Dyma’r seithfed mewn cyfres o erthyglau am adeiladu ac agor Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy ym mis Medi 1883. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Mae llawer o’r hyn a wyddom am yr Ysbyty yn y 1880au yn ganlyniad i waith George Tunstall Coleman. Fel Ysgrifennydd i’r Ysbyty, roedd George Coleman yn llunio’r adroddiadau blynyddol a chofnodion y pwyllgorau niferus a oedd yn rheoli’r Ysbyty. George hefyd oedd yr aelod o staff yn yr Ysbyty a oedd yn gyfarwydd i’r cyhoedd, trwy ysgrifennu colofn wythnosol i’r papurau newydd a oedd yn nodi nifer y cleifion oedd wedi cael eu trin. Cymerwyd gofal mawr i ddiolch i gyfranwyr am eu rhoddion caredig a oedd yn amrywio o 3 llond cert o goed tân gan gwmni lleol a deuddeg pâr o ffesantod gan yr Arglwydd Windsor i barsel o hen lieiniau gan gyfrannwr anhysbys. Daeth pob colofn i ben gydag apêl am fwy, gan gynnwys … llyfrau, blodau, llysiau, hen flancedi, calico a llieiniau.
Ar y pryd, roedd George yn 31 oed. Efallai y cofiwch ddarllen mewn erthygl gynharach mai George, ynghyd â’r Llawfeddyg Mewnol, Philip Rhys Griffiths, a oedd wedi canu i’r cleifion ar noswyl Nadolig gyntaf yr ysbyty newydd. Roedd yn ganwr dawnus a byddai’n perfformio’n gyhoeddus yn aml. Y noson honno, roedd yng nghwmni Miss Anita Strina, merch i frocer llongau lleol. Efallai nad oedd llawer o bobl yn gwybod hyn ond roeddent wedi dyweddïo a buon nhw’n priodi 4 mis yn ddiweddarach, ym mis Ebrill 1884, yn Eglwys Sant Andrew.
Fel dyn newydd briodi, roedd angen i George wneud ei ffordd ei hun yn y byd ac roedd yn cydnabod, yn well na’r rhan fwyaf o bobl, yr heriau a fyddai ynghlwm wrth sicrhau bod yr ysbyty newydd yn gweithredu’n effeithiol. Daeth â syniadau newydd ac egni i’w rôl ac roedd hynny’n ffodus iawn, am fod ei ddyletswyddau’n mynd ymhell y tu hwnt i waith pwyllgor. Nid oedd fawr ddim yn digwydd yn yr Ysbyty nad oedd yr Ysgrifennydd yn ei oruchwylio. George oedd yn delio â masnachwyr lleol a pherchnogion siopau i gytuno ar bris am y bwyd a’r cyflenwadau a brynwyd gan yr Ysbyty bob mis. Yn ogystal, roedd yn rheoli pob agwedd ar gynnal a chadw’r adeiladau, ynghyd â chyflogi staff anfeddygol, gan gynnwys y porthorion, a recriwtio i swyddi newydd, sef peiriannydd, garddwr, a hyd yn oed barbwr i siafio’r cleifion bob bore.
Roedd arian – neu ddiffyg arian – bob amser yn bryder i’r Ysbyty. Ym 1884 roedd dal angen dod o hyd i £6,000 i dalu am gost yr adeilad newydd. Ac yntau’n gyfrifydd hyfforddedig, byddai George Coleman yn llunio’r cofnodion ariannol ar gyfer y llywodraethwyr bob mis. George hefyd a roddai iddynt obaith trwy ddangos dawn ryfeddol ar gyfer codi arian. Roedd yn gwneud llawer o’i waith o flaen y cyhoedd. Er enghraifft, cafodd Edward Fletcher, rheolwr y Theatre Royal a J Tayleure, perchennog syrcas Caerdydd, ei ddarbwyllo ganddo i gynnal perfformiadau codi arian i’r Ysbyty bob blwyddyn. Trefnodd nifer o ddigwyddiadau sylweddol hefyd, gan gynnwys perfformiad clodwiw gan fand Gwarchodlu’r Grenadwyr yn Neuadd Gyhoeddus Caerdydd.
Fodd bynnag, roedd yn fwyaf llwyddiannus yn ei waith y tu ôl i’r llenni. Roedd y casgliad ar gyfer yr Ysbyty a oedd yn cael ei gymryd mewn ffatrïoedd a gweithleoedd bob blwyddyn ar ‘Ddydd Sadwrn yr Ysbyty’ yn rhan bwysig o incwm blynyddol yr Ysbyty. Gofynnwyd i George weithio’n agos gyda’r pwyllgor trefnu ac, yn benodol, y ddau Ysgrifennydd Anrhydeddus. Nid yw’n hysbys a oedd ganddo unrhyw rôl wrth annog colofnydd y Western Mail, ‘Pendragon’, i ledu’r si y byddai’n ofynnol i’r Ysgrifenyddion Anrhydeddus wneud yn iawn am y gwahaniaeth os na lwyddwyd i gasglu £1000. Serch hynny, er y codwyd mymryn yn is na’r targed, amcangyfrifwyd bod dros 30,000 o weithwyr wedi cyfrannu rhwng 6 a 9 ceiniog i apêl yr Ysbyty.
Roedd tanysgrifiadau blynyddol gan gwmnïau ac unigolion yn hanfodol i gyllid yr Ysbyty ac roedd yn ofynnol i’r Ysgrifennydd fynd ar ôl y tanysgrifwyr presennol i dalu eu dyledion ac erfyn am arian newydd. Cymaint oedd pwysigrwydd y gwaith hwn fel y rhoddwyd pàs iddo gan Reilffordd Dyffryn Taf er mwyn iddo allu teithio am ddim i gyfarfodydd. Yn aml, roedd rhywfaint o fargeinio wrth sicrhau arian newydd, gyda George yn cynnig penodiadau i swyddi anrhydeddus, fel Is-Lywydd yr Ysbyty, a’r hawl i enwebu nifer cytunedig o gleifion ar gyfer triniaeth yn yr Ysbyty yn gyfnewid am danysgrifiadau mawr.
Roedd George Coleman mor werthfawr i’r Ysbyty fel y cafodd ei deitl ei uwchraddio ym mhen dim i Ysgrifennydd ac Uwch-arolygydd. Ac yntau’n gweithredu fel llygaid a chlustiau’r Llywodraethwyr, roedd gofyn iddo archwilio pob agwedd ar reoli’r adeilad yn ddyddiol. Yn anffodus, ni ddaeth gyrfa George i ben boddhaol. Ar ôl dros 20 mlynedd yn y swydd, canfu ymchwiliad i ddulliau ariannu ‘afreolaidd’ ei fod wedi trefnu taliad am filiau personol trwy gyfrifon yr Ysbyty. Er efallai mai esgeulustod oedd hwn trwy bwysau mawr busnes, roedd yn ddigon iddo orfod ymddiswyddo. Mewn gwirionedd, roedd y rôl wedi tyfu’n rhy fawr i un person. Arwydd o dwf parhaus yr Ysbyty oedd bod ei swydd yn cael ei llenwi gan ddau benodiad ar wahân – Ysgrifennydd Pwyllgor ac Uwch-arolygydd – gyda’r olaf, i bob pwrpas, yn rheolwr cyffredinol cyntaf yr Ysbyty.
Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar Adroddiadau Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy, y gellir dod o hyd iddynt yn Archifau Morgannwg, dan rif cyfeirnod DHC/50. Gellir dod o hyd i gofnodion y Pwyllgor Rheoli ar gyfer y cyfnod hwn yn DHC/5-6. I’r rhai sydd am wybod mwy am yr hyn a ddigwyddodd i George ac Anita, symudon nhw i Lundain lle roedden nhw’n rhedeg gwesty bach. Bu farw George yn 1915 yn 62 oed ac fe’i claddwyd yng Nghaerdydd.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg