Gyda phedair gêm Cwpan Criced y Byd ICC yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia, mae’r ffocws unwaith eto’r haf hwn ar griced. Wrth fwrw cipolwg ar gofnodion Archifau Morgannwg daethpwyd o hyd i hanes gêm griced a chwaraewyd dros 130 o flynyddoedd yn ôl, pan fentrodd tîm criced Sir Morgannwg i’r cae i wynebu’r hen elyn o’r ochr draw i Afon Hafren. Roedd diweddglo dramatig i’r gêm yn erbyn Dwyrain Swydd Gaerloyw ar 24 Medi 1890 yn Cheltenham, ac roedd angen i’r tîm cartref sgorio 34 yn y 15 munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth. Mewn ymgais i osgoi colli, trodd tîm Morgannwg at y capten a’r bowliwr agoriadol, Hill, â chefnogaeth Webber, i rwystro llif y rhediadau. Roedden nhw wedi ffurfio partneriaeth arbennig yn y batiad cyntaf, gan rannu 8 wiced rhyngddynt. Roedd Hill hefyd wedi agor y batio i dîm Sir Morgannwg gan sgorio 56, ac roedd y papurau newydd yn adrodd bod y batwyr agoriadol wedi …bwrw’r bêl allan yn rhydd a chododd y sgôr yn gyflym dros ben. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn sgil cyfres o ergydion cadarn gan un o fatwyr agoriadol Swydd Gaerloyw, Champain, a sgoriodd 31 mewn byr o dro, sicrhawyd buddugoliaeth i’r tîm cartref a aeth ati i gynnal ei record ddiguro ar gyfer y tymor.
Nid gêm griced arferol oedd hon. Capten tîm Sir Morgannwg oedd Constance Hill, merch y Cyrnol Syr Edward Stock Hill o Rookwood yng Nghaerdydd, ac mae bron yn sicr yn un o’r cofnodion cyntaf o sefydlu tîm criced i ferched i gynrychioli Sir Morgannwg.

Byddai’r canlyniad wedi bod yn ergyd drom. Yn gynharach yn yr haf, dan enw XI y Cyrnol Hill, roedd Constance a llawer o’i thîm, yn ogystal â Miss Morgan o Riw’r Perrai, wedi teithio i Dedham yn Essex a threchu ochr a ddaeth ynghyd dan Syr John Gorst, Is-ysgrifennydd Gwladol India. Fe greon nhw dipyn o gynnwrf yn ôl y papurau newydd:
Colonel Hill and his party travelling from London in a saloon carriage attached to the 10am train from Liverpool Street arrived at Ardleigh about 11.30am. The stoppage of the express and the detraining of the fair athletes and their friends forming evidently quite an event in the annals of that quiet little station.
Ar ôl bowlio Dedham allan yn eu batiadau cyntaf am sgôr isel, gwnaeth XI y Cyrnol Hill fwrw 113:
…Miss Morgan contributed 32 by hard hitting, her innings included a fine hit to square leg for six and three fours; while Miss Hill, who went in first, played steadily and carried her bat for 51 runs.
Mae’n sicr y byddai’r fuddugoliaeth hon wedi teimlo fel paratoad da ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw, ond fel y digwyddodd, roedd eu gwrthwynebwyr ym mis Medi yn llawer gwell.
Roedd criced yn gamp ffasiynol iawn yn y cyfnod hwn. Mae sawl cofnod o gemau’n cael eu chwarae yng Nghymru rhwng timau cymysg neu o fenywod yn erbyn dynion, yn aml gyda dynion yn batio ag ysgubau ac yn cael bowlio neu ddal y bêl â’u llaw wannach yn unig. Serch hynny, roedd nifer o fenywod y cyfnod hwnnw’n gweld dim rheswm pam na ddylent gymryd rhan mewn camp a oedd cyn hynny wedi’i dominyddu gan ddynion. Dim ond 3 mis yn gynharach, ym mis Mehefin 1890, cynhaliwyd gêm arddangos yng Nghasnewydd a drefnwyd gan yr Original English Lady Cricketers. Er bod erthygl yn y South Wales Daily News yn honni y bu miloedd o bobl yn gwylio’r gêm, roedd ychydig o or-ddweud yn fan’na mwy na thebyg. Ond roedd diddordeb go iawn yn y gêm wrth i’r ddau dîm, y Cochion a’r Gleision, fentro i’r cae. Roedd y gêm hon yng Nghasnewydd yn un o gyfres o gemau arddangos a drefnwyd gan yr Original English Lady Cricketers ar hyd a lled Lloegr, Cymru ac Iwerddon yn haf 1890. Fel chwaraewyr proffesiynol oedd yn derbyn tâl, roedd eu hymagwedd yn hollol o ddifrif, ac roedd y chwaraewyr yn defnyddio technegau bowlio dros yr ysgwydd ac yn batio gan wisgo lledr a phadin i’w hamddiffyn rhag anaf. Er gwaethaf hynny, yn ôl yr adroddiadau bu rhaid i un chwaraewr adael y cae y prynhawn hwnnw yn sgil amheuaeth o fod wedi torri ei thrwyn. Roedd cadw at arferion y cyfnod yn anochel hefyd a bu rhaid i fenywod wisgo sgertiau hir yn ymestyn heibio’u pen-gliniau, wedi’u haddurno yn goch neu’n las ac yn cynnwys plwm i’w trymhau.
Cafodd y gêm ei hystyried yn aflednais mewn rhai cylchoedd, gyda’r awgrym nad oedd cymryd rhan mewn campau o’r fath yn ‘foneddigesaidd’. Roedd anghytuno chwyrn yn y wasg o ran y graddau y gallai cyrff merched ifanc ddelio â phwysau a straen gemau tîm cystadleuol megis criced. Mewn ymateb, nododd y tîm rheoli bod y chwaraewyr yn cael eu dethol ar sail eu gallu athletaidd, ac o ystyried mai 19 oed oedd oedran aelodau’r tîm ar gyfartaledd, roeddent yn cael eu gofalu amdanynt a’u hebrwng gan wraig briod a gwraig gynorthwyol.
Er i dîm Original English Ladies Cricket ddiflannu’n reit fuan, roedd criced i fenywod yn dechrau ffynnu. Roedd hyn yn wir yn sectorau mwyaf cyfoethog y gymdeithas yn bennaf, ac roedd yn aml yn cael ei annog mewn colegau ac ysgolion i fenywod ifanc, er y bu peth gwrthwynebiad. Mae’n ddigon posibl y byddai Constance Hill a’u cyd-chwaraewyr yn nhîm Sir Morgannwg wedi mynd i weld y gêm honno yng Nghasnewydd.

Ychydig iawn o ddiddordeb fyddai gan Constance, a oedd yn 22 oed ar y pryd, mewn gemau oedd yn cynnwys ysgubau yn lle batiau, oherwydd roedd y teulu Hill yn deulu criced i’r carn. Roedd ei brawd hŷn, Vernon, yn chwarae i Gaer-Wynt a Phrifysgol Rhydychen, ac wedi sgorio cant cyflym mewn gêm ryng-golegol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt. Aeth ymlaen i chwarae ar lefel sirol, i Wlad yr Haf a Morgannwg, ac roedd ei brodyr, Eustace a Percy, hefyd yn chwarae criced sirol.

Y brodyr a chwiorydd Hill
Mae llyfrau lloffion y teulu Hill sy’n cael eu cadw gan Archifau Morgannwg yn dilyn llwyddiannau criced meibion a merched y Cyrnol Hill ac yn cynnwys cofnodion o gemau a nifer o luniau. Er nad oes unrhyw gofnod o Mabel, merch hynaf Edward Stock Hill, yn chwarae criced, roedd Constance a’i chwaer iau, Gladys, ill dwy’n gricedwyr brwd a thalentog. Byddai’r gêm yn Swydd Gaerloyw wedi cael ei chwarae o ddifrif oherwydd roedd y tîm cartref yn cael ei hyfforddi gan William Woof, a chwaraeodd dros 140 o gemau i Swydd Gaerloyw gan gymryd dros 600 o wicedi. Hyfforddodd dîm criced Coleg Cheltenham yn ogystal â thimau Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yn hwyrach. Yn fowliwr llaw chwith, cafodd Woof ei argymell i Goleg Cheltenham gan W G Grace. Er nad oedd hyfforddwr tîm Sir Morgannwg mor amlwg, mae’n debygol iawn y byddai’r tîm wedi cael ei hyfforddi gan y Cyrnol Hill a brodyr Constance, yn enwedig Vernon, a oedd eisoes yn aelod o dîm sirol Gwlad yr Haf ym 1890.

Y teulu Hill a ffrindiau yn mynychu gêm criced
Mae llyfrau lloffion y teulu Hill yn rhoi delwedd ddiddorol iawn o griced i ferched yn y cyfnod hwn. Roedd gemau criced yn cychwyn toc ar ôl canol dydd ac yn para tan 6 o’r gloch, gydag awr o egwyl ar gyfer cinio. Roedd timau’n gwisgo sgertiau hir wedi’u haddurno â rhubanau yn ôl lliwiau’r tîm, ac roedden nhw’n gwisgo hetiau gwellt. Roedd Constance yn gricedwr o fri, gyda’r bat a’r bêl, ac roedd hi bron bob tro’n agor y batio ac yn bowlio. Er nad oedd hi mor ofalus â’r Original English Lady Cricketers o ran ei gwisg, byddai wedi gwisgo padiau criced a menig wrth fatio, er bod y cofnodion yn awgrymu y byddai’r menig yn aml yn cael eu rhoi i’r neilltu. Steil Constance oedd casglu rhediadau’n araf bach yn hytrach na bwrw’n bell. Fodd bynnag, nid dyma’r achos bob tro ac mewn gêm ym Mharc Tredegar, dywedwyd:
Miss Hill and Miss Morgan commenced the second innings for their side. Some splendid batting was now seen both ladies hitting to all parts of the field. In 42 minutes when stumps were drawn the partnership had contributed to 72 runs which included 6 3s by Miss Hill and a 5 by Miss Morgan.
O ran bowlio, cywirdeb oedd elfen allweddol ei llwyddiant. Yn yr ychydig gofnodion sydd wedi goroesi, roedd ei gwrthwynebwyr fel arfer yn cael eu bowlio’n lân. Yn yr un set o ystadegau bowlio mewn cyfnod o 6 phelawd, cymrodd Constance 3 wiced am 11 o rediadau, ac, yn wahanol i eraill, ni chofnododd unrhyw beli ‘pell’. Dylid nodi mai cyfnod gweddol fyr oedd hwn oherwydd gallai batiadau gêm brynhawn para hyd at 50 o belawdau. Dyna ben ar y pryderon ynglŷn â gallu ‘merched ifanc bregus’ i chwarae gêm griced gystadleuol.
Heb strwythur ffurfiol i griced i fenywod yn Ne Cymru, chwaraeodd Constance i nifer o dimau ad hoc gan gynnwys y Tyllgoed ac ystod o dimau gwahoddiad megis XI Miss Morgan. Hefyd, cafodd ei recriwtio yn hwyrach i chwarae ar gyfer yr un tîm o XI Miss Gorst a oedd wedi cael ei drechu’n llwyr ym 1890. Tra bo criced yn dod yn boblogaidd ym mhob rhan o’r gymdeithas roedd y gemau a gofnodwyd yn Ne Cymru gan amlaf yn cynnwys merched ac weithiau gwragedd nifer o deuluoedd cyfoethog a dylanwadol. Roedd y rhain yn cynnwys teulu Morgan o Riw’r Perrai, teulu Morris o Danycraig a llu o deuluoedd lleol adnabyddus megis Pritchard, Beynon, Curtis a David. Roedd eu gwrthwynebwyr yn nhîm Swydd Gaerloyw yn cynnwys tair merch y Cyrnol William Agg, YH, o Prestbury, a dwy ferch Is-gyrnol Bateman Champain, a wasanaethodd yn India yn rhan o’r Peirianwyr Brenhinol.
Mae set fawreddog dros ben o luniau yn llyfrau lloffion teulu Hill o briodas Constance â Walter Roberstson Hoare ym 1897 yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Yn anffodus, roedd ei phriodas hefyd yn nodi diwedd i gofnodion ei gyrfa griced. Mae’n bosibl ei bod wedi penderfynu ymroi ei hun i’w theulu ac yn sicr roedd ganddi ddigon o dalentau eraill, a hynny fel actores, cerddor a golffiwr. Roedd hi hefyd yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gan weithredu fel Llywydd ar un o Ganghennau Caerdydd o Gynghrair y Friallen.
Gant ag ugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, cododd cricedwr amryddawn arall, Heather Knights, Gwpan Criced i Fenywod y Byd ICC yn Lords wrth i Loegr faeddu India yn y rownd derfynol ar 23 Gorffennaf 2017. Yn 2013, ysgrifennodd y cricedwr Isabelle Duncan lyfr am griced i ferched o’r enw ‘Skirting the Boundary’. Does dim amheuaeth y byddai Constance a’i thîm wedi cymeradwyo’r ddau, gan eu bod wedi gwneud eu cyfraniad hwy drwy osod menywod yn gadarn wrth y wiced ac nid wrth ffiniau’r cae criced.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Seiliwyd yr erthygl yma ar gofnodion gemau criced a lluniau teulu o fewn llyfrau lloffion y Teulu Hill o Rookwood sydd ar gadw yn Archifau Morgannwg. Mae’r llyfrau penodol ar gyfer y cyfnod yma dan gyfeirnod D1372/1/1, gyda chyfeiriad at gyfrolau 3 (D1372/1/1/3), 4 (D1372/1/1/4) a 5 (D1372/1/1/5) yn enwedig.