Ymhlith y dogfennau a gedwir yn Archifau Morgannwg sy’n rhoi manylion am brofiadau milwyr Morgannwg ar y ffrynt mae llythyrau yn anfon cyfarchion Nadolig i deulu a chyfeillion yn ôl gartref.
Mae nifer yng Nghofnodion Aneddiadau Prifysgol Caerdydd. Sefydlwyd Anheddiad y brifysgol ym 1901 gan grŵp o staff academaidd ym Mhrifysgol Coleg Caerdydd. Roeddent am wella amodau cymdeithasol yn ardaloedd tlotaf Caerdydd drwy wneud gwaith cymdeithasol yn y cymunedau hyn, gan sefydlu pencadlys yn Sblot.
Roedd yr Anheddiad wedi’i rannu’n bedwar clwb gwahanol: clybiau Bechgyn, Merched, Menywod a Dynion. Pan ddechreuodd y rhyfel ym 1914, ymrestrodd nifer o’r bechgyn ac fe’u hanfonwyd i frwydro ar y ffrynt, yn Ffrainc a Gwlad Belg. Cadwodd nifer mewn cysylltiad â Mr a Mrs Lewis, cwpl a oedd yn gwneud llawer i’r Anheddiad.
Gohebodd Mr a Mrs Lewis ag aelodau Clwb Bechgyn Anheddiad y Brifysgol a wasanaethai’n y lluoedd arfog gydol y rhyfel, gan anfon llythyrau a pharseli a derbyn llythyrau hefyd. Anfonodd teulu’r Lewis barseli Nadolig i’r bechgyn bob blwyddyn, gyda nifer yn ysgrifennu’n ôl i’w diolch am eu haelioni.
Ysgrifenna John Childs: ‘I received the parsel alright and was very please with it. I hope that all the members enjoyed their Christmas as I am please to say I enjoyed mine… Remember me to all the members wishing them a happy New Year and may the war soon be over’.
Ar 15 Rhagfyr 1915, cafodd Mr Lewis lythyr gan James Hawkey, a oedd ar y Ffrynt. Eto, mae’n diolch iddynt am eu caredigrwydd wrth anfon parsel Nadolig, gan eu sicrhau ei fod wedi cyrraedd yn ddiogel, gan ddweud: ‘…I am in the pink and quite comfortable considering the circumstances’.
Y mae’n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i phawb, a gorffen gyda: ‘P.S. If I get a chance I will send at least one Christmas card…’.
Ceisiodd y Gyrrwr A, Morgan ymdrechu i ysgrifennu neges o ddiolch am ei barsel Nadolig ar 20 Ionawr 1917, er gwaetha’r ffaith nad yw’n un am ysgrifennu: ‘…I cannot write a letter to save my life. It is not in my line’.
Hefyd, ysgrifennodd James Reece i ddiolch i Mr Lewis ac aelodau’r Clwb am ei barsel: ‘…the contents were just what I required and please thank the members of the club on my behalf for what they have done for us chaps out here’; ac ysgrifenna’r Taniwr C. Upcott: ‘I do not know how much to thank you for your kindest’.
Yn amlwg, roedd y parseli Nadolig o’r Anheddiad yn rhai yr oedd y bechgyn yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn, nid yn unig am eu cynnwys ond y caredigrwydd a’r dymuniadau da yr oeddent yn eu cynrychioli.
Mae un darn o ohebiaeth Nadoligaidd yn hynod unigryw: cerdyn post gan D. McDonald, aelod o glwb y Bechgyn, a oedd yn gwasanaethu yn y Fyddin yn ystod y rhyfel.
Dengys faneri cynghreiriaid y Rhyfel Byd Cyntaf – Gwlad Belg, Ffrainc, y DU a Rwsia – wedi’u cydblethu ag ysgawen a’r geiriau Nadolig Llawen. Fe’i gwnaed â llaw ar ddarn o fesh sidan. Cafodd y math hwn o gardiau post eu cynhyrchu gan ffoaduriaid benywaidd o Ffrainc a Gwlad Belg a oedd yn gweithio mewn gwersylloedd ffoaduriaid a thai dros dro yn bennaf. Anfonwyd y brodwaith i ffatrïoedd i’w dorri a’i roi ar gerdyn. Roedd y cardiau post hyn yn boblogaidd tu hwnt ymhlith milwyr Prydeinig ar ddyletswydd yn Ffrainc, gan eu bod yn anrhegion cystal i’r rhai oedd yn eu derbyn. Mae darn canol y brodwaith wedi’i dorri fel fflap, gyda cherdyn cyfarch bach oddi tano yn dweud ‘I’m thinking of you’.
Ar gefn y cerdyn mae’r neges: ‘From D MacDonald to Mr and Mrs Lewis and wishing you a prosperous New Year’. Does stamp ar y cerdyn, gan y byddai wedi’i anfon drwy bost milwrol, a oedd am ddim.
Erbyn diwedd y rhyfel bu’n amhosibl ailgydio ar weithgareddau Anheddiad y Brifysgol, gan fod cynifer o’r aelodau wedi’u gwasgaru. Daethpwyd â Chwmni Anheddiad y Brifysgol i ben yn ffurfiol ym 1924.
Nid oes gan Archifau Morgannwg fwy o ohebiaeth gan fechgyn Anheddiad y Brifysgol ar ôl y rhyfel. Wyddom ni ddim a oeddent wedi goroesi, neu a ddychwelon nhw i Gaerdydd.