Oldwell, Pen-y-lan, Caerdydd

Roedd Oldwell – i’w weld yma ym mraslun Mary Traynor – yn dŷ sylweddol a adeiladwyd ar ddiwedd y 1880au yn Heol Pen-y-lan, ar ochr waelod yr hyn sydd bellach yn Bronwydd Avenue.

D1093-1-4 p14

Ei breswylydd cyntaf oedd John Biggs, perchennog Bragdy De Cymru yn Salisbury Road.  Unodd ei fusnes â busnes Hancock ym 1889 ac, er i Biggs ddod yn gyfarwyddwr y cwmni hwnnw i ddechrau, ymddeolodd gan symud i Gaerfaddon, lle bu farw ym 1920.  Yn ôl cyfrifiad 1901, roedd Oldwell yn cael ei feddiannu gan Martha Edwards, gwraig weddw 60 oed ffermwr o Bencoed, gyda phedwar mab a thair merch.  Roedd hi yn Oldwell ym 1911 o hyd ond, erbyn 1913, roedd wedi symud i Ffordd Caerdydd, Llandaf.  Bu farw Martha Edwards ym mis Ionawr 1918, gan adael ystâd o fwy nag £20,000 (sy’n cyfateb i tua £900,000 heddiw).

Wedyn meddiannodd William Young, masnachwr ffrwythau a thatws o Gaerdydd, Oldwell nes iddo farw ym 1933.   Y meddianwyr nesaf oedd tair chwaer gyfoethog, Marietta ac Adelina Brailli, ac Ida Stone, merched y diweddar fasnachwr siop llongau, Joseph Brailli.  Ni phriododd Marietta nac Adelina erioed, ond roedd Ida yn weddw i’r trefnydd angladdau o Gaerdydd, Augustine Stone.  Bu farw Ida ym 1942 a Marietta ym 1943.  Mae cofrestrau etholiadol yn dangos yr oedd Adelina wedyn yn byw ar ei phen ei hun yn Oldwell tan tua diwedd y degawd.

Erbyn 1952, roedd y tŷ, ynghyd â’i gymydog, Wellclose, wedi dod yn gartref awdurdod lleol i fenywod hen a gwan.  Parhaodd i weithredu felly tan ddiwedd y 1980au pan gaeodd Wellclose ac Oldwell.  Ers hynny maent wedi’u dymchwel ac mae fflatiau bellach ar y safle.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
  • Childs, Jeff: Archive Photos of Roath, Splott & Adamsdown
  • Williams, Stewart: Cardiff Yesterday Cyf 31, Delwedd 43
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Cofrestri Etholiadol Caerdydd (Ward Penylan), 1933 – 1950
  • Cyfrifiad 1871 – 1911
  • Rhestr Lloegr a Chymru 1939
  • Calendrau Profeb Genedlaethol Lloegr a Chymru 1918, 1920, 1933, 1944 & 1946
  • South Wales Echo, 5 Mawrth 1889
  • South Wales Echo, 19 Mehefin 1891
  • https://www.measuringworth.com/

Ocean House, Heol Clarence, Caerdydd

Mae braslun Mary Traynor yn dangos yr adeilad hwn fel ‘Hadley House’, ond dim ond un o’r enwau a oedd ganddo yw hynny.

Ocean House

Ar 11 Mai 1898, cafodd Cardiff Asbestos & Belting Co. Ltd – a oedd yn arbenigo mewn cynhyrchu gwregysau dynamo – ganiatâd i adeiladu ffatri yn cynnwys ystafelloedd arddangos a swyddfeydd.  Gan gofio eu hen safle yn Gladstone Street, ger yr eglwys blwyf, cafodd yr adeilad newydd yr enw ‘Gwaith Lledr y Santes Fair’.   I ddechrau, roedd yn adeilad bach yn wynebu Heol Clarence; wedyn yn 1901 rhoddwyd caniatâd i’r cwmni adeiladu estyniad yng nghefn yr adeilad, gan greu’r adeilad sydd i’w weld heddiw.    Dyluniwyd y strwythur gwreiddiol a’r estyniad ym 1901 gan y pensaer o Gaerdydd, Lennox Robertson.

O fewn ychydig flynyddoedd, unodd Cardiff Asbestos and Belting â Lewis & Tylor Ltd ac, erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y busnes wedi symud i Gripoly Mills, Heol y Grange lle mae’n ymddangos ei fod wedi aros tan o leiaf y 1970au.

Ar ôl i Lewis & Tylor’s adael y safle yn Heol Clarence, mae rhestrau cyfeiriadur ar gyfer y safle hwnnw’n dangos mai haearnwerthwyr a chyflenwyr llongau oedd yn ei feddiannu.   Yn y 1920au, ymunodd y busnes argraffu Edward Roberts â nhw.  Roedd meddianwyr eraill, dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwneuthurwr angorau a chadwyni, gwneuthurwr hwyliau, a dodrefnwr siopau.   Fodd bynnag, arhosodd y busnesau siandler er gwaetha’r holl fynd a dod gan denantiaid cyfagos, a pharhaon nhw i fasnachu yno tan ddiwedd y 1960au. Mae enw Edward Roberts’ dal yn enw amlwg yn llun Mary Traynor o 1986.   Nid yw’n sicr pryd y daeth yr adeilad yn ‘Ocean House’ ond mae’r enw hwnnw’n ymddangos mewn cyfeiriaduron o ddechrau’r 1950au.

Erbyn 1970, roedd Hadley Electrical & Engineering Supplies Co Ltd yn meddiannu’r adeilad.  Gosodwyd yr arwydd ‘Hadley House’ dros y prif ddrws gan aros yno tan y 1980au.  Cafodd yr enw ‘Ocean House’ ei adfer yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae’r lloriau uchaf wedi’u trosi at ddefnydd preswyl, ac mae’r llawr gwaelod yn cael ei feddiannu’n bennaf gan gwmni o gyfreithwyr.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ffatri newydd, Heol Clarence, 1898 (cyf.: BC/S/1/12992)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiadau at adeilad, Stryd Harrowby, 1901 (cyf.: BC/S/1/14479)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiadau at fusnes Caerdydd, Cardiff Asbestos & Beltings Co., Cwrt Harrowby, 1901 (cyf.: BC/S/1/14648)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Williams, Stewart: Cardiff Yesterday, Cyf. 33, Delwedd 56
  • Glamorgan Free Press, 4 Rhagfyr 1897

 

Dros Donnau Amser: Datgelu Hanes Bae Caerdydd

Bu’r prosiect catalogio ‘Dros Donnau Amser’ yn bosibl oherwydd grant gan raglen ‘Datgelu Archifau’ a ariennir gan yr Archifau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth y Pererin a Chymdeithas Wolfson. Nod y prosiect oedd sicrhau bod cofnodion Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (CDBC) a Associated British Ports (ABP) ar gael. Daeth y prosiect i ben ym mis Rhagfyr ac i’r nodi’r cwblhau, mae Archifydd y Prosiect, Kate Finn yn trafod y prosiect a’r gasgliadau yn yr erthygl hon.

DABP-PLANS-19 full

Archifydd y Prosiect, Katie Finn gyda chynllun o Gamlas Llongau Bute, 1839

Wrth ddechrau’r prosiect ym mis Rhagfyr 2019, ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld y flwyddyn a ddeuai, na’r effaith fawr y byddai pandemig y Coronafeirws yn ei chael ar y prosiect. Ein nod oedd catalogio cofnodion CDBC a ABP a oedd heb eu rhestru o’r blaen. Byddai hyn yn galluogi defnyddio’r cofnodion ac yn hyrwyddo hanes morwrol de Cymru a Bae Caerdydd. Mae casgliad CDBC bellach wedi’i gatalogio i lefel eitem a gellir gweld y catalog ar Canfod – http://calmview.cardiff.gov.uk/.  Bu hyn yn llwyddiant mawr, gyda 3849 o gofnodion yn cael eu disgrifio ar lefel ffeil neu eitem. Yn ogystal, mae Rasheed Kahn, ein Hyfforddai Corfforaethol, wedi bod yn brysur yn catalogio ac yn digideiddio’r casgliad ffotograffig. Bydd hwn yn adnodd gwych gan ei fod yn dangos nid yn unig ddatblygiad y Bae, ond y bobl a fu’n rhan o’r gwaith hwn, a thrigolion y Bae.

Nod arall oedd catalogio cofnodion ABP a’i rhagflaenwyr i lefel eitem.  Yn anffodus, nid fu hyn yn bosibl gan nad oedd modd i ni weld y cofnodion am bron i bedwar mis – chwarter blwyddyn y prosiect. O ganlyniad, bu’n rhaid i ni addasu a byrfyfyrio!  Creom restr flwch ar gyfer pob derbynyn sy’n gysylltiedig â ABP. Mae hyn yn golygu bod 523 o gyfrolau, 108 o lyfrynnau, 114 o fwndeli, a 2080 o gynlluniau, wedi’u rhestru. Er nad yw hwn yn gatalog llawn, bydd rhestr flwch ar gael i’r cyhoedd ar gais. Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol gan nad oedd mwyafrif llethol yr eitemau hyn wedi’u rhestru’n flaenorol mewn unrhyw ffordd.

Mae’r ddau gasgliad yn cyfrannu at hanes dociau Morgannwg a dealltwriaeth ohonynt a’u heffaith ar ddiwydiant a chymdeithas Cymru. Sefydlwyd Associated British Ports gan Ddeddf Trafnidiaeth Prydain 1981, a’i gwnaeth yn Gwmni Cyfyngedig. Mae’n gweithredu fel cwmni rheoli ar gyfer cyfleusterau dociau, gyda chyfrifoldeb am borthladdoedd de Cymru. Gan eu bod yn rheoli llawer o’r porthladdoedd yn ne Cymru, mae’r casgliad yn cwmpasu ardaloedd y tu hwnt i’n cylch gwaith casglu arferol, gan gynnwys Abertawe, Port Talbot, Casnewydd a dociau llai eraill, yn ogystal â Chaerdydd, y Barri a Phenarth. Mae casgliad ABP hefyd yn cynnwys dogfennau’r cyrff a’i rhagflaenodd: Rheilffyrdd y Great Western, Comisiwn Trafnidiaeth Prydain, a Bwrdd Dociau Trafnidiaeth Prydain. Yn ogystal, etifeddodd ABP ddogfennau gan bob cwmni a fu’n rhedeg dociau yn ne Cymru, gan gynnwys Cwmni Rheilffordd Caerdydd, Cwmni Rheilffordd a Dociau’r Barri a Chwmni Rheilffordd a Dociau Alexandra (Casnewydd a De Cymru).

Mae casgliad ABP yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd gan y cwmnïau hyn sy’n ymwneud â Dociau De Cymru. Cynlluniau yw rhan fwyaf y casgliad. Mae’r rhain yn dangos nid yn unig strwythurau’r dociau, ond hefyd yr adeiladau yn y dociau, a chynlluniau ardal y dociau. Gwelsom hefyd rai pethau annisgwyl fel diagram o’r Bom Almaenig B2.2 EI-Z (bom llosgi gwrth-bersonél). Mae casgliad ffotograffig mawr ar gyfer pob doc. Mae’r ffotograffau hyn yn dangos y dociau’n cael eu hadeiladu, y dociau’n cael eu defnyddio, a digwyddiadau a gynhaliwyd. Maent yn dangos natur gyfnewidiol y dociau, a gwaith yn y dociau. Mae’r rhain yn ychwanegol at y dogfennau sy’n cofnodi hanes gweinyddol a deddfwriaethol y dociau, gan gynnwys cyfrifon, cofrestri, is-ddeddfau a Deddfau Seneddol.

D406-U-11 compressed

Delweddau o albwm ffotograffau yn dangos gwaith adeiladu twnnel Grangetown o dan Afon Elái, cyf. D406/U/11

Mae cofnodion Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn parhau â hanes y dociau yng Nghaerdydd wrth iddynt gofnodi effaith y gwaith o ddatblygu Bae Caerdydd.  Sefydlwyd CDBC ar 3 Ebrill 1987 gan Orchymyn Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (Ardal a Chyfansoddiad) 1987.  Rhoddodd hyn bwerau prynu gorfodol i’r sefydliad er mwyn datblygu dros 1000 hectar yn ne Caerdydd a Phenarth a denu buddsoddiad allanol. Ymhlith prosiectau allweddol y gorfforaeth roedd creu morglawdd a bae mewndirol; cysylltu canol y ddinas â’r glannau; creu swyddi i bobl leol; a chreu ardal ddeniadol i bobl weithio, byw a chymdeithasu ynddi. Gwnaed pob penderfyniad gan nifer o bwyllgorau, a gan y bwrdd oedd y gair olaf. Mae’r casgliad yn cynnwys y papurau ymgynghori a chofnodion y pwyllgorau hyn, gan gynnwys cofnodion o agweddau mwy dadleuol y prosiect. Oherwydd natur y Gorfforaeth, defnyddiwyd ymgynghorwyr yn eang i gynhyrchu briffiau datblygu, cynnal astudiaethau o ddichonoldeb, cynnig prosiectau, a gwneud gwaith ymchwil y farchnad, a buont yn ymwneud yn helaeth a’r gwaith o  adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer o adroddiadau a gafodd eu creu ar gyfer CDBC a’u cyflwyno i’r Senedd eu hystyried wrth graffu ar Filiau Morglawdd lluosog, ynghyd â thystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi’r bil yn ogystal â deisebau yn ei erbyn.

Mae cofnodion CDBC yn cynnwys casgliad ffotograffig rhagorol sy’n dogfennu pob agwedd ar waith datblygu’r Bae. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys wyneb newidiol Dociau Caerdydd a’r gwaith adeiladu a wnaed, ond hefyd digwyddiadau a gynhaliwyd yn yr ardal, fel Carnifal Butetown, Diwrnodau Bae, a’r Bencampwriaeth Power Speedboat. Mae rhai delweddau CGI o adeiladau hefyd.  Drwy’r rhain a chynlluniau’r bae a’r morglawdd, gallwch olrhain newidiadau tirlun y ddinas. Mae’r casgliad nid yn unig yn cynnwys dogfennau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â busnes CDBC, mae hefyd yn cynnwys deunydd sy’n rhoi cyd-destun i’r gwaith datblygu, megis y record finyl, ‘Baywindows: Songs from Cardiff Bay,’ a delweddau dychanol yn ymwneud â’r Gorfforaeth gan y cartwnydd adnabyddus, Gren.

DCBDC-14-1- (461)

Adeilad y Pierhead gyda baneri Bae Caerdydd, cyf. DCBDC/14/1/461

Er bod y prosiect ‘Amser a Llanw’ swyddogol wedi dod i ben, bydd y gwaith ar y casgliadau yn parhau. Bydd ein hyfforddai, Rasheed, a’n tîm o wirfoddolwyr yn parhau i ddisgrifio, sganio a lanlwytho sleidiau, ffotograffau a negatifau o gasgliad ffotograffig CDBC i’n catalog. Yn ogystal, bydd staff archifau yn parhau i gatalogio casgliad ABP i lefel eitem er mwyn gwneud y casgliad yn gwbl hygyrch am y tro cyntaf. Mae ein tîm cadwraeth yn glanhau ac yn atgyweirio cynlluniau a chyfrolau bregus i sicrhau y bydd y cyhoedd yn gallu cael gweld y casgliad heb roi’r dogfennau mewn perygl o gael eu difrodi ymhellach.

Mae’r prosiect hwn wedi tynnu sylw at gyfoeth y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yng nghasgliadau CDBC a ABP. Mae wedi galluogi defnyddio cofnodion sy’n olrhain y newidiadau i ardal Dociau Caerdydd o’r gwaith o adeiladu doc cyntaf Bute yn 1835 i gwblhau Morglawdd Bae Caerdydd yn 2001. Gallwn weld effaith y diwydiant glo ar dde Cymru, o ffyniant y 19eg ganrif i’r cwymp ar ôl y rhyfel. Wrth i waith barhau ar y casgliadau, byddwn yn darganfod mwy am dreftadaeth ein harfordir a’n cysylltiadau morol.

Katie Finn, Archifydd Prosiect Dros Donnau Amser

Goleuadau Stryd yng Nghaerdydd

Mae’r gaeaf yma gyda’i nosweithiau hir a thywyll, sydd wedi tynnu ein sylw yn yr Archifau at oleuadau stryd a’u datblygiad dros y blynyddoedd.

Mae gan Archifau Morgannwg gyfres arbennig iawn o ffotograffau sy’n dangos goleuadau stryd Caerdydd yng nghanol yr 20fed ganrif.   Mae’r ffotograffau hyn, y mae dros 30 ohonynt, yn dangos nifer o oleuadau stryd y ddinas a’u lampau. Cymerwyd rhai o’r ffotograffau yn ystod y dydd; gydag eraill wedi’u cymryd gyda’r nos pan fo’r goleuadau’n ddigon llachar i’w gwahaniaethu rhag yr adeiladau o’u cwmpas.

D1198-26-web

Cyn y 19eg ganrif, nid oedd goleuadau stryd yn y DU.  Golygai hyn, pan fyddo’n tywyllu, ac yn arbennig pan nad oedd golau lloer, fod pobl a oedd tu allan mewn perygl.  Gallai damweiniau ddigwydd, a throseddau gael eu cyflawni yn y gwyll. Cariodd rhai pobl lusernau a byddai busnesau’n eu hongian y tu allan i’w safle, ond nid oeddent ond yn goleuo’r ardal o flaen y person neu’r adeilad.

D1198-25-web

Gosodwyd y lampau golau nwy cyntaf yn Pall Mall yn Llundain ym 1807, er nad oed lampau ar gael yn helaeth tan ganol y 19eg ganrif. Ond nid oeddent hwythau ond yn goleuo’r ychydig droedfeddi o amgylch y lamp, ac mewn rhai ardaloedd roedden nhw gryn bellter o’i gilydd!  Roedd felly dal yn bosibl bod mewn perygl ac mewn tywyllwch llwyr.

D1198-008-web

Yn Llundain, golygai Deddf yr Heddlu Metropolitan 1829 fod heddlu’n cerdded y strydoedd gyda’r nos.  Roedd gan Forgannwg ei heddlu ei hun o 1841. Ond cyn hwyred â’r 1930au roedd dros hanner strydoedd Llundain yn dal i gael eu goleuo gan lampiau nwy. Ac, ym 1917, dywed cofnodion Cyngor Dosbarth Trefol Caerffili wrthym fod tref Nelson yn ystyried newid o lampiau nwy i rai trydan.

D1198-28-web

Defnyddiwyd y lampiau stryd trydan cyntaf ym Mharis ym 1878. Roeddent yn rhai llachar iawn, a greodd olau cryf a garw a oedd yn anaddas dan do, ac a oedd yn cyrraedd pen eu hoes yn gymharol gyflym. Joseph Swann, ffisegydd a chemegydd o Brydain, a briodolir â dyfeisio’r golau gwynias, a ddefnyddiwyd i oleuo strydoedd a chartrefi’n arbennig hyd heddiw. Yn ail hanner yr 20fed ganrif, daethai lampiau anwedd sodiwm yn boblogaidd i oleuo strydoedd a ffyrdd a thraffyrdd. Yn ddiweddarach, mae dewisiadau ynni isel fel goleuadau fflwroleuol a goleuadau LED wedi ymddangos. Mae rhai o awdurdodau lleol y DU bellach yn diffodd, neu’n pylu, goleuadau stryd er mwyn ceisio arbed arian.

D1198-31-web

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd angen sgiliau’r rhai a weithiai ar y goleuadau stryd mewn meysydd eraill.  Gallwn weld canlyniadau hynny yng nghofnodion Cyngor Bwrdeistref Caerdydd, sy’n nodi bod prinder y staff i wasanaethu’r goleuadau stryd yn arwain at rhai strydoedd yn wynebu blacowt. Ceisiodd rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Cyngor Dosbarth Trefol Caerffili, atal staff rhag ymuno â’r fyddin drwy gynnig Bonysau Rhyfel iddynt. Wrth gwrs, roedd prydiau yn ystod y ddau Ryfel Byd pan gawsai’r goleuadau eu diffodd yn fwriadol, gan greu blacowt pan fyddo perygl o du cyrchoedd awyr gan awyrlongau ac awyrennau.