Priordy Ewenni – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

I’r rhai sy’n ymddiddori yn hanes de Cymru, ymweliad na ddylid ei golli yw Priordy Ewenni. Fe’i disgrifiwyd gan Cadw fel yr… enghraifft orau o bensaernïaeth Romanésg Normanaidd yn y rhan hon o Gymru, sefydlwyd eglwys wreiddiol Sant Mihangel gan William de Londres o bosibl ar safle eglwys Geltaidd a gysegrwyd i’r sant Cymreig, Eguenni. Rhoddwyd yr eglwys wedyn gan ei fab, Maurice, ym 1141, i abaty Benedictaidd Sant Pedr, Caerloyw fel … y gellid ffurfio cwfaint o fynachod. Erbyn y 1500au, fodd bynnag, roedd y deuddeg mynach gwreiddiol a’r Prior bellach yn dri a diddymwyd y Priordy maes o law gan Harri VIII ym 1536.

M252

Mae’r ffotograffau a dynnwyd gan Edwin Miles yn negawdau cynnar yr 20ed ganrif yn dangos tair elfen allweddol y priordy. Yn gyntaf, yr em yn y goron, Eglwys y Priordy gyda’i bwâu Normanaidd crynion a’i fowtiau baril gwreiddiol. Mae’r ffotograff yn dangos corff yr eglwys, y bydd ymwelwyr diweddar â’r eglwys yn gwybod nawr ers 2006 fod yno sgrin pulpitum a ddyluniwyd gan Alexander Beleschenko. Y tu hwnt i gorff yr eglwys gellir gweld y Seintwar, gyda’r hyn y credir ei fod yr unig baentiad murlun Romanésg (12fed ganrif) sydd wedi goroesi yng Nghymru. Ar y llaw dde mae Transept y De sy’n orffwysfa i feddrodau William a Maurice de Londres. Paentiwyd y tu mewn gan JMW Turner ym 1797 pan oedd yn amlwg wedi dadfeilio. Ond erbyn hyn ar ôl ei adfer mae’r corff yn parhau i gael ei ddefnyddio fel eglwys y plwyf leol ac mae mannau eraill yng ngofal Cadw.

M254

Mae’r ail lun o Dŵr y Gogledd; dim ond un elfen o gasgliad trawiadol o ddau borthdy, tri thŵr amddiffynnol a chysylltfuriau a oedd yn amgylchynu’r Priordy. Credir bod Ewenni yn rhan o linell amddiffynnol a godwyd gan y Normaniaid i sicrhau eu tiroedd yn ne Cymru, ynghyd â’r cestyll yn Ogwr, Coety a Chastellnewydd (Pen-y-bont ar Ogwr). Mae’r amddiffynfeydd hyd heddiw yn drawiadol, er bod dadansoddiadau diweddar wedi awgrymu y gallent fod wedi bod yn fwy o ddatganiad o bŵer a chyfoeth yn hytrach nag amddiffynfeydd go iawn.

M255

Daw’r trydydd llun o Dŷ Priordy Ewenni.  Yn dilyn ymadawiad y mynachod, prynwyd y priordy a’r ystâd gysylltiedig gan Syr Edward Carne ac, wedi hynny, ei basio drwy briodas i deulu’r Turbervill. Codwyd y tŷ a ddangosir yn y llun gan Richard Turbervill Picton ym 1803 i ddisodli’r tŷ Elisabethaidd a safai ar yr un safle. Mae’n dal i fod yn eiddo i deulu’r Turbervill.

Mae casgliad Miles yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1901 a 1929.  Yn anffodus, mae bron yn amhosib nodi dyddiad ar gyfer y ffotograffau o ystyried mai ychydig iawn o gliwiau a geir ynddynt. Os gall unrhyw un helpu gyda hyn, cysylltwch ag Archifau Morgannwg.

Tynnodd Edwin Miles naw ffotograff o Briordy Ewenni i gyd, ac maent ar gael yn Archifau Morgannwg o dan gyfeirnodau D261/M252 i M261. I’r rhai sy’n dymuno ymchwilio ymhellach i hanes y safle, mae’r Archifau hefyd yn cadw cofnodion Ystâd Ewenni sydd i’w cael dan gyfeirnod DE. Yn ogystal, mae paentiad JMW Turner o Dransept Priordy Ewenni i’w weld yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Capel Anwes Pen-llin – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r ffotograffau sy’n cael sylw’r wythnos hon yn dangos Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr ym Mhen-llin. Fodd bynnag, pan dynnwyd y ffotograffau, fe’i gelwid yn syml yn Gapel Anwes Pen-llin – yn ei hanfod, capel a adeiladwyd o fewn ffiniau plwyf er hwylustod y rheiny nad oeddent yn gallu teithio’n hawdd i’r brif eglwys.

M410

Credir bod y capel yn dyddio’n ôl i’r ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y 1840au, fodd bynnag, roedd wedi dadfeilio a nodwyd ei fod mewn … cyflwr diamddiffyn … gyda’r tu allan yn edrych fel ysgubor wedi’i gwyngalchu. Dechreuwyd ar y gwaith cychwynnol o atgyweirio muriau’r ffin ar 25 Ionawr 1842 i nodi bedydd Tywysog Cymru. Fodd bynnag, awgrymodd adroddiadau papurau newydd fod y dathliadau’n dwyn y sylw oddi ar y gwaith … hir oes a hapusrwydd i’r Baban Brenhinol … meddwi ynghanol dathlu brwdfrydig a thanio gynnau gan y pentrefwyr a’r cymdogion oedd yn y man.

Yn y pen draw, achubwyd ac adnewyddwyd y capel gan John Homfray, a brynodd Gastell Pen-llin ym 1846. Wrth ailagor ar 13 Ionawr 1850, canmolwyd y capel a nodwyd ei fod wedi’i drawsnewid yn strwythur gothig golygus gyda … ffenestri gwydr lliw hardd… ac … allor garreg gaboledig. Yn ogystal, plannodd Homfray lwyni a choed bytholwyrdd yn y tiroedd o amgylch y capel i ategu’r gerddi addurnol yng Nghastell Pen-llin.

M402

Roedd adnewyddu’r capel yn un elfen o raglen sylweddol a ariannwyd gan Homfray a oedd yn cynnwys adeiladu’r porthdy a welir yn yr ail ffotograff, ac a ddisgrifiwyd yn “Duduraidd” o ran ei arddull. Mae’n siŵr ei fod yn addas i Homfray a’r bobl leol o ran osgoi’r hyn a ddisgrifiwyd fel … taith fwyaf anghyfleus… i’r eglwys yn Llanfrynach, yn arbennig ym misoedd y gaeaf. Ond byddai gwasanaethau mawr ac angladdau dal wedi cael eu cynnal yn Sant Brynach. O ganlyniad, roedd gan y llwybrau ar draws y caeau, rhwng y capel a Llanfrynach, dri glanfa garreg wrth ffin pob cae i osod eirch arnynt tra bod y parti’n croesi’r gamfa.

Wrth ddyddio’r ffotograffau, rydym yn ffodus am fod gan Gasgliad y Werin Gymru fersiwn cerdyn post o lun o’r Eglwys a’r Porthdy. Credir iddo gael ei anfon gan aelod o deulu Homfray at berthynas yn Awstralia tua 1910.  Mae’r ddau ffotograff, felly, bron yn sicr yn enghreifftiau cynnar o waith Edwin Miles ac maent yn dyddio o 1901 i 1910.

Mae’r ffotograffau o Gapel Pen-llin a Capel Pen-llin a’r Porthdy i’w gweld yn Archifau Morganneg dan gyfeirnodau D261/M402 and M410. Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. Gellir gweld y cerdyn post sydd yng Nghasgliad y Werin Cymru drwy chwilio am “Edwin Miles” yn www.casgliadywerin.cymru.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Goleudai Trwyn yr As: Yr Olaf o’u Math yng Nghymru – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Bydd y golygfeydd yn y lluniau a ddewiswyd yr wythnos hon yn gyfarwydd i lawer sy’n cerdded llwybrau arfordirol de Cymru ac yn mwynhau’r traeth a’r olygfa yn Nhrwyn yr As. Lluniau ydynt o’r goleudai sydd wedi rhoi rhybudd i longau am beryglon Banc Tywod yr As ers 190 o flynyddoedd.

M143

Codwyd y ddau oleudy mewn ymateb i un o’r trychinebau gwaethaf ym Môr Hafren pan, ar noson 17 Mawrth 1831, y suddodd y llong stemar olwyn Frolic, gyda 78 o griw a theithwyr, mewn storm oddi ar Drwyn yr As. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn ddiweddarach yr un flwyddyn, gyda’r goleudai wedi’u cwblhau mewn ychydig llai na 12 mis.  Cafodd y llusernau eu goleuo am y tro cyntaf ar 1 Medi 1832 a gellid eu gweld ugain milltir i ffwrdd.

M144

Os edrychwch yn fanwl ar y ffotograffau gallwch weld sawl newid a wnaed dros y blynyddoedd.  Y mwyaf amlwg efallai yw colli’r bandio du a gwyn ar y tŵr mwy ei faint sy’n eithaf amlwg yn y ffotograffau. Yn ogystal, mae ei haen uchaf a’i lusern yn dal i fod gan y goleudy byrrach. Nod y cynllun gwreiddiol oedd i’r ddau oleudy weithio ar y cyd i roi rhybudd i longau am y peryglon oddi ar Drwyn yr As. Yn y 1920au, pan nad oedd hyn yn angenrheidiol bellach, datgomisiynwyd y llusern yn y goleudy llai, a’i dynnu oddi yno ryw ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ym 1955.

Mae’r trydydd ffotograff yn olygfa adnabyddus arall, sef y Seiren Niwl a oedd wedi’i lleoli rhwng y ddau oleudy.

M145

Roedd hwn yn ychwanegiad cymharol hwyr. Rhoddwyd rhybudd i forwyr am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1903 bod y seiren yn weithredol ac y byddai’n rhoi pedwar caniad bob 90 eiliad yn ystod gwelededd gwael. Er iddo brofi’n amhrisiadwy i longau, mae’n ddigon posibl ei fod wedi cael derbyniad mwy llugoer gan drigolion lleol a oedd o fewn clyw’r seiren. Mae’r seiren yn dal i gael ei brofi bob mis ond nid yw’n cael ei ddefnyddio’n gyffredinol bellach.

Mae gan oleudai Trwyn yr As ddigwyddiadau “cyntaf” ac “olaf” nodedig yn eu hanes. Ym 1924 Trwyn yr As oedd y goleudy cyntaf ym Mhrydain i brofi tywysydd diwifr (wireless beacon) yn llwyddiannus, sef cyfarpar a osodwyd gan gwmni Marconi i gynorthwyo môr-lywio. Saith deg pedwar o flynyddoedd yn ddiweddarach Trwyn yr As oedd y goleudy olaf yng Nghymru i fod â cheidwad goleudy. Hwn, felly, oedd yr olaf o’i fath. Ers 5 Awst 1998, mae’r goleudy wedi cael ei awtomeiddio’n llawn gyda’r golau’n cael ei fonitro a’i reoli gan dîm Trinity House yn Harwich, Essex.

Mae gosod dyddiad i’r lluniau a dynnwyd gan Edwin Miles yn anodd. Ein dyfaliad gorau yw eu bod yn y degawd rhwng 1904 a 1914, ond o bosib gallent fod wedi eu tynnu yn y 1920au. Mae’n debyg bod yr ateb i’w ganfod os oes modd gweld yr erial a godwyd gan Marconi ym 1924 yn y ffotograffau. Os oes unrhyw dditectifs goleudai allan yna sy’n gallu helpu gyda hyn, rhowch wybod i ni.

Mae goleudai Trwyn yr As yn parhau i chwarae eu rôl yn helpu morwyr i fôr-lywio ar hyd glannau de Cymru, ond maent hefyd wedi cael swyddogaethau newydd. Gallwch logi un o hen fythynnod ceidwaid y goleudy i gael gwyliau yno. Mae yno ganolfan ymwelwyr hefyd, a gallwch hyd yn oed gynnal priodasau yn y goleudy.  Pwy a ŵyr, o bosib y gallech chi drefnu i’r pâr priod newydd gael eu cyfarch gan bedwar caniad o’r seiren yn hytrach na’r clychau traddodiadol!

Mae’r ffotograffau o oleudai Trwyn yr As a’r Seiren Niwl a dynnwyd gan Edwin Miles i’w gweld dan gyfeirnodau D261/M143-M145. Mae Archifau Morgannwg hefyd yn dal deunydd ychwanegol ar y goleudai, gan gynnwys Cofnodion Trinity House ar gyfer Trwyn yr As ac Ynys Echniar o 1958 i 1998 (cyf. D576).

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

“Cyfarchion o Bencoed” – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r llun a ddewiswyd o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon ychydig bach yn rhyfedd. Dyma’r unig enghraifft sydd gennym o Miles yn defnyddio sawl ffotograff wrth gynhyrchu cerdyn post â llun. Credwn hefyd iddo gael ei gynhyrchu yn 1906 ar y cyd â’r artist lleol adnabyddus ac uchel ei barch, George Howell-Baker.

M1045

“Arlunydd, bardd, darlunydd ac athro celf” oedd George Howell-Baker, er mae’n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus fel artist.  Mae yna enghreifftiau o’i waith yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Casgliad Brenhinol, Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.  Cyhoeddwyd hefyd nifer o’i luniau dan y teitl “Penholm”.

Yn 1906 roedd Howell-Baker yn byw ar Heol Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â’i waith ei hun, byddai hefyd yn traddodi darlithoedd cyhoeddus a chynnal dosbarthiadau celf mewn nifer o leoliadau ar draws de Cymru. Roedd hefyd yn chwaraewr banjo talentog ac yn aml yn perfformio mewn digwyddiadau lleol.  Dwy flynedd ynghynt, yn 1904, bu’n amlwg mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol pan alwyd ef i roi tystiolaeth fel tyst i lofruddiaeth yn agos i’w gartref.  Yr oedd felly, yn ffigwr adnabyddus yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac fe fyddai wedi bod yn hysbys i Edwin Miles, a oedd yn cymryd ei gamau cyntaf wrth adeiladu busnes ffotograffiaeth ar Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr.

A yw’n rhesymol awgrymu i’r ddau ddyn gydweithio wrth gynhyrchu “Cyfarchion o Bencoed”? Ym 1904 roedd Howell-Baker wedi dablo gyda’r broses o gynhyrchu set o gardiau post. Fodd bynnag, yn hytrach na defnyddio ffotograffau, roedd y cardiau yn cynnwys ddarluniau pin ac inc ei hun o olygfeydd lleol, gan gynnwys Eglwys Tregolwyn a Ty Llanmihangel. Does dim tystiolaeth amlwg, felly, iddo gynhyrchu cardiau gan ddefnyddio ffotograffau.  Serch hynny, fe wnaeth ychwanegu brasluniau addurnedig i’w gardiau post sy’n debyg i’r dull a ddefnyddiwyd wrth fframio’r chwe llun sydd yn “Cyfarchion o Bencoed”.

O ran Edwin Miles, arbenigai ar luniau o drefi a phentrefi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae nifer o’i ffotograffau’n canolbwyntio ar dirnodau lleol fel tai mawrion ac eglwysi, gydag ychydig iawn o bobl yn edrych ar y gwrthrych. Mae’r chwe llun sydd yn “Cyfarchion o Ben-coed” yn driw iawn i’r arddull a ddefnyddid gan Miles ar hyd a lled Morgannwg. At ei gilydd, ar gyfer cerdyn cyfarch, maent yn ddetholiad sobreiddiol iawn sy’n cynnwys gorsaf reilffordd Pencoed, dwy olygfa stryd a thri man o addoliad – Capeli Salem a’r Drindod ac Eglwys Dewi Sant. Nid oes lle yn y casgliad hwn ar gyfer tirnodau poblogaidd eraill Pencoed fel Gwesty’r Britannia na’r Railway Inn.

O ystyried fod gan Miles a Howell-Baker ddiddordeb mewn cynhyrchu cardiau post, mae’n ymddangos yn rhesymol tybio mai “Cyfarchion o Bencoed” ddaeth â’u doniau ynghyd, gyda Howell-Baker yn rhoi’r darluniadau i fframio’r chwe ffotograff. Os mai hyn yn wir yw’r achos, yna mae’n ymddangos na wnaeth y bartneriaeth honno ffynnu. Nid oes enghreifftiau pellach yng nghasgliad Edwin Miles o waith gyda Howell-Baker.  Fodd bynnag, os oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth am darddiad “Cyfarchion o Bencoed” yna cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau’n ychwanegu at y stori os oes mwy i’w ddweud.

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. Gellir gweld “Cyfarchion o Bencoed” dan gyfeirnod D261/M1045.  Ychydig iawn sydd wedi’i ysgrifennu am George Howell-Baker ond mae yna dudalen Wicipedia ddefnyddiol sy’n tynnu cyfeiriadau ynghyd at y rhan fwyaf o’r ffynonellau gwybodaeth hysbys am yr artist hyd at ei farwolaeth ym 1919.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Glofa’r Meiros, Llanharan – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

O ystyried y rhan chwaraeodd glo ym mywydau cymunedau ar hyd a lled de Cymru efallai nad yw’n syndod bod y casgliad o luniau a dynnwyd gan Edwin Miles ac a gedwir yn Archifau Morgannwg, yn cynnwys nifer o lofeydd. Mae’r llun, isod, o Lofa’r Meiros yn Llanharan ac mae’n debyg iddo gael ei dynnu yn y 1920au.

M774

Fel gyda’r rhan fwyaf o gasgliad Miles ychydig iawn o wybodaeth gefndirol sydd. Fodd bynnag, mae gan Archifau Morgannwg ystod eang o adnoddau sy’n adrodd hanes glofeydd lleol a’r cymunedau glofaol yn ne Cymru.  Mae gan Gofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol a gedwir yn yr Archifau wybodaeth sylfaenol am bob pwll glo fwy neu lai. Mae’r ddalen wybodaeth am y Meiros yn cadarnhau bod y pwll yn gweithredu am ychydig dros hanner can mlynedd o 1880 i 1931. Ar ei anterth, ym 1923, cyflogai 750 o ddynion yn gweithio’r wythïen Pentre ar gyfer glo a ddefnyddid yn bennaf i greu nwy ac mewn ffyrnau golosg.

Yn debyg iawn i lo, fe ddewch o hyd i wythïen gyfoethog yn y cofnodion yn yr Archifau o dro i dro. Roedd Glofa’r Meiros yn rhannol dan berchnogaeth Francis Andrews am ran helaeth o’r amser. Roedd Francis yn fab i Solomon Andrews, a oedd â diddordebau busnes helaeth yng Nghaerdydd a’r deheubarth, ac mae’r cofnodion am Solomon Andrews a’i Fab yn cael eu cadw yn yr Archifdy. Maent yn cynnwys nifer o ffotograffau godidog o Lofa’r Meiros ynghyd â phapurau busnes ac adroddiadau blynyddol sy’n manylu ar berfformiad y lofa. Tynnwyd y ffotograffau mae’n debyg tua 1918, ar adeg pan oedd y pwll yn cynhyrchu bron i chwarter miliwn tunnell o lo bob blwyddyn ac yn gwneud elw sylweddol.

DAB-34-25 p2

Yn anochel, cafodd Meiros ei siâr o drychinebau glofaol hefyd. Mae’r cofnodion yn cynnwys adroddiad am chwe dyn a gafodd eu hanfon i lawr ar ddiwedd y shifft ddydd i ddelio â’r hyn y tybid oedd yn boced o nwy. Yn anffodus bu ffrwydrad a lladdwyd un o’r dynion a llosgwyd y lleill yn ddifrifol. Cymaint oedd gwirioneddau plaen bywyd yn y pyllau bryd hynny, barnwyd nad oedd y ffrwydrad wedi niweidio’r pwll yn sylweddol ac aeth y shifft nos i lawr y noson honno yn ôl yr arfer.

Gyda dirwasgiad economaidd yn dilyn y rhyfel, roedd y 1920au yn gyfnod anodd i’r diwydiant glo. At ddiwedd y ddegawd gwnaeth y pwll golled y rhan fwyaf o flynyddoedd ac fe’i caewyd maes o law ym 1931. Un o’r cofnodion olaf yng nghofnodion Andrews yw copi o’r llyfryn a gynhyrchwyd ar gyfer gwerthu offer y lofa a oedd yn cynnwys dau o locomotifau rheilffordd lydan chwe olwyn godidog.

DAB-26-4-78 cover

Mae’r llun o Lofa’r Meiros gan Edwin Miles i’w gael o dan y cyfeirnod D261/M774. Mae’r taflenni gwybodaeth NCB y cyfeirir atynt i’w gweld yn DNCB/5/2.  Mae’r ffotograffau a dynnwyd o bapurau Andrews yn DAB/34/25.

Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y diwydiant glo a chymunedau lleol yn ne Cymru gallwch ddefnyddio canllaw ymchwil, “Cofnodion Glofeydd i Haneswyr Teulu “, ar wefan Archifau Morgannwg. Efallai y byddech hefyd am ymweld ag arddangosfa Gwaed Morgannwg. Mae dyddiadau a lleoliadau ar gyfer yr arddangosfa, a grëwyd gan ddefnyddio cofnodion yr NCB, i’w gweld ar wefan Archifau Morgannwg dan y pennawd “Digwyddiadau”.

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Maenordy Silstwn – Tŷ gwledig teuluol i leoliad priodas hardd

Mae’r blog olaf hwn o’r pump ar gasgliad Stephenson ac Alexander yn ymwneud â Maenordy Silstwn. Saif Maenordy Silstwn ym mhentref bychan Silstwn (Gileston), ger Sain Tathan, ar lannau de Cymru. Wedi’i hadeiladu’n wreiddiol yn y cyfnod canoloesol, mae’r rhan fwyaf o’r bensaernïaeth sydd i’w gweld heddiw yn deillio o’r ddeunawfed ganrif. Erbyn hyn, mae’r maenordy yn lleoliad priodasau a digwyddiadau poblogaidd, er bod y tŷ wedi bod yn gartref teuluol ers cannoedd o flynyddoedd. Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ychydig o straeon diddorol am y plasty, yn enwedig yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Gileston photo 1

Ffigwr 1 – Llun o Faenordy Dilstwn, yn dyddio o’r 19eg ganrif hwyr neu’r 20fed ganrif cynnar

Gileston photo 2

Ffigwr 2 – Llun o Faenordy Dilstwn, yn dyddio o’r 19eg ganrif hwyr neu’r 20fed ganrif cynnar

Y cyntaf ohonynt yn manylu ar fuddiant teulu Quirke yn yr eiddo, ym mis Awst 1899, y gellir gweld pob un ohonynt trwy gasgliad o lythyrau yn y ffeil achos. Mae’n ymddangos bod Stephenson ac Alexander wrthi’n chwilio am denantiaid ar gyfer yr eiddo hwn yn 1899.  Yn wir cofnodir nad oedd un cleient, John Randall, ‘yn meddwl y byddai maenordy Silstwn yn gweddu iddo’. Ymddengys i lythyr at y Cyrnol Quirke gael mwy o lwyddiant. Buont yn erfyn ar y Cyrnol i ddod i weld yr eiddo yn dilyn mynegiant o ddiddordeb gan dynnu sylw at lwybr Rheilffordd Bro Morgannwg ger llaw fel un hardd i feicio ar ei hyd. Eto i gyd, pan fydd rhywun yn darllen y llythyrau sy’n weddill, gwelwn mai Mrs Quirke, gwraig y Cyrnol mewn gwirionedd, a anfonodd y mynegiant cychwynnol o ddiddordeb.  Heb fod ei gŵr yn ymwybodol, gofynnodd Mrs Quirke am fanylion yr eiddo a dymunai ei weld, gan nad oedd ei gŵr hyd yn oed yn bresennol yng Nghaerdydd ar y pryd. Roedd yr arwerthwyr yn hapus i gydymffurfio, gan ddisgrifio naw ystafell wely’r plasty, gardd furiog, bythynnod a saith erw o dir, a’r cyfan am £180 y flwyddyn. Er bod Mrs Quirke yn ymddangos wedi ei swyno gan y maenordy, nid yw’n glir a lwyddodd i berswadio ei gŵr i breswylio yno.

Advert

Ffigwr 3 – Hysbyseb ar gyfer gwerthu Maenordy Silstwn, c.1912

Plan

Ffigwr 4 – Cynllun llawr gwaelod o Faenordy Silstwn, yn debyg wedi ei ddefnyddio i osod pibellau dwr newydd ar gyfer Thomas Lewis

Awn ymlaen ddeuddeg mlynedd, ac mae Ffigwr 3 yn dangos llun o Faenordy Silstwn yn 1912, ynghyd â hysbyseb am yr eiddo a oedd yn disgrifio sut yr oedd yn edrych dros ‘y môr, gyda golygfeydd hardd o arfordir Exmoor a Swydd Dyfnaint’, a’i fod yn agos at atyniadau golff cyfagos. Roedd y gerddi hefyd ‘ymysg y mwyaf swynol yn y wlad’; mae’r llun yn Ffigwr 5 yn dangos ‘Gerddi Anne’, sy’n dal i fodoli heddiw. Bryd hynny, ymddengys fod dyn o’r enw Thomas Lewis yn byw yn y plasty, er erbyn 1922, roedd yn dymuno gadael. Mae’r arwerthwyr yn nodi yn yr hysbyseb sut y bu i Mr Lewis fuddsoddi’n helaeth yn yr eiddo; mae’n debyg ei fod wedi trwsio holl doeau’r adeilad. Cwblhawyd stocrestr o’r adeilad ym 1925, ac erbyn hyn ‘Mr Minchin’ oedd tenant Maenordy Silstwn. Ymhlith eiddo personol Mr Minchin yn y tŷ, roedd rhai gwrthrychau o ddiddordeb yn cynnwys: mat carw, set badminton, nofelau Charles Dickens, a hyd yn oed rhewgell hufen iâ.  Nid yw’n glir, fodd bynnag, pa mor hir yr arhosodd Mr Minchin yn Silstwn.

Anne Gardens

Ffigwr 5- ‘Gerddi Anne’, Maenordy Silstwn, 20fed ganrif cynnar

Er nad yw Maenordy syfrdanol Silstwn bellach yn gartref teuluol nac yn gartref preswyl, mae bellach yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer priodas neu leoliad digwyddiad. Mae’r ffeiliau achos yn disgrifio sut, ar draws deng mlynedd ar hugain, i’r maenordy fod yn gartref i amrywiaeth o denantiaid, i gyd gyda’u straeon eu hunain a’u hychwanegiadau personol i’r eiddo. Trwy lwc, mae’r maenordy wedi’i gadw’n dda i ni ei fwynhau yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ffeiliau achos maenordy Silstwn i’w gweld yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg trwy ddefnyddio’r cyfeirnodau: DSA/12/776, DSA/12/4300 a DSA/12/4429.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Angel Street, Caerdydd – Gwesty Moethus a Haearnwerthwr Enwog ar Stryd Anghofiedig

Erbyn hyn mae Angel Street yn enw stryd anghofiedig yng Nghaerdydd.  Mewn gwirionedd, yn briodol iawn, Stryd y Castell bellach yw enw’r stryd, o gofio ei bod yn rhedeg ar hyd y castell godidog yng nghanol y ddinas. Arferai Gwesty’r Angel, sydd bellach wedi’i leoli ben draw Stryd y Castell, fod gyferbyn â’r castell. Yn wir, mae Ffigwr 1 yn dangos llun o’r gwesty, a dynnwyd ryw bryd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn lleoliad gwych ar gyfer twristiaid a chwsmeriaid teithiol, ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd Gwesty’r Angel i’w weld yn lle mawr a chyfforddus i aros ynddo.

Old Angel Hotel

Ffigwr 1 – Llun o’r hen Gwesty’r Angel, 19ed ganrif hwyr

Inventory

Ffigwr 2 – Stocrestr ar gyfer Gwesty’r Angel, 1897

Mae ffeil achos Stephenson ac Alexander ar gyfer yr hen westy yn cynnwys llyfrau stocrestr mawr ar gyfer y Gwesty sy’n dyddio o 1897 a 1918. Gallwn ddidynnu o lyfr stocrestr 1897, dangoswyd yn Ffigyrau 2 a 3, fod gan y gwesty o leiaf saith deg o ystafelloedd gwely. Dyma rai eitemau nodedig sy’n dal y llygad wrth fynd drwy’r rhestr: lluniau o Dywysog a Thywysoges Cymru ar y pryd, lluniau o Gastell Caerdydd, llun o Ymerawdwr yr Almaen (Willhelm II efallai) mewn ffrâm ‘gilt’, ‘darn canol o grochenwaith Tsieina’, ‘carped brwsel’ a ‘gwrthban crwybrol’. Ymhellach at hyn, mae’r ffeil achos hefyd yn cynnwys rhestr fanwl o’r seler win, a oedd yn cynnwys ‘brandi ceirios’, sodas a ‘vino de Pacto’; wel, beth yw gwesty heb far wedi ei stocio’n dda i’r gwesteion ei fwynhau?

Bedroom 54 inventory

Ffigwr 3 – Ystafell wely 54, Stocrestr ar gyfer Gwesty’r Angel, 1897

Yn ddiddorol, yn y ffeil hefyd mae swp o ohebiaeth ynglŷn ag achos cyfreithiol yn ywneud â’r gwesty. Tenant y gwesty rhwng 1897 a thua 1918-1919 oedd menyw o’r enw Emily (neu efallai Elizabeth) Miles. Cododd gwrthdaro rhwng Emily a Mr Charles Jackson, bargyfreithiwr, o gwmpas diwedd ei thenantiaeth, ac a allai fynd â’r dodrefn yr oedd hi wedi eu prynu ar gyfer y gwesty gyda hi. Roedd Stephenson ac Alexender fel pe bai’n gweithredu fel cyfryngwyr rhwng y ddau, gan nodi fod ‘Mr Jackson yn benwan’, ac ‘na fyddai’n goddef dim mwy’ a’i fod yn ‘benderfynol o gymryd camau i orfodi ei hawliau’. Er i gytundeb gael ei setlo yn y pen draw ar gyfer ymadawiad Emily, mae’r llythyrau’n gwneud darllen difyr o ran perthynas gythryblus o’r gorffennol.

Plan

Ffigwr 4 – Cynllun yn dangos 19 Angel Street a Gwesty’r Angel, tua 1883

Auction particulars

Ffigwr 5 – Manylion arwerthiant, 19 Angel Street

Yn union wrth ymyl gwesty’r Angel roedd 19 Angel Street; cafodd yr eiddo ei ddisgrifio ym 1882 fel ‘safle rhydd-ddaliadol helaeth a gwerthfawr’, ac roedd yn eiddo i Mrs Fanny Lewis. Roedd blaen y tŷ ar Angel Street, ac roedd ganddo siop fawr, pum ystafell wely a chegin a; fel y dengys Ffigwr 4, roedd yr adeilad mewn ‘safle pwysig a chanolog iawn’ yng Nghaerdydd.  Yn ddiddorol iawn, cofnodir bod Fanny Lewis yn haearnwerthwr, a bod ei heiddo yn ‘un o’r tai busnes hynaf yn y dref’. Efallai ei bod yn cael ei hystyried yn anarferol i fenyw fod yn haearnwerthwr ar yr adeg honno, er bod Fanny Lewis yn ymddangos mewn cwpl o ddogfennau yn yr archifau; mae un yn ymwneud â ffermio, ac un arall lle safodd hyd yn oed fel erlynydd mewn achos!

Er mai Stryd y Castell yw Angel Street bellach, a bod yr hen Angel Hotel and Ironmongers wedi mynd erbyn hyn, mae’r ffeil achos yma o gasgliad Stephenson ac Alexander er hynny yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd Fictoraidd ac Edwardaidd yng Nghaerdydd, busnesau yn nwylo menywod, a hyd yn oed ychydig o wrthdaro dynol. Gellir gweld y ffeiliau achos hyn trwy gasgliad Stephenson ac Alexander gan chwilio am y cyfeirnodau hyn: DSA/2/74, DSA/12/3161, DSA/12/439 and DCNS/PH/9/51.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Howard Lodge, Caerdydd – Maenordy a gerddi i lety myfyrwyr newydd

Safai Howard Lodge unwaith ger Gerddi Howard, sydd gerllaw Heol Casnewydd a chanol dinas Caerdydd. Mae’r ardal bellach yn gartref i lety modern i fyfyrwyr sydd ond wedi’i adeiladu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â strydoedd preswyl, gyda gweddillion y gerddi yn dal i fod yno. Yn rhan o Ystâd Trydydd Ardalydd Bute (John Crichton-Stuart), mae’n debyg fod enw Howard Lodge, fel Gerddi Howard, yn deillio o enw gwraig yr Ardalydd, Gwendolen Fitzalan-Howard.  Daeth y gerddi i fod ar agor i’r cyhoedd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y porthdy, fel y gwelir o’r cynllun yn Ffigwr 1, yn parhau i fod yn aneglur yn y cofnodion.

Ground floor plan

Ffigwr 1 – Cynllun llawr gwaelod a thiroedd Howard Lodge

Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ffeil achos manwl ynghylch ocsiwn ac arwerthiant Howard Lodge, a gynhaliwyd ar 10 Awst 1882 (Ffigwr 2). O lun o’r eiddo wedi’i amgáu yn y ffeil, fel y dangosir yn Ffigwr 3, gallwn weld bod y porthdy o faint sylweddol. Yn wir, cofnodwyd i’r ‘tŷ gael ei godi gan y Perchennog yn ddiweddar, ar gyfer ei feddiannaeth ei hun’, ac er na allwn ond dyfalu a fu’r Ardalydd fyw yno erioed, y perchennog oedd Mr Thomas Waring. Dymunai Thomas Waring, peiriannydd poblogaidd a fu’n gweithio yn ardal Caerdydd, newid ei breswylfa. Yn sicr roedd gan y porthdy adnoddau da fel cartref ac roedd mewn lleoliad buddiol i ddyn a oedd yn gweithio: ‘mae wedi’i leoli yn rhan breswyl orau’r dref, o fewn tri munud o gerdded i Orsafoedd Rheilffordd Dyffryn Taf a Rheilffordd Rhymni’. Roedd y tŷ ei hun o ‘gymeriad trawiadol’ ac o ‘ansawdd uwch’, yn addas ar gyfer ‘cyfleustra a chysur’, ac fe’i adeiladwyd gyda ‘dyluniad gothig’. Fel yr ydym wedi gweld o’r blaen o fewn y postiadau blog yma, roedd y duedd ‘gothig’ mewn pensaernïaeth yn gyffredin iawn yn ystod cyfnod diweddar Oes Fictoria.

Auction particulars

Ffigwr 2 – Manylion arwerthiant Howard Lodge

Photograph of Howard Lodge

Ffigwr 3 – Llun o Howard Lodge, diwedd yr 19eg ganrif

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn y ffeil achos yn cynnwys manylion cyfoethog ar du mewn a thu allan yr adeilad, gyda chynlluniau llawr wedi’u cynnwys ar gyfer pedair llawr y tŷ (Ffigyrau 1 a 4). Doedd y tŷ yn ddim llai na moethus yn ei gyfnod, ac yn cynnwys pantri Tsieina, toiled/WC, ystafelloedd derbyn, ystafell wisgo i wraig y tŷ, ac ystafell filiards. Y tu allan, roedd coetws a stablau, tŷ gwydr yn gyflawn gydag ‘offer dŵr poeth’, a gardd eang, y nodir ei bod wedi’i ‘gosod allan a’i chynnal gan Ardalydd Bute’ ei hun.

Structure of floors

Ffigwr 4 – Cynllun lloriau Howard Lodge

Fel perchennog tir ac eiddo blaenllaw ym Morgannwg, roedd Ardalydd Bute yn berchen ar gyfoeth o breswylfeydd.  Eto i gyd, ymddengys fod Howard Lodge wedi cael sylw gofalus, o ystyried ei fewnbwn i’r gerddi, a dyma oedd cartref helaeth Mr Thomas Waring. Er bod yr ardal bellach yn gartref i lety myfyrwyr, mae’r llun sydd wedi’i gynnwys yn y ffeil achos yn sicr yn gwneud cyfiawnder â’r ‘Lodge’ anghofiedig. Gellir gweld ffeil achos Howard Lodge trwy gasgliad Stephenson ac Alexander o dan y cyfeirnod: DSA/2/79.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Capel Stryd Womanby, Caerdydd – Addoli Crefyddol Anghydffurfiol ac Arwerthiant Trafferthus

Mae Stryd Womanby, sydd yng nghanol dinas Caerdydd, yn adnabyddus y dyddiau hyn am ei lleoliadau bywyd nos bywiog a’i thafarndai.  Ond yn ystod y 1800au, fodd bynnag, roedd Stryd Womanby yn gartref i eglwys sylweddol o’r enw Capel y Drindod (Trinity Chapel) ar un adeg. Gellir gweld Capel y Drindod yn glir yn y llun hwn o Womanby Street, o 1891 (Ffigwr 1). Yn adeilad trawiadol, mae’n hawlio’r sylw yn y ffotograff, er y bydd y craff eu golwg yn eich plith yn sylwi ar silwét cyfarwydd muriau Castell Caerdydd yn y cefndir. Ysywaeth, nid yw’r capel bellach yno; mae llawer o adeiladau hanesyddol a chrefyddol yn y gwledydd hyn wedi eu colli i ni ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n ymddangos i faes parcio gael ei godi ar safle’r capel.

Womanby Street 1891 - flipped

Ffigwr 1 – Womanby Street, 1891

Plan of Womanby Street

Ffigwr 2 – Cynllun o Stryd Womanby, mae’r capel wedi ei aroleuo

Codwyd yr adeilad gyntaf tua 1696, codwyd Capel Stryd Womanby fel man addoli Anghydffurfiol. Roedd anghydffurfiaeth yn y cyfnod hwn yn fodd o ddynodi’r rhai a ddehonglai Brotestaniaeth yn wahanol i’r wladwriaeth ac, yn dilyn adferiad brenhiniaeth y Stiwartiaid ym 1660, gwelodd Cymru gynnydd mewn grwpiau Anghydffurfiol. Bu’n rhaid ail-adeiladu’r capel ym 1847 oherwydd tân ac, erbyn diwedd yr 1880au, roedd cynigion ar waith i roi’r capel ar ocsiwn. Yn wir, mae ffeiliau achos yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn awgrymu bod yr adeilad am gael ei werthu er mwyn adeiladu capel newydd ar Heol y Bont-faen. Fodd bynnag, mae’r dogfennau hefyd yn awgrymu nad oedd y gwerthiant yn broses hawdd.

Auction particulars for chapel

Ffigwr 3 – Manylion arwerthiant y capel

Letter 1891

Ffigwr 4 – Llythyr ynglŷn â’r rhwystredigaeth na chyflawnwyd y gwerthiant

Cofnodir bod yr arwerthiannau ar gyfer gwerthu Capel y Drindod wedi’u cynnal ym mis Medi a Hydref 1890 (Ffigwr 3).  Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod gan Stephenson ac Alexander amrywiaeth o broblemau wrth geisio gwerthu’r Capel, sydd i gyd wedi’u dogfennu mewn ffeil achos o lythyrau, a gyfnewidiwyd rhwng y cwmni, y penseiri, a’r cyfreithwyr (Ffigwr 4). Yn fwyaf nodedig, mae’r ffeil yn cynnwys llythyrau a ysgrifennwyd gan Edwin Seward, pensaer enwog a oedd yn gyfrifol am ddylunio llawer o adeiladau Caerdydd, yr ymgynghorid ag ef mae’n debyg ynghylch adeiladu’r capel newydd. Er bod Capel y Drindod i’w weld wedi ei werthu mewn ocsiwn, mae Edwin yn ysgrifennu at Stephenson ac Alexander gan ddweud nad oedd ‘wedi bod mewn sefyllfa i adrodd bod yr uchod mewn gwirionedd wedi ei werthu i’ch llythyrtwr am y pris a nodir’, a bod y ‘gwerthiant go iawn… heb ei selio eto’. Yn wir, roedd Mr Alexander wedi gadael am Lundain yn ddiweddar, ac wedi lleisio ei rwystredigaethau drwy ei lythyrau na chafodd y pris gwreiddiol ei dderbyn.

Apology letter

Ffigwr 5 – Llythyr yn ymddiheuro am y drafferth gyda’r allweddi

Rough inventory

Ffigwr 6 – Stocrestr fras ar gyfer y capel

Tenants' letter

Ffigwr 7 – Llythyr yn disgrifio dymuniadau’r tenantiaid newydd i gael gwared ar gelfi ac agweddau o’r capel

Ymddengys i werthiant gael ei gwblhau yn y pen draw tua mis Mawrth 1891, ond ni ddaeth y trafferthion i ben bryd hynny. Ar ôl ceisio mynd i mewn i’r adeilad, roedd problemau gyda’r allweddi gan y tenant newydd (Gill Blackbourne), y gall hyd yn oed perchnogion tai modern gydymdeimlo â nhw. Anfonwyd llythyr ymddiheuriad cyflym (Ffigwr 5), gyda’r cwmni’n datgan:  ‘Mae’n ddrwg gen i eich bod yn cael unrhyw anhawster ynglŷn â’r allwedd’.  Ar ben hynny, roedd rhywfaint o wrthdaro ynglŷn â bwriadau’r tenant newydd ar gyfer y capel. Yn yr hysbysebion gwerthu, pwysleisiodd y cwmni y byddai’r capel wrth gwrs yn berffaith at ‘ddibenion addoli crefyddol’. Fodd bynnag, roedd y tenantiaid newydd yn dymuno tynnu a gwerthu unrhyw weddillion o’r capel, gan gynnwys: y seti a’r organau, y pulpudau, y stolion, a hyd yn oed ffwrn nwy, a oedd oll wedi’u dogfennu mewn llythyrau a stocrestr fras (Ffigyrau 6 & 7).

Adeiladwyd Capel Newydd y Drindod (New Trinity Chapel), gan ddefnyddio’r enillion o’r gwerthiant, ar Heol y Bont-faen ym 1894, ac mae’n ymddangos i’r hen gapel gael ei ddymchwel yn y pen draw. Unwaith yn gapel syfrdanol, gothig a chanddo gyfoeth o hanes crefyddol, mae modd cyrchu amryw gofnodion o fedyddiadau, priodasau a digwyddiadau yn yr hen gapel a’r capel newydd yn Archifau Morgannwg gan ddefnyddio’r cyfeirnod ‘DECONG6’. Ar gyfer dogfennau Stephenson ac Alexander ar y capel, gweler: DSA/12/382 a DSA/2/160.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

20 Plas y Parc, Caerdydd – Plasty Fictoraidd i Fwyty Bwyd Cain, Modern

Y postiad blog yma fydd y gyntaf o gyfres o bump sy’n ymwneud â chasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg. Mae’r casgliad yn helaeth, ac yn gartref i amrywiaeth eang o ddeunydd sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r cwmni ocsiwn a syrfëwr siartredig, yn benodol yn ymwneud â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Nid yw mentro i’r casgliad yn datgelu cofnodion eiddo yn unig. Fel y bydd y pum postiad blog yma’n dangos, mae’r casgliad hefyd yn manylu ar bobl, a oedd yn byw, gweithio a phrofi bywyd tua chan mlynedd yn ôl.

I’w gwerthu yn yr ocsiwn ar Ddydd Iau 4 Gorffennaf 1889 a Dydd Iau 2 Gorffennaf 1891 yr oedd plasty gothig hardd, 20 Plas y Parc, Caerdydd (Ffigwr 1). Os ydych chi’n gyfarwydd â Chaerdydd, mae 20 Plas y Parc yn dal i sefyll heddiw, wedi’i leoli’n agos at Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol, ac mae bellach yn far a bwyty bwyd cain.  Wedi’i ddisgrifio yn ffeiliau’r cwmni fel ‘tŷ lesddaliad sylweddol a helaeth, wedi’i adeiladu’n dda’, lleolwyd yr eiddo mewn ‘rhan hynod ddymunol o Gaerdydd’ ac fe’i nodir am ei ‘geinder’ a’i ‘wydnwch’.

park place

Ffigwr 1 – 20 Parc y Plas, nawr

Auction particulars 1891

Ffigwr 2 – Manylion ocsiwn, 1891

Mae’r manylion ar gyfer yr ocsiwn (Ffigwr 2) yn esbonio sut roedd ysgutor yr ewyllys i berchennog blaenorol y tŷ wedi penderfynu ei werthu.  Yn wir, mae’n dweud bod yr eiddo wedi bod ‘yn ddiweddar ym meddiant yr Hynafgwr McConnochie, ymadawedig’. Roedd Hynafgwr, neu Alderman yn Saesneg, yn aelod o lywodraeth leol, a phreswylydd ymadawedig 20 Plas y Parc mewn gwirionedd oedd yn John McConnochie. Yn ffigwr hynod ddiddorol yn hanes Caerdydd, bu McConnochie yn Prif Beiriannydd Dociau Bute a gwasanaethodd ar un adeg fel Maer Caerdydd o 1879 i 1880. Eto i gyd, mae’r dogfennau sydd yn y ffeil yn datgelu i ni rai canfyddiadau diddorol a phersonol am gartref John. Adeiladwyd yr eiddo ‘fel ei breswylfa ei hun’ ym 1872, ac roedd yn cynnwys islawr, llawr gwaelod, llawr cyntaf ac ail lawr, gyda’r tu allan yn cynnwys stabl a choetws. Roedd y tŷ hefyd yn cynnwys llyfrgell, cwr y gweision ac ystafell filiards (hamdden). Mae’r stocrestr yn y ffeil yn rhoi cip pellach ar gartref moethus John: roedd ganddo lestri arian, cadair llyfrgell ‘yn troi’, dodrefn mahogani, paentiad o ‘olygfeydd Albanaidd’ a hyd yn oed ‘arfwisg ddur’.

Architect's drawing 1

Ffigwr 3 – Dyluniadau pensaer

Architect's drawing 2

Ffigwr 4 – Dyluniadau pensaer

Y berl yn y ffeil achos yma, fodd bynnag, heb amheuaeth yw’r dyluniadau pensaernïol gwreiddiol ar gyfer yr eiddo. Gall rhywun ddychmygu John mewn ymgynghoriad a’i bensaer ‘nodedig’, neb llai mewn gwirionedd na William Burges, a oedd yn enwog am ddylunio llawer o adeiladau yng Nghaerdydd, megis Castell Caerdydd a Chastell Coch. Fel y gwelwn yn Ffigurau Tri a Phedwar, prin fod y tŷ wedi newid, ac mae’n dal i fod â phresenoldeb trawiadol ar Blas y Parc. Mae tuedd poblogaidd pensaernïaeth gothig yn amlwg, gyda bwâu a chynllun lliw tywyll yr eiddo.

Y tro nesaf y byddwch yn crwydro drwy ganol dinas Caerdydd, cymerwch amser i edmygu 20 Plas y Parc, a oedd unwaith yn gartref a ddyluniwyd yn ofalus, ac a godwyd yn unswydd i fod yn gartref i John McConnachie. Gellir gweld y ffeiliau achos hyn yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg, trwy ofyn am:  DSA/12/358 a DSA/2/166.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd