Gaeaf ym Merthyr Mawr : Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

I’r rhai sy’n gobeithio am eira dros gyfnod y gwyliau mae’r ffotograffau sydd wedi eu dewis o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon o olygfeydd gaeafol ym Merthyr Mawr ac Ogwr.

M130

Fe fydd y llun cyntaf yn olygfa gyfarwydd i lawer gyda chaeau wedi’u gorchuddio ag eira, Castell Ogwr yn y cefndir a’r cerrig camu ar draws yr afon yn y blaendir.

M134

Efallai nad yw’r ail mor adnabyddus.  Mae’n dangos un o’r ddau borthdy i nodi’r fynedfa i ystâd Merthyr Mawr a gaffaelwyd gyntaf gan Syr John Nicholl ym 1804. Mae’r llety ar y “ffordd newydd” a adeiladwyd gan y teulu Nicholl i gymryd lle’r llwybr gwreiddiol oedd yn mynd heibio, yn agos at safle Tŷ Merthyr Mawr. Roedd y bwthyn yn dwyn yr enw Merthyr Mawr Lodge neu’r West Lodge, ac roedd y bwthyn yn ymddangos mewn mapiau gyntaf ym 1813.  Gyda’i do gwellt a’i leoliad golygfaol, mae’n eiddo sy’n cael ei edmygu’n fawr ac yn adeilad rhestredig Gradd 2.

Roedd Edwin Miles yn gweithio’n bennaf, o’i stiwdio a adeiladwyd yng nghefn ei gartref ar Heol Ewenni.  Roedd Merthyr Mawr, felly, “ar stepen ei ddrws”. Mae’r casgliad a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys dros ugain o ffotograffau o’r pentref a’r cyffiniau.

M131

Ychydig iawn o gliwiau sy’n ein galluogi i ddyddio golygfeydd y gaeaf, heblaw bod casgliad Edwin Miles yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1900 a 1929. Mae ei waith yn disgyn yn fras i gyfnodau penodol, y blynyddoedd yn arwain at ddechrau’r rhyfel ym 1914 a’r 1920au. Yn ystod y ddau gyfnod byddai’r porthdai ar y ffordd ddynesu at Dŷ Merthyr Mawr wedi bod yn gartref i staff a oedd yn gweithio i’r teulu Nicholl.

M132

Tynnodd Edwin Miles luniau o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg hyd at ei farwolaeth ym 1929.  Mae’r ffotograffau o Ferthyr Mawr yn y gaeaf ar gael i’w gweld dan y cyfeirnod D261/M130-134.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Proclamasiwn y Brenin newydd yn y Bont-faen ar 26 Ionawr 1901

Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r llun o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon yn adlais o ddigwyddiadau diweddar gan ei fod yn dangos cyhoeddi’r Brenin newydd.

BCOW_C_114_3 edited

Cafodd y llun ei dynnu ar y 26 Ionawr 1901, bedwar diwrnod yn unig ar ôl marwolaeth y Frenhines Fictoria a oedd wedi teyrnasu am dros 63 o flynyddoedd. Y ffigwr yn y canol yw Maer y Bont-faen, yr Henadur Edward John, a oedd newydd gyhoeddi’r brenin newydd, Edward VII, mab hynaf y Frenhines ac a oedd yn 69 oed yn 1901.

Yn unol ag arferiad a ddilynir hyd heddiw, cyhoeddwyd esgyniad y Brenin newydd mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad. Roedd hi’n bluen yng nghap y Bont-faen bod trefniadau wedi cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer darllen y proclamasiwn ymhell cyn eu cymdogion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fel yr adroddodd y papurau newydd lleol, roedd yn dipyn o ddigwyddiad gyda holl boblogaeth y fwrdeistref a’r ardaloedd cyfagos yn leinio’r strydoedd.  Ym mhen blaen yr orymdaith y cerddai’r Maer ac aelodau’r Gorfforaeth, ac yna Ynadon lleol, y Ficer a’r Meistr, athrawon a disgyblion yr Ysgol Ramadeg. Darparwyd gosgordd er anrhydedd gan ddau yn cario byrllysgau, aelodau o’r Gwirfoddolwyr lleol a Band Tref y Bont-faen.

Gyda baneri’n cyhwfan, darllenwyd y proclamasiwn ar safle’r Hen Groes ac ar dri safle arall ar ffin y fwrdeistref. Ar bob achlysur datganwyd dyfodiad yr osgordd gan ffanffer o utgyrn ac wedi cwblhau’r datganiad fe ganwyd Duw Gadwo’r Brenin.

Tynnwyd y llun ar ddiwedd y seremoni wrth i’r Maer gilio i siambrau’r cyngor i ddiddanu ei westeion. Ar y cyfan, byddai wedi bod yn ddiwrnod cofiadwy i Edward John, masnachwr hadau lleol a pherchennog yr Eagle Stores, a wasanaethodd sawl tro fel Maer y Bont-faen. Efallai nad yw’n syndod ar ddiwedd diwrnod hir, adroddodd y papurau newydd fod y Maer wedi gofyn i’w westeion ymuno ag ef i yfed i iechyd y Brenin Edward y Seithfed … a wnaed yn ffyddlon tu hwnt.

Mae’r llun yn un o’r rhai cynharaf yng nghasgliad Edwin Miles a gedwir yn Archifau Morgannwg.  Ym 1901 roedd Miles yn dal i weithio fel signalmon rheilffordd ac yn byw ar Heol Y Bont-faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae’n ddigon posibl bod y llun wedi’i dynnu wrth iddo fireinio ei sgiliau cyn mentro fel ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o stiwdio yn Wrexham Villa ar Heol Ewenni. Mae mownt y ffotograff yn cyfeirio at Stiwdio Ewenni, gan awgrymu iddo gael ei ychwanegu yn ddiweddarach.

Tynnodd Edwin Miles luniau o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg hyd at ei farwolaeth ym 1929.  Mae’r ffotograff o’r Proclamasiwn hon i’w gweld dan y cyfeirnod BCOW/C/114/3.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. 

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Brigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr: Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Y llun a ddewiswyd yr wythnos hon yw un o’r eitemau mwy anarferol yng nghasgliad Edwin Miles – llun o Frigâd Dân Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr.  

UDBR_F_1

Seren y sioe yw injan Tân Leyland gyda’i ysgol 35 troedfedd, a gyflwynwyd i’r frigâd ym mis Awst 1924.  Roedd Brigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr dim ond yn cynnwys gwirfoddolwyr a chyn 1914 byddant wedi dibynnu ar offer a dynnwyd gan geffylau. Roedd caffael injan newydd Leyland, felly, yn welliant sylweddol ar gyfer brigâd a oedd yn darparu cymorth i Ben-y-bont a’r trefi a’r pentrefi cyfagos.

Wrth ddyddio’r llun mae’n ddigon posib iddo gael ei dynnu ar 11 Gorffennaf 1925, pan ddaeth pedwar deg pedwar o frigadau a thros wyth cant o ddynion o bob rhan o dde Cymru ynghyd yn Aberdâr i arddangos technegau ymladd tân. Mae’r tŷ yn y cefndir yn edrych yn debyg iawn i Dŷ Glanogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei gaffael gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod yma, ac a fyddai wedi darparu man addas i’r frigâd cwrdd. Maen nhw’n sicr yn edrych yn dda iawn ac mae cofnodion y frigâd yn cadarnhau bod gwisgoedd newydd wedi eu rhoi i’r dynion ar gyfer digwyddiad Aberdâr.  

Y dyn yn y cap, ar ochr dde’r grŵp, yw Henry Percival Williams, Prif Swyddog y Frigâd.   Yn ddilledydd lleol o Nolton Street, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd H.P Williams yn ffigwr allweddol yn y gwaith o redeg y frigâd am flynyddoedd lawer. Rhoddodd wasanaeth gwych hefyd i’r CDT Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y cyngor ar dri achlysur.

Dros y blynyddoedd rhoddodd y Frigâd wasanaeth amhrisiadwy i’r gymuned leol.  Ym mis Mai 1926 bu tân yn eiddo Cwmni Melysion Avona yn Meadow Street, a achoswyd o bosibl gan foeler siwgr, yn bygwth dinistrio cartrefi ac eiddo lleol pan ddarganfuwyd bod tancer petrol a cheir yn cael eu storio yn yr un adeilad. Fel y dywedodd y papurau lleol “a wave of relief went up from the thousands of onlookers” wrth i weithredu prydlon gan y frigâd fynd i’r afael â’r tân a thynnu’r cerbydau o’r adeilad.

Ar nodyn ysgafnach, ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, torrodd dynion tân i mewn i dŷ ar Stryd y Parc ym Mhen-y-bont pan welwyd mwg yn dod allan o ffenest i fyny’r grisiau. Y tro hwn daeth y dyn tân wyneb yn wyneb â’r perchennog yn eistedd yn y bath gyda stêm yn mynd allan o’r ffenestr agored. Gan ei bod ychydig yn fyddar doedd hi ddim wedi clywed y curo ar y drws ffrynt.  Ni wnaed unrhyw niwed ac roedd yn stori wych i’w hadrodd yn siopau a thafarndai Pen-y-bont ar Ogwr dros Nadolig 1926. 

Mae’r pwnc yn anarferol i Edwin Miles, a oedd yn arbenigo mewn ffotograffau o lefydd ac adeiladau lleol adnabyddus.  Fodd bynnag, roedd Miles yn ymwneud â rhedeg y grwpiau sgowtiaid lleol, a darparodd brigâd Pen-y-bont ar Ogwr hyfforddiant mewn diogelwch tân i’r sgowtiaid ifanc. Mae’n ddigon posib mai ymwneud Miles â’r frigâd a arweiniodd ato’n tynnu’r llun. Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n darparu cofnod gwych o’r Frigâd bryd hynny.

Mae’r ffotograff o Frigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr i’w gweld  yn Archifau Morgannwg dan y cyfeirnod UD/BR/F/1. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg