Grym y dylech ei barchu: Heddlu De Cymru 21-12 Caerdydd, Parc Waterton Cross, 8 Hydref 1969

Un o isgynhyrchion sefydlu Cwnstabliaeth De Cymru hanner can mlynedd yn ôl oedd cychwyn tîm rygbi a ddaeth â chwaraewyr talentog ynghyd o’r pedwar heddlu a gyfunodd ar 1 Mehefin 1969. Yn yr argraffiad llawn cyntaf o gylchgrawn Heddlu De Cymru cydnabuwyd y cyfle i sefydlu tîm fyddai’n gwneud ei farc ar rygbi Cymru.

Amalgamation brought with it the possibility of a Police side creating a real impact on Welsh football. The range of talent available could, it was thought, produce a South Wales Police Team capable of providing a surprise for many of the established Welsh Clubs.  (Cylchgrawn Heddlu De Cymru, cyf.: DSWP/50/1)

DSWP-PH-SPO 76_compressed

Carfan rygbi Heddlu De Cymru, 1969-70

Ac nid oeddynt yn anghywir ychwaith.  Cafodd yr Heddlu fuddugoliaeth dynn wrth fynd i’r cae chwarae am y tro cyntaf yn erbyn Pontypridd ym Mharc Ynys Angharad tuag at ddiwedd yr haf ym 1969. Parhaodd y buddugoliaethau wrth iddynt ennill gan 15 pwynt i 14 yn erbyn Abertawe yn St Helens, gan 15 pwynt i 11 yn erbyn Penarth a chan 32 pwynt i 8 yn erbyn Sir Benfro yn Neyland. Erbyn hyn, roedd grym y cyfuniad newydd wedi dod i’r amlwg a chafodd 9 aelod o’r tîm eu dewis i chwarae i dîm Heddlu Prydain ar daith i dde-orllewin Lloegr.

DSWP-PH-SPO 198a_edited

Clawr y rhaglen, 8 Hydref 1969

DSWP-PH-SPO 198b_edited

Nodiadau’r rhaglen, 8 Hydref 1969

Gellir dadlau mai’r prawf mwyaf i’r tîm oedd y tîm cyntaf i ymweld â’r cae chwarae yn Waterton Cross, sef y Clwb Rygbi a Phêl-droed Caerdydd o fri, nos Fercher 8 Hydref. Gyda haid o swyddogion Undeb Rygbi Cymru’n gwylio, gan gynnwys Llywydd yr Undeb, Ysgrifennydd a Chadeirydd y Pwyllgor Dethol, trefnwyd y gêm i nodi sefydliad Cwnstabliaeth De Cymru ac i gydnabod y gefnogaeth yr oedd y clwb o Gaerdydd wedi’i rhoi i Ymddiriedolaeth Dibynyddion yr Heddlu. Roedd elfen ddadleuol i’r gêm o’r cychwyn cyntaf. Yn y dyddiau cyn rygbi’r gynghrair, roedd nifer o swyddogion yr heddlu wedi chwarae i glybiau hŷn ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd disgwyl iddynt flaenoriaethu gemau lle’r oedd gofyn iddynt gynrychioli Heddlu De Cymru.

DSWP-PH-SPO 75_compressed

Tîm Heddlu De Cymru, 8 Hydref 1969

Felly roedd tîm yr Heddlu ar 8 Hydref yn cynnwys chwaraewyr o amrywiaeth o glybiau gan gynnwys Abertawe, Aberafan, Castell-nedd, Llanelli, Pen-y-bont Ar Ogwr a Maesteg. Roedd hefyd yn cynnwys chwaraewyr oedd wedi cael eu dewis i chwarae i Gaerdydd y diwrnod hwnnw. Roedd Pennawd y Western Mail y diwrnod hwnnw’n crynhoi’r cyfan: Yr Heddlu’n bachu Finlayson. Er siom mawr iddynt, roedd ochr hanner gwan Caerdydd, a oedd eisoes yn brin o sawl seren, yn wynebu dau o’i brif chwaraewyr, y canolwr Alex Finlayson a’r prop Mike Knill, mewn crysau coch y gwrthwynebwyr.         

DSWP-PH-SPO 198c_edited

Rhestr timoedd, 8 Hydref 1969

O flaen torf o 2,000 o bobl, rhoddodd yr Heddlu ddechreuad cyflym i’r gêm pan groesodd Ian Hall, canolwr â chap dros Gymru, y llinell am gais cynnar. Fodd bynnag, roedd yn rhaid bod Caerdydd wedi gweld goleuni o obaith pan fu rhaid i Huw Jenkins, mewnwr yr Heddlu, adael y cae ar ôl rhwygo cartilag. Yn y cyfnod cyn y bu modd i chwaraewyr ddod oddi ar y fainc, bu rhaid i dîm yr Heddlu chwarae’r 65 munud oedd yn weddill gyda 14 chwaraewr. Arwr y gêm oedd y blaenasgellwr Omri Jones a symudodd i safle’r mewnwr, gan adael y 7 blaenwr oedd yn weddill i barhau i frwydro yn erbyn pac Caerdydd. Yn dyst i gryfder a dyfalbarhad tîm Heddlu De Cymru, dan arweiniad Ron Evans, cynyddodd y tîm ei sgôr i ennill gan 21 pwynt i 12. Daeth y ceisiadau eraill gan Terry Stephenson, a oedd hefyd yn chwarae i Gaerdydd pan nad oedd ar ddyletswydd i’r Heddlu, a’r bachwr Alan Mages. O’r cefnwr Jerrard Protheroe y daeth y pwyntiau eraill. Fel yr adroddwyd yn y Western Mail y diwrnod canlynol, nid lwc oedd y fuddugoliaeth o bell ffordd.

Cardiff in the second half attacked solidly for 15 minutes but were never able to cross the Police line and but for the accurate kicking of Ray Cheney with four penalty goals in six attempts the final score could have been an embarrassment to the renowned club. (Western Mail, 9 Hydref 1969)

Dathlodd yr Heddlu’r fuddugoliaeth mewn steil, yn ôl yr hyn a gofnodwyd gan gylchgrawn Heddlu De Cymru:

Members of the force will reflect on this victory with justifiable pride, while Cardiff, accepting this defeat in the true spirit of sportsmanship exemplified by this great Club will not, I am sure, ever again underestimate the strength and quality of the Force Team. (Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, t.87, cyf.: DSWP/50/1)

Roedd rhaid bod y tîm wedi gwneud argraff wych ar Lywydd Undeb Rygbi Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Dethol. Roedd Ian Hall eisoes wedi cael ei gap dros Gymru ac aeth dau aelod arall o dîm Heddlu De Cymru a wynebodd Caerdydd ymlaen i chwarae dros Gymru – Alex Finlayson a Mike Knill. Dilynodd llawer mwy yn yr un modd flynyddoedd yn ddiweddarach, gan gynnwys Bleddyn Bowen, Richie Collins, Steve Sutton a Rowland Phillips. Ar ôl 8 Hydref 1969 doedd dim amheuaeth yr oedd tîm Heddlu De Cymru yn rym y dylech ei barchu.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn cadw rhaglen y gêm (DSWP/PH/SPO/198) ynghyd ag adroddiad ar y gêm o fewn Cylchgrawn Heddlu De Cymru ar gyfer Hydref 1970 (DSWP/50/1). Ceir hefyd lluniau o dîm Heddlu De Cymru cyn y gêm yn erbyn Caerdydd (DSWP/PH/SPO/75) a’r garfan lawn ar gyfer tymor 1969-70 (DSWP/PH/SPO/76).

 

Getting to know you: Lansio cylchgrawn Heddlu De Cymru ym 1970

Yn dilyn lansio Heddlu De Cymru – South Wales Constabulary – newydd ar 1 Mehefin 1969, roedd y Prif Gwnstabl, Melbourne Thomas, yn awyddus i feithrin gweithgareddau, gan gynnwys cynhyrchu cylchgrawn, a fyddai’n cychwyn plethu ynghyd y pedwar llu a unwyd. Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, dywedodd Thomas:

Without doubt the development of the magazine will assist in encouraging a greater sprit and a better understanding between all Officers of the Force. (DSWP/16/2)

Cover

Rhoddwyd cynhyrchu cylchgrawn yr heddlu newydd yn nwylo’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, E R Baker. Gyda’r teitl syml ‘South Wales Police Magazine’, cafodd y rhifyn prawf, yn faint poced 40 tudalen, ei gyhoeddi yn fuan ym 1970. O’r cychwyn cyntaf, roedd Baker am i’r cylchgrawn fod yn deuluol, gan sôn nid yn unig am bethau a oedd yn digwydd yn yr heddlu, megis dyrchafiadau ac ymddeoliadau, ond hefyd newyddion dyweddiadau, priodasau, chwaraeon teuluol a llwyddiannau mewn arholiadau.  Comisiynwyd y 7 adran, gan gynnwys Traffig, Pencadlysoedd a’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, i gynnig cyfraniadau.

Cyfrannodd pob gohebydd adrannol i helpu i sefydlu’r arddull, sef addysgol ond ag elfen ysgafn, a oedd yn bresennol yn yr holl rifynnau cynnar. Dyma ambell glip o’r diweddariad ar ddatblygiadau yn yr Adran Traffig ar gyfer y rhifyn prawf.

Reports have been received at this office from agitated motorists on the A48 Trunk Road, complaining that the traffic is moving more freely and safely owing to the fact that [two] Police Constables …are no longer interrupting the flow of traffic. It would appear that the gain of the motorists on the A48 is the loss of the students of the Police Driving Academy where the two officers are performing duty.

In August 1969 [the son of a Police Constable] was awarded first prize as the ‘Bonniest Baby’ at Butlin’s Holiday camp Minehead. There was a considerable amount of disagreement amongst the judges when they could not decide just who was the bonniest – father or son!

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru – DSWP/52/1)

Roedd yr her wedi ei gosod. Y cylchgrawn oedd y lle i fynd i gael newyddion am bethau difrifol megis dyrchafiadau ac ymddeoliadau, ond hefyd ar gyfer y pethau ysgafnach trwy Heddlu De Cymru. O ganlyniad, aeth yr ail rifyn, a gyhoeddwyd yn hydref 1970, yn 96 tudalen. Roedd bron pob adran yn cynnwys newyddion staff a theuluoedd a chyfres o straeon a jôcs.

Roedd y cylchgrawn nawr yn cynnwys cartwnau, cerddi, adroddiadau chwaraeon, cwis, croesair, adolygiadau llyfrau ac, i gyd-fynd â’r naws deuluol, gornel stori i blant. Hefyd, roedd pob rhifyn yn cynnwys cymysgedd o erthyglau hirion a oedd yn aml yn cynnwys troeon trwstan cydweithwyr a straeon lol eraill. Dyma ddau gyfraniad byr.

One evening a police Landrover went to the assistance of a member of the public whose car, boat and trailer had stuck in the sea at the river mouth at Ogmore by Sea. In the course of the recovery the police Landrover got into difficulties and, because of the fast incoming tide, the crew members had to ‘abandon ship’. The Landrover was eventually covered by water and before ‘going down’ the blue flashing lamp started to rotate as a sign of defiance. The vehicle was recovered next day and it is understood that members of the Central Traffic Sector partook of a meal of fish which had been trapped in the vehicle when it was high and dry.

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, DSWP/52/1)

Dan y teitl ‘Getting to know you’, roedd hefyd stori am heddwas ifanc yn cysgu â’i ben ar ei fron mewn mynedfa siop yn hwyr rhyw noson. Pan glywodd ei Sarsiant yn agosáu, ar y funud olaf, rhoddodd ei ddwylo dros ei frest a dweud:

And please watch over all those who are on duty this night and forever and ever, Amen.

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, DSWP/52/1)

Efallai ei bod yn arwydd gadarnhaol bod ystod eang o hysbysebu ym mhob rhifyn, gan gwmnïau lleol yn bennaf, o ledled ardal yr Heddlu. Fodd bynnag, y gwir arwydd o lwyddiant oedd i ba raddau y gallai’r cylchgrawn gofio a gwenu ar hynt a helyntion yr uno. Yn hydref 1970, roedd cerdd a dwy erthygl am yr uno, gan gynnwys y dyfyniad hwn o ddarn dychanol am y trafodaethau hirfaith ynghylch cytuno ar waith papur a systemau cyffredin ar gyfer y pedwar llu. Yn yr achos hwn, ffurflen ar gyfer ymddiswyddo ydoedd.

The meeting also decided to re-design Form Resig/Amalg/1/Ops … for the use of Admin Superintendents. Undoubtedly there would be a further meeting to decide who signed at the left, the middle and on the right – but that was something that could wait until tomorrow. “You know …I can never understand why a clever young fellow wants to resign anyway.” “Not enough to do, I suppose,” agreed his colleagues as they left through their personal doors.

(Cylchgrawn Heddlu De Cymru, Hydref 1970, DSWP/52/1)

Y prawf olaf oedd y cliw cyntaf yn y croesair – 1 ar draws:

Effective from 1st June 1969 – three words with 5, 5 and 12 letters.

Gobeithio, erbyn hydref 1970, byddai holl aelodau’r heddlu wedi datrys hwn mewn mater o eiliadau. Ond, os ydych chi’n ei chael yn anodd dod o hyd i’r ateb, mae ym mharagraff cyntaf yr erthygl hon.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ceir copïau o dri rhifyn cyntaf Cylchgrawn Heddlu De Cymru ar gyfer 1970 yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DSWP/50/1.

Pandas ar Strydoedd De Cymru: Cwnstablaeth De Cymru newydd a grëwyd ym 1969

Dyma’r ail erthygl allan o dair sy’n edrych ar sut y crëwyd Cwnstablaeth newydd De Cymru gan gyfuno heddluoedd Morgannwg, Caerdydd, Merthyr ac Abertawe. Pwyslais yr erthygl gyntaf oedd lansiad yr heddlu ar 1 Mehefin 1969. Yn yr ail un rydym yn edrych ar yr heddlu newydd ‘modern’ a ffurfiwyd 50 mlynedd yn ôl. Cymerwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ar gyfer yr erthygl o Adroddiadau Blynyddol y Prif Arolygydd a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac yn enwedig yr adroddiad ar gyfer 1969-70 (ref.: DSWP/16/2). Mae gan Archifau Morgannwg hefyd gasgliad sylweddol o ffotograffau o waith yr heddlu o’r cyfnod hwnnw.

Daeth Cwnstablaeth De Cymru â’r pedwar heddlu, Caerdydd, Morgannwg, Merthyr ac Abertawe, at ei gilydd gydag ychydig iawn o newid yn nifer gyffredinol y swyddogion. Daeth  mwyafrif y lluoedd newydd, rhyw 1300 o swyddogion o gyfanswm o 2391, o Gwnstablaeth Morgannwg. Yr heddlu lleiaf cyn eu huno oedd Merthyr gyda 141 o swyddogion ac yna Abertawe a Chaerdydd. Mae hyn yn swnio fel nifer sylweddol ac yn wir, roedd y Gwnstablaeth yn un o’r rhai mwyaf y wlad. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan y Prif Gwnstabl newydd, golyga hyn mai dim ond un swyddog oedd i bob 500 o bobl yn ardal y gwnstablaeth.

Bu arwyddion eisoes bod yr heddlu newydd ‘modern’ yn gweld newidiadau yn ei batrymau recriwtio traddodiadol. Er nad oeddent yn rhan gwbl integredig o’r heddlu tan ar ôl y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ym 1975, roedd swyddogion benywaidd wedi cael eu cyflogi erbyn 1969 bron ym mhob agwedd ar waith yr heddlu, o’r adran lifrau i’r Adran Archwilio Troseddau, yr Adran Traffig, y Gangen Arbennig a’r Uned Gyffuriau. Fodd bynnag, dim ond 65 o swyddogion benywaidd oedd wedi eu cyflogi, sef 3% o gyfanswm y cyflogeion. Mewn meysydd eraill roedd y swyddi sifilaidd yn tyfu’n gyflym gyda chyfanswm o oddeutu 500 wedi eu cyflogi yng Nghwnstablaeth De Cymru. Tra bod y mwyafrif wedi eu cyflogi mewn swyddi clercaidd, roedd swyddogion sifilaidd yn cael eu cyflogi mewn swyddi ehangach ar y strydoedd gyda 69 o wardeiniaid traffig, a’r tu ôl i’r llenni mewn swyddi cynnal a chadw cerbydau a wneir gan staff sifilaidd.

Roedd yr adroddiad yn manylu ar nifer y cerbydau a’r gwaith o’u cynnal a chadw. I ryw raddau, roedd hyn yn dangos bod dulliau’r heddlu yn newid wrth gyflwyno’r Arfer Plismona Strydoedd mewn Unedau. Yn unol â’r Argymhellion Cenedlaethol, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym 1967, roedd Plismona Strydoedd mewn Unedau yn annog heddluoedd i fuddsoddi mewn ceir a dyfeisiau radio personol i alluogi swyddogion i batrolio ac ymateb i alwadau gan y cyhoedd. Er y gostyngwyd nifer y swyddogion oedd yn patrolio ar droed oherwydd y dull hwn, mewn theori, ei nod oedd manteisio i’r eithaf ar dechnoleg newydd i blismona ardaloedd mawr. Erbyn diwedd 1969 roedd yr heddlu newydd yn berchen ar 459 o gerbydau, y dyrannwyd 160 ohonynt i’r wyth isadran ar gyfer Plismona Strydoedd mewn Unedau. Er bod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, roedd gan lawer o geir dechnoleg ddiwifr ac roedd swyddogion yn gallu manteisio ar 528 o radios personol.

Daeth peryglon hefyd o gyflwyno Plismona Strydoedd mewn Unedau. Bu cynnydd mawr yn nifer cerbydau’r heddlu mewn damweiniau ym 1969, gan gynnwys 93 o ddigwyddiadau gyda cheir Plismona Strydoedd mewn Unedau. Fel gwnaeth Melbourne Thomas gyfaddef:

Because of the rapid introduction of unit beat policing it was not possible to give every driver the full instruction which police drivers normally undergo to raise them to an above average standard…

Fodd bynnag rhoddodd sicrwydd i’r cyhoedd:

…no police officer was allowed to drive without a test to show that he was well capable of coping with normal traffic hazards.

Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad helaeth o ffotograffau o’r cyfnod hwn, gan gynnwys sawl llun o’r Morris Minors a oedd yn gefn asgwrn Plismona Strydoedd mewn Unedau yn ne Cymru. Cyfeirid atyn nhw fel Ceir Panda, er eu bod wedi eu paentio’n las golau a gwyn, a chyda thechnoleg ddiwifr daethant yn rhan nodweddiadol o blismona mewn llawer o ardaloedd.

DSWP-PH-TRA 051

DSWP-PH-TRA 052

Wrth fynd drwy’r adroddiad, roedd llawer o elfennau y gellir eu hystyried yn gyffredin erbyn hyn, ond ar y pryd roeddent yn ddatblygiadau newydd yng ngwaith yr heddlu ym 1969, gan gynnwys ymgyrchoedd i hyrwyddo gosod larymau byrgleriaid a chynnal seminarau atal troseddau.  Gwelwyd hefyd un neu ddau o’r hen ffefrynnau gan gynnwys y ‘Goleuwr sy’n Siarad’ a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgyrchoedd diogelwch ar y ffordd gyda phobl ifanc. Cyfeiriwyd atyn nhw weithiau fel ‘Billy neu ‘Bertie the Beacon’, ac roedd yr ymgyrch yn cynnwys goleuadau croesi gydag wynebau a thei bô yn aml oedd yn mynd ar ymweliadau ag ysgolion. Roedd llais wedi ei recordio gan Billy a oedd yn cynnig cymorth ar ddiogelwch ar y ffordd megis ‘Aros, edrych a gwrando cyn i ti groesi’r ffordd’. Yn ystod oes pan oedd robotiaid yn berchen i ffilmiau Hollywood yn bennaf, cafodd Billy ‘groeso brwd bob tro’.

Efallai bod agwedd arall o’r ‘datblygiadau newydd’ hefyd o bwys. Roedd ystadegau troseddau ym 1969 yn llawn categorïau traddodiadol megis ymosod, byrgleriaeth a lladrata. Er bod Uned Gyffuriau arbenigol yn rhan o’r heddlu newydd, yr unig gyfeiriad at waith yn y maes hwn oedd adroddiad bod dau gi’r heddlu wedi cwblhau hyfforddiant i ddarganfod resin canabis. Gwnaed hyn o bosib wrth edrych at y dyfodol oherwydd o fewn 12 mis y bu’r Prif Gwnstabl yn adrodd ei fod yn pryderu am …y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn enwedig ymysg y bobl ifanc…  Cafodd 274 o bobl eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ym 1970 ac arestiwyd 6 pherson yng Nghaerdydd am gynnal grŵp oedd yn mewnforio LSD a’i amnewid am resin canabis, ac felly roedd digon o reswm dros bryderon y Prif Gwnstabl i drefnu hyfforddiant i’r holl swyddogion mewn mynd i’r afael â throseddau cyffuriau.

Yn ystod 1969, daeth 11 o swyddogion o heddluoedd ar draws y byd – o Nigeria i Bahrain a’r Ynysoedd Solomon – i ymweld â Chwnstablaeth De Cymru. Nid oes cofnod o’u sylwadau. Ond heb os, buasai llawer i’w ystyried wrth i’r Gwnstablaeth newydd ymwreiddio ac addasu i’r newidiadau a’r heriau wrth Blismona De Cymru.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ceir copïau o Adroddiad Blynyddol y Prif Gwnstabl ar gyfer 1969 ac 1970 yn Archifau Morgannwg, cyf. DSWP/16/2.

A nawr mae’r pedwar ohonom yn un: Ffurfio Cwnstablaeth De Cymru, 1 Mehefin 1969

Fis Mehefin bydd hi’n hanner canrif ers ffurfio Cwnstablaeth De Cymru. Dyma’r cyntaf o dair erthygl yn edrych nôl ar hanes ffurfio’r gwnstablaeth a’i dyddiau cynnar. Mae’n tynnu ar gofnodion a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg gan gynnwys copïau o’r adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y Prif Gwnstabl.

Yn ôl unrhyw fesur roedd 1969 yn flwyddyn heriol i fynd ati i ad-drefnu’n sylweddol a chreu cwnstablaeth newydd allan o luoedd Morgannwg, Merthyr, Abertawe a Chaerdydd. Fel y noda adroddiad y Prif Arolygydd ar gyfer 1969-70, roedd 1969 yn flwyddyn heriol gyda’r angen i gyfrannu at blismona arwisgiad y Tywysog Charles a sawl ymweliad brenhinol â De Cymru. Ar ben hynny, roedd yr heddlu’n wynebu nifer o heriau difrifol gan gynnwys …ysgwyddo baich trwm y gwaith a’r ymchwiliadau i eithafiaeth Gymreig… law yn llaw â phlismona gweithgareddau gwrth-apartheid a gemau rygbi’r Springbok.

Roedd symud at luoedd mwy yn fenter a welwyd ar hyd Gwledydd Prydain yn dilyn argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Blismona ym 1960. Roedd y newidiadau yn Ne Cymru yn un rhan o’r jig-so â’r nod o leihau nifer y lluoedd ar draws y wlad o 117 i 43. Roedd y paratoadau ar gyfer Cwnstablaeth De Cymru wedi eu gwneud gan 13 gweithgor a grëwyd i edrych ar bob agwedd ar redeg y llu newydd. Mae cofnodion y gweithgorau wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg ac o’r dechrau deg roedd Prif Gwnstabliaid y pedwar llu yn cyfaddef, mewn llythyr ar y cyd a gyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 1967, na fyddai’r uniad yn boblogaidd mewn sawl cwr.

It is acknowledged that the process of amalgamation does not commend itself to all members of the regular forces and civilian staff affected. This we understand.

Serch hynny, byddai’r llu newydd, a oedd i wasanaethu bron i hanner cant y cant o boblogaeth Cymru, yn fwy effeithiol:

…providing greater resources and more modern equipment, transport and communication.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 1 Mai 1969, fis cyn lansio’r Gwnstablaeth, ysgrifennodd y darpar Brif Gwnstabl, Melbourne Thomas, at ei staff unwaith yn rhagor gan gyfaddef:

…there will undoubtedly be many initial problems and difficulties, but with the co-operation and combined effort of all members we can overcome them… In the whole of Great Britain there are only six provincial forces with responsibility for a greater number of people and the merger is taking place in an atmosphere of economic restraint with restrictions on manpower, and at a time when the structure of the police service is subject to tremendous change in both the administrative and operational fields.

 

Chief Constable Melbourne Thomas

Prif Gwnstabl Melbourne Thomas

 

Fel modd o esmwytháu y pontio fe geisiodd roi sicrwydd i swyddogion na fyddai gofyn iddynt symud fel rhan o’r ad-drefnu, ac:

there will be a substantial number of promotions in the new force and I want to stress that these will be on merit with no regard being paid to which of the constituent forces the officers belonged.

Ni wnaeth y llythyr grybwyll yr anghytuno a fu’n amgylchynu pen llanw’r trefniadau ar gyfer y llu newydd ac, ar brydiau, a fu’n fygythiad i’r broses gyfan. Yn naturiol, gyda sefydliad a fyddai’n cynnwys bron i 3,000 o swyddogion heddlu a staff sifil ledled De Cymru, roedd cwestiynau yn codi yn ymwneud â sicrwydd swyddi, adleoli a rhagolygon dyrchafiad. Ar ben hynny, fel y dangosodd dadleuon yn y Senedd yn ystod mis Mawrth 1969, roedd y frwydr hefyd yn cynnwys pryderon am golli heddluoedd fel Merthyr oedd a hunaniaeth leol gref ac ymrafael nôl a blaen dros leoliad pencadlys yr heddlu newydd. Er bod llawer, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, Jim Callaghan, wedi dadlau’r achos dros Gaerdydd a’i bencadlys newydd modern ym Mharc Cathays, yn y pen draw, Pen-y-bont oedd y dewis, sef cartref heddlu Morgannwg a’r mwyaf o’r 4 llu.

DSWP-PH-TRA-19

Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

Does dim syndod felly fod lansiad Cwnstablaeth De Cymru ar 1 Mehefin 1969, i’r rhan fwyaf o bobl, yn ddigwyddiad tawel. Cyfyngwyd adroddiad yn y Western Mail i erthygl fer ar y tudalennau mewnol. Dywedodd y Prif Gwnstabl, Melbourne Thomas, yn syml:

I have taken the view that there is no funeral and that the good spirit existing in the four forces will be carried forward into the new force (Western Mail, 1 Mehefin 1969).

Ac felly profwyd. Yn yr adroddiad blynyddol a gynhyrchwyd ym mis Ionawr 1970, dadleuodd y Prif Gwnstabl fod llawer o’r heriau a wynebwyd ym 1969 wedi helpu i ddod a’r llu newydd ynghyd:

The early jointure of the members of the forces in duties for Investiture of HRH The Prince of Wales and the Royal Progress precipitated the business of working together for the whole force. Demonstrations at football matches continued the acceleration of getting to know one another. Social exchanges added to the integration the amalgamation must gain if the desired benefits are to be secured.

Tra bod anawsterau yn parhau gyda diffyg niferoedd a’r gallu i symud staff wedi ei gyfyngu, daeth Melbourne Thomas i’r casgliad:

…the new force was launched and is progressing daily towards the integration and efficiency desired from amalgamation. Twelve months from now it will be possible to look at the progress made from a much better perspective point.

Y prawf pennaf mae’n debyg oedd agwedd aelodau Cwnstablaeth newydd De Cymru. Gwelwyd tua 350 yn ymddeol neu’n ymddiswyddo yn ystod 1968 a 1969 – lawer yn uwch na’r cyfartaledd. Un o’r datblygiadau cyntaf oedd cynhyrchu’r Police Magazine ar gyfer y gwnstablaeth. Nid yn unig ei fod yn cynnig newyddion am newidiadau staff a digwyddiadau cymdeithasol, ond roedd hefyd yn fforwm i gyfnewid ystod o farn am yr uno.  Roedd rhifyn ym 1970 yn cynnwys y gerdd ganlynol, a ysgrifennwyd gan ‘152G’, sydd efallai yn crynhoi’r agwedd ‘bwrw iddi’ ar draws y llu.

Poem

To some it brought promotion

A move they did not want?

For others, no commotion

But don’t give up and daunt

 

We’ve had it now for many a day

And things are settling down

For those who sighed are heard to say

“I was too quick to frown”

 

And now we four are joined as one

To form a brand new force

A good beginning has begun

We are the best, of course.

 

So let us make our motto

“Forever we are best”

Until the day we have got to

Amalgamate with the rest

[Cymerwyd o South Wales Police Magazine, Hydref 1970, t73 (DSWP/52/1)].

Nid oedd casgliad Melbourne Thomas felly ar ddiwedd 1969, bod …y teimlad cyffredinol o gynnydd bellach yn galonogol… , yn bell o’r nod. Roedd Cwnstablaeth De Cymru, er yr heriau o sawl cyfeiriad, bellach a’i draed danno.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gellir dod o hyd i gofnodion ar ffurfio Heddlu De Cymru yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys adroddiad y Prif Gwnstabl ar gyfer 1969-1970 (DSWP/16/2). Mae’r llythyron o’r Prif Gwnstabliaid yn DSWP/29/7 (26 Mehefin 1967) a DSWP/29/7 (1 Mai 1969). Ceir copïau cynnar o Gylchgrawn Heddlu De Cymru yn DSWP/52/1. Mae copïau o’r Western Mail ar gyfer y cyfnod, gan gynnwys yr erthygl ar ffurfio Heddlu De Cymru ar 1 Mehefin 1969, ar gael yn Llyfrgell Treftadaeth Cathays.

 

JP yr Ail yn trosi mwy na JPR: Ymweliad Pab Ioan Pawl yr Ail â Chaerdydd ym Mehefin 1982

Mae’n 35 mlynedd ers i Bab Ioan Pawl yr Ail ymweld â Chaerdydd. Roedd ‘na dorfeydd enfawr ar strydoedd y ddinas ac yn y digwyddiadau awyr-agored yng Nghaeau Pontcanna a Pharc Ninian ar ddiwrnod yr ymweliad, 2 Mehefin 1982. Roedd ‘na groeso Cymreig wrth i gôr ganu “We’ll keep a welcome” pan laniodd awyren y Pab ym Maes Awyr Y Rhws fel y’i gelwid ar y pryd, ac ym Mhontcanna gwelwyd baneri â’r geiriau “JP II converts more than JPR”.

Pope at Rhoose 1

Ceir hanes ymweliad y Pab yng nghofnodion Heddlu De Cymru yn Archifau Morgannwg. Yn y flwyddyn flaenorol cafwyd ymgais i ddienyddio’r Pab yn Sgwâr San Pedr, Rhufain, ac roedd y misoedd yn arwain at yr ymweliad yn llawn tensiwn yn sgil Rhyfel y Falklands a galwad y Pab am gadoediad.  Tasg yr Heddlu felly oedd gwarchod y Pab a rheoli’r torfeydd o 500,000 yr oedd disgwyl iddyn nhw gyrraedd Caerdydd ar 2 Mehefin 1982.

Fel y gellid dychmygu, rhaid oedd cynllunio’n drylwyr ac yn fanwl mewn partneriaeth â heddluoedd cyfagos a thimau arbenigol amrywiol, gan gynnwys tîm diogelwch personol y Pab, Heddlu Llundain a Chorfflu Ordnans y Fyddin Frenhinol.  Parhaodd y gwaith trefnu am gyfnod o sawl mis, ac ar ei ddiwedd lluniwyd saith o orchmynion gweithredu manwl sydd i’w gweld bellach yn Archifau Morgannwg.

Operational Order

Mae’r Gorchmynion yn cwmpasu bron i bob agwedd o ymweliad y Pab, o’r funud y cyrhaeddodd Faes Awyr y Rhws am 9.05 ar 2 Mehefin i’r funud y gadawodd naw awr yn ddiweddarach am 18.15. Roedd yn ymarferiad cymhleth, nid yn unig yn ymwneud â diogelwch ond hefyd â rheoli’r traffig, gyda chanol y ddinas ar gau i bob pwrpas am y dydd. Rhaid oedd cytuno â’r wasg a’r cyfryngau ynglŷn â lle i’w lleoli nhw a’u camerâu, a threfnu miloedd o stiwardiaid a wirfoddolodd i weithio yn y digwyddiadau ym Mhontcanna a Pharc Ninian.   Fel y nodwyd yng ngorchmynion yr heddlu ar gyfer y diwrnod:

The security arrangements have had to be tailored to the possibility, however remote, of someone wishing to attack the Pontiff. There may also be attempts to disrupt the visit by demonstrations, hoax bomb calls etc.

The eyes of the world through national and international television will be upon us and we must endeavour to excel ourselves in out turnout, dress and deportment on the day.

Amcangyfrifwyd y byddai angen bron i 2,500 o swyddogion heddlu i blismona’r digwyddiad, gyda Heddlu De Cymru yn cael cymorth 600 o swyddogion o heddluoedd Dyfed Powys a Gwent, gyda chymorth ychwanegol gan Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon.

Control Room 1

Control Room 2

Ar 2 Mehefin, toc wedi hanner nos, caewyd canol y ddinas i gerbydau gan yr heddlu.  Gan weithio gyda staff yr awdurdod lleol agorwyd pump o feysydd parcio ar gyrion Caerdydd, gydag arwyddion ar y prif ffyrdd i mewn.  Defnyddiwyd bysiau gwennol i symud ymwelwyr i mewn ac allan o ganol y ddinas.  Yn ychwanegol at hyn, trefnwyd bod Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn rheoli llif yr ymwelwyr i Gaerdydd ar y trên.  Roedd hyn yn dasg sylweddol.  Roedd y prif orsafoedd yn Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog wedi arfer delio â thua 14,000 o deithwyr yn cyrraedd y ddinas yn ddyddiol, ond rhagwelwyd y gallai’r ffigwr hwn chwyddo i gymaint â 120,000 ar 2 Mehefin. Efallai gyda’u tafod yn eu boch, awgrymwyd y gallai’r rhai hynny oedd yn teithio o Fryste hwylio ar y Waverley i Benarth i guro’r traffig.  Nid yn annisgwyl, penderfynodd nifer o fusnesau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau gau am y dydd, yn wyneb y posibilrwydd o dagfeydd a threnau gorlawn.

Er i Faes Awyr Y Rhws aros yn agored drwy’r dydd i ganiatáu i awyrennau hedfan yn ôl yr amserlen, caeodd Heddlu De Cymru y ffin o amgylch y maes awyr i bob pwrpas o 4am ymlaen, gyda phob un oedd yn cyrraedd neu adael yn cael ei chwilio.  Nodwyd yn y gorchmynion i’r heddlu yn y maes awyr:

Your responsibility is to ensure the safe arrival and departure from Cardiff Wales Airport of His Holiness Pope John Paul II. In addition, you have an obligation to the air flight passengers to ensure that the hindrance to them is of the minimum to ensure the safety of His Holiness.

At 4.00am on Wednesday 2nd June 1982 officers of the E Division CID will commence a search and seal operation. They will be assisted by Bomb Disposal officers and police dogs and handlers….The operation must be completed by 6.00am when the full security operation will come into force.

Y disgwyl oedd y byddai’r Pab yn y maes awyr am gyn lleied â chwarter awr cyn hedfan mewn hofrennydd i Blackweir yng nghwmni’r Prif Gwnstabl.  Fodd bynnag, rhaid oedd glynu at fesurau diogelwch llym drwy gydol y dydd, a threfniadau wrth gefn yn eu lle i ddelio ag unrhyw ddigwyddiad posib.  Er enghraifft, roedd 12 plismon ar gefn beiciau modur yn aros i hebrwng y Pab o’r maes awyr os fyddai’r tywydd yn rhy wael i’r hofrennydd hedfan.

Pope at Rhoose 2

Pope at Rhoose 3

Ar ôl cyrraedd Blackweir teithiodd y Pab yn un o ddau ‘Popemobile’ a ddefnyddiwyd ar y diwrnod, dros bont Bailey i’r offeren awyr agored ym Mhontcanna.  Roedd rheoli’r digwyddiad yma gyda’r dorf ddisgwyliedig o 350,000 yn her anferthol.  Fel y dengys y cofnodion, roedd yr heddlu wedi briffio a gweithio mewn partneriaeth â’r 5,000 o stiwardiaid gwirfoddol gafodd eu recriwtio ar gyfer y diwrnod.  Unwaith eto, roedd Heddlu’r De wedi cau’r safle am hanner nos a doedd yr un garreg heb ei throi, wrth i blismyn fod ar eu gwyliadwriaeth ym Mhontcanna o’r bore bach.  Ar ben hyn bu nofwyr tanddaearol yn edrych o dan y bont Bailey a’r pontydd codi dros ffos y castell.  Bu cŵn yr heddlu yn chwilio’r safle am ffrwydron, gyda chymorth Corfflu Ordnans y Fyddin Frenhinol os oedd angen.

Pontcanna Mass

Roedd trefniadau yn eu lle ynglŷn â sut i reoli’r tyrfaoedd yn yr Offeren, ond roedd pryder yn amlwg am faint y dorf enfawr mewn ardal gyfyngedig ag iddi afon ar un ochr.  Yn wreiddiol roedd rhaid cael tocyn mynediad i fynychu, ond rhoddwyd gorau i’r syniad. Rhaid oedd i bawb oedd am fynychu fod yn eu lleoedd erbyn 08.30, gyda phawb yn cael eu rhoi mewn ‘corlan’ iddyn nhw gael gweld y Pab wrth iddo gael ei yrru o gwmpas y safle.  Wedi cyrraedd y llwyfan canolog, â’i garped o liwiau’r Babaeth, anerchodd y Pab y dorf a rhoi cymundeb i 30 o blant a 70 o unigolion dethol eraill.  Ar yr un pryd bu 800 o offeiriaid yn offrymu’r cymun i’r dorf. Nodwyd yn y cynlluniau:

… it is necessary to be particularly vigilant to stop persons transferring from one corral to another.

Another consideration is the possibility of hysteria being engendered and/or a sudden surge by a section of the crowd. Stewards have been asked to look for early signs and to promote a calm situation. Police officers also have their responsibility.

The anticipated influx of a tremendous number of people prior and during the visit may provide a lucrative market for pickpockets and the opportunist criminal.

Er mwyn sicrhau y byddai modd ymateb i unrhyw ddigwyddiad posib, bu’r Heddlu yn gweithio ochr yn ochr â bron i 800 o staff meddygol a chymorth cyntaf, a bu tîm achub bywyd yn cadw llygad ar lannau’r afon.

Cyfrifoldeb Heddlu De Cymru hefyd oedd penderfynu ar nifer y newyddiadurwyr, ac o ble y bydden nhw’n  adrodd ar y digwyddiad.  HTV oedd yn ffilmio’r offeren ym Mhontcanna, gyda’r BBC yn gosod eu camerâu ar fannau penodol fel y Central Hotel, Ysgol Gynradd Parc Ninian a gorsaf fysiau Sloper Road, er mwyn ffilmio’r modurgad ar hyd y ffyrdd.  Bu 800 o weithwyr y cyfryngau yn bresennol yn yr Offeren awyr agored a’r cinio yn y Castell, lle derbyniodd y Pab Ryddfraint y Ddinas.  Yn ogystal â chytuno ar safleoedd y camerâu, hwylusodd yr heddlu drefniadau cymhleth iawn yn ôl safonau heddiw, i gludo’r ffilm o Gastell Caerdydd i’r papurau newydd.

…film taken during and after the ceremony can be quickly taken to motor cycle dispatch riders positioned outside the castle grounds. These films will then be taken to Thomson House (Western Mail and Echo) for developing, printing and wiring locally, nationally and internationally. It is proposed that …runners be positioned below the bay windows so that films which will be in pre-addressed envelopes can be dropped out to them for immediate despatch.

Pope at Cardiff Castle

Gadawodd y Pab y Castell ar hyd y ffordd i fynychu rali yn llawn 35,000 o bobl ifanc, a drefnwyd gan y mudiad ieuenctid Catholig, ar gae pêl-droed Dinas Caerdydd ym Mharc Ninian. Yn y stadiwm anerchodd y Pab y dorf o lwyfan gafodd ei adeiladu o flaen y prif eisteddle, cyn gyrru o amgylch y cae yn ei Popemobile.

Ninian Park

Daeth yr ymweliad i ben gyda modurgad arall o’r stadiwm i Faes Awyr y Rhws.  Mae’n debyg mai rheoli’r modurgadau oedd yn teithio ar gyflymder o ddeng milltir yr awr drwy’r strydoedd, oedd elfen fwyaf heriol yr holl ymweliad. Ar gyfer y ddwy daith defnyddiodd y Pab yr ail o’r ddau ‘Popemobile’ sef Land Rover agored wedi’i addasu.

Pope Mobile 2

 

The Papal entourage will leave the Castle by the main entrance into Castle Street. The Pontiff will travel in vehicle (RR1). As well as the escort vehicles in the procession a motorcycle escort of twelve outriders will be provided. The procession will travel at a speed of 10mph (distance approximately two and quarter miles). Uniformed personnel lining the route will ensure that the cavalcade is unobstructed. It is anticipated that many people will line the route and that many thousands will converge from the Pontcanna Mass area. Arrangements will be made to barrier certain sections of the route for crowd control purposes.

Roedd dros 600 o swyddogion ar hyd y llwybr o’r Castell drwy ganol y ddinas i’r stadiwm ac yna o Barc Ninian yn ôl i’r Rhws.  Roedd y gorchmynion gweithredol yn nodi’r canlynol:

Helmets, best uniform and gannex coats (if necessary) are to be worn. If the weather is suitable, the Chief Constable may authorise short sleeve order which will apply to all officers. Officers should be prepared for this contingency.

Meals will not be provided. Sufficient packed food should be carried to provide at least a 12 hour tour of duty.

Police officers involved in these duties will face the crowds and maintain constant observation to ensure the safety of the Pontiff. Police duty will take precedence over the saluting or standing to attention.

Bu swyddogion CID yn cefnogi’r timau o blismyn mewn lifrai:

Detectives will position themselves at the rear of the crowd and endeavour to identify any security risk. They will also direct their observations to premises on the opposite side of the road, overlooking the route. Any suspicious activities are to be communicated to Base Control.

Ond dim ond darn bach iawn o’r gwaith oedd hyn. Cyn yr ymweliad roedd swyddogion wedi ymweld â phob eiddo ar hyd llwybr y daith i ddarganfod a oedd un wedi newid dwylo’n ddiweddar, neu a oedd rhywrai wedi rhentu ystafelloedd neu adeiladau gyda golygfa o’r daith.  Yn ychwanegol, ar fore’r ymweliad cafodd y pontydd ar Heol Penarth a Phont Trelái ar Ffordd y Bont-faen eu harchwilio am ffrwydron.

Nid yn annisgwyl, ychydig o fanylion sydd yn y cofnodion am drefniadau diogelwch y modurgadau nad oedd mor amlwg i’r llygad.  Drwy gydol y dydd bu Heddlu De Cymru yn gweithio ochr yn ochr â gwarchodwyr personol y Pab ac Uned Warchod Agos Heddlu Llundain.  Hefyd roedd gan yr Heddlu blismyn arfog mewn mannau allweddol gan gynnwys Y Rhws a Phontcanna.   Ymdoddi i’r dorf oedd y gorchymyn i’r plismyn hynny oedd ar ddyletswydd yn Y Rhws.

The nominated officers will take up their designated positions at 6.00am and will work a two hours on and two hours off shift. They will be in possession of their rifles and binoculars. They will draw from the store flat caps (traffic style) and will wear police issue uniform. Under no circumstances will they expose their weapons to the public or media unless there is a need for their use. They will give to the public and the media the appearance of observers. Their principal task is to locate and prevent intrusion, by unauthorised persons, onto the Airport.

Yr eitem olaf ar y rhestr o orchmynion gweithredol oedd cynllun i osod tîm camera ar y llain lanio yn Y Rhws i ffilmio awyren y Pab yn gadael am 18.15.

Fel y mae’r papurau newydd yn cofnodi, cyrhaeddodd y Pab Gaerdydd ar 2 Mehefin i haul gwresog a chroeso twymgalon. Roedd maint y dorf yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd a thorrwyd ar draws y digwyddiad gan storom fer tua hanner dydd.  Er gwaethaf hynny, bu’r diwrnod yn llwyddiant. Daeth dros 100,000 i’r Offeren yng nghaeau Pontcanna a 35,000 o bobl ifanc i weld y Pab ym Mharc Ninian.  Roedd y strydoedd yn llawn pobl drwy gydol yr ymweliad, yn awyddus i weld y Pab wrth iddo yrru drwy’r ddinas cyn gadael am y maes awyr.

Pope Mobile

Amcangyfrifwyd bod cost plismona’r digwyddiad tua £600 mil.  Bu rhai yn y wasg leol yn yr wythnosau i ddilyn yn cwestiynu maint y paratoi gan yr heddlu o gofio’r niferoedd a ddaeth i’r digwyddiad.  Mae’n debygol fodd bynnag, y gellir crynhoi ymateb yr Heddlu yn y dyfyniad hwn yn y South Wales Echo drannoeth ar 3 Mehefin 1982:

A South Wales police spokesman said the operation went very smoothly and he gave a pat on the back to the huge crowds for good behaviour.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

I haeddu dyrchafiad dim ond bod yn sylwgar, deallus a sobor sydd raid: Cyfarwyddiadau ar gyfer Heddlu Sir Morgannwg, 1841

Ym mis Tachwedd 1841, wrth i Heddlu Morgannwg fentro allan i faes y gad am y tro cyntaf, rhoddwyd copi o’r Instructions for the Glamorganshire Constabulary Force i bob un ohonynt. Yn dri deg tri tudalen o hyd ac wedi’i argraffu fel ei fod yn ffitio’n dwt mewn poced, roedd y llyfryn yn rhoi ‘cyfarwyddiadau’ ar gyfer pob un o’r tair rheng – uwch-arolygydd, siarsiant a chwnstabl. Mae copi o’r llyfryn gwreiddiol ar gael yn Archifau Morgannwg. Mae’n ddiddorol iawn gan ei fod yn dweud wrthym am ddyddiau cynnar plismona a’r newidiadau yng nghymdeithas yn sgil diwydiannu.

instructions_edited

Mae llawer iawn o’r llyfryn yn cynnwys cyngor syml i Gwnstabliaid, gyda phwyslais ar y gobaith o gael dyrchafiad am wneud gwaith da.

…to merit promotion it is only necessary to be attentive, intelligent and sober. Diligence is always in his power; the necessary intelligence is easily acquired; and to be sober requires only that firm resolution never to enter a public house, or accept liquor from any person whomsoever.

Roedd meddwdod yn amlwg yn bryder mawr, a dywedwyd wrth y pedwar Uwch-arolygydd bod rhaid iddynt sicrhau bod pob tafarnwr yn gwybod bod ….. rhoi lloches i Blismyn yn ystod oriau gwaith….  yn drosedd. O’r dechrau, dywedodd y Capten Charles Napier, y Prif Gwnstabl, y byddai cwnstabliaid sy’n cael eu dal yn feddw ar ddyletswydd yn cael eu diswyddo ar unwaith.

Nothing denigrates a Police Officer so much as drunkenness, nothing is so soon observed by the public, and nothing exalts the character of a Constable so much as the steady and uniform refusal of liquor when offered to him, even with those who at the moment may be offended at his determination.

Hefyd, dywedwyd wrth y cwnstabliaid y byddent yn wynebu sarhad a chythruddion niferus ac na ddylent byth ddangos…. dig na gwylltineb… a chydnabod bod y fath bethau’n rhan o’r swydd.

When a Constable exhibits good temper he will never want either the approbation or the assistance of every respectable spectator. On the contrary, any want of temper is almost certain to expose him to disapprobation and insult, and must deprive him of that presence of mind which is so essential for his own protection and the reputation of the Service.

Wrth edrych ar y rhestr o droseddau yr oedd rhaid i’r Cwnstabliaid ddelio â nhw, mae’r rhan fwyaf yr un mor berthnasol heddiw, gan gynnwys llofruddiaeth, torri i mewn i dai, lladrad, ymosod a derbyn nwyddau wedi’u dwyn. Fodd bynnag, roedd nifer ohonynt yn nodweddiadol o’r oes, ac yn adlewyrchiad o gymdeithas yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Er enghraifft, roedd y rhestr o is-ddeddfau yn cynnwys gweithgareddau a oedd yn destun cosb:

No swine sty or privy to be emptied, or night soil, etc to be removed except between 12 at night and 5 in the morning….

No cattle to be slaughtered or dressed in any street….

Blacksmiths and persons using a forge and having a door or opening to the front of any street to have the same closed within half an hour after sunset, to prevent the light shining upon the street….

No person to shoe, bleed or farry any horse or cattle in any street except in case of accident.

Er syndod efallai, roedd y rhestr yn cynnwys:

No carriage to be washed or repaired in any street, except in case of accidents.

Dyma gyfnod cythrwfl Merched Beca a rhybuddiwyd Cwnstabliaid bod troseddau yr ystyrid yn ffeloniaeth yn cynnwys:

Maliciously throwing down any toll-bar or fence that belonging to any turnpike gate.

Hefyd, nid oedd yn rhywbeth anghyffredin mewn ardaloedd arfordirol i longau gael eu denu ar y creigiau fel y gellid eu hysbeilio a dywedwyd wrth y Cwnstabliaid i chwilio am unrhyw un:

Exhibiting any false light with intent to  bring any ship into danger, or maliciously doing anything tending to the destruction of any vessel in distress, or any goods belonging thereto, or impeding any person endeavouring to save his life from such ship or vessel.

Roedd y pwyslais ar fod yn drwsiadus bob amser, ac roedd y Cwnstabliaid yn gwisgo siacedi glas â chynffon gwennol arnynt a llodrau gwyn yn yr haf. Eto mae’n rhaid bod cynnal y safonau yn dipyn o her ar brydiau, o ystyried bod:

If it rains the Constable on duty must keep clear the eyes of the sewers.

Byddai strydoedd trefi mawrion wedi bod yn wahanol iawn yn y 1840au ac mae rhyw syniad o’r ffordd y byddent yn edrych i’w gael yn y canllaw ar ‘Dyletswydd Dydd’:

He is to remove all nuisances, prevent the foot-walk from being obstructed in any way whatever, and either drive away, or take away into custody, all beggars, ballad singers, oyster sellers and persons selling fruit or other articles in baskets.

Roedd yr heddlu hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddelio a thanau. Y cwnstabliaid oedd yn gyfrifol am seinio rhybudd a hefyd am roi gwybod i’r orsaf dân.

If he has to run and feels tired, he is to send forward a fresh Constable when about half way; but still he is to keep on his course as fast as possible, lest the message should miscarry.

Roedd hefyd cyfarwyddiadau penodol ar beth y dylid ei achub:

If it is a counting house or warehouse the first things to be saved are the books and papers.

Does dim dwywaith, fodd bynnag, mai’r her sylweddol a wynebai’r heddlu newydd oedd plismona’r trefi diwydiannol yn Ne Cymru a oedd yn ehangu’n gyflym. O’r 34 sarsiant a chwnstabl a recriwtiwyd gan Heddlu Morgannwg ym 1841, anfonwyd 12 i weithio yn ardal Merthyr Tudful a oedd yn golygu bod yr ardaloedd gwledig, fel y dywedodd Napier ei hun, yn brin o blismyn. Yn sgil y cyfleoedd i gael gwaith yn y pyllau glo a ffowndrïau haearn, roedd trefi megis Merthyr wedi gweld eu poblogaeth yn cynyddu yn gyflym dros ben. Roedd yr Heddlu Morgannwg newydd yn wynebu her ddyddiol o ran sicrhau cyfraith a threfn mewn trefi prysur lle roedd y boblogaeth wedi bod yn gweithio’n galed, ond roedd alcohol yn rhad ac yn hawdd ei gael. Roedd y cyngor o ran delio a meddwdod yn rhyfeddol o ysgafn.

Although a Constable is always to act with firmness, he is never to interfere needlessly. When a drunken man is making his way home quietly, he is to let him pass on without speaking to him; if he is disorderly, he is to speak mildly and friendly to him, and persuade him to go home; if he needs assistance he is to help him; if he requires protection, he is to pass him without murmuring to the next Constable, who is to pass him in the same manner to the next, and so on till he is conveyed home.   

When he finds a person lying stupidly drunk he is to arouse him without any violence or uproar; if he can tell him where he lives, he is to be conveyed home; if not he is to be carried to the station.

Er bod anhrefn yn bennaf gysylltiedig â dynion, roedd llawer o ferched a merched ifanc yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau newydd a rhybuddiwyd Cwnstabliaid y byddai’n rhaid iddynt ddelio â merched meddw neu ffraegar:

With disorderly women the Constable is to hold no communication of any sort, or under any pretence whatever. He must behave towards them with a determined sternness of manner, and never allow them to gather in crowds or on his beat, to create a noise, or to interrupt persons as they pass. By compelling them to keep moving quietly along much trouble will be avoided; and keeping them as much as possible off the streets altogether after twelve o clock at night, not only much disorder but many robberies will be prevented, for they not only rob gentlemen and drunken men themselves, but serve as an excuse for professional thieves lurking about, to plan and commit robberies. If all his stern vigilance cannot control them, he is, whenever they behave riotously or indecently, or quarrel with each other, to take them into custody, and book them for the offence of which they are guilty, and for no other.

Nodwyd eisoes bod rhai ardaloedd yn y trefi hyn lle’r oedd rhaid i’r heddlu fod yn ofalus, ac roedd y llyfryn yn cynnwys yr adran benodol hon ‘Affrays and Riots at Night’.

… when there is a serious affray or dangerous riot, he is to apprehend all persons so offending, particularly the ringleaders. As the Police are obnoxious to such parties, individual Constables must be cautious how they interfere. In most cases they had better spring their rattle, and collect assistance; then rush forward resolutely and keep together until the crowd have dispersed.

Roedd hwn yn gyngor cadarn i Gwnstabliaid gyda dim ond pastynau a chario ratl i alw am gymorth.   Daw’r llyfryn i ben gyda chyngor i Gwnstabliaid ar gyflwyno tystiolaeth gerbron yr Ynadon.

When called on, he must state his charge clearly and candidly, in as few words as possible, introducing nothing that does not bear on the charge. He must not introduce any ‘says he’, and ‘says I’, but simply state the bare facts of the case, concealing nothing that makes for or against the prisoner. When the Magistrate asks a question, the answer is to be prompt and plain, without disguise or circumlocution. He is, whilst he is before the Court, to stand up in his place, with his hands quietly by his sides.

Felly, gyda’u gwisgoedd newydd a’u llyfr poced dechreuodd dynion Heddlu Morgannwg eu swyddi newydd ym mis Tachwedd 1841. Defnyddiwyd y canllawiau yn effeithiol, fel y dangoswyd yn achos datrys byrgleriaeth Ynys Las ym mis Rhagfyr 1841, dim ond un o’r miloedd o droseddau i’w datrys gan yr heddlu dros y 175 mlynedd nesaf.

Mae copi o’r llyfr Instructions for the Glamorganshire Constabulary Force, (London, Clowes and Sons, 14 Charing Cross, 1841) ar gael yn Archifau Morgannwg, cyf: DCON38.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Lladrad Haerllug: Yr achos mawr cyntaf i Heddlu Morgannwg

Ymhlith y papurau sydd yn Archifau Morgannwg mae copi o gofnod a ysgrifennodd Uwch-Arolygydd Davies o Heddlu Morgannwg yn 1844. Roedd y fersiwn derfynol yn amlwg am gael ei phasio i ‘Arglwyddi’r Trysorlys’, yn nodi manylion trosedd a ddatryswyd gan Heddlu Morgannwg ac yn gofyn a ellid rhoi gwobr o £50 i ddau heddwas o Ranbarth Merthyr. Yr hyn sy’n rhyfedd yw, er bod y drafft a’r ohebiaeth sydd ynghlwm ag ef wedi eu dyddio yn 1844, cyflawnwyd y drosedd ei hun ym mis Tachwedd 1841.

Tyngodd aelodau cyntaf Heddlu Morgannwg eu llw i’r gwasanaeth ar 23 Hydref 1841. Cawsant wedyn gyfnod o hyfforddiant sylfaenol ym Mhen-y-bont cyn cael eu rhannu rhwng y pedwar rhanbarth ar ddiwedd trydedd wythnos mis Tachwedd. Os mai felly y bu, yna’r drosedd a nodwyd yn y cofnod, trosedd a gyflawnwyd ar noson 23 Tachwedd 1841, fyddai un o’r troseddau mawr cyntaf i’r heddlu fynd i’r afael â nhw.

Ar fore 24 Tachwedd 1841 galwyd y Rhingyll Evan Davies a’r Cwnstabl John Millward o Heddlu Morgannwg i Ynislaes, tŷ ger Aberpergwm i ymchwilio i ladrad. Tyngodd Davies a Millward eu llw i’r heddlu ar 23 Hydref. Cyfeiriodd adroddiad papur newydd ar y pryd at y ddau fel aelodau o Heddlu Newydd Merthyr. Mae hyn bron yn sicr yn gyfeiriad at yr Uwch-Arolygydd a’r 12 cwnstabl a rhingylliaid a neilltuwyd gan Heddlu Morgannwg i ardal Merthyr ym Mis Tachwedd 1841.

Roedd yn lladrad hynod o fentrus, er bod perchnogion y tŷ, Miss Elizabeth Ann Williams a Miss Maria Jane Williams, i ffwrdd yn Llundain; roedd y dihirod wedi dal gwn at y staff yn y nos ac wedi lladrata. Adroddwyd am y lladrad yn eang yn y papurau gan gynnwys yr adroddiad canlynol a gyhoeddwyd ar 27 Tachwedd:

On Wednesday morning last, between four and five o’clock, two men with their faces chalked , entered the house of the Misses Williams near Aberpergwm, and proceeding to the servants’ bedroom, one of them presented a double barrel gun at the terrified girls, and declared that if they made the least noise “Death should be their portion”. They then demanded to be shown where the money was kept and the poor girls were forced to accompany them through the different rooms of the house; but after a fruitless search, and money appearing to be their only object, they departed without committing any further outrage [Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian, 27 Tachwedd 1841].

Er nad oedd y lladron wedi dod o hyd i arian, roeddent wedi llwyddo i fynd ag ystod o nwyddau. Fodd bynnag, roedd nifer o bobl wedi eu gweld wrth iddynt ddianc a llwyddodd Davies a Millward i fynd ar eu holau.

…they traced the villains to Hirwain, where two men answering the description were seen about half past seven o’clock the same morning; they also ascertained that they were seen passing through Aberdare towards Mountain Ash about nine o’clock in the morning. Here they lost all clue to them, but we trust they will not long elude the hand of justice [Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian, 27 Tachwedd 1841].

Yn yr wythnosau canlynol daeth Millward a Davies o hyd i dystion eraill, gan gynnwys Mary Richards, a ddywedodd ei bod wedi clywed dau letywr yn nhŷ ei brawd yn holi ynghylch perchnogion Ynislaes ac a oedd yn debygol bod arian yno.  Ar 19 Rhagfyr arestiwyd dau ddyn gan y Rhingyll Evan Davies ym Merthyr: John Rogers, crud 43 oed a Thomas Rees, 28 oed. Roedd y gwn yn dal yn eu meddiant a nifer o’r eitemau a gymeront o Ynislaes gan gynnwys thermomedr, clustog pinnau ac acordion y daethpwyd o hyd iddo yng nghartref Rogers y tu ôl i’r silff ben tân. Adnabuwyd yr eitemau gan un o’r perchnogion, Miss Maria Williams, a chadarnhaodd y morynion mai Rees a Rogers oedd y lladron.

Ym mrawdlys Morgannwg ym mis Mawrth 1842, cafwyd Rogers a Rees yn euog a’u dedfrydu i’w trawsgludo am bymtheng mlynedd.  Rhoddodd y cogydd yn Ynislaes, Caroline West, adroddiad lliwgar llawn o’r lladrad i’r llys.

One of the men after coming into the bedroom pointed a gun at me and said “No more noise or death will be your portion.” Thomas Rees did that. The gun was close to my head. Hannah Jones begged of him not to kill me. Soon after I went downstairs and I saw Thomas Rees unlock the door of the bedroom and go into it. I said “I will ring the bell for master” and the other one said “Come, come let us go”. That was before they went down stairs. I opened the window and screamed “Murder”. The housemaid was so much frightened that she wanted to jump through the window [The Welshman, 4 Mawrth 1842].

Roedd agwedd lem gan y llys at ladrad arfog. Llwyddodd Rees a Rogers i osgoi cael eu trosgludo am weddill eu bywydau, cosb a ystyriodd y barnwr y buasai’n …gosb waeth na dienyddio oherwydd y byddech yn treulio gweddill eich dyddiau fel caethweision – mewn trallod…., oherwydd nad oedd eu hymddygiad ….wedi cynnwys trais tuag at y merched. [The Welshman, 4 Mawrth 1842].

Denodd yr achos mawr wobr o £50. Er y datryswyd yr achos pan gafwyd Rogers a Rees yn euog ym mis Mawrth 1842, mae’n anodd egluro pam y bu oedi am ddwy flynedd cyn y gwnaed cais i hawlio’r wobr ariannol. Fodd bynnag, mae cofnod bod John Nichol, fel AS Caerdydd a Chadeirydd llysoedd Chwarter Morgannwg, wedi ysgrifennu at y Trysorlys ar 18 Ionawr 1844 yn holi am y taliad i Millward a Davies:

…a reward of £50 offered by the Government in December 1841 to any person who should give such information and evidence as should lead to the discovery and conviction of the persons who had committed a daring act of burglary… [Llythyr wrth John Nicholl at Jas Graham Bart, 18 Ionawr 1844 a’r ateb 24 Ionawr 1844, cyf.: DMM/CO/71].

Er i Nichol atodi llythyr yn cefnogi’r cais gan Brif Gwnstabl Morgannwg, Charles Napier, gofynnwyd iddo ddarparu mwy o dystiolaeth.

Y mis canlynol anfonodd Napier gofnod yr Uwch-Arolygydd Davies ymlaen, sef pennaeth rhanbarth Merthyr o Heddlu Morgannwg, i gefnogi’r cais. Mae modd gweld yr ohebiaeth yma yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys copi o’r cofnod oedd fwy na thebyg yn agos at fod yn ddrafft terfynol [cyf.: DMM/CO/71].

copy-memorial_edited

That about the end of December 1841 John Millward in conjunction with Police Sergeant Evan Davies apprehended Jno Rogers and Tho Rees for the same burglary on which charge they were committed for trial at the then next assizes for Glamorganshire.

That the said Jno Rogers and Tho Rees were …convicted of the same offence chiefly upon the evidence of John Millard and Sergeant Evans Davies who had both found some of the stolen articles in the possession of each of the prisoners and were sentenced to 15 year transportation.

…pray that your lordships will be pleased to direct the immediate payment of the said reward of £50.

Ar y pwynt hwn fodd bynnag mae’r trywydd yn mynd yn oer. Mae llythyr pellach a’r un olaf gan Napier i John Nichol, ar 8 Mawrth 1844, yn cadarnhau fod y cofnod wedi ei yrru ar 16 Chwefror ond yn nodi:

…as no reply has yet been received, I beg to solicit your assistance in obtaining an answer to the application [Charles Napier at John Nichol, 8 Mawrth 1844, cyf.: DMM/CO/71].

Mae’n bosib efallai i Millward ac Evans dderbyn y £50 – swm sylweddol yn y dyddiau hynny. Beth bynnag fu’r canlyniad, does dim dwywaith, wedi datrys achos lladrad Ynislaes o fewn dyddiau i gael eu rhoi ar waith, roedd Heddlu Morgannwg yn gwneud eu marc ar y llwyfan lleol a chenedlaethol.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 

Byddaf yn gwirioneddol wasanaethu’n dda ein Harglwyddes Sofran y Frenhines a swydd Cwnstabl Sir Forgannwg: Ffurfio Cwnstabliaeth Morgannwg yn 1841

Mae Cwnstabliaeth Morgannwg yn dathlu pen-blwydd ei ffurfio 175 o flynyddoedd yn ôl yn 2016. Mae llawer o’r papurau sy’n ymwneud â sefydlu’r llu a’i hanes hir i’w cael yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn  rhoi cipolwg fanwl i ni ar ffurfio a datblygiad y llu ers 1841, ac yn agor cil y drws ar fywyd yn ne Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif.

Mae’n destun dadl pa bryd yn union y ffurfiwyd y gwnstabliaeth. Gellid dadlau iddi gael ei ffurfio adeg penodi’r Prif Gwnstabl cyntaf, Charles Frederick Napier, ar 11 Awst 1841. Yn fwy tebygol efallai ffurfiwyd y llu wrth i’r criw cyntaf o recriwtiaid dyngu llw yn Neuadd y Dref Pen-y-bont ar Ogwr ar 23 Hydref 1841. Mae’r dogfennau gwreiddiol ddefnyddiwyd yn y seremoni tyngu llw i’w cael yn Archifau Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd i weinyddu’r llw ei hun a chofnodi llofnodion y recriwtiaid.  Goruchwyliwyd y seremoni gan y Prif Gwnstabl, Capten Charles Napier, y pedwar Uwch-arolygydd oedd newydd eu penodi ac ynadon lleol. Byddai’r ddogfen wedi cael ei rhoi i bob dyn yn ei dro oedd wedyn yn gorfod tyngu llw, gan nodi ei enw ar y llinell gyntaf.

oath

I … do swear that I will well and truly serve our Sovereign Lady the Queen and the office of the Constable for the County of Glamorgan according to the best of my skill and knowledge. So keep me God [cyf.: DCON/Box26b].

Roedd pob dyn wedyn yn llofnodi’r cofnod. Er i Napier lwyddo i sicrhau cyllid i gyflogi 34 o Ringylliaid a Chwnstabliaid, dim ond 30 oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw ac fe gwblhawyd y llu yn llawn pan dyngodd mwy o recriwtiaid a chofnodi eu henwau ar yr un ddogfen dros yr wythnosau dilynol. Gan i’r recriwtiaid lofnodi eu henwau, yn hytrach na rhoi marc yn unig, oedd yn arfer cyffredin y dyddiau hynny, awgryma hynny bod ganddynt sgiliau darllen ac ysgrifennu elfennol. Mae’r cofnod hefyd wedi ei lofnodi gan Napier a’r pedwar uwch-arolygydd; Lewis,Davies, Leveson-Gower a Peake, fwy na thebyg ar 19 Hydref, 4 diwrnod cyn seremoni Pen-Y-Bont Ar Ogwr.

Tybir nad oes cofnod ffotograffig o’r seremoni wedi goroesi. Fodd bynnag, mae’n rhesymol tybio y byddai’r 30 gŵr wedi bod yn grŵp trawiadol o ystyried bod y recriwtio wedi tynnu ar gyn-filwyr oedd yn gyfarwydd â drilio milwrol.  Mae nifer o ffotograffau gan Archifau Morgannwg o aelodau Cwnstabliaeth Morgannwg yn y cyfnod hwn [cyf. DXDG4-6] ac mae’n bosib bod un o’r ffotograffau, o’r Cwnstabl Thomas Thomas, yr un Thomas Thomas a dyngodd lw ac a lofnododd ei enw ar 23 Hydref [cyf. DXDG4].

dxdg4

Mae’r ffotograff yn dangos Thomas yn gwisgo siaced las gynffon gwennol â gwregys gyda botymau arian boglynnog iddi. Mae coler uchel hefyd i’r siaced, gyda rhif y cwnstabl wedi ei frodio arno mewn arian. Dangosir Thomas yn dal yr het sidan beipen stôf wedi ei hatgyfnerthu ag ategion metal  i roi mwy o amddiffyniad. Er nad yw wedi ei ddangos yn y ffotograff, byddai wedi gwisgo trywsus glas tywyll ac esgidiau mawr yn y gaeaf a thrywsus gwyn yn yr haf. Hwn oedd lifrai safonol Cwnstabliaeth Morgannwg am y ddegawd nesaf tan y disodlwyd y got gynffon gwennol, oedd ag iddi boced gudd yn y gynffon i guddio pastwn y cwnstabl, gan ffrog-côt.

Mae’n bosib taw’r eithriad y diwrnod hwnnw ym mis Hydref 1841 oedd y chwech o ddynion, dan arweiniad yr Uwch-arolygydd Thomas Morgan Lewis, gynt o’r llu a roddwyd i blismona cantrefi Caerffili Isaf a Meisgyn Isaf.  Bu Lewis yn gwasanaethu yn y Coldstream Guards ac roedd wedi seilio’r lifrai a roddwyd i’w ddynion ar ddyluniadau milwrol. Mae’n bosib, felly, ei fod ef a’i ddynion yn dal i ddefnyddio’r lifrai gwreiddiol a gyflwynwyd gan Lewis a’i ddisgrifio fel:

…swallow tail coats … of bright pilot blue, while the turned back sleeve cuffs and the embroidered crown and number on each side of the deep colour were a vivid scarlet [E R Baker, The Beginnings of the Glamorgan County Police Force, The Glamorgan Historian, Cyf.2, t.40-52].

Roedd y 23ain o Hydref yn ddiwrnod arwyddocaol i’r Prif Gwnstabl, er y byddai mis arall yn pasio cyn y byddai’n fodlon fod ei ddynion wedi eu hyfforddi’n addas a’r offer ganddynt i ymgymryd â’u dyletswyddau dros y sir.

Mae manylion penodiad Napier a’r cynllun ar gyfer sefydlu Cwnstabliaeth Morgannwg wedi eu cadw yng nghofnodion Sesiynau Chwarterol Cyffredinol y Llys ar gyfer sir Forgannwg.

Captain Charles Frederick Napier, now of the Rifle Brigade, after a consideration of the Testimonials of the several Candidates having been unanimously selected by them, as the most eligible person  to be appointed Chief Constable of this County – be elected to that Office [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Mercher 11 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Mae’n bosib na fu hwn yn benderfyniad hawdd achos mae bron yn sicr fod Thomas Morgan Lewis wedi taflu ei het i’r sgwâr ac fe ymgeisiodd sawl cyn swyddog milwrol yn gyhoeddus iawn am y swydd. Ar un ystyr roedd y penderfyniad i greu llu sirol yn ddatblygiad naturiol ar y grymoedd a roddwyd dan Ddeddf Heddlu Sirol 1839 i greu ac ariannu llu o’r fath. Fodd bynnag, mae angen gosod y penderfyniad hefyd yng nghyd-destun cynnydd sydyn yn y boblogaeth mewn rhannau o dde Cymru, a yrrwyd gan yr angen am ddynion ifanc yn y diwydiannau newydd ac yn benodol, y diwydiannau haearn a glo. Ar yr adeg, roedd plismona yn dod dan adain yr ynadon lleol ac wedi ei reoli gan benderfyniadau wnaed gan yr ynadon sirol yn y Sesiynau Chwarter. Roedd yr ynadon yn gwerthfawrogi’r angen am lu i blismona er mwyn cadw cyfraith a threfn mewn ardaloedd fel Merthyr, lle roedd y boblogaeth yn tyfu ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen. Roeddent hefyd yn bryderus iawn am yr anrhefn posib a’r her i’r drefn oedd ohoni gan fudiadau newydd, ac yn benodol y Siartwyr, oedd yn ymgyrchu dros hawliau sylfaenol i’r gweithiwr.

Does dim dwywaith fod mudiad y Siartwyr yn cael ei ystyried y pryd hwn yn fygythiad gwirioneddol yn ne Cymru. Er enghraifft, mae cofnod o gyfarfod yr ynadon ym Merthyr ar 2 Hydref 1840 yn tanlinellu’r pryder a fodolai ynghylch bygythiad y Siartwyr ac yn annog sefydlu Bwrdd Ynadon:

…for the purpose of communicating with the Lord Lieutenant and through him the Government upon the subject of the preservation of the peace of this place and for the adoption of such measures as circumstances may require for the suppression of Chartism.

Roedd pryder penodol bod achos y Siartwyr yn cael ei hyrwyddo mewn cyfarfodydd cudd a gynhaliwyd ledled yr ardal a thrwy bamffledi a ddosbarthwyd i bobl leol.

Deputies, delegates from the North occasionally are attending these meetings and are believed to be at present in this neighbourhood and Duke’sTown. Meetings are held nightly. That unstamped periodicals are circulating to considerable extent and that it is desirable that the matter contained in them should be brought under the consideration of the Government as it is the opinion of the Board that the statements therein are highly mischievous and dangerous to the public peace [Cyfarfod yr Ynadon ym Merthyr Tudful yn y Castle Inn, Merthyr Tudful, Hydref 12 1840, cyf.: DMM/CO/71].

Erbyn canol y 1830au, roedd nifer o ardaloedd, gan gynnwys Merthyr, Pen-Y-Bont Ar Ogwr ac Aberafan wedi dechrau penodi eu lluoedd plismona eu hunain. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth, yn wyneb pwysau o’r fath, nad oedd y patrymau traddodiadol o blismona drwy benodi un dyn bob blwyddyn ym mhob plwyf fel cwnstabl lleol di-dâl ddim bellach yn ddigonol i fynd i’r afael â’r straen oedd ar gymdeithas yn sgil diwydiannu a bod llafur yn mudo. I ariannu’r llu newydd roedd yr Ynadon sirol wedi cytuno y gellid ….codi Treth Plismona o £800 yn Ardaloedd y Sir at ddibenion yr Heddlu. Serch hynny, er gwaetha’r gydnabyddiaeth am yr angen i gael llu penodol i blismona, byddai hyn wedi bod yn fater dadleuol o ystyried  yr amharodrwydd cyffredinol i osod trethi newydd. Yn benodol, roedd ardaloedd gwledig yn gweld hyn fel treth a osodwyd arnynt i ariannu plismona yn y trefi newydd oedd yn ehangu’n gyflym. Fel y gellid dychmygu, roedd Napier yn gweld y swm fel y lleiafswm isaf posib o ystyried yr angen i sefydlu a rhoi’r offer angenrheidiol i lu newydd. Roedd e hefyd yn awyddus i sicrhau bod rhyddid ganddo i reoli’r llu o ddydd i ddydd. I’r perwyl hwn, cytunwyd:

…the value and usefulness of the Force, must necessarily depend on the cordial co-operation of the Magistrates, with, and their full confidence in the Chief Constable; their total abstinence from all interference in recommending the appointment or dismissal of Individuals as Constables – his selection of the places as which they shall be fixed – his internal arrangement, or any other matter which the Legislature has committed to his charge [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Mercher 11 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Wedi cwblhau taith o’r sir, cyflwynodd Napier ei adroddiad cyntaf i’r Cyfarfodydd Sesiwn Chwarter ar 30 Awst 1841:

I propose the force be divided into three Classes viz Sergeants or First Class at 22s; Second Class at 20s: Third Class at 18s; the numbers would be Sergeants, Eleven; Second Class, Eleven; Third Class, Twelve [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Roedd creu dau radd o gwnstabl yn gam a gymerwyd gan Napier yn benodol i ledu’r gyllideb ymhellach a chynyddu nifer y dynion y gallai alw arnynt. Ar ben hynny, awgrymodd Napier y dylid rhannu’r sir yn bedair ardal – Merthyr, Trecelyn, Abertawe ac Ogwr. Does dim dwywaith ei fod yn ymwybodol iawn  lle’r oedd yr her fwyaf i’w lu a rhoddwyd 12 o’i 34 o ddynion i edrych ar ôl Merthyr, gan adael lluoedd teneuach yn yr ardaloedd eraill. Tanlinellodd hefyd gyflwr gwael ac, mewn ambell achos, ddiffyg llwyr yn yr adeiladau oedd ar gael i’w ddynion. Roedd rhan ganolog o’i gynnig yn ymwneud felly â’r angen i godi gorsafoedd a chelloedd ym mhob ardal.

Mae’r cynigion ar gyfer pob rhanbarth yn rhoi cipolwg ddefnyddiol i ni ar gyflwr hap a damwain y trefniadau plismona a etifeddwyd gan Napier, a’r her oedd yn wynebu’r Gwnstabliaeth newydd ym Morgannwg. Er enghraifft, wrth gyfeirio at Ferthyr, rhoddodd wybod i’r Cyfarfodydd Sesiwn Chwarter:

I have inspected the Cells at present in use in Merthyr and found them totally unfit for the reception of Prisoners, indeed so much so, that Magistrates find it necessary to place prisoners at Public Houses, in charge of a Constable, at a considerable additional expense to the County [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Roedd sefyllfa debyg yn ardal Trecelyn:

In erecting a station house I would advise that apartments be provided for the Constable there stationed, with three Cells for Prisoners. At present there is no lock up house at this place. I consider Cells necessary for the security of Prisoners, as there is considerable risk in the present method of confining them at the private dwelling of the Constable.

I would recommend the erection of suitable lock up houses at Llantrisant and Caerphilly – the present Cells at these places are of the worst possible descriptions.

Roedd ei gynnig ar gyfer Abertawe yn dangos pa mor denau yr oedd yn gorfod taenu ei adnoddau. Dim ond Uwch-arolygydd, rhingyll a 5 swyddog oedd ar gael i’r ardal hon, gyda’r flaenoriaeth ar gyfer y rhannau mwyaf di-drefn a chan adeiladu partneriaethau â lluoedd plismona eraill yn yr ardal:

I think Pontardawe the most central part for the Residence of the Superintendent. The force allotted to this District, I consider small. I have placed the Constables where crime is most to be apprehended; and to the neglect of the Western Agricultural portion of the District, to which I should have assigned another Constable had the number permitted.

On visiting Ystradgunlais my attention was drawn to the Twrch Valley where are located a considerable population reported to be of lawless character.

I should suggest that an arrangement should be entered into with the Magistrates of the County of Brecon, in order that the whole of the Vale of Twrch, may be under the charge of the constable stationed in that quarter – the County boundary affording facilities for the escape of delinquents.

The only lock up houses in the district are at Aberavon and Cwmavon which have been erected by private subscription and I have no doubt would be given up for the purposes of the Force….

I would recommend that a suitable Station house be erected at Pontardawe.

I find that there is a Police Force established along the line of the Swansea Canal who are paid by the Committee of Traders. I think it highly desirable that this force should co-operate with the men under my charge, and by doing so, a mutual advantage would be derived [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Mae’r ffaith y derbyniwyd ei argymhelliad o ran nifer y dynion ac adeiladu gorsafoedd heddlu newydd heb unrhyw amod yn tanlinellu’r graddau y gwelai’r ynadon y llu newydd yn anhepgor mewn cyfnod o ddiwydiannu aruthrol.  Ar ôl cwblhau’r seremoni i dyngu llw, Wyrcws Pen-y-bont Ar Ogwr oedd cartref y llu, lle y derbynion nhw gyfnod o hyfforddiant sylfaenol. Felly dim ond yn ail hanner mis Tachwedd 1841 yr ymgymerodd Cwnstabliaeth newydd Morgannwg â’i dyletswyddau yn y rhanbarth, gan weithio mae’n siŵr o adeiladau dros dro neu rai a fodolai eisoes wrth ddisgwyl am yr adeiladau newydd. Wedi dweud hynny, roedd yn dipyn o gamp i greu a rhoi llu plismona newydd ar waith mewn ychydig fisoedd yn unig, ac roedd Cwnstabliaeth Morgannwg yn fuan iawn yn y newyddion cenedlaethol yn sgil ei lwyddiant yn datrys sawl achos blaenllaw.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg.