Getting to know you: Lansio cylchgrawn Heddlu De Cymru ym 1970

Yn dilyn lansio Heddlu De Cymru – South Wales Constabulary – newydd ar 1 Mehefin 1969, roedd y Prif Gwnstabl, Melbourne Thomas, yn awyddus i feithrin gweithgareddau, gan gynnwys cynhyrchu cylchgrawn, a fyddai’n cychwyn plethu ynghyd y pedwar llu a unwyd. Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, dywedodd Thomas:

Without doubt the development of the magazine will assist in encouraging a greater sprit and a better understanding between all Officers of the Force. (DSWP/16/2)

Cover

Rhoddwyd cynhyrchu cylchgrawn yr heddlu newydd yn nwylo’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, E R Baker. Gyda’r teitl syml ‘South Wales Police Magazine’, cafodd y rhifyn prawf, yn faint poced 40 tudalen, ei gyhoeddi yn fuan ym 1970. O’r cychwyn cyntaf, roedd Baker am i’r cylchgrawn fod yn deuluol, gan sôn nid yn unig am bethau a oedd yn digwydd yn yr heddlu, megis dyrchafiadau ac ymddeoliadau, ond hefyd newyddion dyweddiadau, priodasau, chwaraeon teuluol a llwyddiannau mewn arholiadau.  Comisiynwyd y 7 adran, gan gynnwys Traffig, Pencadlysoedd a’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, i gynnig cyfraniadau.

Cyfrannodd pob gohebydd adrannol i helpu i sefydlu’r arddull, sef addysgol ond ag elfen ysgafn, a oedd yn bresennol yn yr holl rifynnau cynnar. Dyma ambell glip o’r diweddariad ar ddatblygiadau yn yr Adran Traffig ar gyfer y rhifyn prawf.

Reports have been received at this office from agitated motorists on the A48 Trunk Road, complaining that the traffic is moving more freely and safely owing to the fact that [two] Police Constables …are no longer interrupting the flow of traffic. It would appear that the gain of the motorists on the A48 is the loss of the students of the Police Driving Academy where the two officers are performing duty.

In August 1969 [the son of a Police Constable] was awarded first prize as the ‘Bonniest Baby’ at Butlin’s Holiday camp Minehead. There was a considerable amount of disagreement amongst the judges when they could not decide just who was the bonniest – father or son!

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru – DSWP/52/1)

Roedd yr her wedi ei gosod. Y cylchgrawn oedd y lle i fynd i gael newyddion am bethau difrifol megis dyrchafiadau ac ymddeoliadau, ond hefyd ar gyfer y pethau ysgafnach trwy Heddlu De Cymru. O ganlyniad, aeth yr ail rifyn, a gyhoeddwyd yn hydref 1970, yn 96 tudalen. Roedd bron pob adran yn cynnwys newyddion staff a theuluoedd a chyfres o straeon a jôcs.

Roedd y cylchgrawn nawr yn cynnwys cartwnau, cerddi, adroddiadau chwaraeon, cwis, croesair, adolygiadau llyfrau ac, i gyd-fynd â’r naws deuluol, gornel stori i blant. Hefyd, roedd pob rhifyn yn cynnwys cymysgedd o erthyglau hirion a oedd yn aml yn cynnwys troeon trwstan cydweithwyr a straeon lol eraill. Dyma ddau gyfraniad byr.

One evening a police Landrover went to the assistance of a member of the public whose car, boat and trailer had stuck in the sea at the river mouth at Ogmore by Sea. In the course of the recovery the police Landrover got into difficulties and, because of the fast incoming tide, the crew members had to ‘abandon ship’. The Landrover was eventually covered by water and before ‘going down’ the blue flashing lamp started to rotate as a sign of defiance. The vehicle was recovered next day and it is understood that members of the Central Traffic Sector partook of a meal of fish which had been trapped in the vehicle when it was high and dry.

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, DSWP/52/1)

Dan y teitl ‘Getting to know you’, roedd hefyd stori am heddwas ifanc yn cysgu â’i ben ar ei fron mewn mynedfa siop yn hwyr rhyw noson. Pan glywodd ei Sarsiant yn agosáu, ar y funud olaf, rhoddodd ei ddwylo dros ei frest a dweud:

And please watch over all those who are on duty this night and forever and ever, Amen.

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, DSWP/52/1)

Efallai ei bod yn arwydd gadarnhaol bod ystod eang o hysbysebu ym mhob rhifyn, gan gwmnïau lleol yn bennaf, o ledled ardal yr Heddlu. Fodd bynnag, y gwir arwydd o lwyddiant oedd i ba raddau y gallai’r cylchgrawn gofio a gwenu ar hynt a helyntion yr uno. Yn hydref 1970, roedd cerdd a dwy erthygl am yr uno, gan gynnwys y dyfyniad hwn o ddarn dychanol am y trafodaethau hirfaith ynghylch cytuno ar waith papur a systemau cyffredin ar gyfer y pedwar llu. Yn yr achos hwn, ffurflen ar gyfer ymddiswyddo ydoedd.

The meeting also decided to re-design Form Resig/Amalg/1/Ops … for the use of Admin Superintendents. Undoubtedly there would be a further meeting to decide who signed at the left, the middle and on the right – but that was something that could wait until tomorrow. “You know …I can never understand why a clever young fellow wants to resign anyway.” “Not enough to do, I suppose,” agreed his colleagues as they left through their personal doors.

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, DSWP/52/1)

Y prawf olaf oedd y cliw cyntaf yn y croesair – 1 ar draws:

Effective from 1st June 1969 – three words with 5, 5 and 12 letters.

Gobeithio, erbyn hydref 1970, byddai holl aelodau’r heddlu wedi datrys hwn mewn mater o eiliadau. Ond, os ydych chi’n ei chael yn anodd dod o hyd i’r ateb, mae ym mharagraff cyntaf yr erthygl hon.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ceir copïau o dri rhifyn cyntaf Cylchgrawn Heddlu De Cymru ar gyfer 1970 yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DSWP/50/1.

Pandas ar Strydoedd De Cymru: Cwnstablaeth De Cymru newydd a grëwyd ym 1969

Dyma’r ail erthygl allan o dair sy’n edrych ar sut y crëwyd Cwnstablaeth newydd De Cymru gan gyfuno heddluoedd Morgannwg, Caerdydd, Merthyr ac Abertawe. Pwyslais yr erthygl gyntaf oedd lansiad yr heddlu ar 1 Mehefin 1969. Yn yr ail un rydym yn edrych ar yr heddlu newydd ‘modern’ a ffurfiwyd 50 mlynedd yn ôl. Cymerwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ar gyfer yr erthygl o Adroddiadau Blynyddol y Prif Arolygydd a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac yn enwedig yr adroddiad ar gyfer 1969-70 (ref.: DSWP/16/2). Mae gan Archifau Morgannwg hefyd gasgliad sylweddol o ffotograffau o waith yr heddlu o’r cyfnod hwnnw.

Daeth Cwnstablaeth De Cymru â’r pedwar heddlu, Caerdydd, Morgannwg, Merthyr ac Abertawe, at ei gilydd gydag ychydig iawn o newid yn nifer gyffredinol y swyddogion. Daeth  mwyafrif y lluoedd newydd, rhyw 1300 o swyddogion o gyfanswm o 2391, o Gwnstablaeth Morgannwg. Yr heddlu lleiaf cyn eu huno oedd Merthyr gyda 141 o swyddogion ac yna Abertawe a Chaerdydd. Mae hyn yn swnio fel nifer sylweddol ac yn wir, roedd y Gwnstablaeth yn un o’r rhai mwyaf y wlad. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan y Prif Gwnstabl newydd, golyga hyn mai dim ond un swyddog oedd i bob 500 o bobl yn ardal y gwnstablaeth.

Bu arwyddion eisoes bod yr heddlu newydd ‘modern’ yn gweld newidiadau yn ei batrymau recriwtio traddodiadol. Er nad oeddent yn rhan gwbl integredig o’r heddlu tan ar ôl y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ym 1975, roedd swyddogion benywaidd wedi cael eu cyflogi erbyn 1969 bron ym mhob agwedd ar waith yr heddlu, o’r adran lifrau i’r Adran Archwilio Troseddau, yr Adran Traffig, y Gangen Arbennig a’r Uned Gyffuriau. Fodd bynnag, dim ond 65 o swyddogion benywaidd oedd wedi eu cyflogi, sef 3% o gyfanswm y cyflogeion. Mewn meysydd eraill roedd y swyddi sifilaidd yn tyfu’n gyflym gyda chyfanswm o oddeutu 500 wedi eu cyflogi yng Nghwnstablaeth De Cymru. Tra bod y mwyafrif wedi eu cyflogi mewn swyddi clercaidd, roedd swyddogion sifilaidd yn cael eu cyflogi mewn swyddi ehangach ar y strydoedd gyda 69 o wardeiniaid traffig, a’r tu ôl i’r llenni mewn swyddi cynnal a chadw cerbydau a wneir gan staff sifilaidd.

Roedd yr adroddiad yn manylu ar nifer y cerbydau a’r gwaith o’u cynnal a chadw. I ryw raddau, roedd hyn yn dangos bod dulliau’r heddlu yn newid wrth gyflwyno’r Arfer Plismona Strydoedd mewn Unedau. Yn unol â’r Argymhellion Cenedlaethol, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym 1967, roedd Plismona Strydoedd mewn Unedau yn annog heddluoedd i fuddsoddi mewn ceir a dyfeisiau radio personol i alluogi swyddogion i batrolio ac ymateb i alwadau gan y cyhoedd. Er y gostyngwyd nifer y swyddogion oedd yn patrolio ar droed oherwydd y dull hwn, mewn theori, ei nod oedd manteisio i’r eithaf ar dechnoleg newydd i blismona ardaloedd mawr. Erbyn diwedd 1969 roedd yr heddlu newydd yn berchen ar 459 o gerbydau, y dyrannwyd 160 ohonynt i’r wyth isadran ar gyfer Plismona Strydoedd mewn Unedau. Er bod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, roedd gan lawer o geir dechnoleg ddiwifr ac roedd swyddogion yn gallu manteisio ar 528 o radios personol.

Daeth peryglon hefyd o gyflwyno Plismona Strydoedd mewn Unedau. Bu cynnydd mawr yn nifer cerbydau’r heddlu mewn damweiniau ym 1969, gan gynnwys 93 o ddigwyddiadau gyda cheir Plismona Strydoedd mewn Unedau. Fel gwnaeth Melbourne Thomas gyfaddef:

Because of the rapid introduction of unit beat policing it was not possible to give every driver the full instruction which police drivers normally undergo to raise them to an above average standard…

Fodd bynnag rhoddodd sicrwydd i’r cyhoedd:

…no police officer was allowed to drive without a test to show that he was well capable of coping with normal traffic hazards.

Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad helaeth o ffotograffau o’r cyfnod hwn, gan gynnwys sawl llun o’r Morris Minors a oedd yn gefn asgwrn Plismona Strydoedd mewn Unedau yn ne Cymru. Cyfeirid atyn nhw fel Ceir Panda, er eu bod wedi eu paentio’n las golau a gwyn, a chyda thechnoleg ddiwifr daethant yn rhan nodweddiadol o blismona mewn llawer o ardaloedd.

DSWP-PH-TRA 051

DSWP-PH-TRA 052

Wrth fynd drwy’r adroddiad, roedd llawer o elfennau y gellir eu hystyried yn gyffredin erbyn hyn, ond ar y pryd roeddent yn ddatblygiadau newydd yng ngwaith yr heddlu ym 1969, gan gynnwys ymgyrchoedd i hyrwyddo gosod larymau byrgleriaid a chynnal seminarau atal troseddau.  Gwelwyd hefyd un neu ddau o’r hen ffefrynnau gan gynnwys y ‘Goleuwr sy’n Siarad’ a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgyrchoedd diogelwch ar y ffordd gyda phobl ifanc. Cyfeiriwyd atyn nhw weithiau fel ‘Billy neu ‘Bertie the Beacon’, ac roedd yr ymgyrch yn cynnwys goleuadau croesi gydag wynebau a thei bô yn aml oedd yn mynd ar ymweliadau ag ysgolion. Roedd llais wedi ei recordio gan Billy a oedd yn cynnig cymorth ar ddiogelwch ar y ffordd megis ‘Aros, edrych a gwrando cyn i ti groesi’r ffordd’. Yn ystod oes pan oedd robotiaid yn berchen i ffilmiau Hollywood yn bennaf, cafodd Billy ‘groeso brwd bob tro’.

Efallai bod agwedd arall o’r ‘datblygiadau newydd’ hefyd o bwys. Roedd ystadegau troseddau ym 1969 yn llawn categorïau traddodiadol megis ymosod, byrgleriaeth a lladrata. Er bod Uned Gyffuriau arbenigol yn rhan o’r heddlu newydd, yr unig gyfeiriad at waith yn y maes hwn oedd adroddiad bod dau gi’r heddlu wedi cwblhau hyfforddiant i ddarganfod resin canabis. Gwnaed hyn o bosib wrth edrych at y dyfodol oherwydd o fewn 12 mis y bu’r Prif Gwnstabl yn adrodd ei fod yn pryderu am …y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn enwedig ymysg y bobl ifanc…  Cafodd 274 o bobl eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ym 1970 ac arestiwyd 6 pherson yng Nghaerdydd am gynnal grŵp oedd yn mewnforio LSD a’i amnewid am resin canabis, ac felly roedd digon o reswm dros bryderon y Prif Gwnstabl i drefnu hyfforddiant i’r holl swyddogion mewn mynd i’r afael â throseddau cyffuriau.

Yn ystod 1969, daeth 11 o swyddogion o heddluoedd ar draws y byd – o Nigeria i Bahrain a’r Ynysoedd Solomon – i ymweld â Chwnstablaeth De Cymru. Nid oes cofnod o’u sylwadau. Ond heb os, buasai llawer i’w ystyried wrth i’r Gwnstablaeth newydd ymwreiddio ac addasu i’r newidiadau a’r heriau wrth Blismona De Cymru.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ceir copïau o Adroddiad Blynyddol y Prif Gwnstabl ar gyfer 1969 ac 1970 yn Archifau Morgannwg, cyf. DSWP/16/2.

Capteinio Tîm Criced Morgannwg, 24 Medi 1890

Gyda phedair gêm Cwpan Criced y Byd ICC yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia, mae’r ffocws unwaith eto’r haf hwn ar griced. Wrth fwrw cipolwg ar gofnodion Archifau Morgannwg daethpwyd o hyd i hanes gêm griced a chwaraewyd dros 130 o flynyddoedd yn ôl, pan fentrodd tîm criced Sir Morgannwg i’r cae i wynebu’r hen elyn o’r ochr draw i Afon Hafren. Roedd diweddglo dramatig i’r gêm yn erbyn Dwyrain Swydd Gaerloyw ar 24 Medi 1890 yn Cheltenham, ac roedd angen i’r tîm cartref sgorio 34 yn y 15 munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth. Mewn ymgais i osgoi colli, trodd tîm Morgannwg at y capten a’r bowliwr agoriadol, Hill, â chefnogaeth Webber, i rwystro llif y rhediadau. Roedden nhw wedi ffurfio partneriaeth arbennig yn y batiad cyntaf, gan rannu 8 wiced rhyngddynt. Roedd Hill hefyd wedi agor y batio i dîm Sir Morgannwg gan sgorio 56, ac roedd y papurau newydd yn adrodd bod y batwyr agoriadol wedi …bwrw’r bêl allan yn rhydd a chododd y sgôr yn gyflym dros ben. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn sgil cyfres o ergydion cadarn gan un o fatwyr agoriadol Swydd Gaerloyw, Champain, a sgoriodd 31 mewn byr o dro, sicrhawyd buddugoliaeth i’r tîm cartref a aeth ati i gynnal ei record ddiguro ar gyfer y tymor.

Nid gêm griced arferol oedd hon. Capten tîm Sir Morgannwg oedd Constance Hill, merch y Cyrnol Syr Edward Stock Hill o Rookwood yng Nghaerdydd, ac mae bron yn sicr yn un o’r cofnodion cyntaf o sefydlu tîm criced i ferched i gynrychioli Sir Morgannwg.

D1372-1-1-4 match report_compressed

Byddai’r canlyniad wedi bod yn ergyd drom. Yn gynharach yn yr haf, dan enw XI y Cyrnol Hill, roedd Constance a llawer o’i thîm, yn ogystal â Miss Morgan o Riw’r Perrai, wedi teithio i Dedham yn Essex a threchu ochr a ddaeth ynghyd dan Syr John Gorst, Is-ysgrifennydd Gwladol India. Fe greon nhw dipyn o gynnwrf yn ôl y papurau newydd:

Colonel Hill and his party travelling from London in a saloon carriage attached to the 10am train from Liverpool Street arrived at Ardleigh about 11.30am. The stoppage of the express and the detraining of the fair athletes and their friends forming evidently quite an event in the annals of that quiet little station.

Ar ôl bowlio Dedham allan yn eu batiadau cyntaf am sgôr isel, gwnaeth XI y Cyrnol Hill fwrw 113:

…Miss Morgan contributed 32 by hard hitting, her innings included a fine hit to square leg for six and three fours; while Miss Hill, who went in first, played steadily and carried her bat for 51 runs.

Mae’n sicr y byddai’r fuddugoliaeth hon wedi teimlo fel paratoad da ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw, ond fel y digwyddodd, roedd eu gwrthwynebwyr ym mis Medi yn llawer gwell.

Roedd criced yn gamp ffasiynol iawn yn y cyfnod hwn. Mae sawl cofnod o gemau’n cael eu chwarae yng Nghymru rhwng timau cymysg neu o fenywod yn erbyn dynion, yn aml gyda dynion yn batio ag ysgubau ac yn cael bowlio neu ddal y bêl â’u llaw wannach yn unig. Serch hynny, roedd nifer o fenywod y cyfnod hwnnw’n gweld dim rheswm pam na ddylent gymryd rhan mewn camp a oedd cyn hynny wedi’i dominyddu gan ddynion. Dim ond 3 mis yn gynharach, ym mis Mehefin 1890, cynhaliwyd gêm arddangos yng Nghasnewydd a drefnwyd gan yr Original English Lady Cricketers. Er bod erthygl yn y South Wales Daily News yn honni y bu miloedd o bobl yn gwylio’r gêm, roedd ychydig o or-ddweud yn fan’na mwy na thebyg. Ond roedd diddordeb go iawn yn y gêm wrth i’r ddau dîm, y Cochion a’r Gleision, fentro i’r cae. Roedd y gêm hon yng Nghasnewydd yn un o gyfres o gemau arddangos a drefnwyd gan yr Original English Lady Cricketers ar hyd a lled Lloegr, Cymru ac Iwerddon yn haf 1890. Fel chwaraewyr proffesiynol oedd yn derbyn tâl, roedd eu hymagwedd yn hollol o ddifrif, ac roedd y chwaraewyr yn defnyddio technegau bowlio dros yr ysgwydd ac yn batio gan wisgo lledr a phadin i’w hamddiffyn rhag anaf. Er gwaethaf hynny, yn ôl yr adroddiadau bu rhaid i un chwaraewr adael y cae y prynhawn hwnnw yn sgil amheuaeth o fod wedi torri ei thrwyn. Roedd cadw at arferion y cyfnod yn anochel hefyd a bu rhaid i fenywod wisgo sgertiau hir yn ymestyn heibio’u pen-gliniau, wedi’u haddurno yn goch neu’n las ac yn cynnwys plwm i’w trymhau.

Cafodd y gêm ei hystyried yn aflednais mewn rhai cylchoedd, gyda’r awgrym nad oedd cymryd rhan mewn campau o’r fath yn ‘foneddigesaidd’. Roedd anghytuno chwyrn yn y wasg o ran y graddau y gallai cyrff merched ifanc ddelio â phwysau a straen gemau tîm cystadleuol megis criced. Mewn ymateb, nododd y tîm rheoli bod y chwaraewyr yn cael eu dethol ar sail eu gallu athletaidd, ac o ystyried mai 19 oed oedd oedran aelodau’r tîm ar gyfartaledd, roeddent yn cael eu gofalu amdanynt a’u hebrwng gan wraig briod a gwraig gynorthwyol.

