Mae gan Archifau Morgannwg nifer o eitemau yn ymwneud â phobl leol a ymfudodd i UDA. Ymhlith y rhain mae llythyr gan Daniel a Jane Scurry o Carbondale, Pennsylvania, at eu perthynas Phillip Rees o Aberdâr, a ysgrifennwyd ar 6 Chwefror 1847 (cyf. D403/1).
Allfudwr Cymreig oedd Daniel Scurry i dalaith Pennsylvania yn Unol Daleithiau America. Dechreuodd Cymry ymgartrefu ym Mhennsylvania am y tro cyntaf yn ystod diwedd yr 17eg ganrif. Denodd datblygiad y diwydiannau glo a haearn o amgylch Scranton a Wilkes Barre o ddiwedd y 18fed ganrif – ac yn enwedig yn ystod canol a diwedd y 19eg ganrif, nifer fawr o weithwyr medrus o Gymru, llawer ohonynt yn tarddu o gymoedd Sir Gaerfyrddin, Sir Forgannwg a Sir Fynwy, gyda chefndiroedd diwydiannol tebyg. Dechreuwyd cloddio glo caled yn ardal Carbondale ym 1812 ac agorodd y pwll sylweddol cyntaf ym 1831.
Ni wyddom bron ddim am Daniel Scurry ac nid yw ei gyfenw wedi’i nodi yn Aberdâr nac unrhyw un o’r plwyfi cyfagos ar yr amser yr ysgrifennwyd y llythyr. Roedd yn amlwg yn un o’r nifer fawr o allfudwyr o Gymru a ddechreuodd gyrraedd Pennsylvania ar ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif. Roedd llawer o’r allfudwyr o Gymru hyn hefyd yn Gymry Cymraeg ac yn anghydffurfwyr crefyddol a sefydlodd sefydliadau a chapeli diwylliannol Cymreig yn eu mamwlad newydd. Roedd Daniel Scurry yn siaradwr Cymraeg, ac mae ei lythyr wedi’i ysgrifennu yn Gymraeg. Fodd bynnag, dirywiodd y Gymraeg yn UDA yn ystod y 19eg ganrif wrth i’r genhedlaeth gyntaf o allfudwyr a’u disgynyddion gael eu cymhathu i’r gymuned Saesneg ei hiaith ehangach.
Roedd Jane, gwraig Daniel, yn chwaer i Phillip Rees o’r Welsh Harp Inn, Commercial Street, Aberdâr. Cofnodir Phillip Rees a’i wraig Sarah yng nghyfrifiad 1851 yno. Disgrifir Rees fel tafarnwr, a aned yn Aberdâr, yn 58 oed, a ganed Sarah yn Nhyndyrn, sir Fynwy, 60 oed. Cofnodir Rees yn y llyfr ardrethi cyntaf sydd wedi goroesi yn y dafarn ym 1844 ond nid oes sôn amdano yng nghyfrifiad 1841. Adeg cyfrifiad 1851 roedd ganddynt ddwy ferch, Mary 24 oed ac Elizabeth yn 27 oed, yn ddi-briod ac wedi’u geni yn Aberdâr. Mae eu carreg fedd ar y cyd ym mynwent Eglwys Sant Ioan yn cofnodi marwolaeth Philip ar 11 Gorffennaf 1860,yn 67 oed, a marwolaeth Sarah ar 10 Chwefror 1861, yn 70 oed.
Mae llythyr Daniel yn ymwneud â materion personol a theuluol a’r sefyllfa wleidyddol yn Unol Daleithiau America. Mae’n ysgrifennu am salwch personol a theuluol, gan ddweud yn gyntaf sut y syrthiodd tunnell o lo ar ei droed a thorri sawl asgwrn. Roedd ofnau y byddai’n rhaid ei dorri ffwrdd, ac mae Daniel yn sôn am sut y mae wedi treulio 6 wythnos yn y gwely, ond mae bellach yn cerdded gyda ffyn. Ond er gwaethaf hyn mae’r meddygon yn dweud y gallai fod flwyddyn o leiaf cyn y gall weithio eto. Mae’n dweud wrth Philip Rees fod ganddo 7 o blant yn byw, ond mae’n ysgrifennu am golli ei fab ieuengaf Thomas i golera’r flwyddyn flaenorol, yntau ond yn 1 flwydd 2 fis oed.
Mae Daniel yn disgrifio Pennsylvania fel talaith ffyniannus, gyda digonedd o waith a chyflogau da. Mae’n ysgrifennu am y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, a’i obeithion am heddwch. Mae Daniel hefyd yn sôn am ei gydymdeimlad â’r rhai ym Mhrydain ac Iwerddon sy’n dioddef oherwydd newyn.
Mae’r llythyr ar gael i’w archwilio yn yr ystafell chwilio yn Archifau Morgannwg. Mae rhagor o fanylion am ein horiau agor a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar gael ar ein gwefan www.archifaumorgannwg.gov.uk.