Nadolig y Gorffennol ym Morgannwg

Pwy sy’n dwad dros y bryn,
yn ddistaw ddistaw bach;
ei farf yn llaes
a’i wallt yn wyn,
a rhywbeth yn ei sach?

rsz_ddm-49-10_008

Wrth i ni gyrraedd y dyddiau olaf i siopa cyn y Nadolig, mae’n ddiddorol edrych yn ôl ar yr hyn yr oedd ein cyndeidiau’n ei brynu ar gyfer eu Nadoligau hwythau. Mae papurau Sybil Rolley o’r Tyllgoed, Caerdydd (cyf.  D790), sy’n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, yn dangos yr hyn yr oedd un teulu’n ei brynu ar gyfer eu dathliadau Nadolig.

Mae un gyfrol yn cofnodi’u cyllidebau ar gyfer pob Nadolig o 1951 hyd at 1965, gan ddogfennu eu prydau a chost pethau ‘ychwanegol’ megis addurniadau ac anrhegion! Wrth gwrs, mae hefyd yn cofnodi’r cynnydd ym mhris y Nadolig dros y cyfnod, a’r amrywiaeth o fwyd ac anrhegion yr oedd pobl yn eu derbyn. Roedd y bwyd Nadolig a gofnodwyd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, llaeth ‘Ideal’, tuniau cig tafod, blancmange, a Melysion Twrcaidd. Yn fwy cyfarwydd i’n rhestrau siopa Nadolig presennol, byddai Bisgedi Siocled Cadbury, Tango a bocsys ‘Milk Tray’.

rsz_pic_039

rsz_pic_040

Mae’r anrhegion sydd ar y rhestr yn cynnwys cynion, y record ‘Mary’s Boy Child’, sigaréts, a slip neilon gyda phapur £1. Ni cheir ddim un o’r eitemau mwy cyfarwydd y gallem ofyn amdanynt heddiw, fel teganau neu bethau electroneg.

rsz_pic_038

Nid dyma’r unig archif ar thema’r Nadolig sydd gennym. Ymhlith eraill mae cofnodion Siop Adrannol David Morgan (cyf. DDM), sy’n cynnwys llawer o luniau o’r siop yn ystod tymor yr Ŵyl. O thema’r ‘Old Woman who lived in a Shoe’ o’r 1930au, i’r menwod cwningaidd fel coblynnod a Siôn Corn cyhyrog y 1960au, a’r ‘wal o gracyrs’ enwog, mae gennym ddetholiad o luniau sy’n cofnodi hanes y siop dros y Nadolig. Maent yn dangos steils a ffasiynau newidiol cyfnod y Nadolig tra bu David Morgan yn masnachu yng Nghaerdydd.

rsz_ddm-49-4_007

rsz_ddm-49-4-010

rsz_ddm-49-10_017

Gobeithiwn y caiff pob un o’n dilynwyr amser gwych dros yr Ŵyl.

Nadolig Llawen!

‘Adloniant Doniol Hud Artistig’: Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cefnogi Ymdrech y Rhyfel

Un o’r eitemau mwyaf anarferol yng nghofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yw poster (28cm gan 43cm) gyda thaflenni maint cerdyn post ategol yn hysbysebu prynhawn o ‘Humorous Entertainment of Artistic Magic including Sleight of Hand, Novel Magical Effects and Oriental Magic’. I’w gynnal yn Neuadd Cory yng Nghaerdydd, ar 6 Ionawr 1919 am 2pm, roedd y sioe i’w chynnal gan Mr Douglas Dexter, ‘The well-known entertainer of London’. Hefyd, roedd eitemau cerddorol i’w darparu gan Barti Mr Shapland Dobbs.

Poster

Er bod y pynciau a drafodwyd gan ddarlithoedd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn amrywiol iawn, roedd hyn, heb amheuaeth, yn dir newydd i Gymdeithas a sefydlwyd i astudio’r gwyddorau naturiol. Rhoddwyd yr eglurhad ar gefn y taflenni.

Ticket

Ticket reverse

This invitation is issued by the members of the Cardiff Naturalists’ Society who desire to give a pleasant afternoon to members of the Forces who happen to be in Cardiff.

Er i’r rhyfel ddod i ben  gyda’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, roedd miloedd o ddynion a merched yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn aros i ddod adref. Yn Ionawr 1919 roedd Caerdydd yn ganolbwynt mawr i filwyr a oedd yn dychwelyd i dde Cymru. Roedd hefyd nifer o ysbytai milwrol yn y dref a’r ardaloedd cyfagos. Roedd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn amlwg am chwarae’i rhan wrth helpu i roi adloniant i’r lluoedd arfog. Gallai’r gyngerdd hefyd fod wedi cyfrannu at ‘Bythefnos Diolch’, cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Faer Caerdydd yn Ionawr 1919 i wobrwyo’r milwyr a chodi arian at elusennau gan gynnwys Cronfa’r Brenin i Filwyr a Morwyr Anabl. Roedd yr adloniant am ddim i ‘Filwyr, morwyr a’r llu awyr (boed o Brydain, y Trefedigaethau a Chynghreiriaid) ar wyliau neu sy’n yr Ysbyty’. Roedd y Gymdeithas yn disgwyl i Neuadd Cory fod dan ei sang ac roedd yn lleoliad llawer mwy na’r rhai a ddefnyddiai ar gyfer y rhan fwyaf o’i darlithoedd cyhoeddus. Er hynny, rhybuddiai’r taflenni:

It is regretted that the accommodation will not permit the admission of others than men in uniform.

Roedd Dexter yn ŵr adnabyddus. Fe’i ganed yn Arthur Marks yn Eastbourne ym 1878 ac yn athro wrth ei waith, gwnaeth Dexter gryn argraff fel consuriwr  ac fel cleddyfwr o’r safon orau, a ddewiswyd i dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd 1936. Ar brynhawn 6 Ionawr byddai’r rhai a ddaeth draw wedi gweld sgiliau un o brif aelodau’r Cylch Hudol. Ymhlith repertoire Dexter roedd triciau fel y Trywaniad Triphlyg, y’i cadwodd dan gêl, i’r graddau y gwnaeth siwio consuriwr arall a gyhuddodd o ddwyn ei syniadau. Roedd y cyfeiriad at hud artistig fwy na thebyg yn cyfeirio at dric yr oedd Dexter yn ei ddatblygu bryd hynny a oedd yn cynnwys sgarffiau sidan gwyn yn cael eu gosod mewn powlen wag ac yn dod ohoni’n lliwiau, fel petaen nhw wedi’u trochi mewn dei.

Yn Nhrafodion 1919 adroddwyd:

… an entertainment was held at the Cory Hall under the auspices of the Society, to which all of the wounded sailors and soldiers in the Military Hospitals were invited. Over 700 attended and had a thoroughly enjoyable time [Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, Cyf LII, 1919, Caerdydd, 1922].

Heb amheuaeth cafodd Douglas Dexter gryn gymeradwyaeth gan y milwyr. Aeth ymlaen i berfformio mewn nifer o Berfformiadau Royal Variety ac i’r Brenin Siôr V yng Nghastell Windsor ym 1928. Cafodd y Fedal Aur gan y Cylch Hud ym 1926. Ond i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, fodd bynnag, aeth pethau’n ôl i’r arfer yn ddiweddarach yn y mis gyda darlith gan Dr A E Trueman ar 23 Ionawr 1919, ‘Astudiaeth Ddaearyddol o Ardal Caerdydd.’

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’: Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd

Mae’r Adroddiad a’r Trafodion a lunnir bob blwyddyn gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cynnig trysor cudd o ddeunydd ar bob agwedd ar y gwyddorau naturiol. Erbyn 1900, roedd y Gymdeithas yn ffynnu, gyda mwy na 500 o aelodau ac adrannau ar wahân ar gyfer archaeoleg, bioleg, daeareg, ffiseg a chemeg. Coladwyd yr adroddiad a’r papurau a gynhyrchwyd gan yr adrannau bob blwyddyn ac fe’u cyhoeddwyd fel cofnod o weithgareddau’r Gymdeithas ac fel cyfraniad at y ddealltwriaeth ehangach o’r gwyddorau naturiol. Gwelir cyfrolau rhwymedig o’r Adroddiad a’r Trafodion o’r adeg y crëwyd y Gymdeithas yn 1967 hyd at 1970 ar silffoedd yr ystafell chwilio yn Archifau Morgannwg. Wrth ddarllen ond un o’r llyfrau (er enghraifft, y gyfrol sy’n cynnwys adroddiadau ar gyfer y cyfnod 1897 i 1902), cewch eich dal, yn syth, gan ystod o ddeunydd wedi’i greu gan aelodau’r Gymdeithas. Mae rhywbeth at ddant a diddordeb pawb bron, gyda phapurau ar:

The Excavations carried out on the site of the Blackfriars Monastery at Cardiff

The Birds of Glamorgan

Effects of a lightning flash

The Great Flood of 1607

Notes on the Psalter of Ricemarch

Notes on the hatchery and fish hatching at Roath Park

The Geology of the Cowbridge District

Meteorological observations in the society’s district.

Fodd bynnag, os ydych yn chwilio am argymhelliad, beth am ddarllen darn gan Robert Drane yn Nghyfrol 33, “Olla podrida with Nescio quidquid Sauce”? Roedd Drane yn un o geffylau blaen y Gymdeithas o’r adeg y cafodd ei chreu yn 1867 hyd at ei farwolaeth yn 1914. Fe oedd aelod gydol oes cyntaf y Gymdeithas ac fe oedd Llywydd y Gymdeithas yn 1896-97. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau ac roedd yn gyfrannwr rheolaidd at yr Adroddiad a’r Trafodion. Yn yr erthygl o’r enw ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’, a gyflwynodd yn gyntaf fel darlith yn adran Fiolegol y Gymdeithas ar 15 Rhagfyr 1898, nododd ganfyddiadau un o lawer o’i ymweliadau â’r ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro.

rsz_transactions

Yn yr adroddiad, mae Drane yn rhoi arsylwadau manwl ar fywyd gwyllt a’r planhigion ac anifeiliaid lleol y daeth o hyd iddynt ar yr ynysoedd ym Mehefin 1898. Nodweddir ei ysgrifennu gan lygaid craff a di-feth, boed wrth asesu cynnwys stumog Gwylan Y Penwaig a nodweddion corfforol y llygoden Sgomer neu’r amrywiaeth o Fanadl sydd i’w gweld ar Ynys Ramsey. Yn amlwg ymddiddorodd mewn ceisio chwalu theorïau cyfredol a llên gwerin leol ac, yn enwedig, yr awgrymiad ‘nad oes dim sydd wedi’i argraffu’n anghywir’. Er enghraifft, yn y papur, mae’r hawlio bod llygoden Sgomer, yn fwy na thebyg, rywogaeth newydd ac arbennig ac felly’n herio’r barn …awdurdod yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol…ei bod yn amrywiaeth leol o’r llygoden goch gyffredin. Mae hefyd yn dod i’r casgliad bod well gan Wylan Y Penwaig ddiet o wyau, gan gynnwys wyau Pâl, yn hytrach na chofnodion lleol sy’n nodi mai cwningod oedd ei phif fwyd.

Gwelir craidd y papur yn ei ymchwiliad o dri maes. Yng ngeiriau Drane ceisiodd i:

…determine the question of the specific difference of the Ringed and Common Guillemot, to find out what the Shearwater feeds on, and obtain some specimens of a large Vole, abundant there, which I am disposed to regard as an Island variety.

Mae’n adrodd yn fanwl ar bob pwnc. Fodd bynnag, fel yr arfer gyda Robert Drane, cewch lawer mwy. Er enghraifft, mae’n condemnio’r …casglwyr wyau ysglyfaethus…ar Ynys Gwales, yn canmol perchennog Ramsey am ofalu am boblogaeth Brain Coesgoch yr ynys ac yn holi perchenogion goleudy South Bishop am ystod a nifer yr adar y’u gwelid.

Gwelir hefyd yn yr adroddiad dameidiau o wybodaeth o’i arsylwad bod gan Bâl ar Sgomer 39 o lymrïod yn ei grombil i weld Gwyfyn Gwlithog ar Ynys Ramsey. Rhaid bod Drane, oedd yn 65 oed ar y pryd, a’i gydymaith oedd yn teithio gydag ef, cyd-aelod a Llywydd yn ddiweddarach o’r Gymdeithas, J J Neale, wedi diddanu a dychryn y bobl leol wrth iddynt edrych dros glogwyni i weld nythod Gwylogod a mynd â ffwng coden ffwg i’w goginio a’i fwyta. O ran hyn, dywedodd:

We took it home and, sliced it, fried it, and ate it for breakfast much to the doubt, if not to the disgust of the natives, who subsequently finding that we suffered no harm regarded us as gods…

Drane

Robert Drane a Joshua John Neale, aelodau o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, tua 1900, cyf.: DXIB23d

Ar gyfer adroddiad cyfoethog a manwl o’r bywyd gwyllt ar Ynysoedd Sir Benfro gyda thipyn o hiwmor a lliw lleol mae ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’ yn werth ei ddarllen. O ran y teitl, mwynhaodd Drane osod her i’w gynulleidfa. Roedd papur blaenorol o’r enw ‘A Pilgrimage to Golgotha’ yn amlwg wedi gadael llawer o bobl mewn penbleth o ran ei gynnwys posibl. Esboniodd Robert Drane fod ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’, felly, wedi’i ddewis yn ofalus …fel y mae pawb yma heno’n deall yn berffaith…yr hyn rwy’n mynd i siarad amdano…Efallai y byddaf yn gadael i chi ei weithio allan ar eich pen eich hunain. Mae Esboniad Drane ar dudalen 59  Cyfrol 33. Beth am ei ddarllen?

Os oes diddordeb gennych mewn cael gwybod mwy am Robert Drane a’r llawer o adroddiadau amrywiol a luniwyd gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, ceir copïau rhwymedig o’r Adroddiad Blynyddol a’r Trafodion ar gyfer 167 i 1970 ar silffoedd yr Ystafell Chwilio yn Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg