Stori’r Gwirfoddolwr

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol.

Dros y pythefnos diwethaf rydym wedi bwrw golwg ar stori gweithiwr rheilffordd a swyddog undeb o Aberdâr, a swyddog o Bwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol. Heddiw edrychwn ar Stori’r Gwirfoddolwr.

Ar 16 Gorffennaf 1926 cafodd dynion a merched o ardaloedd ledled De Cymru wahoddiad i Neuadd y Ddinas Caerdydd gan yr Arglwydd Faer, yr Henadur WB Francis a Chadeirydd y Pwyllgor Tramffyrdd, yr Henadur W R Williams. Roedd y digwyddiad yn dderbyniad dinesig crand i ‘Yrwyr a Chasglwyr Tocynnau Gwirfoddol a roddodd wasanaeth ffyddlon i’r Dinasyddion yn ystod y cyfnod 4 – 15 Mai 1926′. Yn ystod y noson cafodd y rhai a fu’n gwasanaethu ‘yn ystod cyfnod yr Argyfwng Cenedlaethol’ – sy’n fwyaf adnabyddus fel Streic Fawr 1926 –  eu cyflwyno â choflyfrau a ddilynwyd ag adloniant cerddorol a dawnsio tan ddau o’r gloch y bore. Roedd hwn yn dderbyniad nodedig i ddathlu eu cyfraniad i’r gwaith o sicrhau cyflenwadau, trafnidiaeth a chyfraith a threfn yn ystod streic mis Mai 1926.

Mae gan Archifau Morgannwg gopïau o’r gwahoddiadau a’r coflyfrau a gyflwynwyd i ddau o’r rheiny a oedd yn bresennol yn y derbyniad, Ronald Pritchard a fu’n gwasanaethu fel Casglwr Tocynnau ar dramiau Caerdydd [Papurau’r Teulu Pritchard, D414/4/1-2]  a Cyril Small, gyrrwr [Papurau’n ymwneud a’r Faer Syr W. R. Williams, Dinas Caerdydd, DX701/9]. Mae’r Archif hefyd yn cadw tystysgrif o ddiolch gan y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, a’r Gweinidog Cartref, W Joynson Hicks, a gyflwynwyd ym mis Mai 1926 i Leslie Chapman am ei wasanaeth fel cwnstabl arbennig yng Nghaerdydd yn ystod y Streic Fawr.

D816_1

We desire on behalf of His Majesty’s Government to thank you in common with all others who came forward so readily during the crisis and gave their services to the Country in the capacity of Special Constables [Papurau Leslie Howard Chapman, D816/1]

Roedd y Streic Fawr yn gyfnod unigryw yn hanes Prydain, cyfnod a rwygodd y genedl. Am ddeg diwrnod cynhaliwyd streic gan yr undebau trafnidiaeth, haearn dur a phrint a oedd yn bygwth peri rhwystr mawr i Gaerdydd a threfi a dinasoedd ledled y wlad.  Roedd llawer wedi ymateb i’r cais am wirfoddolwyr gan y Llywodraeth i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn dal yn rhedeg. Fodd bynnag, mewn ardaloedd eraill roedd cefnogaeth sylweddol i’r streic a chynhaliwyd ralïau ym Mharc Cathays a fynychwyd gan ddegau o filoedd o bobl. Roedd y derbyniad dinesig, felly, yn cael ei ystyried mewn modd gwahanol iawn gan y glowyr a oedd dal ar streic ym mis Gorffennaf, a’r miloedd o’r diwydiannau print, trafnidiaeth a haearn a dur a gollodd eu swyddi yn dilyn cwymp y streic, neu a orfodwyd i ddychwelyd i’r gwaith am lai o oriau a chyflog.

Nid yw’r papurau a gedwir yn yr Archifau yn nodi’r manylion o ran sut hwyl oedd ar Cyril Small, Ronald Pritchard a Leslie Chapman yn ystod diwrnodau cythryblus y Streic Fawr ym mis Mai 1926. Fodd bynnag, mae’n debygol eu bod nhw yn ei chanol hi yng Nghaerdydd o ystyried y gwrthdaro mwyaf chwerw a ddilynodd  y penderfyniad gan yr Arglwydd Faer i dorri’r streic gan y gweithwyr bws a thramiau drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr.

Gyda’i gilydd, gwirfoddolodd mwy na 12,000 o bobl yn Ne Cymru ym mis Mai 1926, gan gynnwys bron 7,000 yng Nghaerdydd. Yn y rhan fwyaf o achosion daliodd y streic yn gadarn, ond oherwydd diffyg sgiliau a niferoedd, dim ond gwasanaeth sylfaenol, ar y gorau, y gallai’r gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio gyda’r rheolwyr ar y rheilffyrdd a’r dociau ei gynnig . Fodd bynnag, mewn rhai meysydd roedd eu heffaith yn sylweddol. Er enghraifft, bu 600 o ddynion yn gwasanaethu fel Cwnstabliaid Arbennig yng Nghaerdydd gan alluogi’r heddlu i roi nifer fawr o swyddogion ar waith yng nghanol y ddinas drwy gydol y streic. Er bod y TUC yn annog ei aelodau i osgoi gwrthdaro yn gyson, roedd presenoldeb hyd at 200-300 o blismyn yng nghanol Caerdydd yn ddigon o rwystr i’r rheiny a allai fod yn chwilio am gyfle i amharu ar waith y gwirfoddolwyr. Roedd yr heddlu hefyd wedi lleoli gŵyr arfog i leoliadau pwysig ledled y ddinas, gan gynnwys Gorsaf Bŵer y Rhath, a, phetai angen hynny, gallant fod wedi galw ar filwyr o Gatrawd Swydd Gaerllion a oedd yn aros yn y ddinas a llongwyr o’r Llynges Frenhinol yn y dociau.

Roedd y gwrthdaro mwyaf rhwng gwirfoddolwyr a streicwyr yn ymwneud â rhedeg y tramiau yng Nghaerdydd. I ddechrau, roedd pawb ar streic ond, ymhen rhai diwrnodau, galwodd Arglwydd Faer Caerdydd ar weithwyr y tramiau i ddychwelyd i’w gwaith neu gael eu diswyddo. Hefyd, rhoddodd fesurau ar waith i recriwtio gwirfoddolwyr, y cyfeiriwyd atynt gan y streicwyr fel ‘Lord Mayor’s Own’, (LMO) i redeg y gwasanaeth. O fewn diwrnodau, roedd gwasanaeth tram ac omnibws ar gael unwaith eto mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd. Er bod yr undebau, i raddau helaeth, wedi dweud wrth eu haelodau i osgoi gwrthdaro, roedd defnyddio gwirfoddolwyr i redeg y gwasanaeth trafnidiaeth wedi llwyddo i godi gwrychyn llawer o’r streicwyr a’u cefnogwyr ac o ganlyniad bu ymosodiadau ar fysus a thramiau mewn ymdrech i atal y gwasanaeth yn gyfan gwbl. Mewn ymateb i hynny, roedd y tramiau a weithredwyd gan wirfoddolwyr yn cael eu gwarchod gan blismyn arfog. Ar anterth y streic, ar ddydd Iau 6 Mai a dydd Gwener 7 Mai, daeth torfeydd o bobl i rwystro bysus a thramiau rhag teithio ar hyd Heol-y-Frenhines a St John’s Square. Cafodd y gwasanaeth ei adfer dim ond ar ôl i gannoedd o blismyn, gan gynnwys plismyn ar gefn ceffylau, gael eu hanfon i glirio llwybr i’r tramiau gan ddefnyddio baton, ar o leiaf un achlysur, i chwalu’r torfeydd.

O ganlyniad i redeg y gwasanaeth tramiau yng Nghaerdydd yn ystod y Streic Fawr, crëwyd rhwygiadau dwfn a pharhaus ymhlith gweithwyr y tramiau. Ar ddiwedd y streic bu i lawer o’r gwirfoddolwyr gael cynnig a derbyn cyflogaeth llawn amser gyda Gwasanaeth Tramiau Trefol Caerdydd. I’r streicwyr a oedd yn dychwelyd i’r gwaith, fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw sicrwydd a derbyniwyd llawer ohonynt yn ôl i weithio llai o oriau am lai o dâl. Dyna oedd y patrwm cyffredinol ledled yr holl grefftau a diwydiannau a fu’n rhan o’r Streic Fawr, gydag aelodau undebau, mewn rhai achosion, yn colli eu swyddi neu’n aml ond yn gallu dychwelyd i weithio ar sail telerau ac amodau is.

