Mae Ysbyty Rookwood yn Llandaf yn gyfarwydd iawn i drigolion Caerdydd ac yn 2018 mae’n dathlu 100 mlynedd ers i’r eiddo gael ei defnyddio gyntaf fel ysbyty. Fodd bynnag, gwyddys llai am y tŷ fel cartref teuluol mawreddog ac ysblennydd cyn ei droi’n ysbyty. Mae sawl set o gofnodion yn Archifau Morgannwg yn helpu i lenwi’r bylchau yn yr hanes cyn 1918 ac yn rhoi cipolwg i ni ar y tŷ, ac ar y teulu a adeiladodd ac a fu’n byw yn Rookwood o 1866.

Mae cofnodion Stephenson and Alexander, Arwerthwyr a Thirfesurwyr Siartredig o Stryd Fawr, Caerdydd, yn cynnig man cychwyn defnyddiol i edrych ar hanes Rookwood. Maen nhw’n cynnwys papurau sy’n cynnig cipolwg rhyfeddol ar yr hyn fyddai wedi bod yn un o dai mawreddog Caerdydd ar droad y 19eg ganrif. Ym 1917 rhoddwyd Rookwood ar werth, ac yntau’n dal yn gartref teuluol ar y pryd. Stephenson and Alexander gafodd y gwaith o werthu a lluniwyd prosbectws ganddynt ar gyfer darpar brynwyr gyda manylion llawn am y tŷ a’r ystâd ynghyd a nifer o ffotograffau. Mae’r cofnodion hefyd yn cynnwys gwybodaeth gefndir, na ddefnyddiwyd yn y llyfryn gwerthu, gyda ffotograffau ychwanegol a manylion celfi arbennig. Gyda’i gilydd, mae’r deunydd a gasglwyd gan Stephenson and Alexander yn helpu i baentio darlun manwl o’r tŷ yn ystod haf 2017.
O’r cychwyn cyntaf mae’n amlwg bod Rookwood, er mai dim ond 2 filltir o ganol Caerdydd ydoedd, yn dŷ ac yn ystâd sylweddol. Fel y gellid disgwyl, aeth yr arwerthwyr i gryn drafferth i danlinellu nodweddion deniadol y lle:
The property is an exceptional one in any other respects. It is situated close to, in fact almost adjoining the City of Cardiff, and yet in such a secluded and beautifully sheltered position, that once within its precincts it is difficult to realise that an industrial City is only a few miles distant.
The magnificent views obtainable over the whole of Llanishen, Lisvane and surrounding districts are particularly beautiful. The mildness of the climate at Llandaff is apparent by the extraordinary luxuriant growth of all kinds of flowering shrubs – including Camellias which bloom luxuriantly and regularly out of doors – Rhododendrons, Azaleas and the like, and also the collection of Japanese Maples, which is considered to be one of the finest in the Kingdom.
Wedi ei gosod mewn 26 erw o dir, roedd yr ystâd wedi ei lleoli rhwng Heol y Tyllgoed a Heol Llantrisant. Erbyn 1917 roedd llawer o dir ymylol yr ystâd wedi ei neilltuo ar gyfer pori ond, yng nghanol yr ystâd, roedd 9 erw o hyd o goetir a gerddi.
The Gardens and Grounds are singularly attractive and have for many years been prominent on account of the generous manner in which the owners have on many occasions thrown them open to the public, and numerous exhibits and the number of prizes won for fruit and vegetables at the local Flower Shows. The delightful walled Gardens, with the broad herbaceous borders, the Rookery, the Rose Gardens and Woodland Walks, small items in themselves when added to the many other attractions, make this Property a particularly desirable one from a residential points of view.

Serch hynny, y tŷ oedd y prif atyniad. Roedd yn un o’r enghreifftiau gwell o’r plastai mawreddog a godwyd gan deuluoedd a oedd wedi elwa ar y ffyniant economaidd yn ystod De Cymru yn ail hanner y 19eg ganrif:
Rookwood was built in the year 1866 and is of the early 13th century English Gothic design. It was considerably added to in the year 1881 by Mr John Prichard well-known as the Architect employed in the restoration of Llandaff Cathedral and the erection of many important Gothic Houses in the locality. The North Lodge was designed by him and is a very fine example of half timber work, built regardless of cost and also the very beautiful Porte Cochere which is one of the features of the residence.
The internal decorations and painted ceilings were carried out under the direction of Mr J D Crace FSA, the renowned artist and designer of the great staircase in the National Gallery and other important building in London; this internal painting has never been touched since its completion, is still in perfect order and represents some of the finest of its kind.
The Camelia House built entirely of Teak with panels of mosaic forms a most handsome addition to the House. There is an interesting Summer House overlooking the lawns that was brought from the outskirts of Cardiff, and appears in an old view of the City dating from the eighteenth Century.

Wedi rhoi’r cefndir, awn wedyn ar daith fesul ystafell o adeiladau’r tŷ a’r ystâd. Gellid dynesu at y tŷ ar hyd llwybrau cerbydau un ai o gyfeiriad y Tyllgoed neu o Heol Llantrisant a oedd, yn y naill achos a’r llall, yn meddu ar ‘borthdy artistig’ a adeiladwyd ger mynedfeydd yr ystâd. Wrth gyrraedd, byddai’r gwesteion wedi arafu y tu allan i’r fynedfa fwaog drawiadol i flaen deheuol y tŷ ar ffurf Porth Cochère y gellir ei weld yn y ffotograff cyntaf yn y ffolder. Dyluniwyd blaen y tŷ gyda’i dyred a’i ffenestri bae o garreg er mwyn creu argraff a does dim dwywaith iddo lwyddo i wneud hynny ar ymwelwyr.
The Mansion House which is built of Radyr stone with Bath stone facings and red tile roof, stands in a beautiful sheltered and mild position clad with well-grown specimens of Magnolia, Wisteria and Myrtle.
Mae ffotograffau o’r cyntedd a’i ddrysau tîc a’r ystafell groeso yn cynnig cofnod gwerthfawr o sut olwg oedd ar y tu mewn i’r tŷ ym 1917.

Nid cyd-ddigwyddiad oedd hi bod i’r cyntedd ei le tân ei hun. Dyna cyn belled ag y byddai rhai yn cael mentro ond, hyd yn oed bryd hynny, doedd dim amau crandrwydd y cartref gyda’i waliau a’i nenfydau wedi’u paentio. Roedd tua 35 o begiau ar y stondin gotiau tîc a byddent oll wedi cael eu defnyddio o gofio y byddai’r perchnogion yn aml yn cynnal garddwesti mawr a nosweithiau cerddorol.
I’r rhai a fyddai’n cael camu dros y trothwy, canolbwynt y tŷ oedd yr ystafell groeso neu’r parlwr, gyda’i bapur wal a’i garped patrymog trwm. Roedd yn ystafell i’w hedmygu a hefyd yn ystafell yr oedd rhaid mynd drwyddi i gyrraedd sawl rhan arall o’r tŷ.
BEAUTIFUL DRAWING ROOM (38’ X 17’ 6”) with two large double bay windows, oak parquet floor, teak mantel piece and over mantelpiece, beamed and painted ceiling, with door leading to Dining Room and large sliding doors leading to the heated Conservatory….

O’r ffotograffau yn y prosbectws gallwn weld, yn unol ag arddull y cyfnod, bod amryw addurniadau yn yr ystafell groeso gan gynnwys gwaith cerameg uwchben y lle tân addurnedig, gyda’i grât haearn a phres, ynghyd â ffotograffau a darluniau ar y wal. Yn ddifyr iawn, i’r chwith o’r lle tân ceir fframyn ag ynddo 9 ffotograff dull portread, sydd bron yn sicr o’r perchnogion a’u saith o blant. Ond mwy am y teulu yn y man.
Mae’r nodiadau cefndir a grëwyd gan yr arwerthwyr yn cadarnhau bod trydan ym mhob ystafell a bod yr ystafell groeso wedi’i goleuo gan siandelïer gwydrog Fenisaidd, y cyfeirir ato fel ‘Electrolier’.

Wedi’i brynu o’r gwneuthurwyr gwydr adnabyddus, Salviati o Fenis, byddai wedi bod yn ganolbwynt trawiadol i’r ystafell gerllaw y drychau pres ar y waliau a’r ffigwr marmor o ‘Clytie’, nymff ddŵr o fytholeg Groeg. Ar ben hynny, byddai un o’r ddau biano Broadwood o eiddo’r teulu, y piano cyngerdd mwy na thebyg, wedi bod yn yr ystafell hon. Roedd y perchnogion yn deulu cerddorol a byddai’r ystafell groeso wedi’i defnyddio’n helaeth ar gyfer adloniant gyda’r nos gyda pherfformwyr teuluol a phroffesiynol.
Felly mae’r daith yn parhau ar y llawr gwaelod trwy’r ystafell groeso, yr ystafell filiards, y llyfrgell â’i silffoedd llyfrau pren collen Ffrengig, yr ystafell ysmygu fechan a’r tŷ cameliâu.
I orffen, fel rhan o ‘gefn yr eiddo a’r swyddfeydd domestig’, roedd cegin fawr, cegin fach a neuadd y gweision. Ar wahân i’r tŷ roedd dwy stabl, dau gerbyty ac ystafell gyfrwyo. Er i’r ddau gerbyty gael eu haddasu i gadw cerbydau modur erbyn 1917, mae’r cofnodion yn cadarnhau bod Landau pedair olwyn yn parhau i gael ei gadw yno, gan atgoffa dyn o’r modd y byddai’r teulu wedi teithio drwy Gaerdydd tan yn ddiweddar.
Croesawodd y tŷ sawl gwestai o bwys gan gynnwys Arglwydd Ganghellor a’r Cadlywydd Iarll Roberts, arwr y cyrchoedd yn Affganistan a Rhyfel De Affrica. Byddai’r rhai a fyddai’n aros gyda’r teulu wedi eu cludo i fyny’r grisiau tîc canolog i’r llawr cyntaf lle roedd, ar gyfer teulu a gwesteion, bum ystafell wely ddwbl, gan gynnwys pedair gydag ystafell wisgo ynghlwm wrthynt, meithrinfa a saith ystafell wely sengl.
Byddai tŷ o’r maint hwn yn galw am nifer sylweddol o staff. Mae cofnodion 1891 yn cadarnhau y cyflogwyd o leiaf 10 o staff yn y tŷ yn unig. Ar yr ail lawr roedd chwe ystafell wely i staff, yn ogystal a llety i’r bwtler a’r wraig cadw tŷ ar y llawr gwaelod drws nesaf i’r gegin. Gwaith y bwtler oedd diogelu’r llu o wrthrychau drudfawr ac yn ei bantri roedd coffr Cartwright dros 5tr o uchder ac ynddo 3 silff a 3 drôr.
Serch hynny, nid oedd digon o le i holl staff y tŷ, ac roedd ystafelloedd gwely ychwanegol i forwyn a gwas lifrai ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Byddai’r ddau borthdy ar yr ystâd wedi eu cadw ar gyfer staff uwch, gydag un bron yn sicr ar gyfer y pen-garddwr. Mae’r prosbectws yn cadarnhau bod y porthdai, o leiaf o’r tu allan, yn adeiladau sylweddol a chywrain. Mae Stephenson and Alexander yn disgrifio’r porthdy ar Heol Llantrisant fel:
…an artistic half-timbered House with red tiled roof and leaded casement windows …contains five rooms and pantry, has water laid on and good kitchen garden adjoining.
Roedd swydd y pen-garddwr yn un cyfrifol dros ben yn arwain tîm o arddwyr, fel arfer yn dod o’r ardal gyfagos yn hytrach na’u bod yn byw ar yr ystâd. Defnyddid y gerddi gan y teulu yn aml ar gyfer partïon a digwyddiadau a byddent wedi bod yn gyfarwydd i lawer o’r teuluoedd lleol gan gynnwys y teuluoedd Insole, Brain, Crawshay, Cory, Courtis a Mackintosh.
Unwaith eto mae’r ffotograffau’n helpu i roi argraff o’r ystâd, gyda golygfeydd o’r lawntiau tennis a croquet, y tŷ haf a llwybr gardd.

Fodd bynnag, mae manylion y prosbectws yn tanlinellu pa mor heriol oedd y dasg. Roedd tair elfen wahanol i’r gerddi gan gynnwys dwy ardd gegin helaeth. Yn ôl y prosbectws, roedd gan un o’r gerddi cegin yn unig:
Yn ogystal ag ail gardd gegin, roedd dau dŷ tegeirianau, tŷ tomatos a dau dŷ gwydr. Y tu hwnt i’r gerddi cegin roedd ail ddarn o dir wedi ei ddisgrifio fel …y Tiroedd Pleser. Roedd hwn yn cynnwys gardd rosod fawr, lawntiau, gerddi rhosod a thiwlipau gyda llwybrau ag ymylon llwyni bocs ac ardal o goetir gydag …enghreifftiau rhyfeddol o goed conwydd a choed eraill gan gynnwys Wellingtoniau, coed cedrwydd, bedw a llwyfenni. Roedd y trydydd ardal, y parcdir, wedi ei neilltuo ar gyfer pori erbyn 1917, gan gynnig rhywfaint o ryddhad i swydd y pen-garddwr. O ystyried y cyfan, byddai cynnal a chadw’r ystâd wedi golygu cryn dipyn o waith.
Fel arwydd o’r amseroedd gwnaed llawer yn y prosbectws o’r ffaith fod Rookwood …yn meddu ar gyfleusterau modern, gan gynnwys ei olau trydan ei hun, draeniad cyfoes, a dŵr a nwy o Gaerdydd. Yn wir, roedd y prosbectws yn manylu ar y Peiriant Nwy Cenedlaethol a’r Deinamo Compton a osodwyd yn y pwerdy a stordy golau trydan pwrpasol. Fodd bynnag, roedd y prosbectws hefydd yn nodi’n ofalus ardaloedd o’r ystâd y gellid eu gwerthu ar wahân tra’n cadw’r tŷ a’i erddi addurnol a’i erddi cegin. Mae’n debygol bod y caledi yn sgil y rhyfel yn gwneud ystadau fel Rookwood yn gynyddol annichonadwy yn ariannol.
The purchase, therefore, represents not only a charming and most unique property as a Residence, but also a very valuable investment bound to very materially increase in value in course of time. If desired, a portion of the land could be developed without detriment to the House and Grounds.
Mae’n glir bod y perchnogion yn deulu cyfoethog a dylanwadol a oedd yn mwynhau defnyddio’r tŷ ar tiroedd ar gyfer digwyddiadau mawreddog. Ond, pwy oeddent a beth ysgogodd y teulu i werthu eu cartref? Ar ben hynny, beth ddigwyddodd nesaf a sut y daeth cartref teuluol mor ysblennydd, o fewn 12 mis, i gael ei addasu’n ysbyty? Yn ffodus, mae’r cofnodion yn Archifau Morgannwg yn helpu i ddatrys y ddau gwestiwn. I’w barhau…
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Diolch yn fawr i Keith Edwards am ei gymorth hanfodol yn darganfod y dogfennau o fewn casgliad Stephenson & Alexander a ddefnyddiwyd yn yr erthygl yma.