Ym misoedd cyntaf 1916 roedd y Rhyfel Fawr yn ei ail flwyddyn ac roedd y newyddion o’r ffrynt yn ddu. Gyda’r naill ochr na’r llall yn ennill y frwydr yn ffosydd Ffrainc, roedd y sylw’n troi at Fôr y Canoldir a’r Dwyrain Agos. Roedd pethau’n llwm, a chafodd y milwyr olaf eu cludo o’r Dardanelles a gwarchae’r garsiwn Prydeinig yn Kut. Ond prin oedd y rhai a ragwelsai, o fewn misoedd, y byddai’r sylw’n troi at Ddulyn gyda’r newyddion dramatig fod gwrthryfel arfog yn erbyn Prydain a datganiad annibyniaeth gan Weriniaeth Iwerddon ar Ddydd Llun y Pasg, 24 Ebrill 1916.
Adroddwyd ar Wrthryfel y Pasg gan filwr 16 oed o Gaerdydd, Ernest Edward Thomas, a wasanaethai a’r 3ydd Marchfilwyr Cymreig yn Nulyn. Roedd Ernest yn fab i fasnachwr blodau a ffrwythau, yn wreiddiol o St Issells, Sir Benfro, o’r enw Ernest Edward hefyd. Bu’r teulu’n byw yn 288 Heol Casnewydd, Caerdydd ac aeth Ernest i Ysgol Marlborough Road cyn symud i Ysgol Uwchradd Drefol Caerdydd yng Ngerddi Howard ym 1912. Roedd y disgyblion yn galw ‘MSS’ ar yr ysgol, ac ynghyd â nifer o gyn-ddisgyblion, ysgrifennai Ernest at ei gyn-brifathro, William Dyche, am ei brofiadau yn y rhyfel. Cadwodd William Dyche y llythyrau a dderbyniodd o 1914-1916 ac maen nhw bellach yn Archifau Morgannwg. Mae’r llythyrau’n ffynhonnell wreiddiol o wasanaeth yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, o’r hyfforddiant sylfaenol hyd at fywyd ar flaen y gad, ym mhob theatr o’r rhyfel.
Gallai ymddangos y byddai mynd i Ddulyn ar ddyletswydd ymhell o’r ymladd a ymledai o Ffrainc i Ewrop gyfan, Môr y Canoldir, y Dwyrain Agos ac Affrica. Ymddengys na ddisgwyliai Prydain anrhefn sylweddol yn Nulyn yn Ebrill 1916 o ystyried mai dim ond mil o filwyr a oedd yn y ddinas. Ymhlith y lluoedd Prydeinig oedd nifer o unedau ceffylau, ac roedd Ernest Thomas gyda’r Marchfilwyr Cymreig ym Marics Marlborough, Dulyn. Ac yntau ond yn 16 oed, roedd Ernest yn ei chanol hi o’r dechrau. Y Marchfilwyr Cymreig oedd rhai o’r unedau cyntaf i gael gwŷs o’r Barics ar ddydd Llun y Pasg, ac mewn dau lythyr at William Dyche, dyddiedig 12 a 18 Mai, disgrifiodd Ernest y gwrthryfel o lygad y ffynnon.
Fe’i disgrifiodd fel ‘…a very unexpected affair so far as we were concerned’. Yn wir, wrthi’n chwarae pêl-droed ydoedd ar fore’r 24 Ebrill pan ganwyd y larwm.

About 11 a.m. on Easter Monday the alarm was sounded and we were told to ‘fall in’ with a rifle, bayonet and 150 rounds of Ball Ammunition. We were not told where or why we were turning out, but, we jolly soon found out. Our Regiment (the W H) had been ordered to proceed to Ship Street Barracks (so we afterwards found out) [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Roedd y larwm o ganlyniad i’r ffaith i Weriniaethwyr Gwyddelig arfog, dan arweiniad James Connolly, feddu ar nifer o adeiladau allweddol yn Nulyn gan gynnwys Swyddfa’r Post, y Pedwar Llys, Ffatri Fisgedi Jacob’s, Lawnt San Steffan a Neuadd Dinas Dulyn. Roedd hefyd ymdrechion i gipio Castell Dulyn a Choleg y Drindod. Ar ôl cipio’r Swyddfa Bost, roedd Patrick Pearse wedi datgan Gweriniaeth Iwerddon a chodi baner weriniaethol. Daeth tua 1,200 o ddynion yn Nulyn i Luoedd y Gweriniaethwyr, yn bennaf o ddau grŵp, y Gwirfoddolwyr Gwyddelig a Byddin Dinasyddion Iwerddon.
Dros y misoedd blaenorol roedd yr awdurdodau wedi bod yn ymwybodol o baratoadau at wrthryfel yn erbyn rheolaeth Prydain dros Iwerddon. Ond prin y gwnaed unrhyw beth i baratoi at ddigwyddiadau Ebrill 1916. Mae’n bosibl bod digwyddiad pan gipiodd y Llynges Frenhinol long Almaenig a oedd yn cludo arfau i’r gwrthryfelwyr wedi darbwyllo awdurdodau Prydain fod y paratoadau wedi cael ergyd ddifrifol. Os felly, ni lawn ddeallent benderfyniad y mudiad Gweriniaethol.
Prin y byddai gan y milwyr o Gymru syniad yr hyn a fyddai’n eu hwynebu ar fore Llun y Pasg wrth adael Barics Marlborough. Prin yw’r rhai a ragwelsai ddigwyddiadau’r diwrnodau i ddod, nac a baratôdd atynt.


We marched out of Barracks with fixed bayonets and rounds of ammunition in the magazine. This in itself spelt trouble. All went well until we got to the top of Queen St. I was in an advance station which consisted of eight men and two N.C.Os. This party who were about 200 yards in advance of the main body had got about a third of the way down Queen St when the rebels opened fire on us. Six men fell. Two killed and four wounded. I rushed into the doorway of a confectioners shop for cover as I did not know where the rebels were firing from. I had not been there hardly two seconds when a bullet smashed the glass to atoms just a little higher than my head. I can tell you I didn’t half shift [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].

Presently the enemies fire slackened and I had the chance to double back to the main body, needless to say I took it. With the main body we attacked the rebels who were on the roofs of houses and in windows. After about 2 hours fighting we got as far as Queen St Bridge [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Roedd Barics Marlborough yng ngogledd Dulyn. Roedd y Marchfilwyr Cymreig yn symud i ganol y Ddinas ac yn agosach at yr ardaloedd a’r adeiladau a ddaliai’r Gweriniaethwyr. Mewn amrant, cawsant eu saethu atynt gan reifflau. Roedd disgrifiad Ernest yn hynod digynnwrf gan ystyried yr oedd yn filwr ifanc iawn yn profi ymladd am y tro cyntaf. Ond ar adegau ceir awgrymiadau o’r dryswch a’r ofn yr oedd yn siwr o’i deimlo.
The rebels were on the house-tops (three quarters of the houses in Dublin have flat roofs) and in the windows, in fact they were firing from everywhere and the worst part of it was we could not see them to fire back….I can tell you honestly that it is not very pleasant to have someone doing a little rifle practice on you [Llythyr 12 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Wrth gyrraedd Pont Heol-y-Frenhines dros Afon Liffey yng nghanol y ddinas, canfu’r Marchfilwyr Cymreig y bont wedi’i baricedio a’i hamddiffyn. Roedd y Gweriniaethwyr hefyd wedi meddiannu tai ar y lan gyferbyn.