Mae’n anochel bron bod Ronald, Cyril a Leslie wedi bod yn rhan o’r gwrthdaro y cyfeiriwyd ato uchod mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, mae’n debygol iawn bod Leslie Chapman yn un o’r cannoedd o gwnstabliaid arbennig a anfonwyd i strydoedd canol Caerdydd ar anterth y streic ac mae’n bosib ei fod wedi bod yn rhan o’r gwrthdaro ar 6 a 7 Mai yn Heol-y-Frenhines a St John’s Square. Byddai Ronald Pritchard a Cyril Small wedi bod yn ymwybodol iawn o’r peryglon ynghlwm wrth weithio ar y tramiau yn ystod y streic, gyda’u tramiau’n cael eu gwarchod ar bob siwrnai gan gwnstabliaid arbennig. Yn aml iawn roedd gwirfoddolwyr yn cael eu gwarchod gan blismon wrth iddynt adael eu gwaith yn y nos i deithio yn ôl i ganol Caerdydd.

Mae’n rhaid bod y derbyniad dinesig, felly, yn destun emosiynau cymysg. I Ronald, Cyril a Leslie mai’n debyg mai dim ond gwobr am wneud gwaith da ydoedd. Fe’i dilynwyd pum mis yn ddiweddarach â dathliad pellach lle cafodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, a farnodd bod y Streic Gyffredinol yn ddim mwy nag ymdrech i ‘deyrnasu trwy rym’, ei wneud yn rhyddfreiniwr. Eto, i lawer, roedd y streic wedi bod yn ddull cyfreithlon o ddangos cefnogaeth i’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a thelerau ac amodau yn cael eu gwasgu fwy a mwy ers 1918.    Roedd gweithredu uniongyrchol wedi methu ond roedd llwybrau eraill i frwydro dros amodau gwaith gwell, gan gynnwys cefnogi’r Blaid Lafur.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Rhaid cadw’r gwasanaethau hanfodol. Ydych chi’n barod i wasanaethu? – Hanes Edward Loveluck

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol.

Yr wythnos ddiwethaf, astudiom hanes y Streic drwy lygaid Trevor Vaughan, gweithiwr rheilffordd a swyddog undeb llafur yn Aberdâr ym 1926 [DX196/2]. Ceir trafodaeth o ddigwyddiadau mis Mai 1926 o safbwynt gwahanol iawn ym mhapurau Edward Loveluck, sydd yn Archifau Morgannwg [DLOV/148-149]. Er gwaetha’r cydymdeimlad cyffredinol tuag at y glowyr, roedd pryder mewn llawer o ardaloedd mai streic Cyngres yr Undebau Llafur oedd y cam cyntaf tuag at golli cyfraith a threfn. Gweithredodd y Llywodraeth yn sydyn er mwyn gwrthwneud streic y gweithwyr print a chynhyrchu ei phapur newydd ei hun, The British Gazelle, a chyhoeddwyd rhifyn cyntaf y papur ddydd Mercher 5 Mai. O’r dechrau, defnyddiodd Llywodraeth Stanley Baldwin ddulliau digyfaddawd wrth ymdrin â’r streic. Dan y pennawd: ‘No Flinching. The Constitution or a Soviet’, dywedodd y British Gazette:

The strike is intended as a direct hold up of the nation to ransom. It is for the nation to stand firm in its determination not to flinch. ‘This moment’ as the Prime Minister pointed out in the House of Commons, ‘has been chosen to challenge the existing constitution of the country and to substitute the reign of force for that which now exists….’

Mr Churchill pointed that either the nation must be mistress in its own house, or suffer the existing Constitution to be fatally injured, and endure the erection of a Soviet of Trade Unions with the real effective control of our economic and political life. The Chancellor, however, foresees the nation’s triumph in the struggle. ‘No one’, he declared, ‘can doubt what the end will be, but from every point of view, including our duty in the interests of the working classes of this country, we are bound to face this present challenge unflinchingly, rigorously, rigidly, and resolutely to the end’. [The British Gazette, Rhif 1, Dydd Mercher 5 Mai 1926, DX24]

Roedd y Llywodraeth wedi llunio cynlluniau wrth gefn manwl ar gyfer cynnal gwasanaethau hanfodol mewn achos streic. Roedd rhifyn cyntaf y British Gazette yn cynnwys manylion y Comisiynwyr Sifil a benodwyd ar lefel ranbarthol ar draws y wlad, gyda’r Iarll Clarendon yn gyfrifol am dde Cymru. Roedd yn gweithio o Dominions House, Heol-y-Frenhines, Caerdydd a’i gyfrifoldeb oedd gweithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn a’r gwasanaethau hanfodol, yn enwedig trafnidiaeth a chyflenwi glo a bwyd.

Roedd y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol hefyd ar gael i helpu’r Comisiynwyr Sifil, wedi ei gadeirio gan enwebai o’r Llywodraeth ac wedi ei sefydlu’n benodol er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal gwasanaethau hanfodol. Mewn rhai achosion, roedd llu o wirfoddolwyr eisoes ar gael drwy gorff a elwid y Sefydliad Cynnal Cyflenwadau. Crëwyd y Sefydliad yn wreiddiol mewn ymateb i ymgyrch gan y Times ym 1925 dros sefydlu corff gwirfoddol â changhennau ar hyd y wlad yn barod i recriwtio gwirfoddolwyr petai streic gyffredinol. Er nad oedd Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn asiantaethau Llywodraethol swyddogol roeddent, yn aml gyda chefnogaeth y Sefydliad Cynnal Cyflenwadau, yn chwarae rôl bwysig wrth helpu’r Comisiynwyr Sifil i gynnal y gwasanaethau hanfodol.

Pensaer lleol o Ben-y-bont ar Ogwr oedd Edward Loveluck, a oedd yn gweithio i’r Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol ym mis Mai 1926. Mae ei bapurau’n dangos i ba raddau yr oedd y Llywodraeth yn benderfynol o dorri’r streic ac wedi cymryd camau i roi cynlluniau manwl ar waith er mwyn lliniaru effeithiau’r streic yn arwain at fis Mai 1926. Ar 22 Ebrill, bythefnos cyn galw’r streic, ysgrifennodd Illtyd Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol Ardal Caerdydd, at Loveluck ‘yn Gyfrinachol’, yn gofyn iddo fod yn Is-gadeirydd gyda chyfrifoldeb dros Gylch Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd llythyr Thomas yn cadarnhau bod cynlluniau ar gyfer cynnig y gwasanaethau petai Streic Gyffredinol lawn.

As you have probably gathered from information which has appeared in the Public Press, preparations are being made for the maintenance of Public Supplies should an emergency arise.

I have been requested by the Government to provide a Volunteer Service Committee which will comprise a deputy appointed by me and nominated official Representatives, namely a Food Officer, Road Officer, Railway Officer, Postal Officer, Coal Emergency Officer and Finance Officer, representing the essential services.

Gofynnwyd i Loveluck arwain ymgyrch i recriwtio dynion a merched yng nghylch Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai’n barod i weithio:

…national service to assist to produce, handle or transport necessary food, fuel, light and power or such other duties essential for the maintenance and well being of the community, but not for the purposes of acting as strike breakers.

Byddai’r llinell olaf yn destun llawer o ddadlau gan fod y gwahaniaeth rhwng torri’r streic a defnyddio gwirfoddolwyr i gynnig gwasanaethau pan oedd aelodau’r undebau ar streic yn fychan iawn. Roedd yn amlwg bod pobl yn gweld Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol fel rhan annatod o roi peiriannau ar waith yn lleol er mwyn lleihau effeithiau’r streic. Mewn ail lythyr, wedi ei ddyddio 3 Mai, rhoddodd Thomas gopi o Femorandwm cyfrinachol gan y Llywodraeth yn nodi sut y byddai’r Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol yn cefnogi’r Comisiynwyr Sifil a’u gweithwyr. Roedd hefyd yn cynnwys manylion y codau a ddefnyddid yn ystod y streic er mwyn cychwyn, gohirio a dod â’r gweithredu i ben. Roedd y memorandwm yn cynnwys atodiad o gynllun poster recriwtio a thempled Cerdyn Cofrestru er mwyn cofnodi manylion y gwirfoddolwyr. Er na ddylid defnyddio’r Arfbais Frenhinol na’r llythrennau’n nodi ‘Ar Wasanaeth Ei Mawrhydi’ ar y posteri, roedd hi’n amlwg yr ystyriwyd y pwyllgorau yn brif asiantaeth er mwyn ennyn cefnogaeth gyhoeddus i’r Llywodraeth wrth ymateb i’r streic.

Volunteers urgently required. Men, women and children must be fed. Essential services must be maintained. For these purposes volunteers are urgently needed. Are you prepared to serve?

Mae’r cofnodion a gynhyrchwyd gan Loveluck ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos iddo allu recriwtio dros 180 o wirfoddolwyr o fewn dyddiau. Ystyrir yn aml mai o swyddogaethau dosbarth canol, coler wen y daeth y gwirfoddolwyr, a phrin oedd eu cydymdeimlad nhw at yr undebau. Mae’r cofnodion yn cadarnhau hyn, gyda nifer o gyfreithwyr, cyfrifwyr ac archwilwyr ymhlith y gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, roedd y gwirfoddolwyr hefyd yn cynnwys nifer fawr o lafurwyr, gyrwyr, gofaint a garddwyr. O ystyried tarddiad y streic, mae’n syndod bod llawer wedi nodi mai eu swyddi oedd glöwr, llafurwr glo, gyrrwr tram a gyrrwr locomotif. Roedd eu hoedrannau’n amrywio o docynnwr bws 16 oed i ŵr 72 oed o Southerndown a oedd yn fodlon helpu i gludo bwyd a glo. Mae’r cofnodion yn awgrymu, er y gefnogaeth eang yn yr ardaloedd cloddio, fod y boblogaeth wedi ei rhannu’n amlwg yn y trefi a’r dinasoedd. Yn sicr nid oedd diffyg gwirfoddolwyr, a hwythau’n ddynion ac yn ferched, a oedd yn barod i helpu â’r gwaith clercaidd, anfon nwyddau ar y ffyrdd a gweithio yn y dociau ac ar y rheilffyrdd hyd yn oed. Wedi asesu’r gwirfoddolwyr, cynhyrchodd Loveluck grynodeb o’r sgiliau y gellid eu cynnig erbyn ail wythnos y streic.

DLOV149_compressed

Special constables – 9

Railwaymen drivers – 2

Drivers – motor car 32, lorry 47, bus/tram 2

Motor cyclists – 11

Electricians/engineers – 13

Horse duties – 2

Dock workers – 1

Labourer – 23

Clerical – 29

Lady workers 13  [DLOV149]

Efallai ei bod yn syndod i gyn lleied gynnig gweithio fel heddlu gwirfoddol o ystyried bod ymgyrch fawr i gynyddu niferoedd yr heddlu yn ardal Caerdydd. Fodd bynnag, mae’n bosib nad oedd cymaint o angen am heddlu ychwanegol mewn ardaloedd megis Pen-y-bont ar Ogwr, Southerndown a Phorthcawl. Roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys 13 menyw, gyda gwraig Edward Loveluck yn un ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn cynnig gwneud gwaith clercaidd neu ffreutur ond roedd rhai yn fodlon helpu i gludo bwyd a nwyddau. Yn ei lythyr at Illtyd Thomas ar 14 Mai, cadarnhaodd Loveluck fod y mesurau a gyflwynwyd yn gweithio’n ddiffwdan wrth i’r streic fynd ymlaen i’w hail wythnos.

DLOV148 14May1926_compressed

I telephoned the qualifications of the Locomotive Drivers on my list to you this morning and I enclose herewith the enrolment cards of same.

The lorry drivers canteen here has been open each night and has done excellent service and it will continue until further orders.

I understand tonight that a settlement has been reached with the Railway men, so probably the week end will see an end of the emergency. All is quiet and orderly in the Town and District, there is no shortage of anything except coal and this is strictly rationed.

There is nothing calling for special mention  [Edward Loveluck at Illtyd Thomas, 14 Mai 1926, DLOV148].

Erbyn hyn, roedd y streic wedi dod i ben yn fwy na heb, ac roedd Cyngres yr Undebau Llafur yn galw ar bawb ond yr undebau glo i ddychwelyd i’r gwaith. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ysgrifennodd Thomas at Loveluck yn cadarnhau y gallai’r gwirfoddolwyr orffen.

DLOV148 18May1926_compressed

Instructions have now been sent from the Chief Civil Commissioner that all Recruiting Offices should be closed and the services of staff ended but I should be glad if the individuals who so kindly helped should remain available in case it may be necessary to re-open offices at short notice. All records and accounts should be preserved including registration cards until further notice  [Illtyd Thomas at Edward Loveluck, 18 Mai 1926, DLOV148].

Mae’r papurau’n gorffen gyda llythyr at Loveluck gan yr Iarll Clarendon, Comisiynydd Sifil de Cymru, yn diolch am ei wasanaeth, dyddiedig 16 Mai 1926:

The national emergency is over and I am shortly returning to London but before I go I wish to thank you most warmly for the services you have rendered as Vice Chairman at Bridgend of the Cardiff Volunteer Service Committee. The work which you have done has been an important factor in the success with which essential services have been maintained in this Division, and I am most grateful to you for the help and assistance you have given me during the last fortnight.

Mae dadlau eto ynghylch pam yn union y cyhoeddodd Cyngres yr Undebau Llafur ddiwedd y streic ar 12 Mai. Does dim amheuaeth, fodd bynnag, fod gwaith y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol a dynion megis Edward Loveluck wedi cyfrannu’n fawr at berswadio’r Gyngres yn lleol ac yn genedlaethol fod y Llywodraeth yn benderfynol o wrthsefyll y streic ac nad oedd sicrwydd y byddai parhau i streicio’n llwyddiannus.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Streic Cyffredinol 1926: Stori’r Dyn Rheilffordd – Daliwch Eich Tir, Rhaid i Ni Ennill

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol. Mae’r stori isod yn un o gyfres o straeon sydd i’w gweld ymysg y deunydd hwn. Cafodd ei hysgrifennu gan Trevor Vaughan, gweithiwr rheilffordd a swyddog undeb llafur yn Aberdâr ym 1926 [cyf.: D/DX196/2].

Stori’r Dyn Rheilffordd

Roedd Trevor Vaughan yn 26 oed ar adeg y Streic Cyffredinol. Roedd yn glerc i Feistr yr Orsaf yng Ngorsaf Lefel Uchel Aberdâr ac yn swyddog yng Nghymdeithas y Clercod Rheilffordd. Roedd yn dod o deulu â hanes hir o weithredu gyda’r undebau llafur.

There was a good Trade Union tradition in our family. My Father was on the GWR and for many years a signalman in the Aberdare Box and a member of the Amalgamated Society of Railway Servants (later the National Union of Railwaymen). My grandfather on my Mother’s side was a driver on the Taff Vale Railway. The first minute book of a branch of the ASRS in Aberdare includes his name as a Committee member. He died in 1894 at 52 years. Four of his sons – my Mother’s brothers – were Engine Drivers.

Roedd yr RCA yn anarferol – roedd yn un o’r nifer fach o undebau ‘cot ddu’ a oedd yn gysylltiedig â’r TUC ym 1926. Roedd Trevor Vaughan yn cynrychioli’r RCA ar Gyngor Masnach a Llafur Aberdâr ac, felly, cafodd ei gyfethol i bwyllgorau undeb allweddol i gyfarwyddo’r streic yng Nghwm Aberdâr. Fel y rhan fwyaf o aelodau undeb yng nghymoedd De Cymru, ni oedodd cyn ymateb i’r galw i streicio i gefnogi’r glowyr.

In the Aberdare Valley when a call came for strike to support the Miners – irrespective of party or religion – there was a spontaneity in the response from the whole community. We were not only comrades in the Trade Union Movement but fellow members of the chapels and churches, clubs, sport and Friendly Societies. Most of my school friends and boys I played with in our street went underground. They usually wore their white duck trousers in the street the night before they went “under” – often with their fathers. It was an emotional appeal. I doubt whether half a dozen of my members who were out on strike had ever voted “Labour”. That nine days revealed to me that there was a Working Class and I was a member of it.

Fel un o’r swyddogion prin a allai deipio, lluniodd Trevor lawer o’r negeseuon a basiwyd rhwng y pwyllgorau streic lleol yn ystod y 9 diwrnod – ‘Aberdare Solid’, ‘Stand Firm’ a ‘We Must Win’. Hefyd, roedd ganddo brofiad o siarad yn gyhoeddus fel pregethwr lleyg – talent a ddefnyddiodd yn effeithiol yn ystod y streic. Fodd bynnag, nid oedd ei rôl heb risg. Yn ei gyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Aberdâr, rhannodd lwyfan gyda Max Goldberg, dyn tân ar y trenau, aelod o’r NUR, a chomiwnydd adnabyddus.

As a local preacher I stressed the Christian Brotherhood of Man and the sanctity of human personality. Max the Communist made the point “Here is the power on one side – the workers on the other – in between the Army, only the control of the army will get power”.

Cafodd Max a dau arall eu harestio yn dilyn y digwyddiad. Cafodd Max Goldberg ei ddedfrydu i ddeufis o lafur caled a, phan gafodd ei ryddhau o’r carchar, gwrthodwyd ei gais am waith gan Great Western Railway.

Trevor Vaughan hefyd oedd y gŵr a lwyddodd i berswadio gwrthwynebwyr y streic i gydymffurfio â’r mwyafrif.

We had a few non-union blacklegs in our railway salaried service and even among those members who came out on strike, hardly one or two voting labour. I used to chase these blacklegs when they went to and from the office. One morning, before I was out of bed, my mother brought me a telegram. It read “come at ten – Hirwaun Joint”. I got on the back of a motor bike and when I arrived I was told that one of our members was working. He was Harry Morgan, Chief Clerk in the Goods Office at Hirwaun Station. I was almost instructed to “get him out”. Of course, I knew him well personally and had worked with him in the Aberdare Booking Office. I agreed to go around to his house. As I moved off I found half a dozen members of the Joint Committee accompanying me. This caused me some concern and at the end of the street I persuaded them to wait there until I came back. “Tiny” Morgan, as we knew him (he was very fat) was at home nursing the baby in a shawl Welsh fashion. I knew his wife was solid labour and would be on my side (it was usually the other way about). Both of us “had a go” at him, Mrs Morgan urging him to “go with Trevor”. Finally he agreed to meet me in the strike committee in Aberdare the following day. The strike ended a couple of days after and I was not sure whether he came out or not.

Roedd penderfyniadau anodd i’w gwneud wrth ddelio â’r bobl hyn.

One difficult personal problem I had to deal with concerned the Chief Clerk at Aberdare High Level station, a close colleague of mine. To come out on strike in his eyes was tantamount to a Marxist Revolution, but he actually came out in loyalty to me. His wife, she had been brought up in a village outside Abergavenny, was under great strain with her husband on strike. He told me one day that he was very worried as his wife was not sleeping and that she was pregnant. I told him I could not take the responsibility of the consequences to his expectant wife and agreed for him to report for work and I would explain the circumstances.

Wrth i’r streic symud i mewn i’w ail wythnos, roedd y gefnogaeth yn gadarn ledled de Cymru. Felly, syfrdanwyd Trevor a’i gydweithwyr o glywed, ar nawfed diwrnod y streic, fod y TUC wedi gofyn i rai undebau (y rhai nad oeddent yn gysylltiedig â chloddio) ddychwelyd i’r gwaith. Roeddent yn siŵr fod y Llywodraeth wedi cytuno i’r telerau a fynnwyd gan yr undebau. Yn benodol, honnodd y TUC ei fod wedi sicrhau telerau derbyniol ar gyfer ailagor trafodaethau i setlo gwrthdaro’r glo. Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn hwyrach yn y dydd, a dros yr wythnos nesaf, fod y TUC wedi methu â sicrhau unrhyw gonsesiynau cadarn gan y Llywodraeth na pherchnogion y pyllau. Mae’n bosib i’r bygythiad o gamau cyfreithiol yn erbyn yr undebau ddylanwadu ar y penderfyniad. Fodd bynnag, roedd amheuaeth fod y TUC, yn wyneb penderfynoldeb y Llywodraeth i gynnal gwasanaethau hanfodol, yn ofni na fyddai mynd â’r streic ymhellach, ar 12 Mai, yn gwneud unrhyw beth ond cynyddu’r posibilrwydd o wrthdaro gyda’r awdurdodau.

Heb unrhyw fudd i’r glowyr na sicrwydd y byddai’r streicwyr yn cael eu swyddi’n ôl gan eu cyflogwyr, roedd penderfyniad y TUC yn ergyd fawr.

In spite of all the confident fighting speeches and high morale among the rank and file, the whole thing collapsed on the Friday night. There was a packed meeting of railwaymen in the Memorial Hall and the Aberdare Leader reported “Local Railwaymen decided at the Memorial Hall, Aberdare on Friday evening to accept the recommendation of the Union Executives and to return to work that there should be no penalties or victimisation”. In fact, there were no guarantees and many of my colleagues did not go back for months. With no coal coming from the pits, the railway company in South Wales had no work for many clerks. One young Clerk had only been on the railway a month but came out on strike but never got his job back.

Roedd cadernid cenedlaethol mewn darnau, a bu undebau unigol, ar lefel leol, yn trafod a thrafod i geisio sicrhau gwaith i’w haelodau.

A meeting of the three railway unions was called in the Memorial Hall and a deputation representing the three unions was chosen to visit the various departments at the Aberdare Station to meet local Officials and to indicate we were available for work. As we proceeded towards the station we began to realise that it was a “cap in hand” affair. To quote the words of Aneurin Bevan in another context, as we approached the Officials we felt “naked”. We called in the Station Master’s Office (the office where I normally worked) and visited the Engineering and Goods Departments. We received a respectful reception from each Officer. We then moved over to the Loco Sheds where several hundred staff were employed as trainmen, fitters etc. The spokesman at the Loco was Ben Brace (ASLF) a very prominent member of his union nationally – a JP and Town Councillor. As we passed the office window we could see Mr Burgess, the Loco Foreman and one of his Shift Foremen the only two at the Depot not on strike. When we got to the office door we knocked and tried the knob – it was locked. We had no choice but to make our way into the engine shed and approach the glass partition where men booked on duty.

Mr Burgess and Fred Hussey came to the inside window and as the glass shutter had not been opened for nine days it was stuck and Fred Hussey broke the glass in opening it. The tension was electric! Ben Brace’s face was livid. To be humiliated in the presence of the other departments where we had had a respectful reception. Ben said “I thought you would have the courtesy to receive us in your office.” Burgess replied “We can do our business here, Ben”. Ben had to say that he was speaking on behalf of the Unions and that we were available to resume duty. Burgess replied “we will let you know when we want you,” and there the interview ended. It was absolute humiliation for men who had given their life time to the Company and we could do nothing whatever about it but walk away.

Collodd dynion eu swyddi ledled y wlad, a chafodd eraill eu gorfodi i weithio llai o oriau wrth i gyflogwyr achub ar y cyfle i leihau niferoedd ac, mewn sawl achos, i gadw’r rheini a gyflogwyd mewn ymateb i’r streic. Roedd Trevor Vaughan yn un o’r rhai lwcus, a dychwelodd i weithio ar y rheilffordd yn Aberdâr.

Mr James, the Station Master, (we were good friends) called me back to the offices on Saturday morning and assured me that he had not done any of my work. Back on duty I had to compile a list for the Divisional Superintendent of the names of the “loyal” staff and those on strike. In the first column was one name “Mr James.” For the second column I just copied out the pay bill – about 120 names including my own together with Clerks, Inspectors, Signalmen, Guards, Shunters, Ticket Collectors, Porters etc.

And so ended nine days in which I experienced the “Baptism of Fire”.

Ond nid dyna’r diwedd i Trevor Vaughan ac eraill.

Involvement in the General Strike in a town like Aberdare was an emotional experience and it would be difficult to assess the influence it had on my personality. It brought me into close contact and intimate relationship with outstanding Independent Labour Party stalwarts who had suffered severe victimisation throughout the lives. Men of high integrity and intellectual quality. Everything in life that matters seemed to be at stake during that nine days. During my 45 years on the railway it was the only occasion when I knew what it was to be “out of work.” Along with thousands of my fellow workers in my home town I was facing reality something akin to the comradeship of the trenches in Flanders during the First World War.

Roedd y streic wedi methu, ac i bwysleisio’r pwynt, gweithredodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth i wahardd streiciau sympathetig. Cafodd y gweithwyr eu cau allan drwy gydol yr haf a’r hydref cyn iddynt orfod ildio a dychwelyd i’r gwaith, lle’r oedd gwaith ar gael, neu weithio ar delerau ac amodau gwaeth. Fel y nododd Trevor Vaughan:

It is difficult to believe that such a demonstration of solidarity among the working class – supported by the whole community as far as Aberdare was concerned – should suffer utter collapse.

Fodd bynnag, gwnaeth digwyddiadau Mai 1926 argraff fawr ar lawer o ddynion a menywod ym mhob cwr o’r wlad. Roedd gweithredu uniongyrchol wedi methu ond roedd ffyrdd eraill o herio’r drefn ac ymladd dros amodau gwaith gwell. Ym 1932 enwebwyd Trevor Vaughan yn ymgeisydd Llafur dros Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr, ac enillodd y sedd ar ei ail ymgais y flwyddyn wedyn. Bu’n ymwneud â’r llywodraeth leol am amser hir, gan wasanaethu fel Maer Casnewydd ym 1963, a chafodd CBE ym 1967. Gan edrych yn ôl ar y digwyddiadau ym 1926, daeth i’r casgliad canlynol:

There is no doubt that my involvement in the General Strike 1926 had a profound influence on the direction I was to travel in the years to come and the causes to which I would give the major portion of my life and energies.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg