cwmni Trafnidiaeth De Cymru wybod i’r awdurdodau lleol bod eu cerbydau wedi eu cymryd gan Swyddfa’r Rhyfel, ond roedden nhw’n dal i obeithio cychwyn gwasanaethau yn ardal y dref (UDCAE/C/1/18). Yng Ngelligaer, trafodwyd llogi injan ffordd (UDG/C/1/11), ond ymddengys na weithredwyd ar y syniad.

Mae cofnodion yr Awdurdod Lleol yn Archifau Morgannwg yn dangos pa mor eang oedd gwaith y cynghorau lleol wrth gefnogi’r rhyfel ar y ffrynt cartref.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Bechgyn y Signalau: Leslie Evans a Philip Adams

Ym 1914, oedran gadael ysgol oedd 14 oed. Wrth i’r rhyfel fynd rhagddo, i ymateb i’r prinder llafur, nid oedd yn anghyffredin i awdurdodau addysg lleol ganiatáu i ddisgyblion adael yr ysgol cyn yr oedran gadael arferol. Mae llyfrau cofnodion ysgolion dros y cyfnod hwn, a gedwir yn Archifau Morgannwg, yn cynnwys nifer o enghreifftiau o blant ifanc yn cael caniatâd i adael yr ysgol cyn eu bod yn 14 oed i weithio ar ffermydd lleol. Ond efallai mai un o’r cofnodion rhyfeddaf yn llyfrau’r ysgolion oedd rhyddhau dau fachgen ifanc o Ysgol Uwchradd y Barri ym mis Tachwedd 1914. Ar 3 Tachwedd 1914, nododd y Pennaeth y canlynol:

ESE3_5 p48

Two boys Leslie Evans (Add. No: 1320) and Philip Adams (Ass. No: 1385) both of school age were removed from the registers this morning. They have gone to sea as signallers in connection with the coaling of the Fleet and have been granted leave by the Education Committee for that purpose [Ysgol Uwchradd i Fechgyn y Barri, 3 Tach 1914, ESE3/5 t.48]

Ar yr adeg, nid oedd Philip Adams ond yn 13 oed. Roedd ei dad, o’r enw Philip Adams hefyd, yn wreiddiol o Gaint a symudodd y teulu o ardal Medway i gael gwaith yn nociau’r Barri, lle’r oedd y tad yn weithiwr dociau. Roeddent yn byw yn 21 Heol y Drindod, y Barri, ac roedd gan Philip bach ddwy chwaer a dau frawd. Roedd Leslie Evans yn fachgen lleol, ac er ei fod yn hŷn na Philip, 13 oed oedd yntau hefyd. Roedd ei dad, James, yn gweithio ar y rheilffyrdd fel tipiwr glo ac roedd y teulu’n byw yn 108 Porthkerry Road, y Barri.

Mae’n siŵr bod bwrlwm disymwth y rhyfel wedi bod yn gryn ysgytwad i’r bechgyn ifanc. Cawn nifer o gliwiau ynghylch y cefndir dros y penderfyniad hwn yn y papur newydd lleol, The Barry Dock News. Ar 28 Awst 1914, dair wythnos ar ôl dechrau’r rhyfel, argraffodd y papur newydd lythyr gan y Sgowtfeistr lleol, E Davies:

I would like to ask all lads who are ex-Scouts to rejoin again at once and also to ask all lads between the ages of 12 and 19 to join one or other of the Troops in the district. The Scouts throughout the country are doing excellent work and in our own town. We have Scouts employed in watching bridges, the reservoir, the viaduct and tunnel, assisting as messengers and orderlies at the hospitals and for the military, gathering money for the Prince of Wales Fund, collecting up old newspapers etc. [Barry Dock News, 28 Awst 1914]

Fel mewn rhannau eraill o Brydain, gweithredodd y sgowtiaid i helpu’r ymdrech ryfel ar unwaith. Ym misoedd cyntaf y rhyfel, roedd pobl yn ofni goresgyniad, ac roedd straeon braw dirifedi ynghylch ysbiwyr. Cyn i drefniadau cenedlaethol gael eu rhoi ar waith ym 1915 i’r Corfflu Hyfforddi Gwirfoddol – y Gwarchodlu Cartref lleol i bob pwrpas – roedd y Sgowtiaid yn hollbwysig wrth helpu i warchod gosodiadau a chysylltiadau allweddol. Ond, yn adran nesaf llythyr Mr Davies, gwelir dimensiwn newydd i’r cyfraniad a wnaed yn y Barri:

We have also been able to send away lads as Signallers in connection with our naval coaling and I have a large class under instruction now [Barry Dock News, 28 Awst 1914]

Cydnabuwyd bod glo De Cymru’n lo o safon. Felly roedd llynges fawr y llongau glo bychain yn y Barri’n arbennig o bwysig wrth gyflenwi tanwydd i’r llynges. Eglurodd y papur newydd lleol, mewn erthygl a gyhoeddwyd wedi’r rhyfel, pam fod angen ymrestru i helpu’r Sgowtiaid:

Officers in the Mercantile Marine had great difficulty in reading the signals given by the Royal Navy and the Shipping Federation approached the scout authorities at Barry asking for help by supplying signallers as a temporary measure. A class of thirteen boys was formed and trained by Mr E E Davies, assistant commissioner to the Land Scouts afterwards going to sea. Their ages varies between 13 and 18 [Barry Dock News, 5 Rhag 1919]

Roedd Philip Adams a Leslie Evans bron yn sicr yn rhan o grŵp o sgowtiaid lleol a gafodd eu hyfforddi i fod yn Signalwyr. Er gwaetha’r angen dirfawr i gael Signalwyr, roedd wrth gwrs amheuon ynghylch anfon bechgyn mor ifanc i forio, a phenderfyniad Pwyllgor Rheoli Ysgol y Barri oedd eu rhyddhau ai peidio. Cofnododd y Barry Dock Times ganlyniad y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Hydref 1914, pan ystyriwyd y mater o ryddhau’r tri bachgen yn 14 oed i ymuno â’r llynges:

Colonel J A Hughes CB wrote stating that twelve boys from Barry were prepared to go to sea as signallers on the Admiralty coaling ships. Three of the lads were attending the elementary schools. ‘We are employing older boys as far as possible’ the letter added ‘but it is absolutely necessary that these boys should be granted leave. The work they are doing is very important and they are doing it well. They are of very great service to the country and their work entails some danger’ [Barry Dock News, 30 Hyd 1914]

Adroddodd y papur newydd i gais y Cyrnol Hughes gael ei ‘gymeradwyo’n unfrydol’ a phedwar diwrnod yn ddiweddarach cadarnhaodd Pennaeth Ysgol Uwchradd i Fechgyn y Barri fod dau fachgen 13 oed o’i ysgol wedi ymadael.

Roedd sail gadarn i rybuddio pobl fod gwasanaethu ar long lo’n beryglus. Suddwyd nifer o longau glo bychain o borthladdoedd de Cymru gan longau tanfor yr Almaen, yn aml wrth iddo forio’n unigol ac yn ddi-arf cyn i’r llongau hyn ddechrau cael eu hamddiffyn gan y Llynges Frenhinol drwy ffurfio confois.

Mae’n debygol mai mesur dros dro oedd recriwtio bechgyn 13 oed, a bod Philip a Leslie yn ôl ar dir sych Prydain ymhen blwyddyn. Ond gwyddom y canlynol o’r Barry Docks News:

Of these thirteen gallant lads, two paid the supreme sacrifice, while war medals are to be awarded to the other scouts [Barry Dock News, 5 Rhag 1919]

Hyd y gallwn weld, ni chafodd Philip Adams na Leslie Evans eu hanafu yn ystod eu cyfnod ar y môr.

Roedd gan Ysgol Uwchradd y Barri ei chyfran o arwyr rhyfel. Er enghraifft, nodir yng nghofnodlyfr y Pennaeth sawl achlysur lle dyfarnwyd medalau i gyn-ddisgyblion yr ysgol:

ESE3_5 p90

School closed this afternoon in celebration of the award of the Military Cross to 2nd Lieut. Reg Phillips, one of the old boys of this school.  A general assembly was held at the end of the morning session; and a wristwatch and fountain pen were presented to him [Ysgol Uwchradd i Fechgyn y Barri, 2 Tach 1917, ESE3/5 t.90]

ESE3_5 p99

ESE3_5 p100

This afternoon a presentation was made to Albert Sylvester, one of the old boys of the school, who was also decorated with the Military Medal by the Chairman of the District Council [Ysgol Uwchradd i Fechgyn y Barri, 31 Mai 1918, ESE3/5 t.99]

Nid oes sôn am Philip Adams na Leslie Evans yn dychwelyd i’r ysgol. Serch hynny, dathlwyd eu cyfraniad nhw, ac eraill o Sgowtiaid y Barri, yn y wasg leol. Fel y dywedodd y Cyrnol Hughes, a gyflwynodd yr achos dros ryddhau’r bechgyn o’r ysgol ym 1914, tua phum mlynedd yn ddiweddarach – roedd y Signalwyr ifanc yn … fechgyn glew … a bod … hanes Sgowtiaid y Barri’n yn ystod y rhyfel yn un y bydd y cyhoedd yn ymfalchïo ynddo [Barry Dock News, 5 Rhag 1919]

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Cyngor Eglwysi Rhydd Y Barri

Y 75ain eitem a gafwyd yn y flwyddyn 2014 yw un ffotograff du a gwyn o aelodau Cyngor Eglwysi Rhydd y Barri.Tybir y tynnwyd y ffotograff tua 1945. Roedd y Cyngor yn trefnu cyfarfodydd ar y cyd ag enwadau eraill ac yn hyrwyddo ymgyrchoedd ysbrydol, megis taith bregethu Billy Graham ym 1954.Roedd y Cyngor hefyd yn denu siaradwyr nodedig, megis ym 1955 pan anerchwyd y Cyngor gan yr Aelod Seneddol dros Abertyleri, y Parchedig Llewellyn Williams.

Cyngor Eglwysi Rhydd Y Barri

Cyngor Eglwysi Rhydd Y Barri

Y bobl yn y ffotograff yw (rhes gefn ch-dd) Mr Len Blake, Miss Susie Adams, y Parch Fred Adams, Mrs Bessie Davies (gwraig Howard Davies), Mr W. Roberts, Peggy Evans a Gweinidog Methodistaidd dienw; (rhes flaen ch-dd) Miss Bertha Worrall, menyw ddienw, y Parchedig Lionel Evans, Mr Frank Keeting a menyw ddienw arall.

Ym 1939 roedd y Parchedig Fred Adams yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr Holton Road, a gofynnwyd iddo fod yn Weinidog Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant.Dechreuodd bregethu yn Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant ar 20 Awst 1939, ac fe’i urddwyd yn weinidog ym mis Medi 1939. Fe’i penodwyd yn ysgrifennydd cangen y Barri o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ym 1945. Ymddiswyddodd y Parchedig Adams fel gweinidog Mount Pleasant ym 1951, ond gofynnwyd iddo ddychwelyd ym mis Hydref 1955. Bu yno tan 1961, pan adawodd Mount Pleasant i fod yn weinidog llawn amser yn Eglwys y Bedyddwyr Union Street yn Crewe.

Mae Archifau Morgannwg yn cadw nifer o gasgliadau o gofnodion eglwysi a chapeli.Gellir gweld manylion yr eitemau hyn yn ein catalog Canfod
http://calmview.cardiff.gov.uk/CalmView/ a gellir gweld y dogfennau yn ein hystafell chwilio.