We had only just shown ourselves there when a heavy fire was opened on us from the houses on the opposite side of the Liffey. We spent about 3 ½ hours in quelling their fire before we were able to rush the bridge. It was an awfully funny sensation to be crouching behind a Tramcar or motor with bullets flying and ricocheting around and the noise of over 200 rifles ‘rapid firing’. From there we got to Ship St Bks without any further trouble having taken from 11 am until 6.30pm to travel 2 ½ miles [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Heb baratoi at y fath wrthwynebiad, gorfodwyd i’r lluoedd Prydeinig mewn nifer o lefydd i aros am gefnogaeth cyn ceisio trechu’r gwrthryfelwyr. Daethai’r ornest yn rhyfel athreuliol, gyda’r ddwy ochr yn ceisio rheoli rhannau allweddol o’r ddinas. Am y ddeuddydd nesaf, gwyliai Ernest yr ymladd yn mynd rhagddo o’r toeon.


When we got there, as our reinforcements had not arrived we had to keep on working. I and my chum were detailed for sniping and were given a post amongst a crowd of chimney pots on a house-top which we discovered was excellent cover and did some rather decent shooting from there. We were relieved at 4.30pm on Tuesday having been working since 5am Monday without food (except breakfast before leaving Bks Monday) or relief until 4.30pm Tuesday [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Dyma fyddai patrwm yr wythnos nesaf, wrth i Ernest ddal ati i gael ei ddefnyddio fel cêl-saethwr, yn symud o adeilad i adeilad. Roedd yn gyfnod o frwydro chwerw, a chafodd dinasyddion eu dal yn ei chanol yn aml. Fodd bynnag, newidiodd cydbwysedd pŵer yn gyflym. Roedd Prydain wedi galw rheolaeth filwrol yn Nulyn, a gyda’r ddinas dan reolaeth y fyddin, llifai milwyr a magnelau Prydain i’r ddinas nes bod bron 16,000 ohonynt.

I was allowed to sleep until 10pm after a feed of Bully and biscuits. The sleep was on the barrack square without anything to lay down on or even a coat or a blanket to cover me. At ten o’clock prompt we were all wakened by the officer and he asked for ten men to volunteer to go for a sniping outpost. I volunteered and we went in a transport (motor). No lights and top speed, and here and there a stray shot was fired at us, nobody was hit however [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].


The transport landed us at a small farrier’s shop about a quarter of a mile from the Four Courts and from the roofs of that and other houses nearby we spent a week at sniping. From there we went to Liberty Hall and the Four Courts and from there finally to Jacobs Biscuit factory [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Daw’r uchod o ail lythyr Ernest o 18 Mai. Mae’n amlwg ei fod ynghanol rhywfaint o’r ymladd ffyrnicaf yn y Pedwar Llys a Ffatri Fisgedi Jacob’s. Eto, yn ei ail lythyr, prin y rhoesai fanylion. Serch hynny, yn y llythyr blaenorol o 12 Mai, roedd ganddo lawer mwy i’w ddweud am y cyfnod hwn. Er enghraifft, cyfeiriai at gêl-saethu o dŵr Castell Dulyn a saethu Gweriniaethwr a oedd ar do’r Pedwar Llys. Ni chawn wybod byth faint o hyn oedd yn frolio di-sail gan fachgen 16 oed. Petai’n wir, roedd wedi penderfynu erbyn amser ei ail lythyr fod yn fwy gwyliadwrus am ddigwyddiadau Dulyn Ebrill 1916.
Un thema gyffredin yn y ddau lythyr yw ei angen i chwilio am fwyd wrth i’r ymladd bara dros rai diwrnodau. Eto, roedd ganddo lawer i’w ddweud am hyn yn ei lythyr cyntaf, a siaradodd am fynd â bwyd oddi wrth ysbeilwyr.
We had no food sent through to us. I believe that in the rush we were forgotten, anyhow we did well. Starving ‘men’ are not particular, so seeing some looters passing, we took their loot from them at the point of bayonet and lived like kings on sardines, butter, cake, jam, bacon, eggs, biscuits etc, but we could not get any bread or anything to drink.
I was having ‘dinner’ which consisted of 2lb seed cake, a tin of skipper sardines and a pocketful of all sorts of biscuits and the best chocolate and an old bully tin which was half full of water? (or water with variations such as sardine oil, bits of cheese, cake and biscuits would describe it better) when a bullet flattened itself at my feet almost (I am enclosing part of it, the other bit went west, please give it to my mother afterwards and show her this letter (as I could not write two letters like this and live)). It was an awful nuisance because it made me upset the sardines all over my best breeches, and oil will stain them [Llythyr 12 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Eto roedd fwy na thebyg rywfaint o or-ddweud yn hyn o beth. Dychwelodd at y thema hon yn yr ail lythyr, ond heb sôn am yr ysbeilwyr. Ymddengys, ar ôl i’r ymladd orffen, ei fod yn ymwybodol iawn o galedi a dioddefaint pobl Dulyn.

I did not have my boots or puttees off for three solid weeks and was half (if not more) starved at the time. We had nothing but Bully and biscuits and in a good four cases the Bully had turned. One day I opened a tin and it was not very good so I knocked the contents out into the gutter with the intention of giving it to a poor starving dog. The dog licked it once or twice and was about to eat it when a poor woman with a child in her arms rushed out of a house opposite and eat it ravenously without bread or biscuit. This incident gives me a slight insight as to the state that the poorer class were in. They had not dared to put their noses outside their doors for the first 10 days [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].
Gyda chefnogaeth o Brydain ac An Currach, a’r magnelau, llwyddodd Lluoedd Prydain i adennill tir, ond ar gost fawr. Ar ôl cael ei orfodi i adael adeilad Swyddfa’r Post, galwodd Pearse am ildio ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill. Dilynodd gwirfoddolwyr yn yr adeiladau allweddol eraill ei esiampl drannoeth. Fodd bynnag, i Ernest a’r Marchfilwyr Cymreig, roedd llawer i’w wneud o hyd i sicrhau adeiladau allweddol ar draws y ddinas a chwalu’r rhai a wrthsafai olaf.


Finally last Friday evening the troops were withdrawn and we got to Barracks ‘done up’ completely. I was only able to wash 3 times in 3 weeks and not at all for the first fortnight. While in this state I thought of a new version to a very popular hym and it suited me to the “T”. Instead of Rock of Ages left for me, it was Muck of Ages grained in me let me rid myself of thee. Well I must close now hoping that the rough scetch which I have enclosed will be of some use [Llythyr 18 Mai 1916, EHGSEC11/55].

Roedd y gwrthryfel ar ben. Amcangyfrifwyd bod 64 aelod o’r Gwirfoddolwyr Gwyddelig a Byddin Dinasyddion yr Iwerddon yn farw, ynghyd â 132 o filwyr Prydeinig a phlismyn. Yn anffodus, lladdwyd dros 250 o sifiliaid, ac roedd tystiolaeth bod Byddin Prydain a’r gwrthryfelwyr yn gyfrifol am eu marwolaethau. Yn dilyn cyfres o arestiadau a llysoedd marsial, cafodd 15 o ddynion, gan gynnwys Patrick Pearce a James Connolly, eu dedfrydu i farwolaeth a’u dienyddio drwy saethu ym mis Mai am arwain y gwrthryfel.
Gyda methiant y gwrthryfel yn Nulyn, diflannodd ymdrechion cynlluniedig i wrthsefyll Prydain yng ngweddill Iwerddon, gan gynnwys yng Nghorc. Fodd bynnag, petai awdurdodau Prydain yn Nulyn dan yr argraff iddynt chwalu’r mudiad gweriniaethol, roeddent yn gwbl anghywir. Daethai arweinwyr y gwrthryfel yn ferthyron, ac ymhen blwyddyn roedd nifer o elfennau o’r mudiad cenedlaetholgar wedi dod ynghyd i ffurfio Sinn Féin. Er nad oedd yn amlwg bryd hynny, roedd Ernest Thomas a’r Marchfilwyr Cymreig yn rhan o ddigwyddiadau a gyfrannodd at y galw a’r daith at sefydlu Gweriniaeth Rydd Iwerddon ym 1922.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg