Mae Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar Heol Casnewydd yn dirnod pwysig ar nenlinell y ddinas, yn adnabyddus i drigolion a llawer o ymwelwyr â’r ddinas. Yr hyn sy’n llai hysbys yw mai’r Ysbyty a agorwyd ar y safle hwn ym mis Medi 1883 oedd yr ail ysbyty i gael ei chodi ar Heol Casnewydd.
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o erthyglau am yr adeilad ac agoriad yr Ysbyty a oedd gyda’r mwyaf modern o’i bath ym 1883. Mae’n cyfeirio at gofnodion, cynlluniau a ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg er mwyn olrhain dyddiau cynnar ysbyty a adeiladwyd i ddarparu gofal i’r miloedd a ddenwyd i dde Cymru yn ail hanner y G19 gan gyfleoedd yn y diwydiannau haearn, glo a llongau.

Darlun arfaethedig o’r Ysbyty, 1837 (DV74/8)

Cynllun arfaethedig o’r Ysbyty, 1837 (DV74/7)
Roedd yr ysbyty cyntaf, a elwid yn Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy, wedi agor ym mis Ionawr 1837 ar safle ar Heol Casnewydd sydd bellach yn cael ei defnyddio gan Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd. Fe’i hadeiladwyd i ddarparu “gofal i’r tlawd haeddiannol” ar adeg cyn bod arian cyhoeddus ar gyfer ysbytai. Gallai’r ysbyty alw ar wasanaethau meddyg a 2 lawfeddyg. Fodd bynnag, roedd y staff cyflogedig wedi eu cyfyngu i Lawfeddyg yr Ysbyty, Metron, un nyrs, porthor a morwyn. Ynghyd â chyfleusterau ar gyfer gofal cleifion allanol, roedd gan yr ysbyty newydd 20 o welyau ar gyfer y rhai a dderbyniwyd i gael triniaeth. Serch hynny, er ei fod yn gymedrol o ran maint, roedd adeiladu a chynnal a chadw cyfleuster o’r fath yn her enfawr gan fod yr ysbyty yn gwbl ddibynnol ar roddion a thanysgrifiadau blynyddol.

Adroddiad Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 1837 (DHC48)
Roedd llawer yn ddyledus i un dyn, Daniel Jones, cyfreithiwr, o Gastell Bewpyr. Rhoddodd Jones £3,425, swm aruthrol ar y pryd, i ariannu adeiladu’r ysbyty cyntaf. Roedd y portico uwchben y prif ddrws yn cydnabod ei gyfraniad gyda’r arysgrifiad: ‘Codwyd yr ysbyty ar draul Daniel Jones o Fewpyr yn unig’. Er bod llawer o’r arian oedd ei angen ar gyfer cynnal a chadw a rhedeg yr ysbyty wedi dod gan nifer o ffigurau adnabyddus, gan gynnwys yr Ardalydd Bute, rhoddodd pobl y de hefyd yn hael flwyddyn ar ôl blwyddyn am ‘eu hysbyty’.
O’r cychwyn cyntaf roedd yr ysbyty newydd ymhell o fod yn berffaith. Ym 1843, dim ond 6 mlynedd ar ôl ei chodi, cwynodd y Pwyllgor Rheoli fod yr adeilad yn dioddef o:
…damp walls, smoky chimneys, dry rot in the skirting boards, imperfect pipes … and inadequate drainage.
Ym 1873, er bod y cysylltiadau â’r carthffosydd lleol wedi’u gwella, arweiniodd achosion o glefyd y gafod at gau dros dro er mwyn gallu glanhau, gyda chleifion yn cael eu cadw mewn pabell y tu ôl i’r adeilad. Er gwaethaf cynnydd yn nifer y gwelyau i 60, erbyn 1876, cytunwyd bod angen ysbyty newydd, mwy a modern a allai ddarparu ar gyfer poblogaeth a oedd wedi cynyddu yn ardal Caerdydd yn unig o 8,000 ym 1831 i 71,000 ym 1871.
Lansiwyd yr ymgyrch ar gyfer yr ysbyty newydd gan Esgob Llandaf, Alfed Oliphant, gyda’r geiriau Gadewch inni i gyd wneud yr hyn a allwn tuag at yr achos mawr a haeddiannol hwn. Amcangyfrifwyd y byddai angen £26,000 ar gyfer y gwaith adeiladu yn unig. O ystyried y ddibyniaeth ar roddion a thanysgrifiad cyhoeddus nid oedd hon yn dasg hawdd. Erbyn hyn roedd gan y clafdy dros 500 o danysgrifwyr blynyddol, weithiau cwmnïau a theuluoedd adnabyddus, ond yn aml pobl o bob rhan o’r ddwy sir, llawer ohonynt ddim ond yn gallu fforddio £1 y flwyddyn ac weithiau llai. Yn ogystal, cafwyd rhoddion drwy flychau casglu mewn tafarndai, clybiau a theatrau lleol, gan gynnwys Tafarn y Rummer, Clwb Gweithwyr y Maendy a’r Theatre Royal. Daeth arian hefyd o’r elw o arddangosfeydd a chyngherddau yn ogystal â rhoddion gan gleifion diolchgar. Fodd bynnag, efallai mai’r agwedd fwyaf trawiadol oedd y bu eglwysi’n gwneud casgliad arbennig i’r ysbyty uwaith y flwyddyn ers 1873 ar ‘Sul yr ysbyty’. Yn ogystal, gwnâi busnesau bach a mawr gasgliad yn y gweithle yn flynyddol ar ‘ddydd Sadwrn yr ysbyty’.
Serch hynny, mae cofnodion yr Is-bwyllgor Adeiladu a oedd yn gyfrifol am godi’r cyllid yn dangos yn union faint o dasg oedd codi digon o arian i dalu’r costau rhedeg blynyddol ac adeiladu ysbyty newydd. Cymaint felly fel y gollyngwyd y cynlluniau ar gyfer capel yn y cynigion cychwynnol a chwtogwyd nifer y gwelyau i 100, gyda’r posibilrwydd o ehangu i 200 yn ddiweddarach. Eto i gyd, daeth y pwyllgor i’r casgliad, ar 16 Gorffennaf 1878, ddwy flynedd ar ôl dechrau’r ymgyrch, bod:
…no prospect of success at present… and that …the project was becoming daily more unpopular with the townspeople.
Llawer yn cael ei feio ar ddirwasgiad masnachol a oedd wedi gostwng cyflogau a rhoddion. Ymddangosai fod popeth wedi ei golli a gohiriwyd y pwyllgor am ddwy flynedd tan Noswyl Nadolig 1880. Mae’r stori am sut cafodd y prosiect ei atgyfodi yn cael ei hadrodd drwy’r erthygl nesaf yn y gyfres hon.
Mae Archifau Morgannwg yn cadw cofnodion Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy. Ar gyfer cynlluniau o’r ysbyty a agorwyd ym 1837 gweler DV/74/1-9. Ar gyfer yr adroddiadau blynyddol a luniwyd gan bwyllgor rheoli’r ysbyty o 1837 ymlaen gweler DHC/48-50. Am gofnodion Is-bwyllgor Adeilad yr Ysbyty Newydd, gweler DHC/44.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg