Dyddiaduron Henry Fothergill: Cysylltiadau Llafur a Streic Aberdâr 1861

Mae’n anodd i ni heddiw werthfawrogi’n llawn rym perchnogion glo a haearn De Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd llawer yn ymddwyn fel arglwyddi maenorol a phob gweithred o’u heiddo yn effeithio ar fywydau eu gweithwyr – cyflogaeth, tai, cynhaliaeth ac iechyd. Fodd bynnag, doedd bod yn berchennog ar, a rhedeg gwaith haearn ddim i’r gwangalon – roedd gofyn am grebwyll busnes cryf, nerfau o ddur, gallu technegol ac enw da yn y gymdeithas i allu llwyddo.  A llawer o gyfalaf. Roedd elw anferth yn barod ar eich cyfer os oeddech yn ddigon cyfoethog, yn ddigon didrugaredd a digon dewr i oroesi troeon bywyd yn y fasnach haearn.

Mae dyddiaduron cynnar Henry (1860-64) yn rhoi golwg unigryw i ni ar ei berthynas â’i weithwyr, gan roi disgrifiad cyfredol o anghydfodau diwydiannol ar ddechrau’r 1860au o safbwynt y meistr haearn.

I feistr haearn yn cyflogi niferoedd anferth o lowyr a gweithwyr haearn, roedd gostyngiadau bychan i gyflog unigolyn yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng elw (a difidendau i fuddsoddwyr awyddus) a cholled. Yn ddealladwy, roedd y rheiny a weithiai yn galed yn y pyllau a’r gwaith haearn, mewn amodau dychrynllyd am ychydig o gyflog, yn gwrthwynebu unrhyw doriadau mewn cyflog yn chwerw. Doedd y fasnach haearn ei hun, oedd yn enwog am ei natur anwadal lle byddai pris haearn yn amrywio yn ddramatig a sydyn, ddim yn helpu ‘r sefyllfa. Pan fyddai pris haearn yn uchel, disgwyliai’r gweithwyr dderbyn cyflogau uwch ond roeddent yn amharod i dderbyn gostyngiadau os oedd pris haearn yn disgyn unwaith eto. Roedd hyn yn gur pen i’r perchnogion oedd yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng disgwyliadau’r gweithwyr a rhai’r buddsoddwyr mewn economi ansicr – cur pen digon cyfarwydd i’r teulu Fothergill.

Mae adroddiadau papur newydd ar Derfysg Merthyr ym 1831 yn honni:

…they originated from a recent reduction in the men’s wages at Merthyr, arising from the depressed state of the Iron Trade, and from the pernicious and oppressive nature of the Truck Shops in the surrounding districts [The Cambrian, 11 Meh 1831].

Targedwyd ewythr Henry, Rowland Fothergill, a oedd bryd hynny yn bartner rheoli yng Nghwmni Haearn Aberdâr, gan y terfysgwyr a ruthrodd dros y bryn o Ferthyr i Abernant ac ysbeilio ei gartref:

…with clubs and menaces compelled him under penalty of his life, to sign a paper, stating that he had not declared that the miners of Mr. Crawshay were getting 5s. per week more than his own [The Cambrian, 11 Meh 1831].

Gyda thwf diweddarach y Siartwyr ac undebau llafur daeth anghydfodau a streiciau yn fyw cyfarwydd. Yn ddealladwy efallai, doedd Rowland Fothergill ddim yn goddef cynhyrfwyr gwleidyddol.  Ysgrifennodd The Welshman, 8 Gorff 1842, Some of the leading men from the Aberdare Iron Works, connected with the Chartists, have been dismissed from works in consequence of their political views. The Distress everywhere is great.

Dyma fwrw ymlaen i fis Ionawr 1860, pan ddechreuodd dyddiaduron Henry. Roedd estyniad ac adnewyddiad Richard, brawd Henry, o Dŷ Abernant bron wedi ei gwblhau, a Henry ei hun yn symud i’w gartref newydd Canal House yng Nghwmbach, Aberdâr.

Does dim rhaid i ni ddarllen yn hir yn y dyddiadur cyntaf [D553/1] i ddod o hyd i natur ddidostur Henry:

p43_edited

t.43, Thu 12 Jul 1860, The 2nd Heaters in no 1 mill standing out because I make them turn the piles twice properly so I stopped the mill for rest of week and shall send all the Puddled Iron to Taff Vale.

p44_edited 

t. 44, Mon 16 July 1860, By first train to Aberdare mill men wanting to work again, won’t let them begin yet as a slight punishment

p84-part1_edited

p84-part2_edited

t.84, Thu 13 Dec 1860, Called on James 8 a.m. about a man trying to obtain money from me in the County Court under plea of my having hit him which I did do with a good will as he was neglecting his work, after breakfasting Edwards and James went with me to see Rees of the County Court and left the matter of the lad in his hands to compromise the matter and so end it.

p120_edited

t.120, Thu 25 Apr 1861, …caught a puddler stealing a long puddled Bar from Railway. Collared him and made him beg to pay and have stopped against him 20/- for the trick.

Ym mis Ionawr 1861, mae Henry yn cwyno am ddirywiad yn y farchnad. Erbyn Ebrill, mae’r gweithwyr yn poeni am doriadau yn eu cyflogau ac yn grac am fod y teulu Fothergill yn parhau i weithredu’r system Tryc, er iddyn nhw gael eu dirwyo yn drwm am wneud hynny ddeng mlynedd ynghynt.

Gyda streic gostus ar y gorwel, mae Richard Fothergill, brawd Henry, yn ceisio ymgynghreirio â meistri haearn eraill Cymru i osod lefel cyflog is ar draws gweithfeydd haearn De Cymru. Roedd yn awyddus i weithwyr weld eu hunain yn cael eu trin yn hafal, yn enwedig yng nghymoedd Merthyr ac Aberdâr, er mwyn osgoi anghydfodau.

Mae Casgliad Cwmni Haearn Dowlais yn cynnwys gohebiaeth rhwng Richard Fothergill a George Clark, rheolwr Dowlais.

16 Ebr 1861 – Richard Fothergill i Clark [DG/C/5/9/2]:

I am favoured with your letter of yesterday and note all your remarks. I quite agree with you in your opinion of the Trades and also that the selling price of Iron must leave a loss in the manufacture only to be mitigated by a reduction in the rate paid for labour: a readjustment of wages such as you and I have discussed would sensibly relieve cost, for owing to the improved appliances of the day and the changed system of manufacture that obtains; the Firemen generally are in receipt of wages preposterously in excess of the other classes of workmen, who ought also though “to take” (as you most properly urge) their share in the distress……

Individually I am old fashioned enough to think a good deal of a sovereign spent in vain, it is therefore to my mind very trying to see so many of my hard earned sovereigns swilled away each Pay Saturday, and though our Wages account of £3,000 a week looks small alongside your operations; 20 percent in Firemen and 10 percent with Colliers and others would save us upwards of £20,000 a year.

Mae ymdrechion Richard yn methu – all y meistri haearn ddim cytuno a ddylai’r gostyngiad fod yn weithredol ar gyflogau’r glowyr yn ogystal â’r gweithwyr haearn ac mae’r gweithwyr yn mynd ar streic [D553/1].

t.119, Tues 23-Wed 24 Apr 1861, To Cardiff, I mean Merthyr, with A Hankey & arranged with Menelaus of Dowlais to give notice of a reduction generally!!!

t.127, Tues 7 May 1861, Mill going badly short of men.           

p131_edited

t.131, Wed 29 May 1861, Message sent over – Rhymney etc, would only reduce 10% forges and mills our men all out still.

p132_edited

t.132, Mon 3 June 1861, Aberdare – heap of puddlers round me at my office wanting discharges, I refused to give them.

p133_edited

t.133, Thu 6 June 1861, Telegraph from Richard to blow out remainder furnaces which is consequently being done No 2 Abernant is now going out only two will then be left and those are at Aberdare.

p134_extract-1_edited

t.134, Fri 7 June 1861, Wrote to Rich asking consent to light should the men wish to work (Puddlers).

p134_extract-2_edited

t.134, Sat 8 June 1861, Meeting with James in office, after discussion gave orders to Evan Evans to blow out No 2 Aberdare immediately- Puddlers being still stubborn.

p134_extract-3_edited

t.134, Mon 10 June 1861, Showery- Train to Aberdare – called at James in James’ office No2 furnace now out therefore only 1 furnace out of the six is now in blast which is No1 Aberdare mill men at Taff Vale.

p135_edited

t.135, Wednesday 12 June 1861, …out in works about 2 o’clock –“very slow” – nothing going on except gradually blowing out the blast furnaces and sending off coal for sale….

p136_edited

t.136, Thursday 13 June 1861, walked to Eaglesbush [home of the Miers family]….A splendid, Lobster, Ham Strawberries etc for breakfast.

p137_edited

t.137, Friday 14 June 1861, …deputation of Puddlers wanting to work again “but on their own Terms” – I refused to entertain the idea.

p139_edited

t.139, Wednesday 19 June 1861, Telegram from Richard – “start one” forge and only one, and keep furnace at Llwydcoed ‘in’….Arranged with John Evans to light mills at No 3 forge tonight.

p139_extract2_edited

t.139, Thursday 20 June 1861, Wrote to Richard in London. No 3 forges started 20 furnaces, and mill 4 on 2 Morayshire Rails slow.

p141_edited

t.141, Monday 24 June 1861, Started No 3 and 4 forges No 1 mill 6 on 3 –No 2 mill 2 on 1 saw Richard by the office.

p144_edited

t.144, Monday July 1 1861, To Abernant with Richard and I went through the various degrees of reduction with regard to the workmen.

t.145, Thursday July 4 1861, At the office went through the proposed different reductions with John Evans, in the works late in the evening.

Mae cofnod diweddarach yn y dyddiadur [D553/6] yn cadarnhau gelyniaeth Henry at yr Undebau:

p109_edited

t.109, 11 Mar 1864, In the mill at 9.30am trying a yield & pricing on the work, in one furnace especially (David Darby a lazy plotting “Union” man)

Mae’n anodd dod o hyd i enghraifft well o agwedd ffroenuchel Henry na’i ymffrost iddo fwyta cimwch, ham a mefus i frecwast tra bod ei weithwyr yn cael eu llwgu nes gorfod mynd nôl i’r gwaith.

Erbyn Hydref y flwyddyn honno, ymddengys fod pethau wedi tawelu. Roedd cyflogaeth dda i weithwyr ac roedd y mwyn haearn wedi’i brosesu yn dilyn cau gwaith haearn Hirwaun yn 1859. Ond ni pharodd yr heddwch yn hir ac fe effeithiwyd ar Gwmni Haearn Aberdâr ynghyd â nifer o byllau glo a gweithfeydd haearn eraill yng Nghymru gan streiciau am flynyddoedd i ddod.

Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 

Advertisements

Dyddiaduron Henry Fothergill: Arloesi ac Arbrofi

Mae’r dyddiaduron cynnar yn cynnwys adroddiadau cyfareddol o arbrofion Henry i gynhyrchu mwy o haearn o ansawdd addas ar gost is (roedd haearn yn cael ei raddio yn ôl ei safon gyda graddfeydd penodol ar gyfer nwyddau penodol). Roedd llwyddiant yn golygu elw uwch i’r cwmni, cymeradwyaeth ei frawd, Richard, a bonws cyflog haeddiannol. Treuliai Henry oriau hirion yn y gweithfeydd a’r melinau rholio yn ceisio lleihau unrhyw amhureddau yn yr haearn gorffenedig allasai gyfaddawdu ar nerth a/neu hydrinedd yr haearn.

Roedd y broses gwneud haearn yn dechrau gyda mwyndoddi’r deunyddiau crai – mwyn haearn, golosg a charreg galch – yn y ffwrnes chwyth. Dibynnai’r mwynfeydd haearn cynnar yng Nghymru ar fwyn haearn wedi ei gloddio yn lleol, math a elwid yn ‘rhubanddu’ (yn sylfaenol carreg mwyn haearn yn cynnwys glo), ond erbyn y 1860au daeth yn fwy cost effeithiol i fewnforio mwyn hematit o Cumbria neu Sbaen. Yn aml, cai mwyn hematit, oedd yn cynnwys mwy o fetel na’r rhubanddu, ei gynhesu yn absenoldeb awyr er mwyn tynnu unrhyw wlybaniaeth ac amhureddau anfetelaidd cyn mwyndoddi, proses a elwid yn ‘galchynnu’. Roedd calchynnu yn trawsnewid yr ocsid haearnaidd o fewn yr hematit yn ocsid fferrig, Fe2O3.

Byddai hematit a galchynwyd, golosg a charreg galch yn cael eu llwytho (‘tanio’) i dop y ffwrnes a’i gynhesu. Byddai peiriant a yrrwyd gan stêm yn tanio awyr boeth trwy dyllau ‘(tuyeres’) ger gwaelod y ffwrnes i gadw’r tymheredd a’r cyflenwad ocsigen. Byddai carbon monocsid (o’r golosg) yn lleihau’r ocsid fferrig (o’r hematit) i ffurfio haearn tawdd tra byddai amhureddau yn cyfuno â’r calsiwm carbonad (carreg galch) i greu slag oedd yn arnofio ar ben yr haearn. Gellid gyrru’r haearn hylif wedyn trwy dap i fowldiau a elwid yn foch.

Trawsffurfiwyd haearn crai yn haearn bwrw trwy ‘bwdlo’. Wedi gosod patent arno gan Henry Court yn 1783, roedd pwdlo yn golygu aildwymo’r haearn crai mewn ffwrnes doddi (ffwrnes lle nad yw’r tanwydd yn dod i gysylltiad â’r cynnyrch). Byddai’r ‘pydlwr’ yn troi’r haearn tawdd trwy agoriad yn y ffwrnes bwdlo gyda gwialen hir â bachyn arni. Wrth i’r carbon sy’n weddill gael ei losgi ymaith, byddai pwynt toddi’r haearn yn cynyddu gan ffurfio talpiau gweddol galed o haearn. Ar yr adeg dyngedfennol, byddai’r pydlwr yn defnyddio’i wialen i weithio’r talpiau ynghyd i ffurfio un lwmp neu belen y byddai wedyn yn ei dynnu oddi yno yn sydyn, un ai i’w symud i ail ffwrnes bwdlo i’w buro ymhellach, neu i’r efail i’w forthwylio neu ei rolio, gan ddibynnu ar safon yr haearn oedd ei angen. Byddai’r morthwylio a’r rholio yn gwasgu unrhyw amhurdeb oedd yn weddill allan o’r haearn. I wella’r ansawdd ymhellach ac i sicrhau bod cysondeb unffurf i’r cynnyrch gorffenedig, câi barau haearn eu torri, eu pentyrru (gan y ‘pentyrwyr’ oedd yn aml yn wragedd neu’n ferched), eu clymu ynghyd â strapiau haearn, eu hail dwymo a’u rholio drachefn.

Byddai ansawdd yr haearn bwrw gorffenedig hefyd yn dibynnu i raddau helaeth ar lefel yr amhureddau oedd yn weddill o’i fewn. Roedd carbon, silicon, ffosfforws a sylffwr oll yn effeithio ar wydnwch, cryfder a pha mor hawdd fyddai’r haearn i’w forthwylio. Byddai gormod o garbon yn gwneud yr haearn yn rhy frau, rhy ychydig yn ei wneud yn rhy feddal. Byddai cael y cydbwysedd cywir yn aml yn fater o brofi a methu. Roedd Henry fodd bynnag yn benderfynol o fabwysiadu agwedd fwy gwyddonol, gan hyd yn oed fynychu darlithoedd cemeg.  Disgrifia lawer o’i arbrofion yn ei ddyddiadur [D553/3]:

p147_edited

p148_edited

t.147-48, Tue 27 Jan 1863,…up to Works met Richard; trying lots of experiments with bits of Rail under Hammer, and in nitric acid; had report of assay from Dr Noad of the Forge cinder, the piece simply calcined contains sulphur 1.43 per cent, the cinder calcined and afterwards re-calcined for 24 hours in a puddling furnace and afterwards allowed to cool gradually on the ground contained sulphur 0.306 per cent, the cinder that went through the same process as the latter, but was cooled immediately in water contained sulphur 1.26 per cent, so the water apparently did away with nearly all the good of the second calcining, and seemingly during the action of cooling while exposed to the atmosphere is the time when the sulphur is disgorging itself from the cinder, and not while so long in the fire; re-calcined some more today only keeping it in the Puddling Furnace about an hour to heat it red hot through and after cooling gradually, sent a piece of it and a piece of the same lot not re-calcined to Dr Noad again to see the result of only heating through.

p154_edited

t.154, Wed 4 Feb 1863, ..Letter and result of assay of cinder from Dr Noad that I sent him 27th inst: sulphur in cinder simply calcined but solid 2.28 per cent; sulphur in cinder calcined and heated again through for an hour in Puddling furnace 1.75 per cent..

Roedd Dr Henry Minchin Noad, Cymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol, yn Athro Cemeg yn Ysbyty St George yn Llundain.

Un dull o gynyddu cyfanswm yr haearn tawdd oedd ychwanegu copras i’r ffwrnes.  Er gwaethaf ei enw, does ganddo ddim i’w wneud â chopr. Yr enw cyffredin yw ar gyfer sylffid fferws amrwd, FeSO4.7H2O, sy’n trawsnewid wrth gael ei boethi gan ffurfio ocsid fferws, Fe2O3 (yr un ocsid ag sydd i’w gael mewn hematit).

p10_edited

D553/6, t.10, Wednesday 28th October 1863, Sent to Jones for copperas to mix with the pig iron in Forges while it is boiling. Richards idea to try if it improves the quality of the iron, it comes from tin works.

p21_edited

t.21, Saturday 7th November 1863, Wrote The Ystalyfera Iron Co. for two casks of Copperas to try again in puddling Furnaces.

Dull arall oedd defnyddio gwaelod haearn bwrw yn y ffwrnes yn lle tywod:

D553/1, t.72, Sun 29 Oct 1860, Mill here working busily on 10 furnaces trying an experiment with a cast iron bottom instead of sand.

Arbrofodd Henry hefyd â’r modd y byddai barrau heyrn bwrw yn cael eu pentyrru:

D553/4, t.1-2, Thu 19 Feb 1863: Back to Hirwaun 1st train; I to mill at 8 o clock and saw 2 Rails rolled, Bombay D. H. section, from piles made as follows, 8 x 2 in slab (of all metal piled in our usual way and worked edgeways) top and bottom, 2 – 4½ x 1/8 pieces of metal next each slab and remainder of pile (to form centre of Rail or Stem) Boiling 8 in: wide in two pieces as usual; (mistake above) slabs 8 x 2 in: not made in ordinary way but made thus, all metal Bars piles 9 in: wide and on their flats up 6 in: solid in the pile; the remaining 3 in: wanted to complete proper height of pile composed of metal bars 1 1/8 in thick 3 in: wide, 9 in: long and piled edgeways across the piles, to within 3 in: of each end of pile, which 3 in: was filled up with 3 small pieces of metal lying flat, so as to keep up in their position the series of pieces of metal standing on edge, this pile rolled flat made a scandalous bad Bar, cracking across the surface from end to end; the two Rails however though made with such bad looking slabs came out perfectly good in the heads; 2 other Rails I had rolled with 8 x 2 in: slab of ordinary make for one head, and the other head, made from a series of 8 x 3½ x ¾ No 2 Blaina Iron Bars placed across pile edgeways the same way as the metal in pile for slab as explained above, the blooming of this pile tore the pieces apart much….

Roedd llawer o’r haearn yn cael ei ddefnyddio i wneud rheiliau a chadeiriau i’r rhwydwaith reilffordd oedd yn prysur ehangu, adref a thramor, yn enwedig yn yr India. Byddai llawer o weithfeydd haearn yn cyflogi eu harolygwyr eu hunain fyddai’n gyfrifol am reoli ansawdd. Fodd bynnag byddai’n well gan gwmnïau rheilffyrdd yn aml yrru eu rhai eu hunain i fonitro’r cynhyrchu – oedd yn dân ar groen Henry a’i frawd, George, yn Nyffryn Taf.

Mae John Addis yn adrodd y stori ganlynol yr honnir iddi gael ei hadrodd gan Mr Bateman, asiant Fothergill’s yn Llundain, wrth James Dolphin, a gyflogwyd gan y Crawshays:

When the Inspectors make any fuss as to the Rails being of bad quality and not according to specification, Mr. Bateman takes it upon himself to order 2 or 3 Rails made entirely of No.2 Iron and frequently some of the whole of which are No. 3. These are sent up to the Engineers and Headmen of the line or Company whom the rails are for, who are of course delighted with them. This quite upsets the Inspectors and they never take any more trouble about looking after them and let them all pass [Addis, John P. (1957) The Crawshay Dynasty: A study in industrial organisation and development, 1765-1867. Caerdydd:  Gwasg Prifysgol Cymru, t.121].

Mae’n annhebygol na wyddai’r brodyr Fothergill o arfer twyllodrus Bateman o lenwi archeb â Rheiliau rhif 1 (y radd isaf o haearn) pan fo’r Cwmni Rheilffordd wedi archwilio Rhif 3. Oedd hyn yn rhywbeth a esgusodwyd gan Henry neu ai ei anwybyddu a wnaeth?

Er hynny, roedd bri ar reiliau Aberdâr yn parhau ddigon i ddenu sylw’r miliwnydd o fentrwr rheilffyrdd, Sir Samuel Morton Peto, a gyfarfu a Henry ar ymweliad â’r gwaith ym mis Ionawr 1863. Derbyniodd Sir Morton, oedd yn allweddol yn adeiladu nifer o fannau enwog yn Llundain gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi a Sgwâr Trafalgar, ei farwniaeth am adeiladu rheilffyrdd yn ystod Rhyfel Crimea i gyflenwi lluoedd Prydain.

Roedd y gystadleuaeth ymhlith gweithfeydd haearn De Cymru yn ffyrnig. Wrth ddarllen manylion arbrofion Henry, ys gwn i a oedd Henry hefyd yn cystadlu gydag ef ei hun.

Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg