Roedd Preswylfa ar Clive Road, Treganna, ar yr ochr ogleddol i’r gyffordd gyda Romilly Road. Nid oes sicrwydd pryd y cafodd ei adeiladu, ond y tebyg yw ei fod yn eithaf newydd ym 1861 pan gofnodwyd yn y cyfrifiad mai Robert Rees a’r deulu oedd yn byw yno. Roedd Rees yn pedwar deg pedwar oed ar y pryd, yn Weinidog gyda’r Methodistiaid Wesleaidd, ac yn Oruchwyliwr ar un deg pedwar o gapeli yng Nghaerdydd. Ar y pryd, caeau a chefn gwlad fyddai wedi amgylchynu’r tŷ. Mae rhai wedi awgrymu mai Lewis Davis, perchennog glo yn y Rhondda, adeiladodd Preswylfa. Mae’n debyg ei fod wedi byw yno yn hwyr yn y 1860au; nid yw hyn yn anghyson gyda chofnod 1861, oherwydd gwyddys fod Davis wedi cyfrannu’n hael at gronfeydd y Wesleaid.
Erbyn 1871, roedd yr eiddo ym mherchnogaeth Charles Thompson, partner pwysig ym musnes melina Spillers yn y dociau. Er i Preswylfa symud o deulu Thompson ar ôl marwolaeth Charles ar 1 Mehefin 1889, mae’n werth nodi bod o leiaf dri o’i feibion wedi cyfrannu’n sylweddol at asedau diwylliannol a hamdden Caerdydd a’r cyffiniau. Adeiladodd James Pyke Thompson (1846-1897) oriel Tŷ Turner ym Mhenarth, ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr oedd yn gymwynaswr iddi hefyd. Cyflwynodd Charles Thompson (1852-1938) y gerddi a adwaenir heddiw fel Parc Thompson, a bu Herbert Metford Thompson (1856-1939) yn gynghorydd dinas ac yn henadur. Gyda’i frawd, Charles, chwaraeodd rôl bwysig yn ymdrech lwyddiannus y ddinas i brynu Caeau Llandaf fel gofod cyhoeddus. Ysgrifennodd Herbert lyfrau ar nifer o bynciau, cyhoeddwyd ‘An Amateur’s Study of Llandaff Cathedral’, i’w ddosbarthu’n breifat yn 1924. Cyhoeddwyd hanes Caerdydd ganddo ym 1930. Gwnaed Charles (yr Ieuengaf) a Herbert, ill dau, yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus, a chofir enw James Pyke Thompson yn enw’r oriel yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Cathays.
Mae cyfeirlyfrau’r 1890au yn rhestru’r brodyr Albanaidd, perchnogion cychod, ym Mhreswylfa. Eu henwau oedd John (Syr John, maes o law) a Marcus Gunn. Erbyn 1901, fodd bynnag, John Mullins oedd yn byw yno. Yn fasnachwr corn, mae’n debyg ei fod yn dal yno ym 1908. Dengys cyfrifiad 1911 mai’r cyfreithiwr Henry Thomas Box, ei wraig, eu dau fab, a phedwar o weision oedd yn byw yno. Enw Box sydd yng nghyfeirlyfrau Caerdydd tan 1915. Mae Preswylfa yn diflannu, wedyn, o’r cyfeirlyfrau sydd ar gael, tan 1924. Erbyn hynny, Henry Woodley, sylfaenydd y busnes cigyddiaeth oedd yn dwyn ei enw, oedd y preswylydd. Bu yno tan iddo farw ar 17 Mawrth 1950.
Erbyn 1953, roedd Preswylfa wedi troi’n glinig iechyd y cyhoedd a bu’n gartref i lawer o wasanaethau Iechyd tan y 1970 o leiaf. Tynnodd Mary Traynor ddarlun o Preswylfa ym mis Hydrefn 1996. Wedi hynny, cafodd ei ddymchwel. Maes yr Annedd sydd ar y safle erbyn hyn, datblygiad o ryw dri deg o dai modern. Gan mai ‘dwelling’ neu ‘abode’ yw ystyr y gair ‘preswylfa’, Mae ‘na gysylltiad, er ei fod yn un gwantan, gyda’r hen dŷ.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/51]
- Thompson, Herbert M, An Amateur’s study of Llandaff Cathedral (Printiwyd ar gyfer dosbarthu preifat, 1924)
- Thompson, Herbert M, Cardiff (1930)
- Cyfeirflyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd a De Cymru
- Cyfrifiad 1871 – 1911
- Mynegai Profiant Cenedlaethoil Lloegr a Chymru 1889 a 1950
- https://www.cardiff.gov.uk (rhestr Rhyddfreinwyr Anrhydeddus)
- http://www.museumwales.ac.uk/
- http://southwalesgardens.org/thompsons-park
- http://www.caithness.org/history/articles/sirjohngunn/index.htm
- Cardiff Times, 6 Ebrill 1867; 8 Mehefin 1889
- Western Mail, 18 Mawrth 1950