Collfarnau yn erbyn Pobl Ifanc ym Morgannwg

Ar 4 Hydref 1857, ymddangosodd Edmund Matthews a Stephen Anderson, y naill yn 11 oed a’r llall yn 12, gerbron Cwrt Bach Bwrdeistref Caerdydd, wedi eu cyhuddo o ddwyn dwy sach gwerth 4 swllt. Yr un diwrnod, cyhuddwyd Sarah Taylor, 13 oed, o ddwyn 100 pwys o haearn o Gwmni Rheilffyrdd Bro Taf. Cafwyd y tri’n euog, a rhoddwyd dedfryd o lafur caled am dri mis i Edmund, un mis i Stephen a dau fis i Sarah. Nhw oedd y cyntaf i gael eu cofnodi mewn cyfres bwysig o ddogfennau’n ymwneud â chollfarnau yn erbyn pobl ifanc.

Jan Doc-Q-S-JC-1-2

Digwyddodd yr achosion llys hyn dan ‘Ddeddf Barnu a Chosbi Troseddwyr Ifanc yn gynt’ 1847. Anfonwyd collfarnau dan y Ddeddf hon at y Clerc Heddwch ac fe’u cadwyd ymhlith cofnodion y Sesiynau Chwarterol. Yr un fu’r system i bob pwrpas tan 1879. Yn y flwyddyn hon daeth trefniadau gweinyddol newydd i rym a rhoddwyd y gorau i gasglu’r collfarnau hyn ynghyd mewn system ganolog.

Mae’r collfarnau yn erbyn pobl ifanc wedi eu rhwymo mewn 14 o gyfrolau, gyda rhyw 150 o gollfarnau ymhob un. Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y gyfrol gyntaf, sy’n cynnwys collfarnau’r cyfnod rhwng 1847 a 1852. Mae pob collfarn yn ymddangos ar ddarn ar wahân o femrwn, ac mewn ffurf yr oedd y Ddeddf wedi penderfynu arni. Mae rhai wedi eu hysgrifennu’n gyfan gwbl mewn llawysgrifen, ond roedd llawer o lysoedd yn defnyddio ffurflenni wedi eu printio, gyda’r manylion yn unig mewn llaw ysgrifen.

Nodir y dyddiad yn gyntaf, ac yna’r lle; enw’r troseddwr; enwau’r ustusiaid a oedd llofnodi a selio pob ffurflen; y math o lys; dyddiad y drosedd ac oedran y troseddwr ar y dyddiad hwnnw; y lle y digwyddodd y drosedd; yr eitem a ddygwyd ac amcangyfrif o’i gwerth ac enw ei pherchennog; a’r ddedfryd, yn cynnwys lle byddai’n cael ei gweithredu. Weithiau mae mwy nag un troseddwr ar yr un ffurflen, os cyflawnwyd y drosedd ar y cyd ganddynt. Weithiau, bydd bylchau yn y wybodaeth – os bu’n amhosibl barnu oedran troseddwr, er enghraifft.

Roedd cyd-droseddu yn golygu bod y 141 o ddogfennau yn y gyfrol gyntaf yn cynrychioli 152 o gollfarnau. O’r rhain, Llys Heddlu Merthyr Tudful a benderfynodd ar 67 ohonynt. Roedd 33 yng Nghaerdydd, 22 yng Nghwrt Bach Abertawe ac 16 yng Ngahstell-nedd. Roedd y gweddill yn y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, Llandaf, Caerffili, Llantrisant ac Aberdâr. Mae hyn fel petai’n cadarnhau’r gred bod troseddu gan bobl ifanc, neu erlyn troseddwyr ifanc beth bynnag, yn brin mewn ardaloedd gwledig.

Roedd llawer o’r lladradau’n gysylltiedig â diwydiant lleol. O’r 152 o gollfarnau, roedd 44 am ddwyn glo, yn amrywio o 10 pwys i 200 pwys. Mae ambell bwysau wedi ei nodi’n fanwl iawn – 29 pwys, 68 pwys ac ati – ac mae hyn yn awgrymu nad dyfalu yn unig a wnaed, ond mae’n anodd dychmygu sut byddai merch 13 oed wedi gallu dwyn 200 pwys o lo.  Merched oedd yn gyfrifol am ryw dri chwarter o’r lladradau glo hyn, gydag ugain ohonynt yn 13 oed neu’n hŷn, ac mae’n debygol bod y rhan fwyaf o’r rhain yn gweithio yn y pyllau glo, ond nid dan ddaear. Roedd haearn yn cael ei ddwyn hefyd, wrth gwrs.

Benjamin Evans, 13 oed, oedd yn gyfrifol am y lladrad diwydiannol mwyaf uchelgeisiol. Fe ddygodd ‘beiriant’ gwerth £50 oedd yn eiddo i Syr Josiah J. Guest o Waith Haearn Dowlais. Dyma’r eitem ddrutaf sydd yn y gyfrol. Mae ambell achos o raffau, sachau ac offer bychain yn cael eu dwyn hefyd yn y gyfrol, gyda’u gwerth ond yn swllt neu ddau i gyd.

Mae’n rhaid mai rheolwyr a pherchnogion y diwydiannau oedd y tu ôl i’r erlyniadau hyn. Gydag achosion eraill o ladrata, mae nifer o gwynion gan bobl oedd yn cadw siopau, yr oedd unrhyw ddwyn oddi wrthynt yn effeithio ar eu bywoliaeth.  Gellir gweld hyn drwy groesgyfeirio achosion o ddwyn bwyd ym 1852 gyda chyfeirlyfr masnach y flwyddyn honno: Yr un dyn mae’n siŵr oedd John Hughes, y dygodd Thomas Kenvin 84 pwys o datws oddi wrtho â John Hughes, groser, Stryd Fawr Dowlais. Mae’n bosibl mai John Cross oedd â siop groser yn Great Frederick Street Caerdydd oedd y dyn y dygodd Dennis Murray 2 bwys o gig moch oddi wrtho.

Roedd bwydydd eraill a gafodd eu dwyn yn cynnwys cig llo, lemwns, afalau a the a digwyddodd y lladradau hyn ym Merthyr, Abertawe a Chaerdydd. Mae’r cyfanswm o 10 collfarn yn rhyfedd o isel; mae’n bosibl bod pobl yn amharod i erlyn troseddau llai fel y rhain.

Cafodd dillad ac esgidiau hefyd eu dwyn Roedd bechgyn yn fwy tebygol o ddwyn cotiau, capiau neu fŵts, ond roedd y merched yn dueddol o ddwyn mwy. Y droseddwraig ifancaf oedd Mary Davies, 8 oed, a ddygodd ffrog gotwm, ffrog sidan, cynfas gwely a brwsh dillad. Dygodd Elizabeth Jones, 15 oed, fasged, ffrog werth 20 swllt, ffedog, hances, pâr o glogiau, boned ac ymbarél – i gyd wedi eu rhoi yn y fasged efallai? Mae’n siŵr mai eu gwerthu oedd y merched am eu gwneud, nid eu defnyddio. Elw hefyd oedd cymhelliad Elias Roberts yntau mae’n siŵr, pan ddygodd got, trowsus a 5 sofren. Cafodd bachgen arall ei ddedfrydu am ddwyn dwy hances ym mis Hydref 1852. Roedd yn ôl yn y llys chwe wythnos yn ddiweddarach am ddwyn cot.

Jan Doc-Q-S-JC-1-12

Mae 15 o gollfarnau am ddwyn arian, a llawer yn dwyn o bocedi pobl. Os cynhwysir y watsiau a ddygwyd, roedd 17 o ladradau oddi wrth bobl yn y gyfrol. Does dim merched yn y grŵp hwn, ac mae’r bechgyn yn dueddol o fod yn iau nag yn y grwpiau eraill. Bachgen 7 mlwydd oed a ddygodd un o’r watsiau. Mae bachgen 15 mlwydd oed yn eu plith, ac roedd e’n bennaeth ar gang o fechgyn iau. Mae nifer o achosion o grwpiau fel hyn. £15 mewn pwrs oedd y swm unigol mwyaf a gofnodwyd. Roedd y 5 sofren y soniwyd amdanynt uchod, a £4 mewn bwlch arian. Roedd arian mân hefyd yn cael ei ddwyn, y swm isaf oedd 3½d.

Mae amrywiol ladradau eraill hefyd. Nwyddau siop yw llawer ohonynt yn amlwg, lladrad ar y cyd o 96 o lestri er enghraifft. Mae nwyddau siop eraill yn cynnwys drych. Dygwyd hefyd blwm, tybaco, hadau berwr, rhaw a chloch.

Gellir gweld patrwm clir yn y dedfrydau. Mae gwahaniaeth mawr yng nghosbau’r merched a’r bechgyn. Y gyfraith ei hun oedd yn gyfrifol am hyn i raddau. Dim ond bechgyn a gâi eu chwipio, er enghraifft. Ond mae’n glir mai merched yn unig oedd yn derbyn dirwyon yn lle carchar. Cafodd hanner y merched ddirwy o 5s neu 10 swllt. O blith y bechgyn, roedd y ddirwy uchaf yn £3, sef y mwyaf y gellid bod wedi ei rhoi.

Cafodd chwe merch a chwe bachgen gyfnod byr o garchar fel cosb, tua 10 diwrnod yr un, ar gyfartaledd. Yn rhyfedd ddigon, roedd cosb llafur caled yn debyg i’r merched a’r bechgyn, gyda phob cosb yn 25 diwrnod yr un ar gyfartaledd. Cafodd 40 o fechgyn, fodd bynnag, eu dedfrydu i lafur caled ac i gael eu chwipio. 20 diwrnod o lafur caled oedd y cyfartaledd yma. Cafodd 17 o fechgyn eraill ddedfryd o garchar a chwipio, gyda 12 diwrnod yn y carchar ar gyfartaledd.

Roedd un newid mawr i’r dedfrydu yn ystod y cyfnod rhwng 1847 a 1879. Pasiwyd cyfres o Ddeddfau a gyflwynodd y dewis o anfon troseddwyr i ysgolion diwygio neu ddiwydiannol. Roedd yr ysgolion diwygio ar gyfer troseddau a allai fod wedi arwain at garchar. Roedd yr ysgolion diwydiannol ar gyfer pawb arall a ddeuai o flaen eu gwell. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y cosbau newydd hyn wedi eu defnyddio ar ben y cosbau oedd eisoes ar gael, nid yn eu lle. Cafodd Thomas Barry, a ddygodd chwe tharten riwbob ym 1864, ei ddedfrydu i 14 diwrnod o lafur caled a 4 mlynedd mewn ysgol ddiwygio. Byddai troseddau o’r fath yn y 1850au wedi derbyn y llafur caled yn unig fel cosb. 

Jan Doc-Q-S-JC-5-57

Mae’r ychydig enghreifftiau hyn yn rhoi blas ar fywyd troseddwyr ifanc y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Diolch i waith diflino gwirfoddolwyr Archifau Morgannwg, yn enwedig Laurie Thompson, gellir chwilio calendrau Collfarnau Pobl Ifanc Morgannwg yng nghatalog Canfod yr Archifau http://calmview.cardiff.gov.uk/. Defnyddiwch y cyfeirnod Q/S/JC. Cewch wybod mwy yma am droseddau a chosbau Morgannwg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Efallai y dewch o hyd i rai o’ch cyndeidiau ymhlith y troseddwyr!