Er i dîm Original English Ladies Cricket ddiflannu’n reit fuan, roedd criced i fenywod yn dechrau ffynnu. Roedd hyn yn wir yn sectorau mwyaf cyfoethog y gymdeithas yn bennaf, ac roedd yn aml yn cael ei annog mewn colegau ac ysgolion i fenywod ifanc, er y bu peth gwrthwynebiad. Mae’n ddigon posibl y byddai Constance Hill a’u cyd-chwaraewyr yn nhîm Sir Morgannwg wedi mynd i weld y gêm honno yng Nghasnewydd.

D1372-1-1-6 Miss C Hill_compressed

Ychydig iawn o ddiddordeb fyddai gan Constance, a oedd yn 22 oed ar y pryd, mewn gemau oedd yn cynnwys ysgubau yn lle batiau, oherwydd roedd y teulu Hill yn deulu criced i’r carn. Roedd ei brawd hŷn, Vernon, yn chwarae i Gaer-Wynt a Phrifysgol Rhydychen, ac wedi sgorio cant cyflym mewn gêm ryng-golegol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt. Aeth ymlaen i chwarae ar lefel sirol, i Wlad yr Haf a Morgannwg, ac roedd ei brodyr, Eustace a Percy, hefyd yn chwarae criced sirol.

D1372-1-1-4 family group_compressed

Y brodyr a chwiorydd Hill

Mae llyfrau lloffion y teulu Hill sy’n cael eu cadw gan Archifau Morgannwg yn dilyn llwyddiannau criced meibion a merched y Cyrnol Hill ac yn cynnwys cofnodion o gemau a nifer o luniau. Er nad oes unrhyw gofnod o Mabel, merch hynaf Edward Stock Hill, yn chwarae criced, roedd Constance a’i chwaer iau, Gladys, ill dwy’n gricedwyr brwd a thalentog. Byddai’r gêm yn Swydd Gaerloyw wedi cael ei chwarae o ddifrif oherwydd roedd y tîm cartref yn cael ei hyfforddi gan William Woof, a chwaraeodd dros 140 o gemau i Swydd Gaerloyw gan gymryd dros 600 o wicedi. Hyfforddodd dîm criced Coleg Cheltenham yn ogystal â thimau Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yn hwyrach. Yn fowliwr llaw chwith, cafodd Woof ei argymell i Goleg Cheltenham gan W G Grace. Er nad oedd hyfforddwr tîm Sir Morgannwg mor amlwg, mae’n debygol iawn y byddai’r tîm wedi cael ei hyfforddi gan y Cyrnol Hill a brodyr Constance, yn enwedig Vernon, a oedd eisoes yn aelod o dîm sirol Gwlad yr Haf ym 1890.

D1372-1-1-6 cricket match_compressed

Y teulu Hill a ffrindiau yn mynychu gêm criced

Mae llyfrau lloffion y teulu Hill yn rhoi delwedd ddiddorol iawn o griced i ferched yn y cyfnod hwn. Roedd gemau criced yn cychwyn toc ar ôl canol dydd ac yn para tan 6 o’r gloch, gydag awr o egwyl ar gyfer cinio. Roedd timau’n gwisgo sgertiau hir wedi’u haddurno â rhubanau yn ôl lliwiau’r tîm, ac roedden nhw’n gwisgo hetiau gwellt. Roedd Constance yn gricedwr o fri, gyda’r bat a’r bêl, ac roedd hi bron bob tro’n agor y batio ac yn bowlio. Er nad oedd hi mor ofalus â’r Original English Lady Cricketers o ran ei gwisg, byddai wedi gwisgo padiau criced a menig wrth fatio, er bod y cofnodion yn awgrymu y byddai’r menig yn aml yn cael eu rhoi i’r neilltu. Steil Constance oedd casglu rhediadau’n araf bach yn hytrach na bwrw’n bell. Fodd bynnag, nid dyma’r achos bob tro ac mewn gêm ym Mharc Tredegar, dywedwyd:

Miss Hill and Miss Morgan commenced the second innings for their side. Some splendid batting was now seen both ladies hitting to all parts of the field. In 42 minutes when stumps were drawn the partnership had contributed to 72 runs which included 6 3s by Miss Hill and a 5 by Miss Morgan.

O ran bowlio, cywirdeb oedd elfen allweddol ei llwyddiant. Yn yr ychydig gofnodion sydd wedi goroesi, roedd ei gwrthwynebwyr fel arfer yn cael eu bowlio’n lân. Yn yr un set o ystadegau bowlio mewn cyfnod o 6 phelawd, cymrodd Constance 3 wiced am 11 o rediadau, ac, yn wahanol i eraill, ni chofnododd unrhyw beli ‘pell’. Dylid nodi mai cyfnod gweddol fyr oedd hwn oherwydd gallai batiadau gêm brynhawn para hyd at 50 o belawdau. Dyna ben ar y pryderon ynglŷn â gallu ‘merched ifanc bregus’ i chwarae gêm griced gystadleuol.

Heb strwythur ffurfiol i griced i fenywod yn Ne Cymru, chwaraeodd Constance i nifer o dimau ad hoc gan gynnwys y Tyllgoed ac ystod o dimau gwahoddiad megis XI Miss Morgan. Hefyd, cafodd ei recriwtio yn hwyrach i chwarae ar gyfer yr un tîm o XI Miss Gorst a oedd wedi cael ei drechu’n llwyr ym 1890. Tra bo criced yn dod yn boblogaidd ym mhob rhan o’r gymdeithas roedd y gemau a gofnodwyd yn Ne Cymru gan amlaf yn cynnwys merched ac weithiau gwragedd nifer o deuluoedd cyfoethog a dylanwadol. Roedd y rhain yn cynnwys teulu Morgan o Riw’r Perrai, teulu Morris o Danycraig a llu o deuluoedd lleol adnabyddus megis Pritchard, Beynon, Curtis a David.  Roedd eu gwrthwynebwyr yn nhîm Swydd Gaerloyw yn cynnwys tair merch y Cyrnol William Agg, YH, o Prestbury, a dwy ferch Is-gyrnol Bateman Champain, a wasanaethodd yn India yn rhan o’r Peirianwyr Brenhinol.

Mae set fawreddog dros ben o luniau yn llyfrau lloffion teulu Hill o briodas Constance â Walter Roberstson Hoare ym 1897 yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

large wedding group

Yn anffodus, roedd ei phriodas hefyd yn nodi diwedd i gofnodion ei gyrfa griced. Mae’n bosibl ei bod wedi penderfynu ymroi ei hun i’w theulu ac yn sicr roedd ganddi ddigon o dalentau eraill, a hynny fel actores, cerddor a golffiwr. Roedd hi hefyd yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gan weithredu fel Llywydd ar un o Ganghennau Caerdydd o Gynghrair y Friallen.

Gant ag ugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, cododd cricedwr amryddawn arall, Heather Knights, Gwpan Criced i Fenywod y Byd ICC yn Lords wrth i Loegr faeddu India yn y rownd derfynol ar 23 Gorffennaf 2017. Yn 2013, ysgrifennodd y cricedwr Isabelle Duncan lyfr am griced i ferched o’r enw ‘Skirting the Boundary’. Does dim amheuaeth y byddai Constance a’i thîm wedi cymeradwyo’r ddau, gan eu bod wedi gwneud eu cyfraniad hwy drwy osod menywod yn gadarn wrth y wiced ac nid wrth ffiniau’r cae criced.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Seiliwyd yr erthygl yma ar gofnodion gemau criced a lluniau teulu o fewn llyfrau lloffion y Teulu Hill o Rookwood sydd ar gadw yn Archifau Morgannwg. Mae’r llyfrau penodol ar gyfer y cyfnod yma dan gyfeirnod D1372/1/1, gyda chyfeiriad at gyfrolau 3 (D1372/1/1/3), 4 (D1372/1/1/4) a 5 (D1372/1/1/5) yn enwedig.