Safai Howard Lodge unwaith ger Gerddi Howard, sydd gerllaw Heol Casnewydd a chanol dinas Caerdydd. Mae’r ardal bellach yn gartref i lety modern i fyfyrwyr sydd ond wedi’i adeiladu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â strydoedd preswyl, gyda gweddillion y gerddi yn dal i fod yno. Yn rhan o Ystâd Trydydd Ardalydd Bute (John Crichton-Stuart), mae’n debyg fod enw Howard Lodge, fel Gerddi Howard, yn deillio o enw gwraig yr Ardalydd, Gwendolen Fitzalan-Howard. Daeth y gerddi i fod ar agor i’r cyhoedd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y porthdy, fel y gwelir o’r cynllun yn Ffigwr 1, yn parhau i fod yn aneglur yn y cofnodion.

Ffigwr 1 – Cynllun llawr gwaelod a thiroedd Howard Lodge
Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ffeil achos manwl ynghylch ocsiwn ac arwerthiant Howard Lodge, a gynhaliwyd ar 10 Awst 1882 (Ffigwr 2). O lun o’r eiddo wedi’i amgáu yn y ffeil, fel y dangosir yn Ffigwr 3, gallwn weld bod y porthdy o faint sylweddol. Yn wir, cofnodwyd i’r ‘tŷ gael ei godi gan y Perchennog yn ddiweddar, ar gyfer ei feddiannaeth ei hun’, ac er na allwn ond dyfalu a fu’r Ardalydd fyw yno erioed, y perchennog oedd Mr Thomas Waring. Dymunai Thomas Waring, peiriannydd poblogaidd a fu’n gweithio yn ardal Caerdydd, newid ei breswylfa. Yn sicr roedd gan y porthdy adnoddau da fel cartref ac roedd mewn lleoliad buddiol i ddyn a oedd yn gweithio: ‘mae wedi’i leoli yn rhan breswyl orau’r dref, o fewn tri munud o gerdded i Orsafoedd Rheilffordd Dyffryn Taf a Rheilffordd Rhymni’. Roedd y tŷ ei hun o ‘gymeriad trawiadol’ ac o ‘ansawdd uwch’, yn addas ar gyfer ‘cyfleustra a chysur’, ac fe’i adeiladwyd gyda ‘dyluniad gothig’. Fel yr ydym wedi gweld o’r blaen o fewn y postiadau blog yma, roedd y duedd ‘gothig’ mewn pensaernïaeth yn gyffredin iawn yn ystod cyfnod diweddar Oes Fictoria.

Ffigwr 2 – Manylion arwerthiant Howard Lodge

Ffigwr 3 – Llun o Howard Lodge, diwedd yr 19eg ganrif
Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn y ffeil achos yn cynnwys manylion cyfoethog ar du mewn a thu allan yr adeilad, gyda chynlluniau llawr wedi’u cynnwys ar gyfer pedair llawr y tŷ (Ffigyrau 1 a 4). Doedd y tŷ yn ddim llai na moethus yn ei gyfnod, ac yn cynnwys pantri Tsieina, toiled/WC, ystafelloedd derbyn, ystafell wisgo i wraig y tŷ, ac ystafell filiards. Y tu allan, roedd coetws a stablau, tŷ gwydr yn gyflawn gydag ‘offer dŵr poeth’, a gardd eang, y nodir ei bod wedi’i ‘gosod allan a’i chynnal gan Ardalydd Bute’ ei hun.

Ffigwr 4 – Cynllun lloriau Howard Lodge
Fel perchennog tir ac eiddo blaenllaw ym Morgannwg, roedd Ardalydd Bute yn berchen ar gyfoeth o breswylfeydd. Eto i gyd, ymddengys fod Howard Lodge wedi cael sylw gofalus, o ystyried ei fewnbwn i’r gerddi, a dyma oedd cartref helaeth Mr Thomas Waring. Er bod yr ardal bellach yn gartref i lety myfyrwyr, mae’r llun sydd wedi’i gynnwys yn y ffeil achos yn sicr yn gwneud cyfiawnder â’r ‘Lodge’ anghofiedig. Gellir gweld ffeil achos Howard Lodge trwy gasgliad Stephenson ac Alexander o dan y cyfeirnod: DSA/2/79.
Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd