Cofnodion Addysg

Mae cofnodion addysg yn rhan fawr o’n casgliadau yn Archifau Morgannwg. Gallwn weld hyn yn ein “rhestr 75”, lle mae 8 o’r eitemau’n ymwneud ag addysg.Mae cofnodion addysg yn amrywio ac yn cynnwys adroddiadau byrddau ysgol, gohebiaeth a dogfennau polisi; nodiadau a gohebiaeth arolygwyr ysgolion; a chofnodion ysgolion unigol sydd fel arfer yn cynnwys cofrestri mynediad, cofnodlyfrau a ffotograffau.

EM33/1 Cofnodlyfr Ysgol Ganolog Maesteg

EM33/1 Cofnodlyfr Ysgol Ganolog Maesteg

Mae cofnodion addysg ymhlith rai o’r eitemau sy’n cael eu gofyn amdanynt amlaf yn yr ystafell chwilio.Mae yn berthnasol i bethau mwy nag adeiladau ysgolion a chynlluniau gwersi.Yn benodol gall cofnodlyfrau roi cip gwerthfawr i ni ar gymuned, gan ddogfennu popeth o achosion o salwch, gwrthdaro diwydiannol, ymateb lleol i ddigwyddiadau cenedlaethol a hyd yn oed y tywydd.

ER16/4 Cofnodlyfr Ysgol Fwrdd Glynrhedynog

ER16/4 Cofnodlyfr Ysgol Fwrdd Glynrhedynog

Os oes gennych gysylltiadau ag ysgol sydd heb â chyfrannu cofnodion i Archifau Morgannwg a bod gennych ddiddordeb mewn dysgu am y broses hon, hoffem glywed gennych.Yr ysgolion sy’n rhoi cofnodion i ni sy’n berchen ar yr eitemau hyn o hyd. Caiff y cofnodion eu pecynnu a’u cadw i’w atal rhag dirywio a sicrhau eu bod yn goroesi at y dyfodol.Yna mae modd eu gweld yn ein hystafell chwilio.Gallwn hefyd drefnu i ddisgyblion o’ch ysgol fod yn rhan o’r broses o lanhau, pecynnu a chatalogio’r cofnodion.Mae’n gyfle gwych dysgu am sut rydym yn ei wneud a phwysigrwydd cadw ein treftadaeth ddogfennol.

Mae croeso i grwpiau ysgol ddod i’r archifau, pan gynigiwn amrywiaeth o weithdai sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm.Mae rhestr o bynciau ar ein gwefan, ac mae croeso i athrawon gysylltu â ni i awgrymu themâu newydd.Mae ymweliadau ysgol am ddim.I drefnu ymweliad, cysylltwch ag Archifau Morgannwg.

Ysgol Gynradd Mount Stuart yn ymweld ag Archifau Morgannwg

Ysgol Gynradd Mount Stuart yn ymweld ag Archifau Morgannwg

Papurau newydd

Mae pum papur newydd yn y casgliad o 75 eitem, o 1974, 1982, 1984, 1985 a 1988. Ym 1994 gwnaed y penderfyniad i roi’r gorau i dderbyn papurau newydd yn Archifau Morgannwg, ac i drosglwyddo’r rhai a oedd yma i lyfrgelloedd lleol addas neu, yn achos y Western Mail a’r South Wales Echo, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Roedd y 3000 cyfrol o bapurau newydd yn achosi problemau o ran storio a chadwraeth. Ym 1994 roedd Swyddfa Cofnodion Morgannwg (fel y’i gelwid bryd hynny) yn storio cofnodion mewn chwe lleoliad yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ac roedd dan bwysau i wneud y gorau o’r gofod a oedd ganddi. Roedd papurau newydd yn llenwi tri bwthyn, a arferai fod yn Gartrefi Plant, yng Ngarth Olwg, Pentre’r Eglwys. Roedd problemau hefyd o ran eu cadwraeth, fel y nodwyd yn Adroddiad Blynyddol 1994: Y ffordd orau o gadw papurau newydd yw drwy roi microffilm o’u hamgylch, ond mae hyn yn rhy ddrud i SCM.

Er nad yw papurau newydd yn cael eu cadw yn Archifau Morgannwg bellach, mae llyfrau sy’n llawn pytiau newyddion yn llawer o’n casgliadau. Cafodd y cyfrolau hyn eu casglu am sawl rheswm, gan fusnesau a sefydliadau yn ogystal ag unigolion. Yn wir, mae’r 75ain eitem o 1976 yn cynnwys llyfr o bytiau newyddion a gasglwyd gan Fwrdd Dŵr Cwm Rhymni (1939-1966).

dconc

Heddiw, gallwch gael gwybodaeth am bapurau newydd ar-lein, ynghyd â chopïau digidol o’r papurau eu hunain.

Mae gan Newsplan Cymru gronfa ddata sy’n cofnodi papurau newydd a gyhoeddir ledled Cymru: http://www.newsplancymru.info/

Mae Papurau Newydd Cymru yn adnodd ar-lein am ddim a gynigir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru: http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/home

Delio â llwydni

Fe’m hatgoffwyd yr wythnos ddiwethaf pa mor bwysig yw cael amodau storio sy’n cydymffurfio â safonau Prydeinig a rhyngwladol. Gwnaed cais am focs o ddogfennau yn yr ystafell ymchwil gan ein Huwch Archifydd, ac wrth ei gyflwyno darganfuwyd bod llwydni byw ar y dogfennau.   Ar y pwynt hwn fe’m galwyd i gadarnhau’r darganfyddiad.  Mae llwydni’n ffynnu mewn amodau storio gwael lle mae lleithder cymharol uchel a thymheredd uchel neu isel, ac yn bwydo ar y proteinau yn y memrwn, glud, seliwlos a seis sydd mewn papur.

Roedd y bocs o ddogfennau’n cael ei gadw mewn storfa allanol heb unrhyw systemau i fonitro a rheoli’r amgylchedd. Roedd mannau tamp ac amrywiadau tymheredd sylweddol, a’r cwbl yn bygwth lles hir dymor deunydd archif.  Amodau storio gwael oedd y prif ysgogiad dros adleoli’r gwasanaeth archif yn 2010.   Roedd angen y storfeydd allanol ers y 1960au oherwydd bod yr hen adeilad yn orlawn, ac ychydig iawn ohonynt oedd yn addas i’r diben.    Y newyddion da yw ar ôl cael ei symud i amodau storio sefydlog mae tyfiant llwydni’n arafu ac yn y diwedd yn marw, proses a all gymryd tua 5 mlynedd neu fwy.  Rydym yn ein pumed flwyddyn yn yr adeilad newydd gyda’r holl gasgliad ar y safle ac mewn cyflwr ardderchog.

Chwilio trwy bocsys am arwyddion llwydni

Chwilio trwy bocsys am arwyddion llwydni

Er mwyn gwneud yn siŵr, roedd rhaid archwilio eitemau a chasgliadau eraill a gedwid yn yr un storfa allanol â’r bocs hwn. Gyda chymorth Amanda (un o’r gwirfoddolwyr cadwraeth) a Mary (sydd gyda ni ar brofiad gwaith) fe wnes i ddechrau ar helfa llwydni. Hyd yma rydym wedi darganfod olion llwydni mewn 30 bocs. Pan ddarganfyddir llwydni mewn bocs, caiff ei symud i ardal ar wahân lle gall y llwydni sychu allan cyn dechrau ar y gwaith glanhau. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio teclynnau arbenigol a gwisgo dillad amddiffynnol gan fod y llwydni nid yn unig yn frwnt, ond hefyd yn gallu bod yn beryglus i iechyd.

Glanhau dogfennau a effeithiwyd gan lwydni

Glanhau dogfennau a effeithiwyd gan lwydni

Gall llwydni fod yn y dogfennau cyn iddynt ddod atom ac mae gennym nawr system (a lle) i wirio pob rhodd a’u glanhau a’u pecynnu cyn eu rhoi ar y silff yn yr ystafelloedd diogel.  Roedd y darganfyddiad diweddar yn ein hatgoffa o’r hen ddyddiau drwg ac yn ysgogiad i barhau â’r gweithdrefnau newydd.  Ar hyn o bryd mae staff yn gwirio pob bocs yn y casgliad i gadarnhau eu lleoliad a’u cynnwys.  Mae anghenion cadwraethol yn cael eu nodi ac mae adnabod llwydni’n flaenoriaeth.

Mae defnyddwyr a staff yn rhoi sylwadau rheolaidd ar ba mor fuddiol yw bod mewn cyfleuster pwrpasol. Mae’n beth da ein bod ni’n cael ein hatgoffa bod mwy o angen symud y dogfennau na’n symud ni!

Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni

Y 75fed eitem a dderbyniodd Archifau Morgannwg ym 1976 oedd Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni. Sefydlwyd y Bwrdd ym 1921, yn dilyn sawl blwyddyn o ymgyrchu ac arweiniodd at basio Bil Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni.

Roedd y Bwrdd yn cynnwys cynghorwyr o Gelligaer, Bedwellte, Bedwas a Machen, Mynyddislwyn, Rhymni a Chaerffili.   Roedd ganddo’r grym i gaffael rhai gweithiau a gweithgareddau dŵr ac i adeiladu gwaith dŵr newydd, yn ogystal â chyflenwi dŵr.  Daeth y dŵr ei hun gan Fwrdd Cyflenwi Dŵr Taf Fechan ac mae cofnodion y Bwrdd hwnnw gennym hefyd yn Archifau Morgannwg.

Cofnodion Bwrdd Dwr Cwm Rhymni

Cofnodion Bwrdd Dwr Cwm Rhymni

Er mai ym 1921 y sefydlwyd y Bwrdd, mae’r cofnodion yn dyddio o 1916; mae’r eitemau hyn yn cynnwys toriadau papur newydd yn olrhain adroddiadau ar yr ymgyrch i greu’r Bwrdd.  Mae’r cofnodion yn parhau hyd at 1966.  

Mae Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn cynnwys 45 cyfrol o lyfrau cofnodion,  cyfrifon, adroddiadau peirianwyr a thoriadau papur newydd.

Mae cofnodion byrddau bwrdeistrefol fel Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ar gyfer unrhyw un sy’n astudio datblygiad llywodraeth leol a gwleidyddiaeth leol yng Nghymru.