Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.
Archwiliadau Meddygol Gweithwyr Anafedig
Ochr yn ochr â’r cofrestri damweiniau ac iawndal cyffredinol, mae nifer o gyfrolau bach yn cofnodi archwiliadau meddygol gweithwyr anafedig. Daw’r ddelwedd isod o gyfrol sy’n cofnodi Archwiliadau Meddygol Gweithwyr Anafedig ac yn dyddio o fis Tachwedd 1924 tan fis Tachwedd 1943 (D1400/1/1/11).
Mae’r cofnodion a geir yn y cyfrolau fel arfer yn nodi enw’r person a anafwyd, ei gyfeiriad, dyddiad y ddamwain a ffi feddygol. Nid ydynt bob amser yn nodi natur yr anafiadau y maent yn eu harchwilio ond mae’r cyfrolau yn gofnod buddiol o’r gweithdrefnau a ddilynwyd gan y glofeydd wrth ddelio â gweithwyr anafedig.
Sylwch gall mynediad at ddeunyddiau llai na 100 mlwydd oed fod yn gyfyngedig.